Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Amdanon Ni |
|||||||
|
|
Swyddogaeth Dyfarnwyr Annibynnol Tŷ’r Cwmnïau yw ymchwilio i gwynion am oedi, anghwrteisi a chamgymeriadau a’r modd y bydd Tŷ’r Cwmnïau wedi ymdrin â’r cwynion hyn. Bydd y Beirniaid hefyd yn adolygu apeliadau ysgrifenedig yn erbyn codi cosbau ffeilio hwyr, er bod y cyfle i ddefnyddio disgresiwn yn gyfyngedig iawn gan fod y Senedd wedi pennu beth yn union y caiff ac na chaiff y Cofrestrydd Cwmnïau ei wneud. Mae’r proses cosbau ffeilio hwyr wedi ei nodi’n ddiamwys yng nghanllawiau Tŷ’r Cwmnïau ar Gosbau Ffeilio Hwyr – Apeliadau; byddwch cystal â darllen yr wybodaeth hon cyn ysgrifennu at y Fonesig Elizabeth ynglŷn â chosb ffeilio hwyr. Y Fonesig Elizabeth Neville, DBE QPM – ymddeolodd fel Prif Gwnstabl Heddlu Wiltshire yn 2004. Roedd hi’n Asesydd Cwynion Annibynnol dros asiantaethau’r Adran Drafnidiaeth hyd Ebrill 2010. Mae’r Fonesig Elizabeth yn Gyfarwyddwr Anweithredol y Swyddfa Twyll Difrifol ac yn aelod o’r Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil. Roedd hi'n Uchel Siryf Wiltshire am 2010/2011. Jessica Pacey, LLM (Cyfraith Eglwysig), MBA – mae hi’n farnwr Tribiwnlys, yn gwrando apeliadau yn Nhribiwnlys haen gyntaf y siambr Hawl Cymdeithasol. Mae Jessica yn Farnwr Mewnfudo yn y Tribiwnlys Mewnfudo Lloches, gan wrando a phenderfynu ar apeliadau gwrandawiad cyntaf ar geisiadau hawliau dynol, lloches a mewnfudo. Roedd Jessica yn uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Nottingham hyd Ionawr 2011. Leslie Cuthbert, LLB, LLM – graddiodd gydag LLB o Brifysgol Brunel ac LLM mewn Ymgyfreitha Troseddol o Ysgol Gyfraith Inns Court. Bu Leslie yn eistedd fel Cofiadur Llys y Goron, yn Dyfarnwr Codi Ffi ar Ddefnyddwyr Ffyrdd gan wrando apeliadau yn erbyn tâl atal tagfeydd Llundain, a gweithredodd fel Barnwr Tribiwnlys ar gyfer y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl. Bydd Leslie yn cynnal hyfforddiant yn rheolaidd ar Arferion Ymchwiliol Uwch mewn ymchwiliadau troseddol, cyflogaeth a rheoleiddio, gan gynnwys ymdrin â chwynion, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Ymhlith ei benodiadau eraill y mae’n eistedd ar fwrdd golygyddol 'Tribunals Journal’. Mae Leslie yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol er hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach. Ni all y Beirniaid ddelio â’r canlynol: Cwestiynau ynghylch y Gyfraith Gwmnïau Defnyddio disgresiwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol Cwynion sydd dan ystyriaeth gan Ombwdsman y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd Unrhyw achos lle ceir gweithrediadau troseddol Cwynion henach na chwe mis. Mae angen i Dŷ’r Cwmnïau gael cyfle i ddatrys unrhyw anghydfod, felly cyn cael ei hatgyfeirio i sylw’r Beirniaid, mae’n rhaid bod cwyn wedi mynd drwy holl drefn fewnol Tŷ’r Cwmnïau a chan hynny bod wedi cael ei hystyried gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethu Cwsmeriaid. PEIDIWCH AG YSGRIFENNU OS NA DDILYNWYD Y DREFN HON. Os byddwch yn dal yn anfodlon ar ôl cael dyfarniad, gallwch gysylltu â’ch Aelod Seneddol a gofyn am i’r gŵyn gael ei hatgyfeirio i sylw Ombwdsman y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd. Os ydych yn anhapus hefyd ynglŷn â chanlyniad dyfarniad mewn perthynas â chosb ffeilio hwyr, gallwch ysgrifennu a gofyn i Gofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru (neu Gofrestrydd Cwmnïau ar gyfer Cwmnïau Albanaidd) i edrych ar eich achos. Manylion cysylltu: Beirniaid Annibynnol Tŷ’r Cwmnïau |
||||||