Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym. Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol. Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy’r holl nodiadau hyn, gymaint â phosib, pa Ddeddf sy’n berthnasol. Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, galwch heibio i’n gwefan www.companieshouse.gov.uk. Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html, lle gallwch chi weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosib, eglurwn hyn yn y canllaw presennol a rhown fanylion ar ein gwefan.
Mae un cam olaf yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 wedi ei drefnu ar gyfer Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau hynny ar y pryd. Efallai yr hoffech chi gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu barhau, er mwyn ichi gael mynediad at y newyddion diweddaraf.
Tan fis Hydref 2009, mae’r nodiadau canllaw hyn yn gymwys yn unig i gwmnïau wedi eu ffurfio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Bwriedir wedyn i’r system ar wahân ar gyfer Gogedd Iwerddon ymdoddi i system gyfunol ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd.
Mae ffurflen flynyddol yn giplun o wybodaeth gyffredinol am gyfarwyddwyr, cyfeiriad swyddfa gofrestredig, cyfranddeiliaid a chyfalaf cyfrannau'r cwmni.
Os ffeiliwch y ffurflen flynyddol yn hwyr, neu os methwch â ffeilio un, gellir erlyn y cwmni a'i gyfarwyddwr/wyr a'i ysgrifennydd.
Rhaid i bob cwmni gyflwyno ffurflen flynyddol i Dŷ'r Cwmnïau o leiaf unwaith bob 12 mis. Bydd cyfarwyddwr/cyfarwyddwyr a, lle bo hynny’n gymwys, ysgrifennydd y cwmni'n gyfrifol am sicrhau bod y ffurflen flynyddol:
Os oes gan y cwmni gyfalaf cyfrannau, rhaid i'r ffurflen flynyddol gynnwys hefyd:
Mewn rhai enghreifftiau, gall gwybodaeth am ymgymeriadau cysylltiedig gael ei hatodi wrth y ffurflen flynyddol.
Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn anfon llythyr i swyddfa gofrestredig eich cwmni i’ch atgoffa pan fydd eich ffurflen flynyddol yn ddyledus.
Mae’n rhoi gwybod sut i ffeilio’r ffurflen yn electronig drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, gan mai dyma’r opsiwn hawsaf.
Fodd bynnag, os nad oes gennych chi’r cyfleustra i ffeilio ar-lein, gallwch archebu copi papur o’r ffurflen flynyddol drwy ffonio’n Canolfan Cysylltu ar 0303 123 4500, lawrlwytho ffurflen 363a wag neu fynnu copi wrth ymweld ag unrhyw un o’n swyddfeydd yn bersonol.
Na fydd. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi heibio i gynhyrchu ffurflen 363s ‘ôl-a-blaen’ neu ragargraffedig ar gyfer cyfnodau’n dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2008. Ni fydd ffurflen flynyddol benodedig mwyach ar ôl y ddydiad hwnnw.
Yn lle hynny, cafodd ffurflen 363s ei hailbennu. Mae’r ffurflen newydd yn cynnwys newidiadau i’r wybodaeth y mae’n rhaid ichi ei rhoi am eich cyfranddeiliaid – gweler cwestiwn 6.
Rhaid parhau i ddefnyddio ffurflen gyfredol 363a neu 363s ar gyfer cyfnodau’n dod i ben cyn 1 Hydref 2008.
Dim ond i gwmnïau sydd am gyflwyno ffurflen flynyddol yn bodloni cyfnod yn dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2008 y mae ffurflen newydd 363a ar gael. Cafodd y ffurflen ei newid i gynnwys dwy restr gyfranddeiliaid wahanol:
Rhaid i’r ffurflen gynnwys hefyd gadarnhad a oedd y cwmni’n un cyhoeddus masnachedig unrhyw adeg yn ystod cyfnod y ffurflen honno.
Mae’r ffurflenni hyn ar gael drwy’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling.
I gwmnïau sydd â chyfalaf cyfrannau, byddwch cystal â nodi ar gyfer pob math o gyfrannau a ddosbarthwyd:
Os yw’r cwmni wedi trosi cyfrannau’n stoc, rhowch yr wybodaeth gyfatebol am y stoc hwnnw, gan nodi swm y stoc yn lle nifer a gwerth nominal y cyfrannau.
9. Sut dylwn i ddweud wrth Dŷ'r Cwmnïau os yw manylion y cyfalaf cyfrannau wedi newid?
Os yw'r cwmni wedi newid ei gyfalaf cyfrannau drwy:
Os hoffech chi wybodaeth bellach am yr amgylchiadau ar gyfler cyflwyno’r ffurflenni hyn (ac eraill) i Dŷ’r Cwmniau, ffoniwch 0303 123 4500
Rhaid i gwmni preifat a chwmni cyhoeddus anfasnachedig sydd â chyfalaf cyfrannau ddarparu 'rhestr lawn' o'i holl gyfranddeiliaid ar:
Dim ond newidiadau i'r wybodaeth am gyfranddeiliaid a ddaeth i fod yn ystod y flwyddyn dan sylw (cyfnod y ffurflen) y dylid eu nodi ar ffurflenni blynyddol y ddwy flynedd yn y canol - hynny yw, cyfrannau a gafodd eu trosglwyddo a manylion ynghylch cyfranddeiliaid a ddaeth yn gyfranddeiliaid neu a beidiodd â bod yn gyfranddeiliaid.
Rhaid i gwmni cyhoeddus masnachedig beidio byth â rhoi rhestr lawn o’i holl gyfranddeiliaid, dim ond y rhai oedd yn dal o leiaf 5% o’r cyfrannau dosbarthedig unrhyw adeg yn ystod cyfnod y ffurflen.
Rhaid i ffurflen flynyddol 'rhestr lawn' ar gyfer cwmni preifat a chwmni cyhoeddus anfasnachedig gynnwys yr wybodaeth ganlynol am gyfranddeiliaid y cwmni:
Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn ffurflen flynyddol yn bodloni cyfnod yn dod i ben ar ôl 30 Medi 2008 lle cynhwysir cyfeiriadau holl gyfranddeiliaid y cwmni. Byddwn yn dychwelyd y ffurflen i’r cwmni os llenwir yr atodiad anghywir neu os yw’n cynnwys y manylion anghywir.
Rhaid i gwmni cyhoeddus masnachedig ddarparu rhestr o’i holl gyfranddeiliaid oedd yn dal 5% neu fwy o’r cyfrannau dosbarthedig yn ystod cyfnod y ffurflen. Rhaid i’r rhestr gynnwys yr wybodaeth ganlynol am bob un o’r cyfranddeiliaid hyn:
Drwy wneud trefniadau ymlaen llaw, caiff cwmnïau gyflwyno gwybodaeth am gyfranddeiliaid i Dŷ'r Cwmnïau ar ddiwyg arall ar wahân i'r ffurflen a ddarperir - er enghraifft, ar ddisg llipa neu CD-ROM. Hwyrach y bydd cwmnïau preifat a rhai cyhoeddus anfasnachedig sydd â nifer fawr o gyfranddeiliaid yn ei gweld yn fwy cyfleus darparu rhestr lawn o’r cyfranddeiliaid gyda phob ffurflen flynyddol – ond rhaid i’r rhestr beidio â chynnwys cyfeiriadau’r cyfranddeiliaid.
Os hoffech chi gyflenwi'r rhestr o gyfranddeiliaid y cwmni ar ddiwyg arall ar wahân i'r atodiadau a ddarperir,gweler Pennod 2, cwestiwn 4 am wybodaeth bellach.
Rhaid i gwmnïau gyflwyno ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad diwallu sydd wedi ei nodi ar y ffurflen. Mae ffi flynyddol prosesu dogfennau o £30, neu £15 i ddefnyddwyr ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, sy’n daladwy wrth ffeilio’r ffurflen flynyddol. I gwmnïau sy’n ffeilio ffurflen flynyddol ar bapur, dylid gwneud y siec yn daladwy i "Tŷ'r Cwmnïau", gan nodi rhif y cwmni ar y cefn.
Byddwn yn sganio’r dogfennau a'r ffurflenni a gyflwynwch chi i Dŷ'r Cwmnïau i greu delwedd electronig. Wedyn, caiff y dogfennau gwreiddiol eu rhoi i gadw a defnyddir y ddelwedd electronig fel dogfen waith.
Wrth i aelod o’r cyhoedd adolygu cofnod y cwmni, fe wêl y ddelwedd electronig wedi ei hatgynhyrchu ar-lein. Felly, mae'n bwysig nid yn unig bod y gwreiddiol yn ddarllenadwy ond hefyd y gellir ei ddefnyddio i greu copi clir.
Mae'r bennod hon yn gosod ychydig o ganllawiau ansawdd i'w dilyn wrth baratoi dogfen i'w ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau.
Mae adran 707B o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn caniatáu i Dŷ'r Cwmnïau wrthod dogfennau a gafodd eu cyflwyno drwy’r dull electronig lle na ellir mo'u cipio i greu delwedd, gan roi rhybudd yn dweud pam eu bod nhw'n annerbyniol. Rhaid cyflwyno copi derbyniol o fewn 14 diwrnod i'r rhybudd (fel arall, byddwn yn ystyried bod y gwreiddiol heb ei gyflwyno).
Rhaid i bob dogfen bapur a gaiff ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau nodi rhif cofrestru'r cwmni mewn lle amlwg, a rhaid iddi gydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir gan y Cofrestrydd gyda golwg ar eglurder y ddogfen honno.
Yn gryno, dylai dogfennau fod ar bapur gwyn plaen o faint A4 yn pwyso rhwng 80g/m2 a 100 g/m2 gyda gorffeniad di-sglein. Dylai'r testun fod yn ddu, yn glir, yn ddarllenadwy ac o ddwysedd cyson. Rhaid i lythrennau a rhifau beidio â bod yn llai nag 1.8mm o uchder, gyda thrwch llinell sydd heb fod yn llai na 0.25mm.
Os allbrintiau cyfrifiadur yw'r rhain, mae'n hanfodol i ansawdd yr argraffu fod yn dda. Cawn broblemau arbennig gyda rhestri wedi eu hargraffu ar bapur cyfrifiadur â llinellau gwyrdd. Gallwn drin rhestri cyfranddeiliaid ar bapur hyd at 14.5" x 12".
Byddwn yn derbyn dogfennau a gaiff eu cyflwyno ar rai mathau o microfiche (comfiche) wedi ei greu drwy gyfrifiadur ar sail prif gopi du – fel dewis arall yn lle papur – ar yr amod bod modd inni eu hatgynhyrchu ar ein peiriannau diaso.
Derbyniwn restrau cyfranddeiliaid maith ar ddisgiau CD-ROM, DVD-ROM a disgiau llipa. Gall hefyd fod modd inni dderbyn tâp magnetig ar gyfer rhestriadau maith iawn.
Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos, i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin.
Fel dewis arall,gallwch chi gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban.
Wrth ddefnyddio’n gwasanaethau ffeilio ar-lein, cewch gydnabyddiaeth awtomatig drwy e-bost fod eich dogfennau wedi dod i law.
Os ydych yn anfon dogfennau drwy'r post, drwy negesydd neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) a'ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch chi gopi o'ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd.
Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu'r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch.
Fel arfer, yn Saesneg y mae’n rhaid ichi ffeilio dogfennau gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae eithriadau i hyn yn unol â’r manylion isod. Cewch lunio a chyflwyno dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau Cymreig yn Gymraeg.
Yn ychwanegol, mae cwmnïau hefyd yn cael ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sy’n dod o dan ofynion datgelu’r Gyfarwyddeb Gyntaf ar y Gyfraith Gwmnïau. Mae hyn yn cynnwys:
Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol gyfeirio at ddogfen a gafodd ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau ar 1 Ionawr 2007 neu wedi hynny. Gall cyfieithiadau gwirfoddol gael eu ffeilio yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unig a rhaid anfon Ffurflen 1106 i gyd-fynd â nhw.
Mae hwn yn un o gyfres o ganllawiau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.
Gallwn hefyd ddarparu canllawiau ar ddeddfwriaeth gysylltiedig. Mae’r teitlau’n cynnwys: ‘Oversea Companies’ (GB01), ‘Deddf Partneriaeth Gyfyngedig’ (GB02CYM), ‘Deddf Enllib a Chofrestru Papurau Newydd’ (GB03CYM), ‘Grwpiadau Buddiant Economaidd Ewropeaidd’ (GB04CYM), ‘Defnyddio’r Gymraeg’ (GB05CYM), ‘The European Company: Societas Europaea (SE)’ (GB06) a ‘Cross Border Mergers’ (GB07).
Mae Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
ATODIAD A - Prif Weithgareddau Busnes
Mae'r dosbarthiad hwn yn seiliedig ar Godau Dosbarthiad Diwydiannol Safonol y Deyrnas Unedig (SIC03) gan gynnwys diwygiadau i is-ddosbarthau a ddaeth i rym o 1 Ionawr 2003 ymlaen. |
| Côd Masnach |
Grŵp A - Amaethyddiaeth, Hela a Choedwigaeth |
| 0111 |
Tyfu grawnfwyd a chnydau eraill |
| 0112 |
Tyfu llysiau a chynhyrchion meithrinfa |
| 0113 |
Tyfu ffrwythau, cnau, cnydau diod a sbeis |
| 0121 |
Ffermio gwartheg, ffermio llaeth |
| 0122 |
Ffermio defaid, geifr, ceffylau, ac ati |
| 0123 |
Ffermio moch |
| 0124 |
Ffermio dofednod |
| 0125 |
Ffermio anifeiliaid eraill |
| 0130 |
Cnydau ar y cyd ag anifeiliaid, ffermydd cymysg |
| 0141 |
Gweithgareddau gwasanaethu amaethyddol |
| 0142 |
Gwasanaethau hwsmonaeth anifeiliaid, nid milfeddygon |
| 0150 |
Hela a magu anifeiliaid hela, gan gynn. gwasanaethau |
| 0201 |
Coedwigaeth a chymynu coed |
| 0202 |
Gwasanaethau cysylltiedig â choedwigaeth a chymynu coed |
| Côd Masnach |
Grŵp B - Pysgota |
| 0501 |
Pysgota |
| 0502 |
Gweithredu deorfeydd a ffermydd pysgod |
| Côd Masnach |
Grŵp C - Mwyngloddio a Chwarela |
| |
CA Mwyngloddio a Chwarela Defnyddiau Ynni |
| 1010 |
Mwyngloddio a chrugio glo caled |
| 1020 |
Mwyngloddio a chrugio coedlo |
| 1030 |
Echdynnu a chrugio mawn |
| 1110 |
Echdynnu petrolewm a nwy naturiol |
| 1120 |
Gwasanaethau yng nghyswllt echdynnu olew a nwy |
| 1200 |
Cloddio mwynau wraniwm a thoriwm |
| |
CB Mwyngloddio a Chwarela, nid Defnyddiau Ynni |
| 1310 |
Cloddio mwynau haearn |
| 1320 |
Cloddio mwynau metel anfferrus |
| 1411 |
Chwarela carreg adeiladu |
| 1412 |
Chwarela carreg galch, gypswm a sialc |
| 1413 |
Chwarela llechi |
| 1421 |
Gweithredu pyllau graean a thywod |
| 1422 |
Mwyngloddio cleiau a chaolin |
| 1430 |
Cloddio mwynau cemegol a gwrteithiau |
| 1440 |
Cynhyrchu halen |
| 1450 |
Mwyngloddio a chwarela arall |
| Côd Masnach |
Grŵp D - Gweithgynhyrchu |
| |
DA Gweithgynhyrchu Bwydydd; Diodydd a Thybaco |
| 1511 |
Cynhyrchu a chadw cig |
| 1512 |
Cynhyrchu a chadw cig dofednod |
| 1513 |
Creu cynhyrchion cig a dofednod |
| 1520 |
Prosesu a chadw pysgod a chynhyrchion pysgod |
| 1531 |
Prosesu a chadw tatws |
| 1532 |
Gweithgynhyrchu sudd ffrwythau a llysiau |
| 1533 |
Prosesu, ac ati, ffrwythau, llysiau |
| 1541 |
Gweithgynhyrchu olewon a seimiau crai |
| 1542 |
Gweithgynhyrchu olewon a seimiau pur |
| 1543 |
Gweithgynhyrchu marjarîn a seimiau bwyta tebyg |
| 1551 |
Gweithredu llaethdai a mannau gwneud caws |
| 1552 |
Gweithgynhyrchu hufen iâ |
| 1561 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion melin rawn |
| 1562 |
Gweithgynhyrchu starts a chynhyrchion starts |
| 1571 |
Gweithgynhyrchu ymborth parod i anifeiliaid fferm |
| 1572 |
Gweithgynhyrchu ymborth parod i anifeiliaid anwes |
| 1581 |
Gweithgynhyrchu bara, crwst ffres a theisenni |
| 1582 |
Gweithgynhyrchu bisgedi, crwst cadw, ac ati |
| 1583 |
Gweithgynhyrchu siwgwr |
| 1584 |
Gweithgynhyrchu coco, siocled, cyffaith |
| 1585 |
Gweithgynhyrchu macaroni a bwydydd blawd tebyg |
| 1586 |
Prosesu te a choffi |
| 1587 |
Gweithgynhyrchu cynfennau a sesnin |
| 1588 |
Gweithgynhyrchu bwydydd homogenaidd a deietegol |
| 1589 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion bwyd eraill |
| 1591 |
Gweithgynhyrchu diodydd alcoholaidd yfadwy wedi eu distyllu |
| 1592 |
Defnyddiau alcohol ethyl wedi eu heplesu |
| 1593 |
Gweithgynhyrchu gwinoedd |
| 1594 |
Gweithgynhyrchu seidr a gwinoedd ffrwythau eraill |
| 1595 |
Gweithgynhyrchu diodydd eples eraill heb eu distyllu |
| 1596 |
Gweithgynhyrchu cwrw |
| 1597 |
Gweithgynhyrchu brag |
| 1598 |
Cynhyrchu dŵr mwynol, diodydd ysgafn |
| 1600 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion tybaco |
| |
DB Gweithgynhyrchu Tecstilau a Chynhyrchion Gwehyddol |
| 1711 |
Paratoi a nyddu ffibrau tebyg i gotwm |
| 1712 |
Paratoi a nyddu ffibrau tebyg i wlân |
| 1713 |
Paratoi a nyddu ffibrau tebyg i wstid |
| 1714 |
Paratoi a nyddu ffibrau tebyg i lin |
| 1715 |
Cyfrodeddu a pharatoi sidan, deunydd synthetig, ac ati |
| 1716 |
Gweithgynhyrchu efadedd gwnïo |
| 1717 |
Paratoi a nyddu tecstilau eraill |
| 1721 |
Gwehyddu defnyddiau tebyg i gotwm |
| 1722 |
Gwehyddu defnyddiau tebyg i wlân |
| 1723 |
Gwehyddu defnyddiau tebyg i wstid |
| 1724 |
Gwehyddu defnyddiau tebyg i sidan |
| 1725 |
Gwehyddu tecstilau eraill |
| 1730 |
Gorffennu tecstilau |
| 1740 |
Gweithgynhyrchu tecstilau wedi eu cyfannu, nid gwisgoedd |
| 1751 |
Gweithgynhyrchu carpedi a rygiau |
| 1752 |
Gweithgynhyrchu rheffynnau, rhaffau, llinynnau a rhwydi |
| 1753 |
Gweithgynhyrchu deunydd heb ei wehyddu a nwyddau nid dillad |
| 1754 |
Gweithgynhyrchu tecstilau eraill |
| 1760 |
Gweithgynhyrchu ffabrigau wedi eu gwau a'u crosio |
| 1771 |
Gweithgynhyrchu hosanau wedi eu gwau a'u crosio |
| 1772 |
Gweithgynhyrchu pwlofers, ac ati, wedi eu gwau a'u crosio |
| 1810 |
Gweithgynhyrchu dillad lledr |
| 1821 |
Gweithgynhyrchu dillad gwaith |
| 1822 |
Gweithgynhyrchu dillad allanol eraill |
| 1823 |
Gweithgynhyrchu dillad isaf |
| 1824 |
Gweithgynhyrchu gwisgoedd eraill, ac ati |
| 1830 |
Trin a llifo ffwr; gweithgynhyrchu eitemau ffwr |
| |
DC Gweithgynhyrchu Lledr a Chynhyrchion Lledr |
| 1910 |
Trin a barcio lledr |
| 1920 |
Gweithgynhyrchu bagiau ac eitemau tebyg, cyfrwyaeth |
| 1930 |
Gweithgynhyrchu esgidiau |
| |
DD Gweithgynhyrchu Pren a Chynhyrchion Pren |
| 2010 |
Pren melin lifio, pren plaenio, pren trwytho |
| 2020 |
Gweithgynhyrchu sitenni argaen, pren haenog, ac ati |
| 2030 |
Gweithgynhyrchu saernïaeth a deunydd asio i adeiladwyr |
| 2040 |
Gweithgynhyrchu cynhwyswyr pren |
| 2051 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion pren eraill |
| 2052 |
Gweithgynhyrchu eitemau corc, gwellt, ac ati |
| |
DE Gweithgynhyrchu Papur; Cyhoeddi; Argraffu |
| 2111 |
Gweithgynhyrchu mwydion coed |
| 2112 |
Gweithgynhyrchu papur a bwrdd papur |
| 2121 |
Gweithgynhyrchu cartonau, blychau a chasys o bapur gwrymiog a bwrdd papur |
| 2122 |
Gweithgynhyrchu nwyddau cartref a thŷ bach |
| 2123 |
Rhwymo llyfrau |
| 2124 |
Gweithgynhyrchu papur wal |
| 2125 |
Gweithgynhyrchu nwyddau papur a bwrdd papur |
| 2211 |
Cyhoeddi llyfrau |
| 2212 |
Cyhoeddi papurau newydd |
| 2213 |
Cyhoeddi newyddiaduron a chyfnodolion |
| 2214 |
Cyhoeddi recordiadau sain |
| 2215 |
Cyhoeddi arall |
| 2221 |
Argraffu papurau newydd |
| 2222 |
Argraffu heb ei bennu rywle arall |
| 2223 |
Rhwymo a gorffennu llyfrau |
| 2224 |
Gweithgarwch cyn-argraffu |
| 2225 |
Gweithrediadau ategol mewn cysylltiad ag argraffu |
| 2231 |
Atgynhyrchu recordiadau sain |
| 2232 |
Atgynhyrchu recordiadau fideo |
| 2233 |
Atgynhyrchu cyfryngau cyfrifiadur |
| |
DF Gweithgynhyrchu Golosg, Cynhyrchion Petrolewm a Chynhyrchion Niwclear |
| 2310 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion ffyrnau golosg |
| 2320 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion petrolewm pur |
| 2330 |
Prosesu tanwydd niwclear |
| |
DG Gweithgynhyrchu Cemigion, Cynhyrchion Cemegol a Rhai o law Dyn |
| 2411 |
Gweithgynhyrchu nwyon diwydiannol |
| 2412 |
Gweithgynhyrchu llifynnau a phigmentau |
| 2413 |
Gweithgynhyrchu cemigion sylfaenol anorganig eraill |
| 2414 |
Gweithgynhyrchu cemigion sylfaenol organig eraill |
| 2415 |
Gweithgynhyrchu gwrteithiau, compowndiau nitrogen |
| 2416 |
Gweithgynhyrchu plastigion ar ffurfiau cynradd |
| 2417 |
Gweithgynhyrchu rwber synthetig ar ffurfiau cynradd |
| 2420 |
Gweithgynhyrchu plaleiddiaid ac agrocemigion |
| 2430 |
Gweithgynhyrchu paentiau, inciau argraffu a mastigion, ac ati |
| 2441 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion fferyllol sylfaenol |
| 2442 |
Gweithgynhyrchu cymysgeddau fferyllol |
| 2451 |
Gweithgynhyrchu sebon a glanedyddion, llathryddion, ac ati |
| 2452 |
Gweithgynhyrchu persawrau ac eitemau ymdrwsio |
| 2461 |
Gweithgynhyrchu ffrwydryddion |
| 2462 |
Gweithgynhyrchu glud a gelatin |
| 2463 |
Gweithgynhyrchu olewon naws |
| 2464 |
Gwneud cemigion tynnu llun |
| 2465 |
Gwneud cyfryngau parod heb recordio |
| 2466 |
Gweithgynhyrchu deunydd cemegol ar gyfer ffotograffiaeth |
| 2470 |
Gweithgynhyrchu ffibrau heb fod o law dyn |
| |
DH Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Rwber a Phlastig |
| 2511 |
Gweithgynhyrchu teiers a thiwbiau rwber |
| 2512 |
Teiers rwber wedi eu hailwadnu a'u hail-lunio |
| 2513 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion rwber eraill |
| 2521 |
Gweithgynhyrchu platiau, sitenni, ac ati, o blastig |
| 2522 |
Gweithgynhyrchu nwyddau pacio o blastig |
| 2523 |
Gweithgynhyrchu nwyddau adeiladu o blastig |
| 2524 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion plastig eraill |
| |
DI Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Mwynol Anfetelaidd Eraill |
| 2611 |
Gweithgynhyrchu gwydr gwastad |
| 2612 |
Siapio a phrosesu gwydr gwastad |
| 2613 |
Gweithgynhyrchu gwydr cau |
| 2614 |
Gweithgynhyrchu ffibrau gwydr |
| 2615 |
Gweithgynhyrchu gwydr arall, gan gynn. eitemau technegol |
| 2621 |
Gweithgynhyrchu nwyddau ceramig i'r cartref, ac ati |
| 2622 |
Gweithgynhyrchu gosodion ymolchfa ceramig |
| 2623 |
Gweithgynhyrchu inswleiddwyr ceramig, ac ati |
| 2624 |
Gweithgynhyrchu nwyddau ceramig technegol eraill |
| 2625 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion ceramig eraill |
| 2626 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion gwrthsafol ceramig |
| 2630 |
Gweithgynhyrchu teils a cherrig llorio ceramig |
| 2640 |
Gweithgynhyrchu brics, ac ati, o glai pob |
| 2651 |
Gweithgynhyrchu sment |
| 2652 |
Gweithgynhyrchu calch |
| 2653 |
Gweithgynhyrchu plastr |
| 2661 |
Gweithgynhyrchu nwyddau concrid ar gyfer adeiladu |
| 2662 |
Gweithgynhyrchu nwyddau plastr ar gyfer adeiladu |
| 2663 |
Gweithgynhyrchu concrid parod |
| 2664 |
Gweithgynhyrchu cymrwd |
| 2665 |
Gweithgynhyrchu sment ffibr |
| 2666 |
Gweithgynhyrchu eitemau concrid, ac ati, eraill |
| 2670 |
Torri, siapio a gorffennu carreg |
| 2681 |
Creu cynhyrchion ysgrafellu |
| 2682 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion mwynol anfetelaidd eraill |
| |
DJ Metelau Sylfaenol a Cynhyrchion Ffabrigedig |
| 2710 |
Gweithgynhyrchu haearn a dur sylfaenol ac aloion haearn |
| 2721 |
Gweithgynhyrchu tiwbiau haearn bwrw |
| 2722 |
Gweithgynhyrchu tiwbiau dur |
| 2731 |
Oerdynnu |
| 2732 |
Rholio stribedi cul yn oer |
| 2733 |
Oerffurfio neu oerblygu |
| 2734 |
Tynnu gwifrau |
| 2741 |
Cynhyrchu metelau gwerthfawr |
| 2742 |
Cynhyrchu alwminiwm |
| 2743 |
Cynhyrchu plwm, sinc ac alcam |
| 2744 |
Cynhyrchu copor |
| 2745 |
Cynhyrchu metelau anfferrus eraill |
| 2751 |
Bwrw haearn |
| 2752 |
Bwrw dur |
| 2753 |
Bwrw metelau ysgafn |
| 2754 |
Bwrw metelau anfferrus eraill |
| |
Gweithgynhyrchu Metel Ffabrigedig, nid Peiriannau |
| 2811 |
Gweithgynhyrchu adeiladwaith a rhannau metel |
| 2812 |
Gweithgynhyrchu saernïaeth fetel i adeiladwyr |
| 2821 |
Gweithgynhyrchu tanciau, ac ati, a chynhwyswyr metel |
| 2822 |
Gweithgynhyrchu rheiddiaduron a bwyleri gwres canolog |
| 2830 |
Gweithgynhyrchu generaduron ager, nid bwyleri |
| 2840 |
Metel gwasg-ofanu a metel rholyn |
| 2851 |
Trin a chaenu metelau |
| 2852 |
Peirianneg fecanyddol gyffredinol |
| 2861 |
Gweithgynhyrchu cytleri |
| 2862 |
Gweithgynhyrchu offer |
| 2863 |
Gweithgynhyrchu cloeon a cholynnau |
| 2871 |
Gweithgynhyrchu drymiau dur, cynhwyswyr tebyg |
| 2872 |
Gweithgynhyrchu deunydd pacio o fetel ysgafn |
| 2873 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion gwifren |
| 2874 |
Gweithgynhyrchu caewyr, sgriwiau, cadwyni, ac ati |
| 2875 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion eraill o fetel ffabrigedig |
| |
DK Gweithgynhyrchu Peiriannau a Chyfarpar |
| 2911 |
Gweithgynhyrchu peiriannau, nid i awyrennau, ac ati |
| 2912 |
Gweithgynhyrchu pympiau a chywasgwyr |
| 2913 |
Gweithgynhyrchu tapiau a falfiau |
| 2914 |
Gweithgynhyrchu berynnau, gafaelion, gerwaith, ac ati |
| 2921 |
Gweithgynhyrchu ffwrneisiau a llosgwyr ffwrnais |
| 2922 |
Gweithgynhyrchu cyfarpar codi a thrin |
| 2923 |
Gweithgynhyrchu awyrwaith heb fod yn ddomestig |
| 2924 |
Gweithgynhyrchu peiriannau cyffredinol eraill |
| 2931 |
Gweithgynhyrchu tractorau amaethyddol |
| 2932 |
Gweithgynhyrchu peiriannau amaethu a choedwigo eraill |
| 2941 |
Gweithgynhyrchu taclau pŵer cludadwy i'w defnyddio â llaw |
| 2942 |
Gweithgynhyrchu taclau gwaith metel |
| 2943 |
Gweithgynhyrchu taclau peiriannol heb eu pennu rywle arall |
| 2951 |
Gweithgynhyrchu peiriannau meteleg |
| 2952 |
Gweithgynhyrchu peiriannau mwyngloddio, chwarela, ac ati |
| 2953 |
Gweithgynhyrchu ym maes bwyd, diod a thybaco |
| 2954 |
Gweithgynhyrchu ym maes tecstilau, gwisgoedd a lledr |
| 2955 |
Gweithgynhyrchu peiriannau ar gyfer papur a bwrdd |
| 2956 |
Gweithgynhyrchu peiriannau eraill at ddibenion arbennig |
| 2960 |
Gweithgynhyrchu arfau ac adnoddau saethu |
| 2971 |
Gweithgynhyrchu dyfeisiau trydan i'r cartref |
| |
DL Gweithgynhyrchu Cyfarpar Trydan ac Optegol |
| 2972 |
Gweithgynhyrchu dyfeisiau domestig heb fod yn rhai trydanol |
| |
Gweithgynhyrchu Peiriannau Swyddfa a Chyfrifiaduron |
| 3001 |
Gweithgynhyrchu peiriannau swyddfa |
| 3002 |
Gweithgynhyrchu cyfrifiaduron ac offer prosesu |
| |
Gweithgynhyrchu Peiriannau Trydan, ac ati |
| 3110 |
Gweithgynhyrchu moduron, generaduron trydan, ac ati |
| 3120 |
Gweithgynhyrchu offer dosbarthu trydan, ac ati |
| 3130 |
Gweithgynhyrchu gwifrau a cheblau wedi eu hinswleiddio |
| 3140 |
Gweithgynhyrchu cronaduron, batris, ac ati |
| 3150 |
Gweithgynhyrchu cyfarpar goleuo a lampau |
| 3161 |
Gweithgynhyrchu cyfarpar, peiriannau trydan, ac ati |
| 3162 |
Gweithgynhyrchu cyfarpar trydan arall |
| |
Gweithgynhyrchu Setiau Radio, Teledu a Chyfarpar Cysylltiedig |
| 3210 |
Gweithgynhyrchu cydrannau electronig |
| 3220 |
Gweithgynhyrchu trosglwyddyddion teledu, teleffoni, ac ati |
| 3230 |
Gweithgynhyrchu setiau teledu a radio, sain neu fideo, ac ati |
| |
Gweithgynhyrchu Teclynnau Meddygol a rhai manwl-gywir |
| 3310 |
Gweithgynhyrchu cyfarpar meddygol, orthopedig, ac ati |
| 3220 |
Gweithgynhyrchu teclynnau meddygol at ddibenion mesur, ac ati |
| 3330 |
Gweithgynhyrchu cyfarpar rheoli prosesau diwydiannol |
| 3340 |
Gweithgynhyrchu cyfarpar optegol, ffotograffig, ac ati |
| 3350 |
Gweithgynhyrchu watsys a chlociau |
| |
DM Gweithgynhyrchu Cyfarpar Cludo |
| 3410 |
Gweithgynhyrchu cerbydau modur |
| 3420 |
Gweithgynhyrchu cyrff cerbydau modur, ac ati |
| 3430 |
Gweithgynhyrchu rhannau i gerbydau a pheiriannau modur |
| |
Gweithgynhyrchu Cyfarpar Cludo Arall |
| 3511 |
Adeiladu ac atgyweirio llongau |
| 3512 |
Adeiladu ac atgyweirio cychod pleser a chychod rasio |
| 3520 |
Gweithgynhyrchu locomotifau a cherbydau rheilffordd |
| 3530 |
Gweithgynhyrchu awyrennau a llongau gofod |
| 3541 |
Gweithgynhyrchu beiciau modur |
| 3542 |
Gweithgynhyrchu beiciau pedal |
| 3543 |
Gweithgynhyrchu cerbydau i'r methedig |
| 3550 |
Gweithgynhyrchu cyfarpar cludo arall |
| |
DN Gweithgynhyrchu heb ei bennu rywle arall |
| 3611 |
Gweithgynhyrchu cadeiriau a seddi |
| 3612 |
Gweithgynhyrchu dodrefn eraill i'r swyddfa a'r siop |
| 3613 |
Gweithgynhyrchu dodrefn eraill i'r gegin |
| 3614 |
Gweithgynhyrchu dodrefn eraill |
| 3615 |
Gweithgynhyrchu matresi |
| 3621 |
Bathu darnau arian a medalau |
| 3622 |
Gweithgynhyrchu gemwaith ac eitemau cysylltiedig |
| 3630 |
Gweithgynhyrchu offerynnau cerdd |
| 3640 |
Gweithgynhyrchu nwyddau chwaraeon |
| 3650 |
Gweithgynhyrchu gemau a theganau |
| 3661 |
Gweithgynhyrchu gemwaith ffug |
| 3662 |
Gweithgynhyrchu ysgubau a brwsys |
| 3663 |
Gweithgynhyrchu arall |
| |
Ailgylchu |
| 3710 |
Ailgylchu gwastraff a sborion metel |
| 3720 |
Ailgylchu gwastraff a sborion heb gynnwys metel |
| Côd Masnach |
Grŵp E - Cyflenwi Trydan, Nwy a D'r |
| 4011 |
Creu trydan |
| 4012 |
Trawsyrru trydan |
| 4013 |
Dosbarthu trydan a masnach drydan |
| 4021 |
Gweithgynhyrchu nwy |
| 4022 |
Dosbarthu a masnachu mewn tanwyddau nwy drwy brif bibelli |
| 4030 |
Cyflenwi ager a dŵr poeth |
| 4100 |
Casglu, puro dŵr ac ati |
| Côd Masnach |
Grŵp F - Adeiladu |
| 4511 |
Dymchwel adeiladau; symud pridd |
| 4512 |
Drilio a thurio prawf |
| 4521 |
Adeiladu a pheirianneg sifil gyffredinol |
| 4522 |
Gosod gorchuddion a fframiau to |
| 4523 |
Adeiladu ffyrdd, meysydd glanio, ac ati |
| 4524 |
Adeiladu prosiectau d'r |
| 4525 |
Gwaith adeiladu masnachol arbennig arall |
| 4531 |
Gosod gwifrau trydan, ac ati |
| 4532 |
Gweithgareddau inswleiddio |
| 4533 |
Plymwaith |
| 4534 |
Gosod gwaith adeiladu arall |
| 4541 |
Plastro |
| 4542 |
Gosod gwaith saer |
| 4543 |
Gorchuddio lloriau a pharwydydd |
| 4544 |
Peintio a gwydru |
| 4545 |
Gwaith gorffennu arall ar adeiladau |
| 4550 |
Rhentu cyfarpar adeiladu gyda gweithredydd |
| Côd Masnach |
Grŵp G - Cyfanwerthu, Manwerthu; Rhai Mathau o Waith Trwsio |
| 5010 |
Gwerthu cerbydau modur |
| 5020 |
Cynnal a chadw, a thrwsio moduron |
| 5030 |
Gwerthu rhannau ar gyfer cerbydau modur, ac ati |
| 5040 |
Gwerthu, trwsio, ac ati, feiciau modur a rhannau |
| 5050 |
Manwerthu tanwydd modurol |
| |
Cyfanwerthu, Comisiynu, nid Moduron |
| 5111 |
Asiantiaid defnyddiau amaethyddol a gwehyddol crai |
| 5112 |
Asiantiaid gwerthu tanwyddau, mwynau, ac ati |
| 5113 |
Asiantiaid defnyddiau adeiladu |
| 5114 |
Asiantiaid cyfarpar adeiladu, ac ati |
| 5115 |
Asiantiaid nwyddau cartref, ac ati |
| 5116 |
Asiantiaid tecstilau, esgidiau, ac ati |
| 5117 |
Asiantiaid bwyd, diod a thybaco |
| 5118 |
Asiantiaid cynhyrchion arbennig |
| 5119 |
Asiantiaid gwerthu amrywiaeth o nwyddau |
| 5121 |
Cyfanwerthu grawn, ymborth anifeiliaid |
| 5122 |
Cyfanwerthu blodau a phlanhigion |
| 5123 |
Cyfanwerthu anifeiliaid byw |
| 5124 |
Cyfanwerthu crwyn a lledr |
| 5125 |
Cyfanwerthu tybaco heb ei weithgynhyrchu |
| 5131 |
Cyfanwerthu ffrwythau a llysiau |
| 5132 |
Cyfanwerthu cig a chynhyrchion cig |
| 5133 |
Cyfanwerthu cynhyrchion llaeth |
| 5134 |
Cyfanwerthu sudd ffrwythau a llysiau, dyfroedd mwynol a diodydd meddal |
| 5135 |
Cyfanwerthu cynhyrchion tybaco |
| 5136 |
Cyfanwerthu siwgwr, siocled, ac ati |
| 5137 |
Cyfanwerthu coffi, te, coco, ac ati |
| 5138 |
Cyfanwerthu bwyd arall, gan gynn. pysgod, ac ati |
| 5139 |
Cyfanwerthu bwyd anarbenigol, ac ati |
| 5141 |
Cyfanwerthu tecstilau |
| 5142 |
Cyfanwerthu dillad ac esgidiau |
| 5143 |
Cyfanwerthu nwyddau trydan i'r cartref |
| 5144 |
Cyfanwerthu tsieni, papur wal, ac ati |
| 5145 |
Cyfanwerthu persawr a chosmetigion |
| 5146 |
Cyfanwerthu nwyddau fferyllol |
| 5147 |
Cyfanwerthu nwyddau eraill i'r cartref |
| 5151 |
Cyfanwerthu tanwyddau a chynhyrchion cysylltiedig |
| 5152 |
Cyfanwerthu metelau a mwynau metel |
| 5153 |
Cyfanwerthu pren, gwaith adeiladu, ac ati |
| 5154 |
