Amdanon Ni |
||||||||||||||||||||||||||||
|
Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall) Hydref 2008 - Fersiwn 22 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006 Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn: Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym. Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol. Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy’r holl nodiadau hyn, gymaint â phosib, pa Ddeddf sy’n berthnasol. Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, ymwelwch â’n gwefan www.companieshouse.gov.uk. Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006, lle gallwch chi weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosib, eglurwn hyn yn y canllaw presennol a rhown fanylion ar ein gwefan. Mae un cam olaf yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 sydd wedi ei drefnu ar gyfer Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau hynny ar y pryd. Efallai yr hoffech chi gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu barhau, er mwyn ichi gael mynediad at y newyddion diweddaraf. Hyd fis Hydref 2009 mae’r nodiadau canllaw hyn yn berthnasol i gwmnïau sydd wedi cael eu ffurfio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Ar ôl hynny, rhaglennir i’r system ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon ymdoddi i’r system gyfun ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd. Cynnwys
Cyflwyniad Mae'r canllaw hwn yn sôn am y gofynion ar gyfer ffurfio cwmnïau preifat wedi eu cyfyngu drwy gyfrannau, cwmnïau preifat wedi eu cyfyngu drwy warant, cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus a chwmnïau anghyfyngedig. Mae'n egluro hefyd y gwahaniaeth rhwng y mathau hyn o gwmni ac yn cynnig gwybodaeth a chyngor am ddogfennau ymffurfio, yr aelodaeth, y cyfalaf cyfrannau a'r swyddogion cwmni.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi rhyw gymaint o wybodaeth am rwymedigaethau ffeilio cyson cwmnïau. Am wybodaeth fanylach ynghylch pynciau penodol, darllenwch y canllawiau unigol y cyfeirir atyn nhw yn yr arweiniad hwn. Pennod 1 Mae cwmni yn endid cyfreithiol wedi ei ffurfio i ddilyn busnes neu weithgareddau eraill yn enw’r gymdeithas. Gan ei fod wedi ei gorffori, mae iddo hunaniaeth gyfreithiol sydd ar wahân i hunaniaeth ei aelodau. 1. Oes mwy nag un math o gwmni? Mae pedwar prif fath o gwmni:
Gall “cwmni preifat” fod yn unrhyw un o’r tri cyntaf ar y rhestr hon. Mae rhai “cwmnïau sydd wedi eu cyfyngu drwy warant gyda chyfalaf cyfrannau” yn aros o hyd. Does dim modd ffurfio’r rhain ers 1981 ac ni roir sylw iddyn nhw yn y canllaw hwn. 2. Pwy gaiff ffurfio cwmni?
Eglurir pob un o'r dogfennau hyn isod. Os dymunwch i swyddfa gofrestredig y cwmni (gweler cwestiwn 8 isod) fod yng Nghymru neu Loegr, dylech eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd. Os dymunwch iddi fod yn yr Alban, dylech eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau yng Nghaeredin. (Gweler y cyfeiriadau ar ddiwedd y canllaw hwn). 4. Beth yw memorandwm cymdeithasiad?
Rhaid i bob tanysgrifydd lofnodi memorandwm y cwmni yng ngŵydd tyst y mae’n rhaid iddo yntau/iddi hithau hefyd lofnodi’r ddogfen hon cyn ei hanfon i Dŷ’r Cwmnïau. Yn achos cwmni sydd wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau, mae’n rhaid i bob tanysgrifydd gymryd o leiaf un gyfran yn y cwmni a rhaid i nifer y cyfrannau y bydd pob tanysgrifydd yn eu cymryd gael ei gofnodi wrth enw’r tanysgrifydd perthnasol. Mae’r Rheoliadau’n pennu’r diwyg priodol i femorandwm. Gwelir y rhain wedi eu hegluro yng nghwestiwn 6 isod. 5. Beth yw erthyglau cymdeithasiad? Mae’r ddogfen hon yn nodi’r rheolau ar gyfer rhedeg a rheoli materion mewnol y cwmni. Rhaid i bob tanysgrifydd lofnodi erthyglau cymdeithasiad y cwmni yng ngŵydd tyst y mae’n rhaid iddo yntau/iddi hithau hefyd lofnodi’r ddogfen. Mae’r Rheoliadau’n darparu set gyflawn o erthyglau cymdeithasiad. ‘Tabl A’ y gelwir yr erthyglau i gwmnïau sydd wedi eu cyfyngu drwy gyfrannau ac mae dau fersiwn yn y Rheoliadau: un i gwmnïau preifat ac un i gwmnïau cyhoeddus.
Ni fydd angen i gwmni wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau sy’n penderfynu mabwysiadu Tabl A heb addasiadau roi i Dŷ’r Cwmnïau gopi o’i erthyglau cymdeithasiad. Ond mae’n rhaid egluro’r penderfyniad hwn mewn llythyr wedi ei atodi wrth eich cais am ffurfio cwmni. Rhaid i gwmni cyhoeddus benodi o leiaf dau gyfarwyddwr. Caiff cwmni preifat benodi un cyfarwyddwr os nodir hynny yn ei erthyglau (gweler cwestiwn 12). Os yw erthyglau’r cwmni’n caniatáu penodi un cyfarwyddwr, bydd yn mabwysiadu fersiwn addasedig o Dabl A ac yn yr amgylchiadau hyn byddai angen iddo anfon yr erthyglau gyda’r cais am ffurfio cwmni. Mae’r Rheoliadau hefyd yn pennu mathau eraill o erthyglau cymdeithasiad y gall cwmni sydd wedi ei gyfyngu drwy warant (Tabl C) a chwmni anghyfyngedig (Tabl E) eu mabwysiadu. Mae’n rhaid i’r mathau hyn o gwmni fabwysiadu erthyglau cymdeithasiad ar y diwygiau hyn, neu mor agos iddyn nhw ag sy’n bosib. Ni chânt fabwysiadu erthyglau hollol wahanol. Sylwer: mae gofynion penodol ynglŷn â memoranda ac erthyglau Cwmnïau Buddiant Cymunedol (cwmnïau BC), Cwmnïau Hawl i Reoli a Chymdeithasau Cyfunddaliad. Mae’r rhain i’w gweld:
6. Sut ca i hyd i gopïau o’r diwyg priodol ar gyfer memorandwm ac erthyglau cymdeithasiad i’m cwmni? Ni all Tŷ’r Cwmnïau roi memorandwm nac erthyglau cymdeithasiad ichi ond cewch eu prynu gan ddogfennwr cyfreithiol neu asiant ffurfio cwmnïau. Fel dewis arall, cewch eu paratoi eich hun ar sail y Rheoliadau sydd wedi eu nodi isod. Ond mae’n rhaid i gwmni sydd wedi ei gyfyngu drwy warant a chwmni anghyfyngedig ddefnyddio’r Rheoliadau hynny. Er na ddylid ystyried y canllaw presennol yn ganllaw cynhwysfawr i’r pwnc hwn, mae’r rheoliadau allweddol sy’n ymwneud â’r memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad, a’r cwmnïau y maen nhw’n gymwys iddynt, wedi eu crynhoi isod.
Mae Tablau A, C ac E fel cawsant eu diwygio'n ddiweddar, i'w cael ar wefan BERR yn www.berr.gov.uk/files45416.doc. Dim ond i gwmnïau wedi eu ffurfio ar neu wedi dyddiad gweithredu’r newidiadau y mae’r diwygiadau i Dablau’r Rheoliadau yn gymwys. Nid effeithiant ar erthyglau cymdeithasiad cwmnïau a gafodd eu ffurfio cyn y pryd hwnnw, hyd yn oed os Tabl A, C neu E heb addasiadau yw’r erthyglau hynny. Os bydd cwmni sy’n bod yn barod yn penderfynu ei fod am fabwysiadu rhai neu bob un o’r darpariaethau mewn Tabl diwygiedig, bydd angen iddo basio penderfyniad ffurfiol i wneud y newidiadau hyn a ffeilio copi o’r penderfyniad yn Nhŷ’r Cwmnïau, ar y cyd â’r erthyglau diwygiedig. 7. Beth yw Ffurflen 10? Mae Ffurflen 10 yn rhoi manylion y cyfarwyddw(y)r cyntaf, yr ysgrifennydd a'r cyfeiriad a arfaethir i'r swyddfa gofrestredig. Yn ogystal â'u henwau a'u cyfeiriadau, rhaid i gyfarwyddwyr y cwmni roi eu dyddiad geni, eu galwedigaeth a manylion unrhyw safleoedd eraill fel cyfarwyddwr a ddaliwyd ganddyn nhw yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Rhaid i bob swyddog a benodir a phob tanysgrifydd (neu eu cynrychiolydd) lofnodi a dyddio'r ffurflen. 8. Beth yw swyddfa gofrestredig?
Rhaid i'r swyddfa gofrestredig bob amser fod yn gyfeiriad effeithiol ar gyfer cyflwyno gohebiaeth a dogfennau i'r cwmni. I osgoi unrhyw oedi neu broblemau eraill, cynghorwn yn gryf fod pob gohebiaeth a anfonir i'r cyfeiriad hwn yn cael sylw prydlon gennych. Os yw’ch cwmni am newid cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ar ôl ei ffurfio, rhaid ichi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am y cyfeiriad newydd ar Ffurflen 287. Nes i Dŷ’r Cwmnïau gynnwys y ffurflen hon yn ei gronfa ddata, ni fydd y newid yn dod i rym. . Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n defnyddio cronfa gyfeiriadau Swyddfa'r Post i ddilysu cyfeiriadau. I osgoi unrhyw oedi, gofalwch ddefnyddio’r cyfeiriad cywir, gan gynnwys y côd post llawn, ar bob ffurflen a dogfen a gyflwynir i gael eu cofrestru. 9. Beth yw'r nifer isaf o swyddogion sy'n ofynnol i gwmni? Mae’n rhaid i bob cwmni preifat benodi o leiaf un cyfarwyddwr, oni bai bod erthyglau cymdeithasiad y cwmni’n mynnu mwy nag un. Does dim rhaid i gwmni preifat benodi ysgrifennydd cwmni, oni bai bod erthyglau cymdeithasiad y cwmni'n mynnu'n unswydd i'r cwmni fod ag un (gweler cwestiynau (5) a (6) uchod). Rhaid i gwmni cyhoeddus fod ag o leiaf dau gyfarwyddwr ac un ysgrifennydd, sydd i fod â chymwysterau ffurfiol (gweler Pennod 2). O 1 Hydref 2008 ymlaen, mae’n rhaid i bob cwmni, p’un ai preifat neu gyhoeddus y bo, wrth ei ffurfio fod ag o leiaf un cyfarwyddwr sy’n berson naturiol, sef yn unigolyn (gweler cwestiwn 10). Mae gan bob swyddog cwmni gyfrifoldebau eang o dan y gyfraith. Cynhwysir y gofynion allweddol yn ein www.companieshouse.gov.uk. Ar ôl ffurfio’r cwmni, mae’n rhaid ichi ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau :
Gallwch chi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am unrhyw rai o’r newidiadau uchod ar-lein drwy drefn Software Filing (angen pecyn meddalwedd) neu WebFiling. Gallwch chi hefyd anfon dogfennau atom drwy’r post.- gweler Pennod 7. Sylwer: nid ydym yn derbyn dogfennau na ffurflenni dros beiriant ffacs. 10. A gaiff unrhyw un fod yn gyfarwyddwr cwmni? At ei gilydd, mater i’r aelodau yw penodi’r bobl y credant y byddant yn rhedeg y cwmni’n dda ar eu rhan. Yr unig gyfyngiadau sy’n atal rhywun rhag dod yn gyfarwyddwr yw;
O 1 Hydref 2008 ymlaen, mae’r oedran isaf angenrheidiol yn gymwys i’r Deyrnas Unedig gyfan a bydd unrhyw un sydd heb gyrraedd 16 oed yn rhoi heibio i fod yn gyfarwyddwr. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi hysbysiad ar y gofrestr gyhoeddus i ddangos bod y penodiad wedi dod i ben. Bydd yn rhaid i’r cwmni ddiwygio’i gofrestr aelodau i ddangos bod y penodiad wedi dod i ben. Os caiff y cwmni ei adael heb gyfarwyddwr cymwys, bydd yn methu cydymffurfio a bydd angen iddo benodi o leiaf un cyfarwyddwr. Mae cyfyngiad ar rai pobl sydd heb fod o genedligrwydd Prydeinig neu o genedligrwydd arall o fewn yr AEE o ran pa waith y cân nhw ei wneud yn y wlad hon. Os bydd arnoch chi angen rhagor o wybodaeth ynghylch a gaiff rhywun felly fynd yn gyfarwyddwr i gwmni wedi ei gofrestru yn y DU, cysylltwch â: Home Office Immigration and Nationality Department 11. Beth yw Ffurflen 12? Mae Ffurflen 12 yn ddatganiad statudol y cydymffurfiwyd â'r holl ofynion cyfreithiol o ran ffurfio cwmni. Gall gael ei llofnodi gan y cyfreithiwr sy'n ffurfio'r cwmni, neu gan un o'r bobl a enwyd yn gyfarwyddwr neu'n ysgrifennydd cwmni ar Ffurflen 10. Y gofynion ar gyfer cwblhau Ffurflen 12 yw:
12. Beth yw Cwmnïau Buddiant Cymunedol? Mae Cwmnïau Buddiant Cymunedol (cwmnïau BC) yn fath newydd o gwmni cyfyngedig wedi ei lunio’n benodol i bobl sydd am ddilyn busnes neu weithgarwch arall er lles y gymuned ac nid yn gyfan gwbl er lles aelodau’r cwmni. Rhaid i’r rheoleiddiwr BC gymeradwyo ceisiadau am ffurfio cwmni BC ac mae ganddo rôl gyson o ran monitro a gorfodi. Ni all cwmni ddod yn gwmni BC os yw, neu os yw’n bwriadu bod, yn blaid wleidyddol neu’n gorff ymgyrchu gwleidyddol (neu’n isgwmni i’r naill neu’r llall). Yn ogystal, ni all cwmni BC fod yn elusen. I wneud cais am gael ffurfio cwmni BC, rhaid ichi lenwi Ffurflen 36 (yn ychwanegol at y dogfennau a gafodd eu rhestru yng nghestiwn 3 uchod) y gallwch ei lawrlwytho o’r wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk Mae’r wefan BC yn cynnig gwybodaeth gynhwysfawr am fuddion ffurfio cwmni BC, yn ogystal â manylion y profion sydd angen i ennill cymeradwyaeth i ddod yn gwmni BC. 13. Alla i ddewis unrhyw enw fynna i i'm cwmni? Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn cofrestru enw sydd:
Yn ychwanegol, ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn cofrestru enwau sy’n ymhlygu cysylltiad â llywodraeth genedlaethol neu leol heb gefnogaeth yr adran benodol o’r llywodraeth neu awdurdod lleol. Bydd eisiau caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol neu ryw gorff penodedig arall cyn y cewch chi ddefnyddio rhai geiriau. Dylech chi hefyd wirio a yw’r enw a ddewiswyd gennych yn ‘rhy debyg’ i un arall sydd eisoes ar y gofrestr. Os yw’ch enw dethol yn rhy debyg i enw arall, gallai’r Ysgrifennydd Gwladol eich cyfarwyddo i newid enw’r cwmni. Am ragor o wybodaeth ynghylch enwau, cyfeiriwch at ein canllaw ‘Enwau Cwmni’ yn www.companieshouse.gov.uk Cyn gwneud cais am ffurfio cwmni, mae’n bwysig gwirio bod yr enw a ddymunwch i’ch cwmni yn dderbyniol. Mae gwybodaeth bellach i’w chael yn ein canllaw ‘Enwau Cwmni’ yn www.companieshouse.gov.uk O 1 Hydref 2008 ymlaen, bydd Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno darpariaethau newydd sy’n caniatáu i unrhyw berson neu gwmni wrthwynebu enw cwmni ar sail “cofrestru manteisgar” os yw’r enw:
Sylwer: ni all Tŷ’r Cwmnïau drin unrhyw gwynion ynglŷn â chofrestru manteisgar. Dylai gwrthwynebiadau ac ymholiadau gael eu cyfeirio at y “Tribiwnlys Enwau Cwmni” (a elwir hefyd “y Dyfarnydd”) sy’n cael ei weithredu a’i weinyddu gan Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Mae gwybodaeth bellach i’w chael yn www.ipo.gov.uk/cna Os oes cofrestriad nod masnach sydd yr un fath â’r enw cwmni a ddewiswyd gennych neu’n debyg iddo, a’ch bod yn yr un math o fusnes, gallech chi wynebu achos cyfreithiol am dor-nod masnach. Am gyngor pellach, gan gynnwys sut i chwilio’r gofrestr nodau masnach, cysylltwch â Swyddfa Eiddo Deallusol y DU ar 08459 500 505 neu ymwelwch â’u gwefan yn www.ipo.gov.uk 14. Ga i neilltuo’r enw unwaith fy mod wedi gwirio ei fod ar gael? Na chewch. Ni chewch neilltuo enwau. Ni allwn warantu prosesu ceisiadau ffurfio yn nhrefn gaeth amser neu ddyddiad eu derbyn. Sylwer bod ceisiadau ffurfio cwmni a gyflwynir yn electronig at ei gilydd yn cael eu prosesu ynghynt na cheisiadau ar bapur. 15. Faint mae Tŷ'r Cwmnïau yn ei godi am ffurfio cwmni? Ffeilio ar bapur Ein ffi gofrestru safonol yw £20 a byddwn yn prosesu dogfennau o fewn pum diwrnod iddyn nhw ddod i law. Gallwch chi hefyd ddefnyddio’n gwasanaeth ‘Yr Un Diwrnod’ ar yr amod y cawn eich cais cyn 3pm (dydd Llun-dydd Gwener) a bod pob dogfen ac unrhyw wybodaeth ategol sydd angen yn dderbyniol. Y ffi am gorffori yr un diwrnod yw £50. Dylech chi wneud sieciau’n daladwy i “Tŷ’r Cwmnïau”. Rhaid marcio “Corffori yr Un Diwrnod” yn glir ar amlenni’n cynnwys ceisiadau “Yr Un Diwrnod” wedi eu postio, wedi eu hanfon drwy negesydd neu wedi eu cyflwyno’n bersonol â llaw. Wrth ffurfio Cwmni Buddiant Cymunedol, rhaid talu ffi ychwanegol o £15 i'r Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol. Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n casglu'r ffi hon ar ran y Rheoleiddiwr. Gweler pennod 4, cwestiwn 5 isod neu ymwelwch â'r wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk. Sylwer nad yw'r gwasanaeth 'Yr Un Diwrnod' ar gael i gwmnïau BC. Gwasanaeth Software Filing Y ffi safonol yw £15 a chost y gwasanaeth ‘Yr Un Diwrnod’ yw £30. I ffurfio cwmni’n electronig, mae’n rhaid ichi ddefnyddio meddalwedd addas. Mae nifer o asiantiaid ffurfio hefyd yn cynnig hyn fel gwasanaeth y codir tâl amdano. Am ragor o wybodaeth ynghylch Software Filing a WebFiling, trowch heibio i’n gwefan www.companieshouse.gov.uk Sylwer na chewch ffeilio ceisiadau am ffurfio cwmni BC yn electronig. 16. Ble galla i gael y ffurflenni sydd angen i gorffori cwmni? Mae Ffurflenni 10 a 12 ar gael yn rhad ac am ddim gan Dŷ'r Cwmnïau a gallwch eu lawrlwytho o’n gwefan yn www.companieshouse.gov.uk Ni allwn ddarparu memorandwm nac erthyglau cymdeithasiad ond gellir cael enghreifftiau o'r dogfennau hyn gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr neu asiantiaid ffurfio cwmnïau, a all hefyd ddarparu Ffurflenni 10 a 12. Gwelir enwau a chyfeiriadau'r rhain mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau. Gallwch chi lawrlwytho Ffurflen CIC 36 ar gyfer Cwmnïau Buddiant Cymunedol drwy wefan y Rheoleiddwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn www.cicregulator.gov.uk 17. Beth sy'n digwydd i'r dogfennau a gaiff eu hanfon at y Cofrestrydd? Mae pob dogfen ffurfio cwmni yn agored i archwiliadau arbennig, gan gynnwys gwirio i wneud yn siŵr nad yw darpar-swyddogion ar y Gofrestr Cyfarwyddwyr Gwaharddedig a gaiff ei chadw gan Dŷ’r Cwmnïau. A bwrw bod y dogfennau’n bodloni’r gwirio angenrheidiol a’r profion derbynioldeb enwau, byddwn yn corffori’r cwmni, yn rhoi tystysgrif gorffori a bydd y dogfennau’n ymddangos ar y cofnod cyhoeddus i’w harchwilio gan y cyhoedd. 18. Alla i ddelio'n uniongyrchol â Thŷ'r Cwmnïau i ffurfio fy nghwmni? Gall staff Tŷ’r Cwmnïau roi ichi gyfarwyddyd ynghylch enwau cwmni a’r ffurflenni sydd angen i ffurfio cwmni, yn ogystal â chyngor am y gofynion ffeilio. Ond ni allant eich cynghori ynghylch cynnwys memorandwm ac erthyglau’ch cwmni, nac ychwaith ai cwmni yw'r cyfrwng gorau i'ch busnes. Os ydych chi'n ansicr ynglŷn ag unrhyw agwedd ar ffurfio cwmni, dylech ystyried ceisio cyngor proffesiynol gan gyfreithiwr, cyfrifydd neu asiant ffurfio cwmnïau. Pennod 2
Gall erthyglau cwmni cyhoeddus fod fel y gosodir yn Nhabl A. Am ragor o wybodaeth ynghylch erthyglau cymdeithasiad, gweler Pennod 1, cwestiynau 5 a 6 uchod.
2. Pryd caiff cwmni cyhoeddus ddechrau gwneud busnes? Ni chaiff cwmni cyhoeddus newydd ei ffurfio ddechrau gwneud busnes nac arfer unrhyw bwerau benthyca nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi rhoi iddo dystysgrif fasnachu o dan adran 761 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (gynt o dan adran 117 o Ddeddf Cwmnïau 1985). Gallwch chi ofyn am dystysgrif fasnachu drwy gyflwyno cais i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen 117 wedi ei haddasu i gymryd i ystyriaeth newidiadau wedi eu gwneud gan Ddeddf Cwmnïau 2006. I gynorthwyo ymgeiswyr, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynhyrchu fersiwn addasedig o Ffurflen 117 sy’n cymryd y newidiadau i ystyriaeth (‘Ffurflen Ddiwygiedig 117’). Hwyrach y byddwch chi am geisio cyngor cyfreithiol am yr addasiadau sydd angen i gael parhau i ddefnyddio Ffurflen flaenorol 117 (‘Ffurflen Gyfredol 117’) sydd ar gael drwy’n gwefan yn www.companieshouse.gov.uk Unwaith ei caiff ei chaniatáu, mae tystysgrif fasnachu’n brawf bod gan y cwmni hawl i wneud busnes ac arfer pwerau benthyca. Bydd Tŷ’r Cwmnïau fel arfer yn postio’r dystysgrif atoch, ond gallwn anfon copi ffacs i’w gasglu yn unrhyw un o swyddfeydd Tŷ’r Cwmnïau os gofynnwch am hyn wrth gyflwyno’ch ffurflen gais. Mae gwybodaeth bellach am gyfalaf cyfrannau i’w chael yn ein canllaw ‘Cyfalaf Cyfrannau a Llyfrynnau Prosbectws’ ar ein gwefan yn www.companieshouse.gov.uk 3. A gaiff cwmni cyhoeddus ddosbarthu cyfrannau mewn arian treigl arall? Caiff, caiff cwmni cyhoeddus ddosbarthu cyfrannau mewn arian treigl arall yn lle sterling (neu yn lle ewros), ar yr amod bod hyn yn rhan o’i gyfalaf cyfrannau awdurdodedig. Caiff cwmni ddefnyddio cymaint o fathau o arian treigl ag y myn ar gyfer ei gyfalaf cyfrannau. Ond nid yw hyn yn newid y rheidrwydd cychwynnol ynglŷn â’r lleiafswm cyfalaf cyfrannau clustnodedig y mae’n rhaid iddo fod ym meddiant cwmni cyhoeddus. Eglurwyd y rheidrwydd hwnnw uchod a dim ond drwy arian sterling, neu, os bydd y cwmni’n dewis yn benodol i’r perwyl hwnnw, drwy arian ewro, y gellir ei fodloni. Ni chaiff unrhyw arian treigl arall ei gymryd i ystyriaeth i’r diben hwn. 4. Oes unrhyw gyfyngiadau eraill ar gwmni cyhoeddus? Oes. Mae sawl cyfyngiad allweddol:
5. Beth yw mantais ffurfio cwmni cyhoeddus? Bydd gan gwmni cyhoeddus fynediad i farchnadoedd cyfalaf a chaiff gynnig gwerthu ei gyfrannau i’r cyhoedd (fel arfer, ond nid bob tro), drwy gyfnewidfa stoc gydnabyddedig. Caiff hefyd ddosbarthu hysbysiadau’n cynnig gwerthu unrhyw rai o’i warannoedd i’r cyhoedd. O’i wrthgyferbynnu, ni chaiff cwmni preifat sydd â chyfalaf cyfrannau gynnig ei gyfrannau i’r cyhoedd. 6. Ydy’r rheolau hyn yn gymwys i gwmni cyhoeddus tramor? Fodd bynnag, yn ychwanegol at y rheoliadau a gaiff eu gosod yng ngwlad ei ffurfio, a gofynion Rhan XXIII o Ddeddf 1985, bydd cwmni cyhoeddus tramor hefyd wedi ei lywio gan rannau arbennig o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, a chan Gôd y Ddinas ar Feddiannu ac Uno Cwmnïau. Pennod 3 1. Beth yw cwmni unig aelod? Cwmni unig aelod yw cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau neu warant ac a gaiff ei ffurfio gydag un aelod, neu y caiff ei aelodaeth ei leihau i un aelod. Mae un aelod – yn bresennol yn bersonol neu drwy ddirprwy – yn gworwm yn yr amgylchiadau hyn. Os cynhaliwch gyfarfod o’r fath, rhaid ichi sôn amdano yn y cofnodion. Os cymrwch chi benderfyniad fel unig aelod, ar wahân i drwy benderfyniad ysgrifenedig ffurfiol gan y cwmni, mae’n rhaid rhoi cofnod ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r cwmni. (Diben hyn yw sicrhau parhad y cofnodion os byddwch chi’n gwerthu rhan neu’r cyfan o’ch buddiant yn y cwmni.) 3. Sut dylai cwmni gofnodi contract anysgrifenedig ag unig aelod? 4. Beth am y gofrestr aelodau? Rhaid i gofrestr aelodau'r cwmni gofnodi ei aelodau'n fanwl-gywir. Rhaid i gofrestr aelodau cwmni un-aelod gynnwys datganiad unswydd i’r perwyl mai dim ond un aelod sydd i’r cwmni, gan nodi’r dyddiad y daeth y cwmni’n gwmni un-aelod. Os oedd mwy nag un aelod gan y cwmni’n wreiddiol a bod yr aelodaeth yn gostwng i un, yna mae’n rhaid i’r gofrestr gynnwys datganiad unswydd i’r perwyl mai dim ond un aelod sydd i’r cwmni, gan nodi’r dyddiad y daeth y cwmni’n gwmni un-aelod. Os bydd aelodaeth cwmni un-aelod yn cynyddu’n ddiweddarach, mae’n rhaid ichi gofnodi manylion pob aelod newydd yn y gofrestr aelodau. Dylech chi gofnodi datganiad unswydd i’r perwyl nad yw’r cwmni’n gwmni un-aelod mwyach, gyda’r dyddiad y daeth hynny i fod. Pennod 4 1. A all cwmni preifat droi'n cwmni cyhoeddus? Gall. Gall cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau a chwmni anghyfyngedig gyda chyfalaf cyfrannau ailgofrestru'n gwmni cyhoeddus, ond ni all cwmni heb gyfalaf cyfrannau. Mae’n rhaid i gwmni preifat sydd am ddod yn gwmni cyhoeddus fabwysiadu penderfyniad arbennig y dylai gael ei ailgofrestru felly’n gwmni cyhoeddus, gan gyflwyno copi o’r penderfyniad, ynghyd â’r ffurflen gais, i Dŷ’r Cwmnïau. Rhaid hefyd i’r penderfyniad:
