Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


Ysgafnhau’r Baith ar Gwmnïau Bach Gwasanaethau Ariannol

Cyn bo hir, bydd modd i lawer mwy o gwmnïau bach gwasanaethau ariannol fanteisio ar y dewis o beidio â threfnu archwiliad i’w cyfrifon, ac ar drefniadau symleiddio eraill yng nghyswllt cyfrifon ac adroddiadau cwmnïau bach, o ganlyniad i newidiadau i Ddeddf Cwmnïau 1985.

Mae Rheoliadau Deddf Cwmnïau 1985 (Cyfrifon a Threfniadau Archwilio Cwmnïau Bach) 2006 yn golygu bod categorïau arbennig o gwmnïau bach gwasanaethau ariannol a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn cael manteisio ar ryddhad rhag gofynion y Ddeddf Cwmnïau o ran cyfrifeg ac archwiliad ariannol cwmnïau bach. Gynt, byddent wedi’u gwahardd rhag manteisio ar y rhyddhad am eu bod yn dilyn gweithgareddau oedd wedi’u rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Mae’r newidiadau’n gymwys i flynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu wedi 31 Rhagfyr 2006.

Mae canllaw i’r newidiadau i’w gael ar y tudalen gwe BERR canlynol: http://www.dti.gov.uk/bbf/financial-reporting/small-companies/page23516.html

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies