Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Amdanon Ni |
|||
|
|
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnïau Mae Tŷ’r Cwmnïau yn Asiantaeth Weithredol o dan Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS). Y Gweinidog sy’n gyfrifol am Dŷ’r Cwmnïau yw Edward Davey MP, Gweinidog Cysylltiadau Cyflogaeth, Materion Defnyddwyr a Phost. Mae gan yr asiantaeth statws Cronfa Fasnachu hefyd, sy’n caniatáu iddi reoli’i chyllid ei hun yn uniongyrchol. Fel Swyddog Cyfrifeg i’r corff, y Prif Weithredydd sy’n atebol i’r Gweinidogion yn y pen draw am y ffordd y caiff yr asiantaeth ei rhedeg o ddydd i ddydd. Mae gan Dŷ’r Cwmnïau Fwrdd Gweithredol a Bwrdd Llywio sy’n cynnwys rhai o uwch-bersonél BIS ynghyd ag aelodau annibynnol o’r sector preifat, gyda chefnogaeth Cyfarwyddwyr Tŷ’r Cwmnïau. Bydd y Bwrdd Llywio’n cwrdd bob chwarter i gynghori ar lywodraeth yr asiantaeth, yn arbennig ei chynllun corfforaethol, ei thargedau a’i chyflawniad. Mae ei gyfansoddiad yn adlewyrchu’n nod o dynnu ar yr arferion gorau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd y Pwyllgor Archwilio (PDF 24KB)(Saesneg yn unig) hefyd yn cyflwyno adroddiadau’n ôl i’r Bwrdd Llywio ar adegau penodedig. Bwrdd Gweithredol – yn cwrdd bob mis gyda’r nod o osod cyfeiriad Tŷ’r Cwmnïau, cynnal goruchwyliaeth a llywodraeth gyffredinol, a sicrhau’n gallu trefniadol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid. Bwrdd Busnes yr Asiantaeth – hefyd yn cwrdd unwaith y mis ac yn cyflwyno adroddiadau i’r Bwrdd Gweithredol yn eu cyfarfod misol nhw. Bydd yr aelodau’n cadw golwg ar gyflawniad yr asiantaeth, ac yn cymharu’r cyflawniad â’r targedau a’r cynnydd â’r agweddau oedd i’w gwireddu, gan dynnu sylw i unrhyw risgiau, problemau, cyfleoedd a chyraeddiadau. Gweld cofnodion crynhoi’r Bwrdd Gweithredol a Bwrdd Busnes yr Asiantaeth. |
||