Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

Amdanon Ni


Ein prif swyddogaethau

Prif swyddogaethau Tŷ’r Cwmnïau yw:

  • corffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig;
  • archwilio a chadw gwybodaeth am gwmnïau a gyflwynir yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig; a
  • threfnu i’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd.

Y Cofrestrydd Cwmnïau

Cofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru, a Phrif Weithredwr Tŷ’r Cwmnïau, yw Gareth Jones. Mae ei swyddfa yn Nhŷ’r  Cwmnïau yng Nghaerdydd.

Cofrestrydd Cwmnïau’r Alban yw Dorothy Blair ac mae ei swyddfa yng Nghaeredin.

Cofrestrydd Cwmnïau Gogledd Iwerddon yw Helen Shilliday ac mae ei swyddfa ym Melfast.

Mae Canolfan Gwybodaeth yn Llundain hefyd.

Cliciwch yma am fanylion Ble i Ddod o Hyd Inni a Phwy i Gysylltu â Nhw.

Hanes

Mae gan y Deyrnas Unedig gyfundrefn corffori cwmnïau ers 1844. Erbyn heddiw, mae materion corffori cwmnïau wedi eu cwmpasu gan y gyfraith, sef gan Ddeddf Cwmnïau 2006.

Caiff pob cwmni cyfyngedig yn Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, Asiantaeth Weithredol o dan Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS).  Mae mwy na 2 miliwn o gwmnïau cyfyngedig wedi eu cofrestru ym Mhrydain Fawr, a chaiff mwy na 300,000 o gwmnïau newydd eu corffori bob blwyddyn.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies