Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


Tŷ’r Cwmnïau a Diogeledd Cardiau Credyd/Debyd Ar-lein

Pam eich bod wedi newid eich proses talu drwy gerdyn?
Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu cyflwyno gan Visa a MasterCard i roi ichi ddiogelwch ychwanegol wrth dalu am nwyddau a gwasanaethau ar-lein. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn un o nifer o gyrff yn trefnu’r diogeledd ychwanegol hwn i’w cwsmeriaid er mwyn rhoi tawelwch meddwl wrth dalu dros y rhyngrwyd a bydd y drefn hon yn dod yn fwyfwy cyffredin.

Sut mae’r broses yn gweithio?
Dim ond unwaith y bydd eisiau ichi gofrestru gyda Verified by Visa a MasterCard SecureCode i greu’ch cyfrinair ar gyfer pob un o’ch cardiau talu. Wedyn, bob tro y byddwch yn ymweld â gwasanaeth WebCHeck neu WebFiling Tŷ’r Cwmnïau (a bod angen taliad) gan ddefnyddio’ch cardiau cofrestredig, fe ofynnir ichi gofnodi’r cyfrinair perthnasol fel dilysiad diogeledd ychwanegol cyn i’r archeb gael ei chadarnhau.

Sut ydw i’n cofrestru am y diogeledd ychwanegol yma neu’n cael gwybod a yw’r newidiadau hyn yn effeithio arna i?
I gofrestru gyda Verified by Visa a MasterCard SecureCode, mae angen ichi ddod i wybod a yw’ch dosbarthydd cardiau yn cymryd rhan yn y mesurau diogeledd ychwanegol yma. Gellir gwneud hyn naill ai drwy gysylltu â’ch dosbarthydd cardiau’n uniongyrchol neu drwy ymweld â’r gwefannau canlynol:
http://www.visaeurope.com/personal/onlineshopping/verifiedbyvisa/main.jsp     or http://www.mastercard.com/uk/personal/en/cardholderservices/securecode/index.html

This is an image of the 'Verified By Visa' logo
This is an image of the 'Mastercard Securecode' Logo

Beth os ydw i wedi cofrestru’n barod?
Os ydych wedi cofrestru’n barod, y cyfan sydd eisiau ei wneud yw cofnodi’ch côd personol Verified by Visa neu MasterCard SecureCode ar y sgrin wrth gael eich procio i wneud gan eich dosbarthydd cardiau ar y tudalen talu.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi anghofio fy nghyfrinair?
Os ydych wedi anghofio’ch cyfrinair, cliciwch ar y ddolen gyswllt Forgotten Password fydd i’w gweld ar sgrin y dosbarthydd cardiau ar ôl tudalen talu Netbanx.

Pwy y dylwn i gysylltu yn Nhŷ’r Cwmnïau os ca i broblemau gyda hyn?
Yn anffodus, ni fydd modd i Dŷ’r Cwmnïau ateb cwestiynau cwsmeriaid ar wahân i’r rhai a nodwyd uchod. Dylai pob ymholiad ynglŷn â Verified by Visa a MasterCard SecureCode gael ei gyfeirio’n uniongyrchol at eich dosbarthydd cardiau.

Sut y tala i am wasanaethau Tŷ’r Cwmnïau drwy ddefnyddio Cerdyn Corfforaethol? (WebFiling a WebCHeck)
Os ydych yn talu am eich gwasanaethau gan Dŷ’r Cwmnïau drwy ddefnyddio Cerdyn Corfforaethol/Cerdyn Debyd, dylech ofyn i ddeiliad y cerdyn gofrestru am 3D. Y rheswm am hyn yw y bydd y dosbarthydd cardiau/y banc yn gofyn am ddyddiad geni deiliad y cerdyn. Gall methiant i ddarparu’r wybodaeth hon wrth gofrestru eich atal rhag cofrestru am 3D Secure a hwyrach na fydd modd ichi gwblhau’r broses dalu.

Beth sy’n digwydd i’m Ffurflen Flynyddol os na chofrestra i’n llwyddiannus am 3D wrth gyflwyno a thalu am fy nogfen? (WebFiling)
Os cewch anawsterau talu wrth gyflwyno’ch Ffurflen Flynyddol, byddwch yn derbyn e-bost gennym yn rhoi gwybod bod problem wedi codi. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys rhif teleffon ichi ei alw i gwblhau’r broses dalu a chofrestru’ch Ffurflen Flynyddol. Gallwch gofrestru ar wahân am 3D Secure drwy fewngofnodi i wefan eich Dosbarthydd Cardiau priodol.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies