Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni



Cofrestru Partneriaeth Gyfyngedig yr un Diwrnod a Chopïau Ardystiedig Partneriaethau Cyfyngedig – Sut i wneud cais am ad-daliad.

Cafodd ffioedd Tŷ’r Cwmnïau eu diwygio yn 2004 a daeth y ffioedd newydd i rym ar 1 Chwefror 2005. O ganlyniad i’r arolwg llawn, fe ddaeth yn amlwg bod gormod o dâl yn cael ei godi am gorffori Partneriaeth Gyfyngedig yr un diwrnod ac am y gwasanaeth copïau ardystiedig Partneriaethau Cyfyngedig. Cyn gynted ag y gwelwyd hyn, rhoes Tŷ’r Cwmnïau heibio i godi’r tâl anghywir. £2 a godir bellach am bob cofrestru.

Os codwyd gormod o dâl arnoch yn y gorffennol am gofrestru Partneriaeth Gyfyngedig yr un diwrnod neu am y gwasanaeth copïau ardystiedig Partneriaethau Cyfyngedig, cyflwynwyd trefniadau gennym fel y gallwn ad-dalu cwsmeriaid

 phwy y dylwn gysylltu?
Dylai cwsmeriaid sydd wedi cofrestru Partneriaeth Gyfyngedig drwy ddefnyddio’r gwasanaeth yr un diwrnod neu sydd wedi cael copïau ardystiedig Partneriaethau Cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr gyflwyno cais ysgrifenedig am ad-daliad i Marie Connors, Gofal Cwsmeriaid, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Maendy, Caerdydd CF14 3UZ.

Dylai ymgeiswyr sydd wedi cofrestru Partneriaeth Gyfyngedig Albanaidd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth yr un diwrnod neu wedi sicrhau copïau ardystiedig Partneriaethau Cyfyngedig gysylltu â Dianne Brooks yn Companies House, 37 Castle Terrace, EH1 2EB Edinburgh.

Beth sydd angen arnaf i wneud cais am ad-daliad?
Dylai ymgeiswyr ddarparu enw a rhif cofrestru’r Bartneriaeth Gyfyngedig gyda phrawf o’u taliad gwreiddiol am y corffori yr un diwrnod neu’r copi ardystiedig.

Sylwer bod cyfarwyddyd cyfreithiol yn ei gwneud yn glir y dylai hawlwyr gymryd camau, mor bell ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, i uniaethu’u cleientiaid er mwyn trosglwyddo’r ad-daliad . Felly, byddwn yn gofyn i hawlwyr lofnodi copi o lythyr i’r perwyl hwn cyn rhyddhau ad-daliadau.

Gwybodaeth bellach am Bartneriaethau Cyfyngedig - GBO2 Limited Partnership Act.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies