Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni

Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnau
Llyfrgell
Canllaw
Cyfathrebu yn Gymraeg
Amrywiol
Dogfennau Polisi


Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)

Cyfalaf Cyfrannau - GBA6

Hydref 2008 - Fersiwn 12

Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006

Cynnwys

Yn ôl i’r Brig
Cyflwyniad

Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn:

Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym.  Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol.  Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy’r holl nodiadau hyn, gymaint â phosib, pa Ddeddf sy’n berthnasol.  Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, ymwelwch â’n gwefan www.companieshouse.gov.uk. Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html, lle gallwch chi weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosib, eglurwn hyn yn y canllaw hwn a rhown fanylion ar ein gwefan.

Mae un cam terfynol yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 a drefnwyd ar gyfer Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau hynny ar y pryd. Efallai yr hoffech chi gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu barhau, er mwyn ichi gael mynediad at y newyddion diweddaraf.

Tan Hydref 2009, bydd y nodiadau canllaw hyn ond yn gymwys i gwmnïau a ffurfiwyd ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Wedyn, fe drefnir i’r system ar wahân yng Ngogledd Iwerddon gyfuno i un system gyfan ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd.

Mae gwybodaeth y canllaw hwn yn gymwys i bob cwmni sydd wedi’i gorffori â chyfalaf cyfrannau yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, p’un a fo’n breifat neu’n gyhoeddus. Mae’n ganllaw rhagarweiniol i bwnc cymhleth, ac os bydd gennych chi unrhyw amheuon ynglŷn ag unrhyw beth, dylech ystyried ceisio cyngor cyfreithiol.

Mae gwybodaeth y canllaw:

  • yn egluro nodweddion sylfaenol y drefn cyfalaf cyfrannau;
  • yn dweud wrthych chi pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau; ac
  • yn ymwneud â threfnu:
    - cyfalaf cyfrannau awdurdodedig, clustnodi a dileu cyfrannau;
    - mathau o gyfrannau, ailbatrymu cyfalaf cyfrannau a throsglwyddo cyfrannau.
Fe welwch chi'r gyfraith berthnasol yn Neddf Cwmnïau 1985 a Deddf Cwmnïau 2006.

Yn ôl i’r Brig 

Pennod 1
Cyfalaf cyfrannau

1. Beth yw cyfalaf cyfrannau?

Wrth i bobl ffurfio cwmni, byddan nhw’n penderfynu a fydd atebolrwydd yr aelodau wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau. Rhaid i’r memorandwm cymdeithasiad (un o'r dogfennau sydd angen i ffurfio'r cwmni) nodi:

  • faint o gyfalaf cyfrannau a fydd gan y cwmni; a
  • rhaniad y cyfalaf cyfrannau'n gyfrannau o swm penodol.

Rhaid i'r aelodau (y ‘cyfranddeiliaid’) gytuno i dderbyn rhai neu bob un o'r cyfrannau wrth gofrestru'r cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau. Rhaid i'r memorandwm cymdeithasiad ddangos enwau'r bobl a gytunodd i feddu ar gyfrannau a nifer y cyfrannau a fydd ym meddiant pob un. Y tanysgrifwyr y gelwir y bobl hyn.

2. Beth yw cyfalaf awdurdodedig?

Swm y cyfalaf sydd yn ei feddiant wrth ddechrau ei einioes ac sydd wedi ei nodi yn ei femorandwm cymdeithasiad yw cyfalaf cyfrannau awdurdodedig cwmni cyfyngedig (er y gall ei newid wedyn). Nid yr un peth yw cyfalaf cyfrannau awdurdodedig y cwmni a’i gyfalaf dosbarthedig.

3. A gaiff cwmni newid ei gyfalaf cyfrannau awdurdodedig?

Oni bai bod ei erthyglau cymdeithasiad yn mynnu penderfyniad arbennig neu anarferol, caiff cwmni gynyddu ei gyfalaf cyfrannau awdurdodedig drwy fabwysiadu penderfyniad arferol. Rhaid ichi anfon copi o'r penderfyniad ynghyd â hysbysiad o'r cynnydd o ran cyfalaf cyfrannau awdurdodedig i Dŷ'r Cwmnïau ar Ffurflen 123 o fewn 15 diwrnod i fabwysiadu’r penderfyniad. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.

Caiff cwmni leihau ei gyfalaf cyfrannau awdurdodedig drwy fabwysiadu penderfyniad arferol i ddileu cyfrannau nad oes neb wedi eu cymryd nac wedi cytuno i'w cymryd. Rhaid ichi anfon hysbysiad o'r dileu, ar Ffurflen 122, i Dŷ'r Cwmnïau cyn pen mis. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.

* Am wybodaeth ynghylch penderfyniadau, gweler ein canllaw 'Penderfyniadau'.
(Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006 )

Sylwer: gall canllaw Penderfyniadau Deddf Cwmnïau 1985 sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol fod yn berthnasol i’ch cwmni o hyd.

4. Cwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus a’r ‘isafswm awdurdodedig’

Ni chaiff cwmni cyfyngedig cyhoeddus gynnal busnes nac arfer pwerau benthyca nes sicrhau tystysgrif fasnachu gan Dŷ’r Cwmnïau, yn cadarnhau bod ganddo o leia’r isafswm cyfalaf cyfrannau clustnodedig. Dyma’r ‘isafswm awdurdodedig’. Er mwyn bodloni’r gofynion a sicrhau tystysgrif fasnachu, mae’n rhaid i’r cwmni fod naill ai ag o leiaf £50,000 fel cyfalaf cyfrannau clustnodedig mewn arian sterling neu ag o leiaf €65,600 fel cyfalaf cyfrannau clustnodedig mewn arian ewro. Ni all y cwmni fodloni’r gofynion drwy gyfuniad rhwng cyfrannau ewro a chyfrannau sterling na thrwy gyfrannau mewn unrhyw arian treigl arall. Ymhellach, dim ond lle bo o leiaf 25% o werth nominal pob cyfran ynghyd ag unrhyw bremiwm wedi eu talu y gall cyfran a glustnodwyd yn unol â chynllun cyfrannau gweithwyr gael ei chyfrif tuag at fodloni’r isafswm awdurdodedig.

Does dim rhaid i gwmni sy’n ailgofrestru o gwmni preifat i gwmni cyhoeddus wneud cais am dystysgrif fasnachu. Ond er mwyn ailgofrestru, mae’n rhaid i werth nominal y cyfalaf cyfrannau clustnodedig beidio â bod yn llai na’r isafswm awdurdodedig a rhaid i bob un o’r cyfrannau clustnodedig fod wedi ei thalu hyd at o leiaf 25% o’i gwerth nominal a’r cyfan o unrhyw bremiwm (er bod modd anwybyddu rhai cyfrannau). Rhaid i’r cwmni fodloni’r isafswm awdurdodedig, at ddibenion ailgofrestru, naill ai drwy gyfrannau sterling sydd â chyfanswm gwerth nominal o £50,000 fan leiaf neu drwy gyfrannau ewro sydd â chyfanswm gwerth nominal o €65,600 fan leiaf. Ni all ei fodloni drwy gyfuniad rhwng cyfrannau ewro a chyfrannau sterling na thrwy gyfrannau mewn unrhyw arian treigl arall.

Os gall cwmni sy’n gwneud cais am dystysgrif fasnachu neu am ailgofrestru fodloni’r isafswm awdurdodedig naill ai drwy gyfrannau ewro neu drwy gyfrannau sterling, rhaid iddo ddewis yn ei gais pa arian treigl i ddibynnu arno. Rhaid i gwmni sy’n ailgofrestru o breifat i gyhoeddus lenwi Ffurflen 43(3).

I wneud cais am dystysgrif fasnachu, rhaid i’r cwmni anfon Ffurflen 117 i Dŷ’r Cwmnïau.

(gweler y nodyn canlynol)

Nodyn:

Mae angen o hyd ichi ddefnyddio Ffurflen 117 ar gyfer ceisiadau am dystysgrif fasnachu, ond dim ond er mwyn rhoi’r wybodaeth a fynnir gan adran 762 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Does dim angen datganiad statudol na datganiad cydymffurfio ar wahân arnoch chi. Rhaid i un o gyfarwyddwyr neu ysgrifennydd y cwmni lofnodi’r ffurflen. Mae angen i’r cwmni addasu’r ffurflen lle mae’n ceisio bodloni’r isafswm awdurdodedig drwy gyfrannau ewro. Bydd ei haddasu yn y ffordd hon yn gyfystyr â dewis i ddibynnu ar gyfalaf cyfrannau ewro (yn hytrach na chyfalaf cyfrannau sterling) i’r diben hwnnw.

Yn yr un modd, mae angen o hyd ichi ddefnyddio Ffurflen 43(3) ar gyfer ceisiadau am ailgofrestru’n gwmni cyhoeddus, ond mae angen i’r ffurflen gael ei haddasu lle mae’r cwmni’n ceisio dibynnu ar gyfalaf cyfrannau ewro i fodloni gofynion yr isafswm awdurdodedig. Bydd addasu’r ffurflen yn y ffordd hon yn gyfystyr â dewis i ddibynnu ar gyfalaf cyfrannau ewro yn hytrach na chyfalaf cyfrannau sterling.

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynhyrchu fersiynau addasedig o Ffurflenni 117 a 43(3) er mwyn cynnwys yr wybodaeth briodol ar gyfer ceisiadau a gaiff eu gwneud ar neu wedi 6 Ebrill 2008, ond mae defnyddio’r ffurflenni yma yn ddewisol.

5. Beth yw cyfalaf dosbarthedig?

Cyfalaf dosbarthedig yw gwerth y cyfrannau a gafodd eu dosbarthu ymhlith cyfranddeiliaid. Mae hyn yn golygu gwerth nominal y cyfrannau yn hytrach na'r swm gwirioneddol y gellid ei gael amdanyn nhw.

Caiff cwmni gynyddu ei gyfalaf dosbarthedig drwy glustnodi rhagor o gyfrannau, ond dim ond hyd at y lefel uchaf a ganiateir yn unol â'i gyfalaf awdurdodedig (h.y. ni all cyfalaf cyfrannau dosbarthedig y cwmni fod yn uwch na’i gyfalaf cyfrannau awdurdodedig); rhaid iddo glustnodi o dan awdurdod priodol (gweler cwestiwn 7).

  • Caiff cwmni cyhoeddus gynnig cyfrannau i’r cyhoedd yn gyffredinol mewn prosbectws neu drwy gyfrwng manylion rhestru. Am ragor o wybodaeth ynghylch llyfrynnau prosbectws a manylion rhestru, gweler pennod 3.
  • Fel arfer, dim ond ymhlith ei aelodau, ei staff a'u teuluoedd ac ymhlith dyledebwyr y caiff cwmni preifat ddosbarthu cyfrannau. Ond drwy drefniadau preifat, caiff y cwmni ddosbarthu ei gyfrannau ymhlith y sawl a fynno.
6. A gaiff cwmni leihau ei gyfalaf dosbarthedig?

Caiff, o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 gall cwmni leihau ei gyfalaf cyfrannau dosbarthedig yn yr amgylchiadau canlynol:

  • lle bo gorchymyn llys yn cadarnhau lleihau’r cyfalaf yn sgil penderfyniad arbennig gan y cwmni a bod y Cofrestrydd yn cofrestru’r gorchymyn ynghyd â chofnod wedi ei gymeradwyo gan y llys yn cyfleu bod cyfalaf cyfrannau’r cwmni wedi ei leihau;
  • lle bo’r cwmni’n adennill ei gyfrannau yn unol â chontract adennill;
  • lle bo erthyglau’r cwmni yn gadael iddo brynu ei gyfrannau ei hun a lle bo pryniant o’r fath wedi ei awdurdodi drwy benderfyniad arferol neu arbennig (yn ôl yr amgylchiadau);
  • Gall cwmni cyhoeddus sydd â chyfrannau wedi eu rhestru ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig naill ai dileu’r cyfrannau hynny neu (gan ddibynnu ar reolau ynghylch daliadau uchaf) eu dal ‘yn y drysorfa’ i’w hadwerthu neu eu trosglwyddo i gynllun cyfrannau gweithwyr yn nes ymlaen. Ymhob achos arall lle bo’r cwmni’n prynu ei gyfrannau ei hun yn ôl, mae’n rhaid iddo eu dileu a bydd cyfalaf cyfrannau dosbarthedig y cwmni’n gostwng. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn lleihau cyfalaf cyfrannau awdurdodedig y cwmni.

O 1 Hydref 2008 ymlaen, gall cwmni preifat leihau ei gyfalaf dosbarthedig drwy benderfyniad arbennig wedi ei ategu gan ddatganiad hydaledd. Dyma broses newydd ar gyfer lleihau’r cyfalaf o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 a dim ond i gwmnïau preifat y mae’n gymwys. Rhaid i’r cwmni gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau:

  • Copi o’r penderfyniad arbennig a awdurdododd y lleihau cyfalaf
  • Copi o’r datganiad hydaledd wedi ei wneud yn unol ag adrannau 642(1)(a) a 643 o Ddeddf Cwmnïau 2006
  • Memorandwm cyfalaf
  • Datganiad cydymffurfio gan y cyfarwyddwyr

Rhaid i bob un o gyfarwyddwyr y cwmni lofnodi’r datganiad hydaledd. Datganiad yw hwn yn cadarnhau bod pob cyfarwyddwr wedi dod i’r farn:

  • nad oes sail, ar ddyddiad y datganiad, ar gyfer gweld bod y cwmni heb allu talu ei ddyledion; ac
  • os bwriedir cychwyn dirwyn i ben unrhyw bryd yn ystod y 12 mis ar ôl y datganiad, y bydd modd i’r cwmni dalu ei ddyledion o fewn 12 mis i gychwyn y dirwyn i ben, ac mewn unrhyw achos arall, y bydd modd i’r cwmni dalu ei ddyledion o fewn blwyddyn i ddyddiad y datganiad hydaledd.

Rhaid i’r cwmni anfon copi o’r datganiad hydaledd at bob aelod cymwys, neu drefnu i un fod ar gael mewn cyfarfod cyffredinol (yn ôl a gaiff y penderfyniad ei gynnig fel un ysgrifenedig neu mewn cyfarfod cyffredinol).

Mae memorandwm cyfalaf yn ddadansoddiad o fframwaith cyfalaf cyfrannau’r cwmni yn sgil y lleihau.

Mae datganiad cydymffurfio gan y cyfarwyddwyr yn gadarnhad bod y cwmni wedi trefnu i gopi o’r datganiad hydaledd fod ar gael i bob aelod cymwys yn unol â’r gofynion ac na wnaed datganiad hydaledd y cwmni ymhellach yn ôl na 15 diwrnod cyn i aelodau’r cwmni fabwysiadu’r penderfyniad.

Rhaid anfon copi o’r datganiad hydaledd a’r penderfyniad, ynghyd â’r memorandwm cyfalaf a’r datganiad cydymffurfio gan y cyfarwyddwyr, i Dŷ’r Cwmnïau. Dylid anfon pob dogfen i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod i fabwysiadu’r penderfyniad. Lle bynnag y bo modd, dylech chi anfon yr holl ffurflenni gyda’i gilydd. Sut bynnag y bydd hi, ni fydd y lleihau cyfalaf yn dod i rym nes i Dŷ’r Cwmnïau gofrestru copi o’r datganiad hydaledd, y penderfyniad a’r memorandwm cyfalaf.

