|
 |
Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)
Cynnwys
Brig
Cyflwyniad
Bydd cwmnïau sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr weithiau'n creu morgais neu arwystl y mae'n rhaid ei gofrestru yntau. Os felly, rhaid iddyn nhw gyflwyno manylion amdano, ynghyd ag unrhyw ddogfen sy'n ei greu neu'n tystiolaethu iddo, i'r Cofrestrydd Cwmnïau yng Nghaerdydd.
Rhaid cyflwyno'r dogfennau o fewn 21 diwrnod i greu'r morgais neu'r arwystl er mwyn gwarantu ei sicrwydd os caiff y cwmni ei ddiddymu. Gall gorchymyn llys fod yn angenrheidiol i alluogi cofrestru y tu allan i'r terfyn 21 diwrnod.
Mae'r llyfryn hwn yn ganllaw i helpu cwmnïau neu unrhyw fuddiolwyr i gyflwyno'u dogfennau'n gywir y tro cyntaf.
Does dim angen i gwmnïau roi gwybod i'r Cofrestrydd wrth dalu arwystl cofrestredig yn derfynol (neu ei 'fodloni'). Ond mae hynny er lles iddyn nhw eu hunain ac fe alluogwn gwmnïau i wneud felly os dyna'u dymuniad. Mae'r llyfryn hwn yn egluro sut.
Ymwneir â chofrestru arwystlon gan Ran XII o Ddeddf Cwmnïau 1985.
Brig
PENNOD 1
Cofrestru morgeisiau ac arwystlon
1. Beth yw morgeisiau ac arwystlon?
Mae arwystl yn ernes dros dalu dyled neu rwymedigaeth arall nad yw'n trosglwyddo 'eiddo' nac unrhyw hawl feddiant i'r person y rhoir yr arwystl iddo/i.
Mae morgais yn ernes dros dalu dyled neu rwymedigaeth arall sy'n trosglwyddo 'eiddo' ond nid hawl feddiant i'r person i rhoir y morgais iddo/i.
Nodyn: Wrth sôn am 'arwystl' yn y llyfryn hwn o hyn ymlaen, cyfeirir hefyd at forgais.
2. Pa arwystlon y mae'n rhaid eu cofrestru?
Mae adran 396 o'r Ddeddf Cwmnïau'n rhestru'r arwystlon y mae'n rhaid eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr. Mae'r blwch isod yn eu rhestru, gan roi disgrifiad cryno o bob un.
3. Beth yw cost pob cofrestriad?
Ceir ffi o £13 am gofrestru pob Ffurflen 395 (ar gael mewn Saesneg yn unig), 397a (ar gael mewn Saesneg yn unig) 400 (ar gael mewn Saesneg yn unig) a gyflwynir i Dŷ'r Cwmnïau. Mae'r ffi hefyd yn gymwys i daliadau Slavenburg (gweler cwestiwn 12). Does dim ffi am gofrestru datganiad bodloni (Ffurflen 403a).
Ceir ffi safonol o £15 am gopi ardystiedig o gofrestriad arwystl. Mae'r rhain ar gael gan yr Adran Copïau Ardystiedig yn Nhŷ'r Cwmnïau, Caerdydd. Cynigiwn hefyd wasanaeth premiwm yr un diwrnod sy’n costio £50.
Mae eisiau cofrestru'r canlynol yng Nghymru a Lloegr:
- Arwystl i warantu unrhyw ddyledebion a drefnir. Mae dyledeb yn offeryn a drefnir gan gwmni fel tystiolaeth o ddyled neu rwymedigaeth arall. Mae'n cynnwys stoc dyledeb, bondiau a gwarannoedd eraill ar ran cwmni, p'un a fo hynny'n rhan o arwystl ar asedion y cwmni neu beidio.
- Arwystl ar gyfalaf cyfrannau'r cwmni, heb ei erchi. Cyfalaf cyfrannau heb ei erchi yw'r gweddill sy'n ddyledus yng nghyswllt cyfrannau a ddosberthir wedi eu talu'n rhannol.
- Arwystl wedi ei greu neu ei dystiolaethu gan offeryn y byddai angen, o gael ei arfer gan unigolyn, ei gofrestru fel bil gwerthiant. Mae bil gwerthiant yn offeryn sy'n creu neu'n tystiolaethu i arwystl neu forgais mewn cysylltiad â nwyddau, gan gynnwys gosodion a chnydau amaethyddol mewn rhai enghreifftiau, ond nid llongau nac awyrennau.
- Arwystl ar dir (ble bynnag y bo), neu unrhyw fuddiant ynddo, ond nid arwystl ar gyfer unrhyw rent neu swm cyfnodol arall yn deillio o'r tir. Yn dechnegol, mae tir yn cynnwys eiddo.
- Arwystl ar ddyledion llyfr y cwmni. Dyledion llyfr yw dyledion sydd, yn ystod busnes arferol y cwmni, yn cael eu cofnodi’n gyffredin yn ei lyfrau.
- Arwystl nofiol ar ymgymeriad neu eiddo'r cwmni. Mae arwystl nofiol yn un nad yw'n effeithio ar yr asedion y codir yr arwystl arnynt nes i ryw ddigwyddiad grisialu'r arwystl, gan ei gysylltu ag adeg arbennig.
- Arwystl ar eirchion a wneir ond na chânt mo'u talu. Ystyr erchi yma yw mynnu talu unrhyw ran o'r gweddill sy'n ddyledus mewn cysylltiad â chyfrannau a ddosberthir wedi eu talu'n rhannol.
- Arwystl ar long neu awyren neu unrhyw gyfran mewn llong.
Arwystl ar ewyllys da, neu ar batent, nod masnach, dyluniad cofrestredig, hawlfraint neu hawl ddylunio neu drwydded o dan hawl o'r fath neu mewn cysylltiad ag un. |
4. Beth yw ystyr 'offeryn' a 'thystiolaethu' yn y bennod hon?
'Offeryn' fel arfer yw dogfen ar ffurf ddarllenadwy, er y gall fod ar ffurf electronig.
'Tystiolaethu' yw darparu prawf o fodolaeth rhywbeth.
5. Pa ffurflen y dylwn i ei defnyddio?
Mae rhifau'r ffurflenni yn y tabl canlynol yn cyfateb i adrannau perthnasol Deddf Cwmnïau 1985. Mae'r rhai y codir ffi gofrestru amdanyn nhw wedi eu marcio â *.
6. Sut galla i gofalu bod pethau'n iawn y tro cyntaf?
|
PWYSIG - NODWCH, OS GWELWCH YN DDA.
Wrth gyflwyno dogfennau i'r Adran Morgais, a wnewch chi sicrhau bod eich amlen wedi ei marcio "AR GYFER SYLW'R ADRAN MORGAIS" os gwelwch yn dda. Bydd hyn o help wrth hwyluso eich cais, a gallai helpu i osgoi trafferth ynghylch y cyfnod ffeilio o 21 diwrnod. |
- Detholwch y ffurflen gywir i'w hanfon i'r swyddfa gofrestru gywir, gan ddilyn unrhyw nodiadau ar y ffurflen ei hun. Gweithredwch mor fuan â phosibl: dim ond 21 diwrnod sydd gennych o ddyddiad creu'r arwystl i gofrestru'r manylion cywir.
- Dim ond os creir arwystl y tu allan i'r DU mewn cysylltiad ag eiddo y tu allan i'r DU y bydd estyniadau amser yn gymwys i ddarparu ar gyfer oedi yn y post. Os felly, bydd y 21 diwrnod yn dechrau o'r dyddiad y gallai'r offeryn sy'n creu neu'n tystiolaethu i'r arwystl, neu gopi ohono, fod wedi cael ei dderbyn yn y DU o dan drefn arferol y post, a bwrw ei fod wedi ei anfon â phob diwydrwydd dyledus.
- Anfonwch yr offeryn sy'n creu neu'n tystiolaethu i'r arwystl gyda'r ffurflen os oes offeryn - ac fel arfer fe fydd un. Does dim rhaid selio offeryn. Heb ei selio, fe fydd yn ddilys os yw wedi ei lofnodi gan gyfarwyddwr ac ysgrifennydd y cwmni, neu gan ddau gyfarwyddwr.
Rhaid i'r offeryn fod yr un un â'r offeryn gwreiddiol, ac eithrio yn y ddau achos canlynol lle gall fod yn gopi wedi ei gadarnhau:
(a) Pan greir arwystl y tu allan i'r DU mewn cysylltiad ag eiddo y tu allan i'r DU.
(b) Pan fo arwystl yn ymwneud ag eiddo yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, a'r offeryn gwreiddiol wedi ei gofrestru yno.