Cyfanwerthu nwyddau metel, plymwaith, ac ati |
| 5155 |
Cyfanwerthu cynhyrchion cemegol |
| 5156 |
Cyfanwerthu nwyddau cyfryngol eraill |
| 5157 |
Cyfanwerthu gwastraff a sgrap |
| 5181 |
Cyfanwerthu taclau peiriannol |
| 5182 |
Cyfanwerthu peiriannau mwyngloddio, adeiladu a pheirianneg sifil |
| 5183 |
Cyfanwerthu peiriannau i’r diwydiant gwehyddu, a pheiriannau gwnïo a gweu |
| 5184 |
Cyfanwerthu cyfrifiaduron, offer cyfrifiadurol perifferol a meddalwedd |
| 5185 |
Cyfanwerthu peiriannau a chyfarpar swyddfa eraill |
| 5186 |
Cyfanwerthu rhannau ac offer electronig eraill |
| 5187 |
Cyfanwerthu peiriannau eraill i'w defnyddio mewn diwydiant, masnach a mordwyo |
| 5188 |
Cyfanwerthu peiriannau, ategolion ac offer amaethyddol, gan gynnwys tractorau |
| 5190 |
Cyfanwerthu arall |
| |
Masnach Fanwerthu, nid Moduron; Gwaith Trwsio |
| 5211 |
Manwerthu mewn siopau anarbenigol sydd â thrwydded i werthu alcohol, gyda bwyd, diodydd neu dybaco yn brif eitemau, heb ei bennu rywle arall |
| 5212 |
Manwerthu arall nid i siopau arbenigol |
| 5221 |
Manwerthu ffrwythau a llysiau |
| 5222 |
Manwerthu cig a chynhyrchion cig |
| 5223 |
Manwerthu pysgod, cramenogion, ac ati |
| 5224 |
Manwerthu bara, teisenni, cyffaith |
| 5225 |
Manwerthu diodydd alcoholaidd ac eraill |
| 5226 |
Manwerthu cynhyrchion tybaco |
| 5227 |
Bwyd arbenigol arall, ac ati, i'w fanwerthu |
| 5231 |
Fferyllwyr dosbarthu |
| 5232 |
Manwerthu nwyddau meddygol ac orthopedig |
| 5233 |
Manwerthu eitemau cosmetig ac ymdrwsio |
| 5241 |
Manwerthu tecstilau |
| 5242 |
Manwerthu dillad |
| 5243 |
Manwerthu esgidiau a nwyddau lledr |
| 5244 |
Manwerthu dodrefn i'r cartref, ac ati |
| 5245 |
Manwerthu nwyddau trydan i'r cartref, ac ati |
| 5246 |
Manwerthu nwyddau metel, paent a gwydr |
| 5247 |
Manwerthu llyfrau, papurau newydd, ac ati |
| 5248 |
Siopau manwerthu arbenigol eraill |
| 5250 |
Manwerthu nwyddau ail-law eraill |
| 5261 |
Manwerthu drwy gwmnïau archebu drwy'r post |
| 5262 |
Manwerthu drwy stondinau a marchnadoedd |
| 5263 |
Manwerthu arall heb fod mewn siopau |
| 5271 |
Trwsio botasau, esgidiau, nwyddau lledr |
| 5272 |
Trwsio nwyddau trydan i'r cartref |
| 5273 |
Trwsio clociau a gemwaith |
| 5274 |
Trwsio heb ei bennu rywle arall |
| Côd Masnach |
Grŵp H - Gwestyau a Bwytai |
| 5510 |
Gwestyau a Motelau gyda neu heb fwyty |
| 5521 |
Hosteli ieuenctid a llochesau mynydd |
| 5522 |
Safleoedd gwersylla, gan gynn. safleoedd carafanau |
| 5523 |
Darpariaeth arall o ran llety |
| 5530 |
Bwytai |
| 5540 |
Barrau |
| 5551 |
Cantinau |
| 5552 |
Arlwyo |
| Côd Masnach |
Grŵp I - Cludo, Storio a Chyfathrebu |
| 6010 |
Cludo dros y rheilffyrdd |
| 6021 |
Mathau eraill o gludiant teithwyr rhaglenedig ar dir |
| 6022 |
Gweithredu tacsis |
| 6023 |
Mathau eraill o gludiant teithwyr ar dir |
| 6024 |
Cludo nwyddau ar hyd y ffyrdd |
| 6030 |
Cludiant drwy biblinellau |
| |
Cludiant D'r |
| 6110 |
Cludiant dros y môr a chyda'r glannau |
| 6120 |
Cludiant d'r mewndirol |
| |
Cludiant Awyr |
| 6210 |
Cludiant awyr rhaglenedig |
| 6220 |
Cludiant awyr anrhaglenedig |
| 6230 |
Cludiant gofod |
| |
Cludiant Ategol; Swyddfeydd Teithio |
| 6311 |
Trin cargo |
| 6312 |
Storio a chadw mewn warws |
| 6321 |
Cludiant tir ategol arall |
| 6322 |
Cludiant dŵr ategol arall |
| 6323 |
Cludiant awyr ategol arall |
| 6330 |
Swyddfeydd teithio, ac ati; twristiaeth |
| 6340 |
Asiantaethau cludo eraill |
| |
Post a Thelathrebu |
| 6411 |
Gweithgareddau post cenedlaethol |
| 6412 |
Negeswyr heblaw'r post cenedlaethol |
| 6420 |
Telathrebu |
| Côd Masnach |
Grŵp J - Cyfryngu Ariannol |
| 6511 |
Bancio canolog |
| 6512 |
Cyfryngu ariannol arall |
| 6521 |
Prydlesu ariannol |
| 6522 |
Credydu arall |
| 6523 |
Cyfryngu cyllidol arall |
| |
Yswiriant, Pensiynau, nid nawdd cymdeithasol cwmnïau |
| 6601 |
Yswiriant/Adyswiriant bywyd |
| 6602 |
Cyllido pensiynau |
| 6603 |
Yswiriant/adyswiriant heb ymwneud â bywyd |
| |
Gweithgareddau Atodol i Gyfryngu Ariannol |
| 6711 |
Gweinyddu marchnadoedd ariannol |
| 6712 |
Brocera gwarannau a rheoli cronfeydd |
| 6713 |
Cyfryngu ariannol atodol |
| 6720 |
Yswiriant a chronfeydd pensiwn atodol |
| Côd Masnach |
Grŵp K - Eiddo tiriog, Rhentu a Busnes |
| 7011 |
Datblygu a gwerthu eiddo tiriog |
| 7012 |
Prynu a gwerthu'ch eiddo tiriog eich hun |
| 7020 |
Gosod eich eiddo eich hun |
| 7031 |
Asiantaethau eiddo tiriog |
| 7032 |
Rheoli eiddo tiriog, ffi neu gontract |
| |
Rhentu Cyfarpar heb Weithredydd |
| 7110 |
Rhentu moduron |
| 7121 |
Rhentu cyfarpar arall yng nghyswllt cludiant tir |
| 7122 |
Rhentu cyfarpar yng nghyswllt cludiant dŵr |
| 7123 |
Rhentu cyfarpar yng nghyswllt cludiant awyr |
| 7131 |
Rhentu peiriannau a chyfarpar amaethyddol |
