Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


Tŷ’r Cwmnïau a Diogeledd Cardiau Credyd/Debyd Ar-lein

Mae Tŷ’r Cwmnïau bellach yn cymryd rhan yn MasterCard SecureCode a Verified by Visa (a adwaenir ar y cyd fel 3D Secure) i wella diogeledd talu ar-lein drwy gerdyn credyd/debyd.

Nod y gwelliannau hyn yw gwarchod taliadau ar-lein dros y we drwy sicrhau nad oes rhywun arall yn defnyddio’ch cerdyn talu. Cafodd y gwasanaethau dan sylw eu cyflwyno gan Mastercard/Maestro a Visa mewn cydweithrediad â’r banc a roddodd eich Cerdyn Credyd/Debyd.

Os yw’r cerdyn a ddefnyddiwch i dalu am ein gwasanaethau yn perthyn i’r cynllun, wrth ichi gofnodi manylion eich cerdyn ar ein tudalen talu gallwch gael eich dargyfeirio i dudalen rhoddwr eich cerdyn. Dim i chi ac i roddwr eich cerdyn y bydd y  broses hon yn weladwy ac mae’n gwbl ddiogel.

O’r fan hon, byddwch naill ai:

  • Yn cael eich gwahodd i gofrestru gyda Verified by Visa neu MasterCard SecureCode. – Os oes gennych bryderon ynghylch y gwasanaeth newydd hwn, gall rhoddwr eich cerdyn ganiatáu ichi fynd ymlaen heb gofrestru, ond argymhellwn eich bod yn cysylltu â rhoddwr y cerdyn i gael gwybod am y gwasanaeth gan y byddant yn y pen draw yn mynnu’ch bod yn cofrestru er mwyn parhau i dalu ar-lein.
  • Yn cael eich procio i gofnodi’ch côd personol/cyfrinair os cofrestroch chi o’r blaen gyda rhoddwr eich cerdyn. – Bydd angen ichi ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gofrestru’n ddiogel a dethol cyfrinair i’ch cerdyn.
  • Yn cael bwrw ymlaen â’r broses dalu os nad yw rhoddwr eich cerdyn yn cymryd rhan yn y cynllun.

Wedi ichi ddewis un o’r uchod, eir yn ôl â chi i’n gwefan i gwblhau’ch archeb.

Yn anffodus, ni fydd modd i Dŷ’r Cwmnïau ateb cwestiynau cwsmeriaid yn uniongyrchol ac felly dylai pob ymholiad ynglŷn â Verified by Visa a MasterCard SecureCode gael ei gyfeirio’n uniongyrchol at roddwr eich cerdyn.

This is an image of the 'Verified By Visa' logo
This is an image of the 'Mastercard Securecode' Logo

Unwaith eich bod wedi cofrestru, bydd pob taliad yn y dyfodol drwy’n gwasanaeth WebCHeck neu WebFiling yn cael ei gwblhau gyda’r diogeledd ychwanegol hwn wrth ichi ddefnyddio’r un cerdyn credyd neu ddebyd.

Dylech sylwi bod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud gan y dosbarthwyr cardiau’n uniongyrchol ac nid gan Dŷ’r Cwmnïau. Felly, dylai unrhyw ymholiadau ynghylch 3D Secure gael eu cyfeirio at ddosbarthydd eich cerdyn, nid Tŷ’r Cwmnïau.

Cwestiynau Mynych

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies