Amdanon Ni |
||||||||||||||||||||||
|
Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall) Penderfyniadau a Chyfarfodydd – GBA7 Medi 2008 – Fersiwn 6 CA 2006 Cynnwys
Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn:
Sylwer: Canllaw trosiannol ar benderfyniadau a chyfarfodydd Caiff Rhan 13 (penderfyniadau a chyfarfodydd) o Ddeddf Cwmnïau 2006 ei gweithredu ar 1 Hydref 2007. Gwnaed trefniadau trosiannol ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref 2007 a Medi 2009, ac ar ôl hynny bydd y Ddeddf gyfan mewn grym. Dyma fanylion y trefniadau a wnaed: Adran 379A o Ddeddf Cwmnïau 1985 – Ni fydd penderfyniad cwmni preifat drwy bleidlais o dan adran 80A o Ddeddf 1985 (Etholiad gan gwmnïau preifat mewn cysylltiad â pharhad yr awdurdod i glustnodi cyfrannau) yn cael ei ddiddymu yn Hydref 2007, gan y bydd modd o hyd fabwysiadu penderfyniad o dan adran 80 o Ddeddf 1985 yn rhoi awdurdod i glustnodi cyfrannau at y diben hwn. Dyma fydd mewn grym nes i Ran 17 (cyfalaf cyfrannau cwmnïau) gael ei gweithredu yn Hydref 2009. Rhwng Hydref 2007 a Medi 2009, bydd modd i gwmni fabwysiadu penderfyniad drwy bleidlais mewn cysylltiad â pharhad yr awdurdod i glustnodi cyfrannau ar ffurf penderfyniad ysgrifenedig neu mewn cyfarfod; ar gyfer penderfyniad o’r fath bydd angen o hyd gydsyniad unfrydol pawb sy’n gymwys i bleidleisio. Bydd yn ofynnol i gwmnïau preifat gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol os rhoir rhybudd cyn 1 Hydref 2007. Ar ôl y dyddiad hwnnw, os na roddwyd rhybudd erbyn hynny, ni fydd angen mwyach i gwmnïau preifat gynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol oni bai ei bod wedi’i nodi yn yr erthyglau cwmni fod angen iddynt wneud a’u bod heb ddileu’r ddarpariaeth honno o’u herthyglau. Hefyd, os bydd erthyglau'r cwmni yn dweud bod rhaid i’r cyfrifon cael eu cylchredeg mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, rhaid i’r cwmni barhau i wneud hyn ar gyfer pob cyfnod ariannol sy’n dod i ben cyn 01 Hydref 2007. Sut bynnag gall cwmni ddewis trosglwyddo i gyfathrebiadau electronig os bydd y cyfranddeiliaid yn cytuno a bod yr erthyglau yn cael eu diwygio. Os oes gan gwmni gytundeb pob cyfranddeiliad yn barod, gallant gylchredeg yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon i’r cyfranddeiliaid drwy eu gwefan. Canllaw yw hwn ynglŷn â’r gwahanol fathau o benderfyniad cwmni a phryd y cânt eu mabwysiadu. Ei ddiben yw egluro’r gwahaniaeth rhwng penderfyniadau ar gyfer cwmnïau preifat a chyhoeddus. Mae’n un o gyfres o ganllawiau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi arweiniad syml i’r Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth arall gysylltiedig. Sylwer mai fel cyflwyniad cryno i’r pwnc y mae wedi’i fwriadu, felly dylech ei ddarllen ar y cyd â’r gyfraith berthnasol a welwch chi yn Neddf Cwmnïau 2006 Rhan13. O dan Ddeddf Cwmnïau 2006, ni fydd angen mwyach i gwmnïau preifat gynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol. Ond bydd llais gan y cyfranddeiliaid o hyd ym mhroses benderfynu’r cwmni. Lluniwyd y Ddeddf fel bod modd gwneud llawer o’r penderfyniadau hyn yn ysgrifenedig, er y bydd angen o hyd i’r cwmni gynnal cyfarfodydd i ddiswyddo cyfarwyddwr neu derfynu penodiad archwiliwr ariannol cyn diwedd ei dymor. Bydd gan y cyfranddeiliaid a’r cyfarwyddwyr hwythau y pŵer i alw cyfarfod o hyd. Mae effaith y darpariaethau newydd yn dibynnu ar beth sydd wedi’i gynnwys ar hyn o bryd yn erthyglau’r cwmni. Byddai angen i gwmni preifat presennol fabwysiadu penderfyniad arbennig i ddileu unrhyw gymalau presennol yn ymwneud â chyfarfodydd cyffredinol blynyddol o’i erthyglau. Rhaid cylchredeg rhybudd ymhlith yr aelodau cyn y gellid ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo. PENNOD 1 1. Beth yw penderfyniad? Mae penderfyniad yn gytundeb neu benderfyniad a gaiff ei wneud gan gyfarwyddwyr neu aelodau (neu ddosbarth o aelodau) y cwmni. Mae penderfyniad arfaethedig yn gynigiad. Pan gaiff penderfyniad ei fabwysiadu, bydd y cwmni wedi’i rwymo ganddo. 2. Sut y caiff penderfyniadau eu mabwysiadu? Gan ddibynnu ar y math o benderfyniad sy’n cael ei fabwysiadu, bydd aelodau’n pleidleisio dros neu yn erbyn y penderfyniad. Bydd pŵer pleidleisio’r aelod yn dibynnu fel arfer ar nifer y cyfrannau sydd ganddo: yn y mwyafrif o enghreifftiau, bydd aelod sydd â 10% o’r cyfrannau yn cael 10% o’r pleidleisiau. Bydd y penderfyniad wedi llwyddo wrth gyrraedd y mwyafrif a bennwyd ymlaen llaw. Os na sicrheir y mwyafrif angenrheidiol, yna mae’r penderfyniad yn methu. 4. Pwy sy’n gorfod derbyn copïau o’r penderfyniad cyn ac ar ôl ei gymeradwyo? PENNOD 2 Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn darparu na fydd yn ofynnol mwyach i gwmnïau preifat “ddewis yn benodol” hepgor cynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol, gan nad oes angen iddynt eu cynnal. Gwnaed darpariaethau newydd i gwmnïau preifat wneud penderfyniadau ysgrifenedig sy’n eu galluogi i hepgor cyfarfodydd yn llwyr, ac eithrio at ddau ddiben cyfyngedig (gweler isod). Yn y ffyrdd canlynol yn unig y gall cwmnïau preifat fabwysiadu penderfyniadau:
Caiff cwmnïau preifat fabwysiadu pob penderfyniad yn ysgrifenedig, ac eithrio:
Mae angen mabwysiadu’r penderfyniadau hyn mewn cyfarfod cyffredinol. PENNOD 3 Dim ond mewn cyfarfod cyffredinol o'r aelodau (neu'r cyfranddeiliaid) , a all fod yn Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol, y caiff cwmnïau cyhoeddus fabwysiadu penderfyniad. 2. Pa gofnodion o benderfyniadau a chyfarfodydd y mae angen i’r cwmni eu cadw? 3. Penderfyniadau mewn cyfarfodydd Nid oes angen mwyach i gwmnïau preifat gynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol. Mae’n ofynnol o hyd i gwmni cyhoeddus gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol o fewn 6 mis i ddiwedd ei flwyddyn ariannol (y cyfnod trosiannol rhwng Hydref 2007 a Medi 2008 fydd 7 mis) yn ychwanegol at unrhyw gyfarfodydd eraill a gynhelir yn ystod y cyfnod hwnnw. Drwy godi llaw y pleidleisir ar benderfyniad mewn cyfarfod cyffredinol (neu mewn cyfarfod o ddosbarth o’r aelodau), oni bai bod cais cyfreithlon am bôl. Y cyfan sydd eisiau i benderfyniad gael ei fabwysiadu yw datganiad gan y Cadeirydd fod y penderfyniad wedi llwyddo drwy godi llaw: ond nid yw hyn yn gymwys os gelwir am bleidlais. Nid oes angen cyfrif nifer y pleidleisiau o blaid neu yn erbyn o dan y drefn codi llaw. Gellir rhoi gwybod am gyfarfod:
Rhaid i’r rhybudd nodi amser, dyddiad a lleoliad y cyfarfod, ynghyd ag unrhyw benderfyniadau sydd i’w cymeradwyo. Pennod 4 1. Gwybodaeth bellach am benderfyniadau Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau a chyfarfodydd i’w chael yn Neddf Cwmnïau 2006 Rhan 13, neu ar y gwefannau canlynol: www.berr.gov.uk 2. Sut dylwn i anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd? Gallwch chi gyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin.
Os hoffech chi dderbynneb wrth anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy’r drefn Cyfnewid Dogfennau (DX), bydd Tŷ’r Cwmnïau’n gyrru nodyn cydnabod os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig yn dangos eich cyfeiriad dychwelyd. Byddwn yn marcio dyddiad ei dderbyn ar eich llythyr copi drwy gyfrwng côd bar ac yn ei ddychwelyd ichi yn yr amlen a ddarparwyd gennych. Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.
3. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw? Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Deddfau Cwmnïau. |
|||||||||||||||||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|