- Gwnewch yn siŵr fod manylion y ffurflen yn gywir ac yn cyfateb i'r offeryn. Os gwelwn ni gamgymeriadau, rhaid i'r cyflwynydd awdurdodi eu cywiro, gan gyflwyno ffurflenni newydd cyn pen y terfyn amser o 21 diwrnod lle bo angen hynny. Os bydd rhaid, byddwn yn dychwelyd tystysgrifau, offerynnau a dogfennau i'r cyflwynydd a enwyd ar ffurflen yr arwystl ei hun. Gofalwch fod yr wybodaeth hon yn gyflawn ac yn fanwl-gywir.
- Gwnewch yn siŵr fod enw a rhif y cwmni yn gywir. Cofiwch na newidir enw cwmni nes i Dŷ'r Cwmnïau roi tystysgrif newid-enw.
- Gwnewch yn siŵr fod y dyddiad creu a disgrifiad yr arwystl yn gyson â'r offeryn.
- Gwnewch yn siŵr fod y swm a warentir yn adlewyrchu'n gywir yr hyn a nodir yn yr offeryn.
- Gwnewch yn siŵr fod enw'r pridiannai yn cyfateb i'r offeryn. (Ystyr 'pridiannai' yw'r sawl y trefnir yr arwystl ar yr eiddo yn ei (h)enw.)
- Gwnewch yn siŵr fod manylion cryno'r eiddo y codir arwystl arno'n iawn adlewyrchu'r hyn a nodir yn yr offeryn.
- Ar gyfer tir cofrestredig, peth doeth yw ichi roi rhif teitl yr eiddo. Gofalwch fod cymalau arwystlo bob amser yn cael eu cofnodi, gan gynnwys cyfeiriad at arwystlon sefydlog a nofiol.
- Llofnodwch a dyddiwch y ffurflen.
- Llenwch y ffurflenni'n glir, gan ddefnyddio inc du, neu, os bydd modd, teipiwch y ffurflen. Caiff ffurflenni eu hatgynhyrchu ar ficroffilm fel y gall y cyhoedd eu harchwilio. Mae'n bosibl i'r Cofrestrydd wrthod ffurflenni nad ydynt yn gymwys i'w sganio a'u hatgynhyrchu.
| Sylwer Os hepgorwch neu os camnodwch unrhyw fanylyn yn y dogfennau a gofrestrir, yna dylech wneud cais i'r llys am ei gywiro o dan adran 404 o'r Ddeddf: Cywiro cofrestriad arwystlon. |
7. Beth sy'n digwydd wrth i'r cais am gofrestriad gyrraedd Tŷ'r Cwmnïau?
Os yw'r ddogfen yn dderbyniol, byddwn yn cymryd manylion oddi arni i greu tystysgrif gofrestru a threfnu cofnod ar y gofrestr arwystlon. Byddwn yn dychwelyd y dystysgrif a'r offeryn i'r cyflwynydd, ac yn sganio ac yn cofnodi'r ffurflen, y copi o'r dystysgrif a'r manylion ar gyfer y gofrestr.
8. Beth os bydd gan Dŷ'r Cwmnïau reswm dros amau'r cais?
Byddwn yn cysylltu â'r cyflwynydd i ofyn unrhyw gwestiynau. Os bydd angen cywiro'r ffurflen, rhaid gwneud hynny o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod.
9. Beth os na chofrestrir yr arwystl mewn pryd?
Os na chofrestrir arwystl cofrestradwy mewn pryd, yna bydd yn ddilys gogyfer â'r diddymydd neu'r gweinyddydd ac unrhyw un o gredydwyr y cwmni. Mae hyn yn golygu y bydd y ddyled y trefnwyd yr arwystl yn ei gyswllt yn aros yn daladwy, ond y bydd heb ei gwarantu.
Os bydd cwmni'n methu â chyflwyno arwystl cofrestradwy, ac nad yw'r un buddiolydd wedi ei gofrestru, yna bydd y cwmni a phob swyddog ynddo sydd heb gyflawni ei g/chyfrifoldeb yn agored i'w dirwyo. Os parheir i fethu â chydymffurfio, byddant yn agored i ddirwy ballu feunyddiol.
Oes modd cofrestru arwystl ar ôl yr amser priodol?
Dim ond y llys all ganiatáu estyniad amser i gofrestru arwystl na ddaeth i law'n brydlon ac ar ffurf gywir. Y terfyn amser arferol yw 21 diwrnod o ddyddiad creu'r arwystl. |
10. Beth sydd rhaid imi ei wneud os bydd fy nghwmni'n meddiannu eiddi sydd dan arwystl yn barod?
Os yw'r arwystl o fath y byddai wedi bod yn angenrheidiol i'r cwmni ei gofrestru pe bai wedi creu'r arwystl ei hun, yna bydd rhaid iddo roi gwybod am y ffaith ei fod wedi meddiannu'r eiddo hwnnw. I wneud hyn, rhaid i'r cwmni lenwi ac anfon Ffurflen 400 i Dŷ'r Cwmnïau, gyda chopi ardystiedig o unrhyw offeryn a greodd neu a dystiolaethodd i'r arwystl.
Rhaid gwneud hyn o fewn 21 diwrnod i'r cwmni gwblhau meddiannu'r eiddo. Os yw'r eiddo y trefnir arwystl drosto y tu allan i'r DU a bod yr arwystl wedi ei greu y tu allan i'r DU, bydd y 21 diwrnod yn dechrau o'r dyddiad y gallai'r copi o'r offeryn fod wedi dod i law yn y DU o dan drefn arferol y post, a bwrw ei fod wedi ei anfon â phob diwydrwydd dyledus.
Tramgwydd yw cyflwyno manylion yn hwyr ar Ffurflen 400. Bydd y cwmni a phob swyddog ynddo sydd wedi methu â chyflawni ei g/chyfrifoldeb yn agored i ddirwy. Os parheir i fethu â chydymffurfio, byddant yn agored i ddirwy ballu feunyddiol.
11. Pa hawliau sydd gan y pridiannai?
Os na fydd y cwmni'n anfon arwystl aton ni i gael ei gofrestru, yna gall y pridiannai (y person y trefnir arwystl ar yr eiddo yn ei (h)enw) - neu ryw fuddiolydd arall - gofrestru'r dogfennau angenrheidiol. O dan amgylchiadau arbennig, gall y pridiannai benodi derbynnydd neu reolwr neu ofyn i'r llys benodi derbynnydd neu reolwr, ar gyfer yr eiddo y trefnir yr arwystl yn ei gyswllt - er enghraifft, os bydd y cwmni'n methu â thalu'r ddyled a warentir gan yr arwystl. Rhaid i'r pridiannai roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am y penodiad cyn pen 7 diwrnod, gan ddefnyddio Ffurflen 405(1). Byddwn wedyn yn cofnodi hyn yn y gofrestr arwystlon.
Wrth roi'r gorau i weithredu, rhaid i'r derbynnydd neu'r rheolwr roi gwybod inni ar Ffurflen 405(2). Byddwn wedyn yn cofnodi'r ffaith yn y gofrestr arwystlon. Gweler ein llyfryn 'Ymddatod ac Ansolfedd' am ragor o wybodaeth ynghylch derbynwyr a rheolwyr.
12. Beth am gwmnïau tramor?
Cwmni tramor yw un sydd wedi ei gorffori y tu allan i Brydain Fawr. Bydd cwmnïau yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw sy'n anfon arwystlon i'w cofrestru yn cael eu trin fel cwmnïau tramor.
Os oes gan gwmni tramor gangen neu le busnes arall yng Nghymru neu Loegr a bod honno/hwnnw wedi ei g/chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau, rhaid iddo gofrestru arwystlon a gaiff eu creu gan y gangen neu'r lle busnes. Mae hyn yn cynnwys:
- arwystlon mewn cysylltiad ag eiddo yng Nghymru a Lloegr; ac
- eiddo yng Nghymru a Lloegr a feddiennir gan y cwmni ac sydd eisoes yn dibynnu ar arwystl cofrestradwy
Mae pob darpariaeth arall y sonnir amdani yn y bennod hon ac sy’n gymwys i arwystlon mewn cysylltiad ag eiddo yng Nghymru a Lloegr yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, hefyd yn gymwys i gwmnïau tramor, gan gynnwys y ffi gofrestru.
Cwmnïau Slavenburg
Bydd rhai cwmnïau tramor sydd wedi sefydlu cangen neu le busnes yng Nghymru neu Loegr yn methu â chofrestru yma, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Cwmnïau 1985. Er gwaethaf hyn, mae'r gofynion uchod yn gymwys i gwmnïau tramor felly fel pe baen nhw mewn gwirionedd wedi cofrestru yma. Penderfynwyd hyn o dan achos 'Slavenburg' fel y'i gelwir.
Mewn geiriau eraill, dylai arwystl a greir gan gwmni o'r fath mewn cysylltiad ag eiddo yng Nghymru a Lloegr gael ei anfon i Dŷ'r Cwmnïau. Yn yr un modd, rhaid cofrestru hefyd eiddo yng Nghymru a Lloegr a feddiennir gan gwmni o'r fath ac sydd eisoes yn dibynnu ar arwystl cofrestradwy.
Wrth dderbyn y dogfennau, ynghyd â'r ffi gofrestru, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n cofnodi manylion cryno am y cwmni ar y gofrestr Slavenburg, a hynny yn ôl dyddiad cyflwyno'r manylion.
Rhaid i Ffurflenni 395, 397 neu 400, y weithred wreiddiol neu gopi ardystiedig, ynghyd â'r ffi statudol o £13, gyrraedd Tŷ'r Cwmnïau o fewn 21 diwrnod i greu'r arwystl neu i feddiannu'r eiddo, fel y bo'n briodol. Wrth dderbyn y rheiny, caiff manylion yr arwystl eu cofnodi ar y gofrestr Slavenburg mewn cysylltiad â'r cwmni, a hynny yn ôl dyddiad cyflwyno'r manylion. Wedyn, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n gyrru at y cyflwynydd lythyr y dylid ei gadw fel prawf bod yr arwystl wedi ei gyflwyno i'r Cofrestrydd. |
Brig
PENNOD 2
Bodloni morgeisiau ac arwystlon
1. Beth dylwn i ei wneud wrth i'r arwystl gael ei dalu (neu ei 'fodloni')?
Does dim angen i'r cwmni roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau fod arwystl wedi ei fodloni'n llwyr neu'n rhannol. Ond mae'n amlwg ei bod er lles y cwmni ei hun bod buddsoddwyr a benthycwyr potensial yn gwybod bod y cyfan neu ran o'r ddyled wedi cael ei thalu. Felly, gall cyfarwyddwr neu ysgrifennydd i'r cwmni wneud datganiad statudol ar Ffurflen 403a gerbron Comisiynydd Llŵon neu berson cyfatebol, a'i anfon aton ni.
2. Beth os bydd eiddo sydd dan arwystl yn peidio â bod dan arwystl neu'n peidio â pherthyn i'r cwmni?
Fel gydag arwystlon sydd wedi eu talu'n rhannol neu'n llawn, does dim angen i'r cwmni roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau fod ei eiddo wedi cael ei ryddhau rhag arwystl neu fod yr eiddo heb berthyn i'r cwmni mwyach. Ond mae'n amlwg ei bod er lles i'r cwmni ei hun y dylai buddsoddwyr a benthycwyr potensial wybod. Felly, gall cyfarwyddwr neu ysgrifennydd i'r cwmni wneud datganiad statudol ar Ffurflen 403b gerbron Comisiynydd Llŵon neu berson cyfatebol, a'i anfon aton ni.
3. Oes ffi am gofrestru Ffurflenni 403a neu 403b?
Nac oes.
Brig
PENNOD 3
Gwybodaeth bellach
1. Beth os bydd gen i ymholiad ynglŷn â'r cofrestru?
Bydd ein staff morgeisiau'n falch o ateb ymholiadau cyffredinol ond nid pwyntiau cyfreithiol. Dylai'r rhai olaf hyn gael eu cyfeirio yn y lle cyntaf at gyfreithiwr.
Y rhif teleffon arferol yw: 0303 1234 500
Mae'r man cysylltu ar gyfer cwmnïau tramor a rhai Slavenburg fel uchod
2. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?
Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.
Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0303 1234 500.
Os bydd yn well gennych, cewch ysgrifennu at ein hadrannau deunydd ysgrifennu yng Nghaerdydd neu Gaeredin.
Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid llunio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
3. Sut dylwn i anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?
Gallwch chi gyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd a Llundain
Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy Wasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX).
Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:
| Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyng Nghymru a Lloegr: |
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd |
Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy drefn Britdoc (DX) a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch.
Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.
| Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs. |
Mae cyflwyno i unrhyw un o’r swyddfyedd hyn o fewn 21 diwrnod yn cyfrif fel derbyn gan y Cofrestrydd, ond fe gaiff y ffurflenni eu trosglwyddo i Gaerdydd i’w harchwilio a gall hyn achosi oedi lle bydd angen eu dychwelyd i’r cyflwynydd i gael eu diwygio.
Brig |