Nid yw Tŷ’r Cwmnïau wedi pennu ffurflenni ar gyfer y broses hon a bydd rhaid ichi gynhyrchu’ch dogfennau eich hun. Am wybodaeth bellach a manylion cynnwys y dogfennau hyn, defnyddiwch y dolenni cyswllt isod a fydd yn mynd â chi i’r ddeddfwriaeth:

www.uk-legislation.hmso.gov.uk/si/si2008/uksi_20081886_en_1

www.berr.gov.uk/files/file46300.doc

7. A gaiff cwmni gynyddu ei gyfalaf dosbarthedig?

Caiff cwmni gynyddu ei gyfalaf cyfrannau dosbarthedig drwy ddosbarthu cyfrannau ychwanegol. Bydd cyfrannau wedi eu ‘dosbarthu’ pan gaiff rhywun ei gofrestru’n aelod yng nghofrestr aelodau’r cwmni.

'Clustnodi' yw'r broses lle bydd y cwmni’n taro contract â rhywun i glustnodi cyfrannau a bod y person hwnnw’n cael hawl ddiamod i dderbyn cyfrannau. Bydd cyfarwyddwyr yn clustnodi cyfrannau ar ran y cwmni, ond mae angen i naill ai erthyglau’r cwmni neu benderfyniad gan y cwmni wedi ei fabwysiadu mewn cyfarfod cyffredinol eu hawdurdodi i wneud hynny.

8. Pa fath o benderfyniad sydd eisiau i’r cwmni ei fabwysiadu i glustnodi cyfrannau?

Caiff unrhyw gwmni cyhoeddus neu breifat sydd â chyfalaf cyfrannau roi awdurdod drwy benderfyniad arferol. Gydag eithriad a ganiateir ar gyfer cwmnïau preifat (fel y sonnir yn y paragraff canlynol), mae’n rhaid i'r awdurdod fod am gyfnod penodol o hyd at bum mlynedd a rhaid iddo osod cyfyngiad ar faint o gyfrannau y caiff y cyfarwyddwyr eu clustnodi o dano. Rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o benderfyniad yn rhoi, yn amrywio, yn dirymu neu'n adnewyddu awdurdod i glustnodi cyfrannau, i Dŷ'r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod i'w fabwysiadu.

Caiff cwmni preifat sydd â chyfalaf cyfrannau fabwysiadu penderfyniad drwy bleidlais yn awdurdodi’r cyfarwyddwyr i glustnodi cyfrannau am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol sy’n hirach na phum mlynedd, er bod rhaid o hyd i benderfyniad o’r fath osod cyfyngiad ar faint o gyfrannau y caiff y cyfarwyddwyr eu clustnodi. Rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o unrhyw benderfyniad drwy bleidlais i Dŷ'r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod i'w fabwysiadu. Ni chaiff cwmni cyhoeddus fabwysiadu penderfyniad drwy bleidlais.

*Am ragor o wybodaeth ynghylch penderfyniadau, gweler ein canllaw 'Penderfyniadau'. (Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006)

* Sylwer:  gall canllaw Penderfyniadau Deddf Cwmnïau 1985 sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol fod yn berthnasol i’ch cwmni o hyd.

9. Oes rhaid i gwmni cyhoeddus roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau wrth gynnig cyfrannau i’r cyhoedd?

Does dim rhaid i gwmni gofrestru llyfrynnau prosbectws na manylion rhestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Ond y rheol gyffredinol yw na chaiff cwmni cyhoeddus gynnig gwarannoedd i’r cyhoedd yn y DU, na cheisio caniatâd i fasnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio yn y DU, oni bai bod prosbectws a gymeradwywyd gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol wedi cael ei gyhoeddi ganddo.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y gofynion hyn, cysylltwch â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (www.fsa.gov.uk neu ffonio 020 7066 1000).

10. Oes rhaid i'r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau wrth glustnodi cyfrannau?

O fewn mis i glustnodi cyfrannau, mae’n rhaid i gwmni gyflwyno manylion clustnodi, ar Ffurflen 88(2), i Dŷ'r Cwmnïau. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.

Lle clustnoda’r cwmni gyfrannau dros ysbaid o amser, yn enwedig mewn achos yn ymwneud â hawliau (gweler cwestiwn 15 ), nid yw'n dderbyniol oedi'r cyflwyno nes clustnodi'r holl gyfrannau os golyga hynny y bydd y ffurflen yn hwyr ar gyfer unrhyw un o’r clustnodiadau. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r cwmni lenwi ffurflenni olynol a chyflwyno pob un i Dŷ’r Cwmnïau o fewn mis i'r clustnodi cyntaf y sonnir amdano ar y ffurflen.

Nodyn: yn achos mater o hawliau, y dyddiad(au) clustnodi fel arfer fydd y dyddiad(au) y cafodd y cyfrannau eu clustnodi ar ôl i dderbyniadau/gwrthodiadau ddod i law’r cwmni, NID dyddiad dosbarthu llythyrau clustnodi dros dro.

Os yw pobl i dalu am y cyfrannau drwy arian parod, rhaid ichi nodi manylion y swm gwirioneddol a delir, neu sy'n ddyledus i'w dalu, ar y ffurflen (gan gynnwys unrhyw swm a gafodd ei dalu neu sy’n ddyledus ac yn daladwy drwy bremiwm). Peidiwch â chynnwys unrhyw swm sydd heb fod yn ddyledus eto i’w dalu yng nghyswllt cyfran randaledig.

Gwerth nominal a phremiwm cyfrannau
Rhennir cyfalaf cyfrannau awdurdodedig y cwmni'n gyfrannau o werth nominal. Gall gwerth gwirioneddol y cyfrannau newid dros gyfnod o amser, gan adlewyrchu gwerth y cwmni ei hun, ond bydd eu gwerth nominal yn aros yr un fath. Wrth i'r cwmni werthu cyfrannau am fwy na'u gwerth nominal, fe delir y swm gwirioneddol mewn dwy ran - y gwerth nominal a phremiwm cyfrannau. Rhaid cofnodi'r premiwm cyfrannau ar wahân yng nghofnodion ariannol y cwmni cwmni mewn 'cyfrif premiwm cyfrannau'.

Os bydd y cwmni’n clustnodi cyfrannau am gydnabyddiaeth sydd heb fod mewn arian parod (sef, yn gyfnewid am daliad arall ar wahân i arian) (gweler cwestiynau 12 a 14), y swm sydd i’w gofnodi ar y ffurflen wrth ‘Swm (os o gwbl) i’w dalu neu sy’n ddyledus ar bob un’ fydd ‘dim’ neu ‘0.00’.

11. Oes rhaid i'r cyfrannau gael eu talu'n llawn adeg eu clustnodi?

Mewn cwmni preifat, does dim rhaid i gyfrannau gael eu talu’n llawn adeg clustnodi: gellir gohirio'u talu. Rhaid i gyfrannau a gaiff eu clustnodi mewn cwmni cyhoeddus fod wedi eu talu hyd at o leiaf chwarter eu gwerth nominal a’r cyfan o unrhyw bremiwm. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys i gyfrannau a gaiff eu clustnodi o dan gynllun cyfrannau i weithwyr, sef cynllun i annog perchnogaeth cyfrannau ymhlith gweithwyr, cyn-weithwyr a’u teuluoedd.

Fel rheol gyffredinol, caiff cwmni glustnodi ar gyfer ei aelodau gyfrannau bonws fel rhai llawndaledig. Hefyd, fe gaiff cwmni sydd â chronfeydd wrth law at y diben hwn fodloni ei hun unrhyw symiau sydd heb eu talu mewn cysylltiad â'i gyfrannau. Gweler cwestiwn 14.

Rhaid i gwmni beidio â chlustnodi cyfrannau am swm sy’n llai na gwerth nominal y cyfrannau, sef yn ôl disgownt.

12. Oes rhaid talu am gyfrannau drwy arian parod?

Gellir talu am gyfrannau mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys arian parod, nwyddau, gwasanaethau, eiddo, ewyllys da, gwybodaeth arbenigol neu hyd yn oed cyfrannau mewn cwmni arall. Y dull olaf hwn a gaiff ei ddefnyddio’n aml pan fydd un cwmni'n meddiannu'r llall. Mae hefyd yn cynnwys taliadau arian parod i rywun arall ar wahân i’r cwmni sy’n clustnodi’r cyfrannau.

Mae mwy o gyfyngu ar gwmnïau cyhoeddus o ran beth y cânt ei dderbyn fel taliad am gyfrannau. Rhaid i daliadau sydd heb fod ar ffurf arian parod gael eu prisio’n annibynnol cyn clustnodi cyfrannau (ac eithrio yn achos dyroddiadau bonws, uno cwmnïau neu drefniadau ar gyfer dileu cyfrannau mewn cwmni arall neu eu trosglwyddo i’r cwmni). Rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o'r adroddiad prisio i Dŷ'r Cwmnïau gyda Ffurflen 88(2).

At ei gilydd, gellir clustnodi cyfrannau am daliad sydd:

  • ar ffurf arian parod yn llwyr;
  • yn rhannol ar ffurf arian parod ac yn rhannol heb fod ar ffurf arian parod; neu
  • yn gyfan gwbl ar ffurf arall ar wahân i arian parod.

Talu drwy arian parod
Bydd cyfran wedi ei thalu drwy arian parod os caiff y swm dyledus ei dderbyn gan y cwmni (drwy arian parod neu drwy siec), neu lle bo’r cwmni wedi ei ryddhau rhag rhwymedigaeth a gafodd ei chlirio neu os rhoddwyd ymgymeriad i dalu arian parod i’r cwmni rywbryd yn y dyfodol. Mae ‘arian parod’ yn cynnwys arian treigl gwledydd tramor.

13. Oes rhaid imi anfon gwybodaeth bellach os bydd y clustnodi'n cynnwys taliadau sydd heb fod ar ffurf arian parod?

Oes. Rhaid i Ffurflen 88(2) nodi i ba raddau y cafodd y cyfrannau eu hystyried gan y cwmni yn rhai sydd wedi eu talu. Rhaid nodi hyn fel canran o’r cyfanswm sy’n daladwy gyda golwg ar y gwerth nominal ac unrhyw bremiwm.

Pennu i ba raddau y mae cyfrannau wedi eu talu
Os clustnodir yn rhannol am arian parod ac yn rhannol am daliad sydd heb fod ar ffurf arian parod, rhaid i driniaeth y cyfrannau fel rhai taledig gynnwys yr elfennau arian-parod a di-arian-parod fel ei gilydd. Er enghraifft, bydd cyfran £1 a glustnodwyd am 50c ar ffurf arian parod (naill ai wedi ei dalu neu’n ddyledus ac yn daladwy) a 50c ar ffurf gwasanaethau yn un y talwyd 100% amdani o hyd. Os cafodd y cyfrannau eu clustnodi ar bremiwm, bydd y ganran yn cynnwys gwerth nominal pob cyfran a’r premiwm

Rhaid i Ffurflen 88(2) gynnwys hefyd ddisgrifiad byr o'r taliad di-arian-parod y clustnodwyd y cyfrannau amdano (er enghraifft, 'yn gyfnewid am drosglwyddo 100 o gyfrannau cyffredin o £1 yr un yn XYZ Cyfyngedig' neu ‘cyfalafu cronfeydd wrth gefn’). Rhaid cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau hefyd y contract ysgrifenedig y cyfansoddwyd y teitl i'r cyfrannau o dano.

Os nad oes contract ysgrifenedig, rhaid cyflwyno Ffurflen 88(3) i Dŷ'r Cwmnïau gyda Ffurflen 88(2) o fewn mis i'r clustnodi. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau. Nid yw Ffurflen 88(3) yn dderbyniol lle mae contract ysgrifenedig.

Toll stamp
Mae meddiannu cyfrannau y telir amdanyn nhw ar ffurf arall ar wahân i arian parod yn golygu trosglwyddo eiddo, a all fod yn gyfystyr â thrafodyn trethadwy o dan y Deddfau Stampio.

Sylwer: Ar gyfer contractau yr ymrwymwyd iddynt ar ôl 30 Tachwedd 2003, does dim angen trefnu i’r contract ysgrifenedig na Ffurflen 88(3) gael ei stampio gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

14. Beth yw cyfrannau bonws?

Os yw hynny wedi ei gymeradwyo o dan ei erthyglau, caiff cwmni benderfynu defnyddio unrhyw elw sydd heb ei ddosbarthu, neu unrhyw swm a gredydwyd i ‘gyfrif premiwm cyfrannau’ neu ‘gronfa adennill cyfalaf’ y cwmni i gyllido dyroddiad o gyfrannau ‘bonws’ llawndaledig neu randaledig ymhlith yr aelodau yn gymesur â'u daliadau presennol. Ni fydd y cyfranddeiliaid y rhoir y cyfrannau iddyn nhw yn talu dim byd. Gan y gall y dosbarthu hwn leihau'r arian sydd ar gael i dalu buddrannau, nid yw'r term 'bonws' bob amser yn briodol. Y term cywir yw 'cyfalafu cronfeydd wrth gefn' neu ‘cyfalafu elw’, ond gellir defnyddio’r termau 'sgrip' neu 'ddyroddiad sgrip' hefyd i ddisgrifio cyfrannau o'r fath.

Caiff cwmni hefyd ddefnyddio elw a gyfalafwyd i gredydu symiau pellach i gyfrannau y talwyd yn rhannol amdanyn nhw er mwyn eu gwneud yn llawndaledig.

Rhaid i’r cwmni roi gwybod am glustnodi cyfrannau bonws i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen 88(2). Y swm a dalwyd neu sy’n ddyledus yng nghyswllt pob cyfran fydd ‘dim’ neu ‘0.00’ a chaiff y cyfrannau eu dangos fel rhai wedi eu talu ‘ar wahân i drwy arian parod’.

At hynny, os bydd cwmni cyhoeddus rhestredig yn dosbarthu cyfrannau bonws mewn cysylltiad â chyfrannau a ddelir yn y drysorfa, mae’n rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen 169(1B). Nid yw toll stamp yn daladwy. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.

15. Beth yw hawliau rhagbrynu?

Dyma hawliau aelodau presennol i gael blaenoriaeth wrth i gwmni gynnig cyfrannau newydd. Rhoddant i'r aelodau gyfle i dderbyn neu wrthod cynnig am gyfrannau cyn i'r cwmni gynnig cyfrannau newydd rywle arall.

Nid ydynt yn gymwys wrth glustnodi cyfrannau y gall cwmnïau eu dosbarthu’n  llawndaledig neu’n rhandaledig am daliad sydd heb fod ar ffurf arian parod, neu gyfrannau o dan gynllun cyfrannau i weithwyr. Mae cynllun cyfrannau i weithwyr yn gynllun i annog gweithwyr, cyn-weithwyr a'u teuluoedd i berchnogi cyfrannau.

Gall memorandwm neu erthyglau cwmni preifat hepgor hawliau rhagbrynu ond ni all memorandwm neu erthyglau cwmni cyhoeddus wneud felly.

Mae Deddf Cwmnïau 1985 yn caniatáu i gwmni fabwysiadu penderfyniad arbennig i beidio â gweithredu hawliau adbrynu. 'Diffyg gweithredu hawliau adbrynu' y gelwir hyn. Bydd y penderfyniad yn gymwys i un clustnodiad penodol; mae angen penderfyniad pellach os yw amodau tebyg i fod yn gymwys i glustnodiadau’r dyfodol. Rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o'r penderfyniad arbennig i Dŷ'r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod i'w fabwysiadu. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.

16. Beth sy'n digwydd os bydd rhywun heb allu talu neu’n gwrthod talu am gyfrannau?

Mae aelod yn agored i dalu gwerth nominal pob un o'i g/chyfrannau ac mae'r swm sy'n ddyledus i'r cwmni yn ddyled y gellir ei 'mynnu'.

Lle bo aelod yn gwrthod talu cyfran gyfan neu unrhyw swm a fynnir yng nghyswllt un (h.y. lle bu ‘erchi’), caiff y cwmni ddwyn achos fforffedu os caniateir hynny o dan ei erthyglau. Gwelir trefn fforffedu nodweddiadol ym mharagraffau 18-22 o Dabl A oReoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) 1985. Os nad ydych wedi mabwysiadu darpariaethau eraill yn ei lle, mae’n rhaid ichi ddilyn y darpariaethau hyn. Rhaid ichi ddilyn y darpariaethau’n fanwl, neu fel arall gall y llys ddatgan bod yr achos fforffedu'n ddirym.

Caiff y cyfarwyddwyr werthu, ailglustnodi neu gael gwared mewn ffordd arall â chyfran a fforffedwyd, fel y gwêl y cyfarwyddwyr yn dda. Does dim angen rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am y fforffedu neu'r ailglustnodi ac eithrio yn rhestr yr aelodau ar ffurflen flynyddol nesa'r cwmni.

Os na all aelod dalu swm a fynnir yng nghyswllt cyfrannau, a lle bo'r aelod a'r cwmni'n gytûn, gellir ildio'r cyfrannau i'r cwmni. Mae hyn yn cael yr un effaith â fforffedu ond fe osgoir y drefn ffurfiol. Dim ond lle gallai fod wedi arfer ei bŵer fforffedu y caiff y cwmni dderbyn ildiad o'r fath.

Caiff cwmni preifat ddal cyfrannau a fforffedwyd am gyfnod amhenodol, nes eu hailglustnodi. Rhaid i gwmni cyhoeddus ddileu'r cyfrannau a fforffedwyd os na cheir gwared â nhw mewn ffordd arall o fewn tair blynedd. Pe bai dileu o'r fath yn gostwng cyfalaf clustnodedig cwmni cyhoeddus islaw'r isafswm awdurdodedig, byddai'n rhaid iddo ailgofrestru'n gwmni preifat o fewn yr un cyfnod.

Ni chaiff cwmni ddefnyddio cyfrannau a fforffedwyd at ddibenion pleidleisio.

17. Beth yw cyfalaf taledig, cyfalaf heb ei erchi, cyfalaf wrth gefn a phremiwm cyfran?

Defnyddir y termau hyn i ddisgrifio cyfansoddiad cyfalaf cyfrannau'r cwmni:

  • cyfalaf taledig yw'r cyfalaf a gafodd ei ddosbarthu wedi ei dalu'n llawn neu'n rhannol gan y cyfranddeiliaid;
  • cyfalaf heb ei erchi yw'r rhan honno o'r cyfalaf dosbarthedig na fynnodd y cwmni daliad amdani;
  • cyfalaf wrth gefn yw'r rhan honno o'r cyfalaf cyfrannau y penderfynodd y cwmni na fydd yn ei erchi ond lle bo'r cwmni'n cael ei ddirwyn i ben ac at ddibenion y dirwyn i ben;
  • premiwm cyfranyw'r warged a delir uwchlaw gwerth nominal y gyfran. Rhaid i'r warged hon gael ei chofnodi ar wahân yng nghofnodion ariannol y cwmni mewn 'cyfrif premiwm cyfrannau' a'i defnyddio at y dibenion sydd wedi eu pennu yn Adran 130 o Ddeddf Cwmnïau 1985 (er enghraifft, wrth dalu am gyfrannau heb eu dosbarthu sydd i'w clustnodi ar gyfer aelodau fel cyfrannau bonws llawndaledig).

I ddarlunio hyn, os bydd cwmni'n dosbarthu 1,000 o gyfrannau â gwerth nominal o £1 yr un, a'r rheiny wedi eu talu hyd at 20% o'u gwerth nominal gyda chyfalaf wrth gefn yn ôl 10% a phremiwm cyfran o 50c, y cyfalaf yw:

cyfalaf taledig   £200 (1,000 x £0.20)
cyfalaf wrth gefn = £100 (1,000 x £0.10)
cyfalaf heb ei erchi = £700 (1,000 x £0.70)
premiwm cyfran = £500 (1,000 x £0.50)

Yn ôl i’r Brig 
Pennod 2
Cyfrannau


1. Oes yna wahanol fathau o gyfrannau?

Caiff cwmni fod â chymaint o wahanol fathau o gyfrannau ag y myn, a phob math o dan wahanol delerau. At ei gilydd, fe rennir cyfrannau i'r categorïau canlynol:

  • Cyffredin: Fel mae'r enw'n awgrymu, dyma gyfrannau arferol y cwmni heb unrhyw hawliau na chyfyngiadau arbennig. Caiff y cwmni eu rhannu'n ddosbarthiadau o werth gwahanol.
  • Blaengyfrannau: Fel arfer, bydd hawl ynghlwm wrth gyfrannau felly, a honno'n darparu i unrhyw fuddrannau blynyddol sydd wrth law i'w dosbarthu gael eu talu ar y blaen yng nghyswllt y cyfrannau hyn o'u cymharu â dosbarthiadau eraill.
  • Blaengyfrannau cronnol: Bydd hawl ynghlwm wrth gyfrannau o'r math yma, a honno'n golygu, os na ellir talu'r fuddran un flwyddyn, y caiff ei chario ymlaen i flynyddoedd dilynol.
  • Adenilladwy: Mae'r rhain yn gyfrannau a ddosberthir o dan gytundeb y bydd y cwmni'n eu hadbrynu yn ôl ewyllys y cwmni neu'r cyfranddeiliad wedi ysbaid arbennig, neu ar ddyddiad penodol. Ni chaiff cwmni ddosbarthu cyfrannau adenilladwy yn unig.
2. A gaiff cyfrannau fod mewn unrhyw arian treigl?

Caiff gwahanol fathau o gyfran fod mewn gwahanol arian treigl. Ond rhaid i gwmni cyfyngedig cyhoeddus sy’n gwneud cais i’r Cofrestrydd am dystysgrif fasnachu fod naill ai ag o leiaf £50,000 o'i gyfalaf clustnodedig ar ffurf arian sterling neu ag o leiaf €65,600 o’i gyfalaf cyfrannau clustnodedig ar ffurf arian ewro. Mae’r un gofynion yn gymwys i gwmni preifat sy’n ceisio ailgofrestriad fel cwmni cyhoeddus.

3. A gaiff cwmni newid arian treigl ei gyfrannau?

Caiff cwmni brynu ei gyfrannau ei hun (gweler cwestiynau 7 ac 8) a chlustnodi cyfrannau mewn arian treigl arall. Fel arall, fe all geisio gorchymyn gan lys i leihau ei gyfalaf dosbarthedig i ddim byd, dileu ei gyfalaf awdurdodedig, a chreu cyfalaf a chlustnodi cyfrannau yr un pryd ar sail gymesur yn yr arian treigl newydd. Mae cwmnïau cyhoeddus yn ddarostyngedig, fodd bynnag, i’r rheidrwydd “isafswm awdurdodedig”. Os byddai lleihau’r cyfalaf yn golygu bod gwerth nominal cyfalaf clustnodedig cwmni cyhoeddus yn disgyn islaw’r isafswm awdurdodedig, bydd angen fel arfer iddo ailgofrestru’n gwmni preifat. At y diben hwn, fodd bynnag, gall cwmni cyhoeddus fodloni rheidrwydd yr isafswm awdurdodedig drwy gyfrannau mewn amrywiol fathau o arian treigl. Mae’r ffordd y pennir a yw’r isafswm awdurdodedig yn cael ei fodloni wedi ei nodi yn Rheoliadau (Isafswm Awdurdodedig) Cwmnïau 2008.

4. A gaiff cwmni newid ei gyfrannau?

Os awdurdodir hynny gan ei erthyglau cymdeithasiad, caiff cwmni fabwysiadu penderfyniad arferol:

  • i gyfuno ac ailrannu ei gyfalaf cyfrannau'n gyfrannau o symiau mwy na'i gyfrannau presennol – er enghraifft, gellir cyfuno 200 o gyfrannau o £1 yr un a'u rhannu eto'n 100 cyfran o £2 yr un;
  • i isrannu ei gyfrannau, neu unrhyw rai ohonyn nhw, yn gyfrannau o symiau llai – er enghraifft, gellir rhannu cyfran £1 yn 10 cyfran o 10c yr un;
  • i drosi pob un neu unrhyw rai o'i gyfrannau taledig yn stoc neu aildroi stoc yn gyfrannau. Ni chaiff cwmni ddosbarthu stoc yn y lle cyntaf. Ni chaiff ond trosi cyfrannau dosbarthedig yn stoc. (Mae trosi cyfrannau'n stoc yn golygu eu trin fel un gronfa gyfunol sy'n cyfateb i werth nominal y cyfrannau unigol. Er enghraifft, byddai 100 cyfran o £1 yr un yn trosi'n stoc o £100.)

Ymhob un o'r achosion uchod, mae cyfanswm y cyfalaf cyfrannau awdurdodedig a dosbarthedig yn aros yr un fath. Rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am y newid, drwy ddefnyddio Ffurflen 122, cyn pen mis. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.

* Am ragor o wybodaeth ynghylch penderfyniadau, gweler ein canllaw 'Penderfyniadau'. (Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006)

*.Sylwer: gall canllaw Penderfyniadau Deddf Cwmnïau 1985 sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol fod yn berthnasol i’ch cwmni o hyd.

5. Oes modd i’r cwmni ddiwygio hawliau dosbarth?

Caiff cwmni ddiwygio'r hawliau sydd ynghlwm wrth unrhyw ddosbarth o gyfrannau. Mae sut y gwneir hyn yn dibynnu ar darddiad yr hawliau – memorandwm, erthyglau neu rywle arall. Ni chaiff cwmni droi cyfrannau an-adenilladwy yn rhai adenilladwy.

Caiff cyfranddeiliaid anghytûn sy'n dal o leiaf 15% o gyfrannau dosbarthedig y math hwnnw wneud cais i'r llys am ddirymu'r diwygio. Rhaid iddyn nhw wneud hyn o fewn 21 diwrnod i'r caniatâd gael ei roi neu i benderfyniad gael ei fabwysiadu i amrywio'r hawliau. Os bydd y llys yn caniatáu’r gorchymyn, rhaid i'r cwmni gyflwyno copi o orchymyn y llys i Dŷ'r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod iddo gael ei wneud.

Hawliau arbennig ynghlwm wrth gyfrannau a hawliau dosbarth newydd eu creu
Rhaid cyflwyno'r ffurflenni canlynol i Dŷ'r Cwmnïau (dim ffi’n daladwy) cyn pen mis o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir:

  • Wrth i gwmni glustnodi cyfrannau sy'n cynnwys hawliau na sonnir amdanyn nhw yn y memorandwm neu'r erthyglau nac mewn penderfyniad neu gytundeb, mae'n rhaid anfon Ffurflen 128(1) i Dŷ'r Cwmnïau.
  • Wrth i gwmni amrywio'r hawliau sydd ynghlwm wrth gyfrannau, ac eithrio drwy ddiwygio'r memorandwm neu'r erthyglau neu drwy benderfyniad neu gytundeb, mae'n rhaid anfon Ffurflen 128(3) i Dŷ'r Cwmnïau.
  • Wrth i gwmni neilltuo enw neu enw newydd i unrhyw ddosbarth o'i gyfrannau, ac eithrio drwy ddiwygio'r memorandwm neu'r erthyglau neu drwy benderfyniad neu gytundeb, mae'n rhaid anfon Ffurflen 128(4) i Dŷ'r Cwmnïau.

6. A gaiff cwmni ddefnyddio cyfrannau adenilladwy i leihau cyfalaf dosbarthedig?

Caiff. Caiff cwmni sydd wedi dosbarthu cyfrannau adenilladwy leihau ei gyfalaf cyfrannau dosbarthedig drwy eu hadennill yn unol â'r cytundeb y cawsant eu dosbarthu o dano. Ond os na fydd y perchennog yn dychwelyd y cyfrannau i'r cwmni yn unol â'r cytundeb – er enghraifft, os cânt eu dychwelyd ynghynt na'r dyddiad sydd wedi ei nodi yn y cytundeb – yna bydd rhaid i’r cwmni ystyried y trafodyn yn un lle prynir cyfrannau'r cwmni ei hun: gweler cwestiwn 7.

Rhaid rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am adennill cyfrannau, drwy ddefnyddio Ffurflen 122, cyn pen mis. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.

7. A gaiff cwmni brynu ei gyfrannau ei hun?

Os caniateir hynny gan ei erthyglau, caiff cwmni fabwysiadu penderfyniad arbennig i’w awdurdodi ei hun i brynu rhai o'i gyfrannau. Ond ni chaiff wneud felly os byddai hynny'n gadael cyfrannau adenilladwy yn unig yn ddosbarthedig.

Bydd amodau'r penderfyniad yn dibynnu ar y cwestiwn ai 'pryniant marchnad' (sef, prynu drwy farchnad stoc gydnabyddedig) neu 'bryniant tu allan i'r farchnad' (sef, prynu mewn rhyw ffordd arall ar wahân i drwy gyfnewidfa stoc gydnabyddedig, neu brynu drwy gyfnewidfa stoc gydnabyddedig heb fod yn amodol ar drefniadau marchnata drwy’r gyfnewidfa honno) ydyw.

Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir prynu tu allan i'r farchnad:

  • yn unol â thelerau contract wedi ei awdurdodi drwy benderfyniad arbennig cyn y pryniant; neu
  • yn unol â thelerau unrhyw gontract prynu digwyddiadol a gymeradwyodd y cwmni ymlaen llaw drwy benderfyniad arbennig.

At ei gilydd, pan fo cwmni’n prynu ei gyfrannau ei hun, caiff y cyfrannau eu dileu wrth eu dychwelyd i’r cwmni a rhaid rhoi gwybod am y pryniant i Dy’r Cwmnïau ar Ffurflen 169 o fewn 28 diwrnod.

Fodd bynnag, gall cwmni cyhoeddus rhestredig ddal y cyfrannau ‘yn y drysorfa’ i’w hadwerthu neu eu trosglwyddo i gynllun cyfrannau gweithwyr yn nes ymlaen – os felly, rhaid rhoi gwybod am y pryniant i Dy’r Cwmnïau ar Ffurflen 169(1B). Am ragor o wybodaeth ynghylch dal cyfrannau yn y drysorfa, gweler cwestiwn 8.

Prynu cyfrannau'r cwmni ei hun ar sail cyfalaf (cwmnïau preifat yn unig)
Lle bo cwmni preifat yn prynu ei gyfrannau ei hun, a'r pryniant yn cael ei gyllido gan ei gyfalaf, rhaid hefyd i'r cyfarwyddwyr fod wedi gwneud datganiad statudol ar Ffurflen 173 ynglŷn â hydaledd y cwmni yn union ar ôl y prynu ac ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Rhaid i adroddiad gan archwilydd ariannol y cwmni, yn cadarnhau barn y cyfarwyddwyr, gael ei atodi wrth y ffurflen a'i gyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau erbyn y dyddiad y cyhoeddir gyntaf rybudd o'r talu arfaethedig ar sail y cyfalaf. (Ymdrinnir â'r gofynion ar gyfer cyhoeddi'r rhybudd yn adran 175 o Ddeddf Cwmnïau 1985.)

Lle bo cwmni'n prynu ei gyfrannau ei hun, mae'r trafodyn yn un trethadwy o dan Ddeddf Cyllid 1986. Bydd Toll Stamp yn daladwy ar swm cyfanred y pris adbrynu yn ol ½% wedi ei dalgrynnu i’r lluosrif agosaf o £5.

Toll  Stamp
Cyn anfon Ffurflen 169 neu Ffurflen 169(1B)  i Dŷ'r Cwmnïau, lle cyflawnwyd yr offeryn ar neu wedi 13 Mawrth 2008 a bod y gydnabyddiaeth ar gyfer y cyfrannau yn £1000 neu fwy, mae’n rhaid iddyn nhw gael eu stampio gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC).

Os yw’r gydnabyddiaeth yn £1000 neu lai, does dim angen anfon y ffurflen i gael ei stampio ond mae’n rhaid ichi lofnodi’r ardystio ar y ffurflen.

Sylwer: Gallwch chi ddefnyddio ffurflen unigol 169 neu 169(1B) i roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am adbrynu cyfrannau ar ddyddiadau gwahanol ac o dan gytundebau gwahanol.

Os  bydd yr ystyriaeth am unrhyw un o’r gweithrediadau unigol a ddangosir yn £1000 neu lai, does dim rhaid  stampio’r ffurflen. Sut bynnag, os bydd yr ystyriaeth am unrhyw un o’r gweithrediadau yn fwy na £1000, rhaid anfon y ffurflen i HMRC i gael ei stampio cyn ei hanfon i Dŷ’r Cwmnïau.

Does dim ffioedd yn daladwy i Dŷ’r Cwmnïau yng nghyswllt Ffurflenni 169, 169(1B) na 173.

8. Oes angen i’r cwmni lenwi dogfennau trosglwyddo i adennill a phrynu ei gyfrannau ei hun?

Does dim angen dogfen drosglwyddo pan fo cwmni’n adennill ei gyfrannau ei hun, neu’n prynu ei gyfrannau ei hun ac yn eu dileu. Nid yw’r naill na’r llall o’r trafodion hyn yn gymwys fel trosglwyddiad cyfrannau, a rhaid lleihau cyfalaf cyfrannau dosbarthedig y cwmni wrth iddyn nhw gael eu dychwelyd i’r cwmni. (Nid effeithir ar gyfalaf cyfrannau awdurdodedig y cwmni.)

Mae dogfen drosglwyddo’n ddiangen hefyd pan fo cwmni cyhoeddus rhestredig yn prynu ei gyfrannau ei hun ac yn eu dal yn y drysorfa i gael gwared arnyn nhw yn nes ymlaen. Er nad yw’r math hwn o bryniant yn lleihau cyfalaf cyfrannau dosbarthedig y cwmni – fe ddaw’r cwmni yn gyfranddeiliad a chaiff ei gofnodi fel y cyfryw yn y rhestr aelodau – mae’n rhaid llenwi Ffurflen 169(1B) (yn stampiedig lle bo hynny’n briodol) a’i chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 28 diwrnod i’r prynu. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.

Lle bo cwmni cyhoeddus rhestredig yn prynu rhai cyfrannau i’w dal yn y drysorfa a rhai i’w dileu, yna mae’n rhaid llenwi Ffurflen 169;ar gyfer y cyfrannau sydd i’w dileu a Ffurflen 169(1B) ar gyfer y cyfrannau sydd i’w dal yn y drysorfa. Does dim ffi’n daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.

Os bydd y cwmni’n penderfynu wedyn ddileu cyfrannau trysorfa, neu werthu cyfrannau trysorfa, neu drosglwyddo cyfrannau trysorfa i gynllun cyfrannau gweithwyr, rhaid rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 28 diwrnod ar Ffurflen 169A(2).

Nid clustnodiad cyfrannau newydd yw gwerthu cyfrannau o’r drysorfa. Peidiwch ag anfon Ffurflen 88(2) i Dŷ’r Cwmnïau.

9. Ga i brynu cyfrannau gan rywun arall?

Fel rheol, caiff cyfrannau mewn cwmni cyhoeddus eu trosglwyddo drwy frocer sy'n delio yn y farchnad sy'n briodol i'r cyfrannau hynny, sef Cyfnewidfa Stoc Llundain neu'r Farchnad Fuddsoddi Amgen. Ond gellir trosglwyddo cyfrannau'n uniongyrchol o werthwr i brynwr, gan hysbysu'r cwmni'n gyfatebol.

Yn arferol, caiff cyfrannau mewn cwmni preifat eu trosglwyddo drwy gytundeb preifat rhwng y gwerthwr a'r prynwr. Yn y ddau achos, rhaid llenwi dogfen drosglwyddo. Bydd erthyglau cymdeithasiad cwmnïau preifat yn aml yn gosod cyfyngiadau y mae’n rhaid eu parchu ar drosglwyddo cyfrannau.

Mae trosglwyddo cyfrannau fel rheol yn drafodyn trethadwy o dan y Ddeddf Stampiau. Bydd Toll Stamp yn daladwy i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) ar y swm cyfanred yn ôl ½% wedi ei dalgrynnu i’r lluosrif agosaf o £5.

10. Sut caiff cyfrannau eu trosglwyddo i berchnogion newydd?

Drwy frocer yn unol â disgrifiad cwestiwn 9 y delir fel arfer â throsglwyddo cyfrannau mewn cwmni cyfyngedig cyhoeddus.

I drosglwyddo cyfrannau mewn cwmni preifat neu anghyfyngedig, rhaid i'r gwerthwr lenwi a llofnodi'r darn priodol o 'ffurflen trosglwyddo stoc' – sydd ar gael gan ddogfenwyr y gyfraith. – a'i chyflwyno, gyda thystysgrif y cyfrannau, i'r perchennog newydd.

Wedyn, bydd rhaid i'r perchennog newydd lenwi ei ddarn ef/ei darn hi o'r ffurflen trosglwyddo stoc, talu’r doll stamp briodol i Gyllid a Thollau EM a chyflwyno'r ffurflen a gwblhawyd, ynghyd â thystysgrif y cyfrannau, i'r cwmni. Yna, bydd ysgrifennydd y cwmni'n trefnu i'r cyfarwyddwyr awdurdodi'r newid i gofrestr yr aelodau ac yn rhoi tystysgrif gyfrannau yn yr enw newydd.

Peidiwch ag anfon ffurflenni trosglwyddo stoc i Dŷ'r Cwmnïau. Dylid cadw'r rheiny gyda chofnodion y cwmni ei hun.

11. Beth yw trawsgludo cyfrannau?

Mewn rhai achosion, gellir ‘trawsgludo’ perchnogaeth cyfrannau o dan drefn y gyfraith. Y prif enghreifftiau o hyn yw lle bo cyfranddeiliad cofrestredig yn marw neu'n methdalu.

Pan fydd rhywun yn marw, caiff cyfrannau a ddelir yn enw'r ymadawedig yn unig eu hymddiried yn ei g/chynrychiolydd personol neu ei (h)ysgutor. Dylai'r person hwnnw roi gwybod i'r cwmni a darparu’r dystiolaeth angenrheidiol er mwyn i'r ffaith gael ei chofrestru ac i'r cynrychiolydd personol dderbyn pob hysbysiad a buddran yn ymwneud â'r cyfrannau. Yn aml, bydd erthyglau cymdeithasiad cwmnïau’n darparu na chaiff cynrychiolydd personol ddefnyddio’r pleidleisiau sydd ynghlwm wrth gyfrannau’r ymadawedig nes iddo/iddi gael ei g/chofrestru fel deiliad y cyfrannau.

Wrth ddirwyn ystad yr ymadawedig i ben, rhaid i'r cynrychiolydd personol roi gwybod i'r cwmni am fuddiolydd (neu fuddiolwyr) y cyfrannau fel bod modd gwneud y diwygio angenrheidiol i'r gofrestr aelodau, gan roi tystysgrifau newydd.

Os delir cyfrannau ar y cyd, ystyrir mai'r goroesydd (goroeswyr) yw'r unig un/rai sydd â theitl i'r cyfrannau hynny. Dylid rhoi gwybod yn syth i'r cwmni, gan ddarparu unrhyw dystiolaeth angenrheidiol o'r farwolaeth er mwyn diwygio'r gofrestr aelodau a rhoi tystysgrif gyfrannau newydd.

Mae safle cyfranddeiliad a fethdalodd yn debyg. Nes cofrestru aelod newydd, breinir ymddiriedolydd y methdaliad ag unrhyw hawliau i fuddrannau. Caiff y methdalydd aros yn aelod a bwrw pleidlais, er mai dim ond yn unol â chyfarwyddyd yr ymddiriedolydd y bydd hynny. Deil yr un peth yn wir lle bo enw'r cyfranddeiliad a fethdalodd yn aros ar y gofrestr, ond at ei gilydd bydd gan yr ymddiriedolydd hawl o dan erthyglau cymdeithasiad y cwmni i wneud cais am gael ei g/chofrestru'n aelod mewn cysylltiad â chyfrannau'r methdalydd.

Bydd unrhyw gyfyngiadau o ran trosglwyddo cyfrannau sydd wedi eu cynnwys yn erthyglau’r cwmni fel arfer yn gymwys i drosglwyddiad neu gymhwysiad yn sgil marwolaeth neu fethdaliad cyfranddeiliad.

12. Beth yw gwarant gyfrannau?

Mae gwarant gyfrannau yn ddogfen sy’n dweud bod gan ddygiedydd y warant hawl i’r cyfrannau a nodir ynddi. Os awdurdodir hynny gan ei erthyglau, caiff cwmni drosi unrhyw gyfrannau llawndaledig yn 'warantau cyfrannau'. Gellir trosglwyddo'r gwarantau hyn yn rhwydd heb fod angen dogfen drosglwyddo – hynny yw, gellir yn syml eu hestyn o law i law.

Pan roir gwarant gyfrannau, rhaid i'r cwmni ddileu enw'r cyfranddeiliad o'i gofrestr aelodau, gan nodi dyddiad rhoi'r warant a nifer y cyfrannau y mae'n ymwneud â nhw. Yn amodol i'r erthyglau, gall perchennog y warant gyfrannau ei hildio i gael ei dileu. Os felly, bydd gan y deiliad hawl i'w (h)enw gael ei ailgynnwys yn y gofrestr aelodau. Fel arfer, bydd cwmnïau’n rhoi taleb gyda gwarant gyfrannau fel y gall y perchnogion hawlio unrhyw fuddran.

Bydd deiliad gwarant gyfrannau'n aros yn gyfranddeiliad, ond bydd aros yn aelod o'r cwmni'n dibynnu ar erthyglau'r cwmni. Dylai cwmni sy'n trosi ei holl gyfrannau'n warantau cyfrannau fod yn ofalus: gallai fynd yn gwmni diaelodau ac felly peidio â bod.

13. Beth sy'n digwydd os aiff tystysgrif gyfrannau ar goll?

Delir â hyn yn arferol yn erthyglau'r cwmni. Er enghraifft, mae paragraff 7 o Dabl A o Reoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) ( Diwygiad) 2007 yn gosod y caiff y cyfarwyddwyr roi tystysgrif gyfrannau newydd lle byddant yn fodlon bod yr hen un wedi mynd ar goll, wedi treulio, wedi cael ei difwyno neu ei difodi.

Fel arfer, bydd y cyfarwyddwyr yn mynnu gan y deiliad ildio unrhyw dystysgrif a ddifwynwyd neu sydd wedi treulio a llofnodi indemniad ynglŷn â defnyddio tystysgrif a aeth ar goll neu a gafodd ei difodi. Gallant hefyd fynnu gan y deiliad dalu unrhyw dreuliau rhesymol mewn cysylltiad ag ymchwilio i dystiolaeth o golled.

14. Ga i ddileu cyfran os nad oes modd olrhain y deiliad?

Na chewch. Mae'r gyfran yn eiddo i'r deiliad cofrestredig, nid i'r cwmni. Os yn y pen draw y datgenir yn gyfreithiol fod y person wedi marw, yna dylai'r gyfran gael ei thrawsgludo i'r buddiolydd (neu’r buddiolwyr) – gweler cwestiwn 11.

Os awdurdodir hynny gan ei erthyglau, caiff cwmni gadw unrhyw fuddran sy'n aros heb ei hawlio wedi cyfnod arbennig.

Yn ôl i’r Brig
Pennod 3
Gwybodaeth bellach


1. Ble galla i gael gwybodaeth bellach?
Hwyrach yr hoffech chi geisio barn eich ymgynghorwyr proffesiynol yng nghyswllt unrhyw fater yn ymwneud â chyfalaf cyfrannau. Gallwch hefyd ffonio Tŷ'r Cwmnïau ar 0303 123 4500 am ganllawiau sylfaenol.

2. Sut dylwn i anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?

Y ffordd fwyaf diogel o anfon gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing neu ffeilio ar-lein. Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, ymwelwch â’n gwefan www.companieshouse.gov.uk

Nodyn: Ar hyn o bryd, yr unig ffurflenni cyfalaf y gallwch eu ffeilio’n electronig yw Ffurflenni 88(2) a 123.

Gallwch chi gyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin.

Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban. Wrth anfon dogfennau, byddwch cystal â’u cyfeirio at:

Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyng yng Nghymru a Lloegr: Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyn yn yr Alban:
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
neu
DX33050 Caerdydd 1
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB
neu
DX ED235 Edinburgh 1
neu
LP – 4 Edinburgh 2

Os hoffech chi dderbynneb wrth anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX), bydd Tŷ’r Cwmnïau’n gyrru nodyn cydnabod os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig yn dangos eich cyfeiriad dychwelyd. Byddwn yn marcio dyddiad ei dderbyn ar eich llythyr copi drwy gyfrwng cod bar ac yn ei ddychwelyd ichi yn yr amlen a ddarparwyd gennych.

Sylwer: nid yw cydnabod dod i law yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Sylwer: nid yw Tŷ Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.

3. Ga i ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?

Fel arfer, yn Saesneg y mae’n rhaid ichi ffeilio dogfennau gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae eithriadau i hyn yn unol â’r manylion isod.  Cewch lunio a chyflwyno dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau Cymreig yn Gymraeg.

Caiff cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os bydd
cyfieithiad Saesneg ardystiedig yn cael ei anfon gyda nhw:

  • Penderfyniadau a chytundebau sy’n effeithio ar gyfansoddiad cwmni;
  • Contractau’n ymwneud â chlustnodi cyfrannau am gydnabyddiaeth ar wahân i  arian parod;
  • Yn achos cwmnïau sydd wedi eu cynnwys yng nghyfrifon grwpiau mwy yn yr AEE neu y tu allan i’r AEE, cyfrifon y grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad; a hefyd
  • Offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon).

Yn ychwanegol, mae cwmnïau hefyd yn cael ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sy’n dod o dan ofynion datgelu’r Gyfarwyddeb Gyntaf ar y Gyfraith Gwmnïau. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dogfennau cyfansoddiadol fel y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad;
  • Penodiadau cyfarwyddwyr, newid manylion neu derfynu penodiadau;
  • Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol;
  • Hysbysiad ynglŷn ag unrhyw newid i swyddfa gofrestredig y cwmni;
  • Dogfennau dirwyn i ben;
  • Dogfennau cyfalaf cyfrannau (cwmnïau cyhoeddus yn unig);
  • Dogfennau ynghylch cyfuno a rhannu cwmnïau (cwmnïau cyhoeddus yn unig); a
  • Dogfennau ynghylch cwmnïau tramor.

Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol gyfeirio at ddogfen a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau ar 1 Ionawr 2007 neu wedi hynny. Gall cyfieithiadau gwirfoddol gael eu ffeilio yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unig a rhaid anfon Ffurflen 1106 i gyd-fynd â nhw.

4. Ble galla i gael ffurflenni a chanllawiau?

Mae hwn yn un o gyfres o ganllawiau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi arweiniad syml i’r Deddfau Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig.

Mae ffurflenni statudol a chanllaw au ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0303 123 4500.

Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.



Yn ôl i’r Brig
Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies