Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Amdanon Ni


Companies Act Logo

Seminarau WebFiling a Deddf Cwmnïau 2006

Ar 1 Hydref 2009 bu i Ddeddf Cwmnïau 2006 ddiweddaru a moderneiddio’r gyfraith sy’n llywodraethu rhedeg cwmnïau. Mae amrediad o weithdrefnau newydd sy’n effeithio ar bob cwmni sy’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig; gan ddileu hen ofynion a chyflwyno nifer o ddewisiadau ar sut i redeg eich busnes yn effeithlon.

Cafodd cynhyrchion a gwasanaethau Tŷ’r Cwmnïau eu gwella hwythau yn sgil y Ddeddf newydd.  Dyma’r amser i fynnu cael gwybod beth sydd wedi newid.

Bydd y seminar yn ymdrin â chefndir a gweithrediad y Ddeddf newydd. Bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut orau i fanteisio ar ein gwasanaeth ffeilio ar-lein, Webfiling, i gael budd datblygiadau newydd a rhai’r dyfodol.

Nod y seminar yw:

  • Cyfleu cefndir ac amcanion Deddf Cwmnïau 2006
  • Canolbwyntio ar y newidiadau i brosesau a dulliau gweithredu
  • Bwrw golwg ar ddetholiad o’r ffurflenni newydd
  • Dangos ichi sut i’w ffeilio ar-lein

Caiff y cwsmeriaid gyfle i wneud y canlynol:

  • I gael gwybod mwy o fanylion am y newidiadau allweddol y mae’r Ddeddf yn eu cyflwyno
  • I gwrdd â’r tîm a siarad â rheolwyr Tŷ’r Cwmnïau mewn fforwm hamddenol ynglŷn ag unrhyw beth yr ydych yn aneglur yn ei gylch
  • I ddysgu mwy am sut mae’n cynhyrchion a’n gwasanaethau wedi newid
  • I gyrchu’r canllawiau diweddaraf

Bydd seminarau Webfiling a Deddf Cwmnïau 2006 yn para am ryw ddwy awr a hanner a does dim rhaid talu i ddod iddyn nhw. Os ydych chi’n ffeilio dogfennau ar ran un cwmni neu nifer o gwmnïau neu os ydych yn teimlo bod angen ichi wybod mwy, archebwch le. Cewch ddewis sesiwn yn y bore neu’r prynhawn, felly peidiwch â cholli’ch cyfle!

Bydd ein seminarau nesaf ar Webfiling a Deddf Cwmnïau 2006 yn cael eu cynnal yn:

2010

Norwich
Holiday Inn Norwich, Ipswich Road, Norwich. NR4 6EP
Dydd Iau 11 March 2010 am 9.30am (yn llawn) a 2.00pm (yn llawn)

Os hoffech chi drefnu lle ar unrhyw un o’r seminarau hyn, cwblhewch y ffurflen archebu ar-lein (ar gael yn Saesneg yn unig) neu gysylltwch â:

Phil Fox
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
+44 (0)29 2038 0893

pfox@companieshouse.gov.uk