| 7132 |
Rhentu peiriannau peirianneg sifil |
| 7133 |
Rhentu peiriannau swyddfa, gan gynn. cyfrifiaduron |
| 7134 |
Rhentu peiriannau a chyfarpar arall |
| 7140 |
Rhentu nwyddau personol a nwyddau cartref |
| |
Cyfrifiaduron a Gweithgareddau Cysylltiedig |
| 7210 |
Ymgynghori ynghylch caledwedd |
| 7221 |
Cyhoeddi meddalwedd |
| 7222 |
Ymgynghori a chyflenwi arall yng nghyswllt meddalwedd |
| 7230 |
Prosesu data |
| 7240 |
Gweithgareddau cronfa ddata |
| 7250 |
Cynnal a chadw peiriannau swyddfa a chyfrifiaduron |
| 7260 |
Gweithgareddau eraill cysylltiedig â chyfrifiaduron |
| |
Ymchwil a Datblygu |
| 7310 |
Y a D yng nghyswllt gwyddorau naturiol a pheirianneg |
| 7320 |
Y a D yng nghyswllt gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau |
| |
Gweithgareddau Busnes Eraill |
| 7411 |
Bargyfreithwyr |
| 7412 |
Cyfrifeg, archwilio ariannol; ymgynghori ynghylch trethi |
| 7413 |
Ymchwil farchnata, trefnu arolygon barn |
| 7414 |
Ymgynghori ynghylch busnes a rheolaeth |
| 7415 |
Cwmnïau Dal, gan gynnwys Pencadlysoedd |
| 7420 |
Ymgynghori pensaernïol, technegol |
| 7430 |
Profi a dadansoddi technegol |
| 7440 |
Hysbysebu |
| 7450 |
Penodi gweithwyr |
| 7460 |
Archwilio a diogelwch |
| 7470 |
Gwasanaethau glanhau eraill |
| 7481 |
Gweithgarwch arall yng nghyswllt tynnu portreadau ffotograffig, ffotograffiaeth arbenigol arall, prosesu ffilmiau |
| 7482 |
Gweithgareddau pacio |
| 7485 |
Gweithgarwch ysgrifenyddol a chyfieithu |
| 7486 |
Gweithgarwch canolfannau ffonio |
| 7487 |
Gweithgareddau busnes eraill |
| 7499 |
Cwmni heb fasnachu |
| Côd Masnach |
Grŵp L - Gweinyddu ac Amddiffyn Cyhoeddus |
| 7511 |
Gwasanaeth cyhoeddus cyffredinol (cynhwysfawr) |
| 7512 |
Rheoli iechyd, addysg, ac ati |
| 7513 |
Rheolaeth i wella effeithiolrwydd busnes |
| 7514 |
Gwasanaethau cefnogi i'r llywodraeth |
| 7521 |
Materion tramor |
| 7522 |
Gweithgareddau amddiffyn |
| 7523 |
Cyfiawnder a gweithgareddau cyfreithiol |
| 7524 |
Diogelwch cyhoeddus, cyfraith a threfn |
| 7525 |
Gweithgareddau'r gwasanaeth tân |
| 7530 |
Nawdd cymdeithasol gorfodol |
| Côd Masnach |
Grŵp M - Addysg |
| 8010 |
Addysg gynradd |
| 8021 |
Addysg uwchradd gyffredinol |
| 8022 |
Addysg uwchradd dechnegol a galwedigaethol |
| 8030 |
Addysg uwch |
| 8041 |
Gweithgareddau ysgolion moduro |
| 8042 |
Addysg oedolion ac addysg arall |
| Côd Masnach |
Grŵp N - Iechyd a Gwaith Cymdeithasol |
| 8511 |
Gweithgareddau ysbyty |
| 8512 |
Gweithgareddau practis meddygol |
| 8513 |
Gweithgareddau practis deintyddol |
| 8514 |
Gweithgareddau eraill yng nghyswllt iechyd dynol |
| 8520 |
Gweithgareddau milfeddygol |
| 8531 |
Gwaith cymdeithasol gyda llety |
| 8532 |
Gwaith cymdeithasol heb lety |
| Côd Masnach |
Grŵp O - Gwasanaethau Cymdeithasol a Phersonol Eraill |
| 9001 |
Casglu a thrin carthffosiaeth |
| 9002 |
Casglu a thrin gwastraff arall |
| 9003 |
Gweithgarwch glanweithdra, meddyginiaethol a gweithgareddau tebyg eraill |
| |
Cyrff Aelodaeth |
| 9111 |
Cyrff busnes a chyflogwyr |
| 9112 |
Cyrff proffesiynol |
| 9120 |
Undebau llafur |
| 9131 |
Cyrff crefyddol |
| 9132 |
Cyrff gwleidyddol |
| 9133 |
Cyrff aelodaeth eraill |
| |
Hamdden, Diwylliant a Chwaraeon |
| 9211 |
Cynhyrchu lluniau byw a fideos |
| 9212 |
Dosbarthu lluniau byw a fideos |
| 9213 |
Taflu lluniau byw |
| 9220 |
Gweithgareddau radio a theledu |
| 9231 |
Creadigaeth artistig a llenyddol |
| 9232 |
Gweithredu cyfleusterau celfyddydol |
| 9233 |
Gweithgareddau ffair a pharc difyrion |
| 9234 |
Gweithgareddau adloniant eraill |
| 9240 |
Gweithgareddau swyddfa newyddion |
| 9251 |
Gweithgareddau llyfrgell ac archifdy |
| 9252 |
Amgueddfeydd a diogelu hanes |
| 9253 |
Gerddi botanegol, s'au a gwarchodfeydd natur |
| 9261 |
Gweithredu arenâu a stadia chwaraeon |
| 9262 |
Gweithgareddau chwarae eraill |
| 9271 |
Gweithgareddau hapchwarae a betio |
| 9272 |
Gweithgarddau hamdden heb eu pennu rywle arall |
| |
Gweithgareddau Gwasanaethu Eraill |
| 9301 |
Golchi a sychlanhau tecstilau a ffwr |
| 9302 |
Trin gwallt a thriniaeth harddu arall |
| 9303 |
Angladdau a gweithgareddau cysylltiedig |
| 9304 |
Gweithgareddau lles corfforol |
| 9305 |
Gweithredu peiriannau ffotograffig arianweithiol |
| Côd Masnach |
Grŵp P - Tai Preifat gyda Gweision Cyflog |
| 9500 |
Tai preifat gyda gweision cyflog |
| |
Amrywiol |
| 9600 |
Nwyddau diwahaniaeth yn creu gweithgareddau mewn tai preifat, i'w defnyddio gennych chi eich hun |
| 9700 |
Gwasanaethau diwahaniaeth yn creu gweithgareddau mewn tai preifat, i’w defnyddio gennych chi eich hun |
| 9800 |
Rheoli Eiddo Preswylwyr |
| 9899 |
Cwmni segur |
| Côd Masnach |
Grŵp Q - Cyrff Alltiriogaethol |
| 9900 |
Cyrff alltiriogaethol |