Mae'n rhaid i un o gyfarwyddwyr neu ysgrifennydd y cwmni lofnodi'r cais sydd i fod ar Ffurflen 43(3), gan gyflwyno hefyd y canlynol:
Yn ychwanegol at y gofynion uchod, mae’n rhaid i gwmni preifat sy’n ceisio ailgofrestriad fel cwmni cyhoeddus feddu, adeg mabwysiadu’r penderfyniad arbennig i ailgofrestru, ar gyfalaf cyfrannau clustnodedig sydd â gwerth nominal o nid llai na £50,000 neu €65,600. Rhaid i bob un o’r cyfrannau clustnodedig fod wedi ei thalu hyd at chwarter y gwerth nominal, ynghyd â’r premiwm cyfan os oes un. Os dymunwch ailgofrestru’n gwmni cyhoeddus ac os byddwch yn dewis bodloni’r rheidrwydd cyfalaf cyfrannau isaf drwy ewros yn hytrach nag arian sterling, mae angen gwneud y dewis hwn drwy fabwysiadu Ffurflen 43(3). I gynorthwyo ymgeiswyr, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynhyrchu fersiwn diwygiedig o Ffurflen 43(3) (ar gael ar-lein) sy’n cydymffurfio â’r rheidrwydd i wneud dewis penodol i ddefnyddio ewros. Ffurflen benodedig 43(3) heb ei haddasu yw’r ffurflen briodol i’w defnyddio o hyd ar gyfer cwmnïau sy’n bodloni’r rheidrwydd cyfalaf cyfrannau isaf drwy arian sterling. Yn ychwanegol at yr uchod, mae'n rhaid i gwmni anghyfyngedig:
2. A all cwmni cyhoeddus droi'n gwmni preifat? Gall. Caiff cwmni cyhoeddus ailgofrestru’n gwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau neu drwy warant, drwy fabwysiadu penderfyniad arbennig i wneud felly. Ond os bydd digon o aelodau’n gwrthwynebu mabwysiadu’r penderfyniad, gallant wneud cais i’r Llys (o dan adran 54 o Ddeddf Cwmnïau 1985) am ddileu’r penderfyniad. Bydd angen gwneud y cais hwn o fewn 28 diwrnod i fabwysiadu’r penderfyniad. Gall y Llys naill ai dileu neu gadarnhau’r penderfyniad arbennig wrth wrando cais o’r fath. Rhaid i’r cais a gaiff ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau am ailgofrestriad fod ar Ffurflen 53.Rhaid cyflwyno gyda’r Ffurflen 53 gopïau o’r penderfyniad, ac o femorandwm ac erthyglau cymdeithasiad y cwmni fel y cawsant eu haddasu i gwrdd ag amgylchiadau newydd y cwmni. Gall y Llys hefyd orchymyn i gwmni cyhoeddus ailgofrestru’n un preifat wrth gymeradwyo ‘cofnod lleihau’ yng nghyswllt y cyfalaf cyfrannau sy’n golygu bod y cyfalaf cyfrannau dosbarthedig yn syrthio islaw’r isafswm statudol. Mewn achos o’r fath bydd y Llys hefyd yn pennu diwygiadau i femorandwm ac erthyglau cymdeithasiad y cwmni. Nid yw penderfyniad arbennig i ailgofrestru yn ofynnol yn yr amgylchiadau hyn. Fel arall, efallai y bydd yn rhaid i gwmni cyhoeddus ailgofrestru’n breifat os bydd i’w gyfalaf cyfrannau clustnodedig ddisgyn islaw’r lleiafswm statudol drwy ryw ddull arall ar wahân i Orchymyn Llys. Mae dulliau eraill yn cynnwys fforffedu, ildio neu feddiannu cyfrannau. 3. Beth yw cost ailgofrestru (i gwmnïau heb gynnwys cwmnïau Buddiant Cymunedol)? Y ffi safonol am ailgofrestru yw £20, neu £50 am wasanaeth premiwm yr un diwrnod. Os yw’r cwmni’n ailgofrestru ac yn newid enw yr un pryd, bydd ffi ychwanegol o £10 am newid enw hefyd yn daladwy, felly'r ffi gyfan fydd £30 (neu £100 am wasanaeth premiwm yr un diwrnod).Yn gryno, y ffioedd yw:
Byddai dileu’r geiriau ‘cwmni’ neu ‘a’r cwmni’ (neu eu talfyriadau neu’r geiriau Saesneg cyfatebol) o enw’r cwmni fel arfer yn golygu newid enw. Ond nid yw hyn yn wir wrth ailgofrestru. Os bydd gennych chi unrhyw amheuon ynglŷn â’r ffi briodol, cysylltwch â ni ar 0303 123 4500. 4. A all cwmni presennol droi'n Gwmni Buddiant Cymunedol? Gall, fe all cwmni presennol wneud cais i’r Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol am droi’n Gwmni Buddiant Cymunedol. Am fanylion pellach, cyfeiriwch at wefan y Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn www.cicregulator.gov.uk. 5.Beth yw ffioedd Cwmnïau Buddiant Cymunedol? Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn casglu ffioedd ar ran y Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol. Y ffioedd ar gyfer Cwmnïau BC yw:
Sylwer nad yw gwasanaeth yr un diwrnod ar gael i gwmnïau Buddiant Cymunedol. Pennod 5 Rhaid i gwmni nodi ei enw (fel yr ymddengys yn ei femorandwm cymdeithasiad) yn ei swyddfa gofrestredig ac weithiau mewn swyddfeydd eraill ac ar bob cyfathrebiad. Rhaid i’r cwmni hefyd roi gwybodaeth arbennig arall ar ei holl lythyrau busnes, ffurflenni archebu a gwefannau. Cyflwynodd Rheoliadau Cwmnïau (Datgeliadau Masnachu) (Offeryn Statudol 2008/495) nifer o newidiadau i’r gofynion presennol o ran datgelu masnachol o 1 Hydref 2008 ymlaen. 1. Ble a sut mae'n rhaid dangos enw'r cwmni? Rhaid i gwmni ddangos ei enw:
Cyfeiriwch at Reoliadau Cwmnïau (Datgeliadau Masnachu) 2008 (Offeryn Statudol 2008/495). Rhaid i’r enw fod mewn arwyddnodau y gall y llygad noeth eu darllen a chael ei arddangos yn gyson. O 1 Hydref 2008 ymlaen, lle caiff y swyddfa, y man neu’r lleoliad ei rannu gan chwech neu ragor o gwmnïau, dim ond am o leiaf 15 eiliad yn ddi-dor o leiaf unwaith bob tair munud y mae’n rhaid i bob cwmni ddangos ei enw cofrestredig (diben hyn yw caniatáu arddangosiadau electronig sydd ag enwau eiledol). 2. Oes rhaid imi ddangos unrhyw fanylion cwmni eraill? Oes. Ar ei holl lythyrau busnes, ffurflenni archebu (p’un ai fel copi caled, ar ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall) a gwefannau’r cwmni, mae'n rhaid i'r cwmni ddangos mewn ysgrifen ddarllenadwy: (a) y rhan o'r Deyrnas Unedig lle cafodd y cwmni ei gofrestru, sef:
(b) rhif cofrestru’r cwmni; (c) Cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni. Os bydd llythyr busnes, ffurflen archebu neu unrhyw wefannau sydd gan y cwmni yn sôn am fwy nag un cyfeiriad, argymhellir eich bod yn nodi p'un o'r cyfeiriadau yw cyfeiriad y swyddfa gofrestredig. 3. Oes yna ofynion ychwanegol? Rhaid i rai mathau o gwmni ddangos yr wybodaeth ychwanegol ganlynol ar eu llythyrau busnes, ffurflenni archebu (boed ar gopi caled, ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall) ac ar wefannau:
4. Oes rhaid imi ddangos enwau cyfarwyddwyr? Does dim rhaid i gwmni nodi enwau'r cyfarwyddwyr ar ei lythyrau busnes, ond os dewisa wneud hynny, rhaid iddo nodi enw pob cyfarwyddwr. Mewn geiriau eraill, ni all cwmni fod yn ddetholus o ran enwau pa gyfarwyddwyr y bydd yn eu dangos – rhaid iddo eu dangos i gyd neu ddim un. 5. Oes yna reolau arbennig i gwmnïau elusennol? Mae adran 68 o Ddeddf Elusennau 1993 yn darparu bod rhaid i gwmni elusennol nad yw ei enw'n cynnwys y gair 'elusen' ('charity') neu 'elusennol' ('charitable') nodi'r ffaith mai elusen ydyw ar bob dogfen gwmni, gan gynnwys llythyrau busnes, hysbysiadau, anfonebau, biliau cyfnewid, addawebau ac ar unrhyw drawsgludiadau y bydd yn eu cyflawni. Y ddeddfwriaeth berthnasol yn yr Alban yw Deddf Buddsoddiadau Elusennau ac Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005. 6. Ydy'r rheolau'n gymwys i gwmnïau tramor? Mae’n rhaid i gwmni a gafodd ei ffurfio y tu allan i Brydain Fawr ac sy’n agor cangen neu le busnes ym Mhrydain Fawr gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau a rhaid iddo arddangos yn gyhoeddus fanylion tebyg i’r rhai sydd wedi eu nodi yn y bennod hon. Rhestrir manylion llawn yn ein canllaw 'Oversea Companies' yn www.companieshouse.gov.uk 7. Beth os yw'r cwmni'n cael ei ddirwyn i ben? Os yw’r cwmni’n cael ei ddirwyn i ben neu yn nwylo’r gweinyddydd neu’r derbynnydd neu fod moratoriwm mewn grym yng nghyswllt ei ddyledion, rhaid i bob anfoneb, archeb nwyddau, llythyr busnes neu ffurflen archebu (boed ar gopi caled, ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall) gynnwys datganiad bod y cwmni yn cael ei ddirwyn i ben. 8. Oes rhaid i’r enw cyhoeddedig fod yn hollol yr un fath ag enw cofrestredig y cwmni? Caniateir mân amrywiadau yn ffurf yr enw, gan gynnwys llythrennau bach a mawr, defnydd atalnodi, acenion ac ati, a fformadu. Ond mae’n rhaid i’r gwahaniaethau beidio ag arwain at beryg dryswch. 9. Pa wybodaeth y mae’n ofynnol i’r cwmni ei datgelu wrth gael cais ysgrifenedig? O 1 Hydref 2008 ymlaen, gall rhywun sy’n delio â chwmni gyflwyno cais ysgrifenedig am i’r cwmni ddatgelu cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, unrhyw le archwilio (neu fan arall lle cedwir cofnodion y cwmni) a’r math o gofnodion cwmni a gedwir yn y swyddfa honno neu’r lle hwnnw. Rhaid i’r cwmni anfon ateb ysgrifenedig at y person hwnnw o fewn pum diwrnod gwaith i dderbyn y cais dan sylw. 10. Beth os bydd y cwmni’n methu cydymffurfio â’r gofynion datgelu hyn? Bydd y cwmni a phawb o’i swyddogion sy’n methu cydymffurfio yn cyflawni tramgwydd a gallant fod yn agored i gael dirwy. Ond o 1 Hydref 2008 ymlaen, fe ddileir atebolrwydd sifil personol y swyddogion o dan Ddeddf Cwmnïau 1985. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd swyddog cwmni yn llofnodi siec ar ran y cwmni yn groes i’r gofynion datgelu, na fydd mwyach yn bersonol atebol i ddygiedydd y siec am unrhyw arian. Pennod 6 Mae gan gyfarwyddwyr cwmni gyfrifoldeb personol am drefnu i wybodaeth am fframwaith cyfalaf, rheolaeth a gweithgareddau eu cwmnïau fod ar gael i aelodau'r cwmni ac i'r cyhoedd yn gyffredinol. 1. A fydd rhaid imi baratoi cyfrifon cwmni? Bydd. I bob cwmni sydd ag atebolrwydd wedi ei gyfyngu, nodwedd bwysig ar y gyfraith gwmnïau yw’r rheidrwydd, at ei gilydd, i gyfarwyddwyr y cwmni baratoi cyfrifon ac anfon copi i Dŷ’r Cwmnïau i’w gynnwys ar y gofrestr gyhoeddus. Mae darpariaethau gwahanol (a mwyafrif y rheiny i’w cael bellach yn Neddf Cwmnïau 2006 a’r rheoliadau a wnaed o dani) o ran diwyg priodol eich cyfrifon. Ni all Tŷ’r Cwmnïau gynghori ynghylch cynnwys cyfrifon cwmnïau. Argymhellwn, felly, fod cwmnïau’n ceisio cyngor proffesiynol wrth baratoi cyfrifon. Rhaid i bob cwmni cyhoeddus a phob cwmni cyfyngedig preifat ffeilio cyfrifon, ac o dan rai amgylchiadau mae’n rhaid hefyd i gwmnïau anghyfyngedig ffeilio cyfrifon. Fe welwch chi wybodaeth bellach yn ein canllaw ‘Cyfrifon a Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg’ yn www.companieshouse.gov.uk 2. Pa gyfnod y dylai'r cyfrifon ei fodloni? Rhaid i gyfrifon cynta’r cwmni ddechrau ar ddydd ei ffurfio. Rhaid i'r flwyddyn ariannol gyntaf ddod i ben ar y 'dyddiad cyfeirnod cyfrifeg' (DCC) neu ar ddyddiad hyd at saith diwrnod y naill ochr neu'r llall i'r dyddiad hwn (gweler cwestiwn 3 isod). Bydd cyfrifon olynol yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad diwedd-blwyddyn y cyfrifon blaenorol. Deuant i ben ar y 'dyddiad cyfeirnod cyfrifeg' nesaf neu ar ddyddiad hyd at saith diwrnod y naill ochr neu'r llall. 3. Sut pennir y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yw’r dyddiad a ddefnyddir bob blwyddyn i bennu blwyddyn ariannol y cwmni. I bob cwmni newydd, caiff y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf ei bennu’n awtomatig fel blwyddyn ar ôl dydd ola’r mis y ffurfiwyd y cwmni. Bydd y dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg olynol ar yr un dydd bob blwyddyn yn awtomatig. Er enghraifft, os cafodd y cwmni ei ffurfio ar 6 Ebrill 2008, pennid 30 Ebrill 2009 yn ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddo, a 30 Ebrill bob blwyddyn wedyn. 4. Oes modd newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Oes. Y ffordd gyflymaf a hawsaf i newid eich DCC yw drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing a WebFiling. Fel arall, gallwch chi anfon ffurflen newid DCC (Ffurflen 225) i Dŷ’r Cwmniau. Rhaid ichi wneud hyn o fewn y cyfnod cyfrifeg yr effeithir arno gan y newid neu yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno'r cyfrifon cysylltiedig inni. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw www.companieshouse.gov.uk 5. Faint o amser sydd gen i i gyflwyno cyfrifon? Mae hyn yn dibynnu ar y “cyfnod cyfeirnod cyfrifeg”, sef y cyfnod o 12 mis yn dod i ben ar bob dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Ar gyfer cyfrifon sy’n dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008: (a) Mae'n rhaid cyflwyno cyfrifon cyntaf cwmni preifat:
(b) Rhaid cyflwyno cyfrifon cyntaf cwmni cyhoeddus:
Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau cyn 6 Ebrill 2008, gweler ein canllaw ‘Cyfrifon a Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg’ yn www.companieshouse.gov.uk/about/gbhtml/gba3.shtml. 6. Beth am y ffurflen flynyddol? Rhaid i bob cwmni gyflwyno ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmniau o leiaf unwaith bob 12 mis. Dyma ddogfen fydd yn rhoi gwybodaeth neilltuol am faterion y cwmni ar ddyddiad arbennig yn y flwyddyn, a elwir yn ‘ddyddiad cyfreithiol cyfleu manylion’. Mae gan y cwmni 28 diwrnod o’i ddyddiad cyfreithiol cyfleu-manylion i gyflwyno’r ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau. Am wybodaeth bellach, gweler ein canllaw "Ffurflenni Flynyddol" yn www.companieshouse.gov.uk.7. Beth arall sy'n rhaid imi ei ddweud wrth Dŷ'r Cwmnïau? Dyma rai o'r pethau pwysig y mae'n rhaid ichi ddweud wrthym amdanynt. Yn y mwyafrif o achosion, bydd terfyn amser ar gyfer hysbysu Tŷ’r Cwmnïau am y newid perthnasol ac mae ffurflen wedi ei chreu’n arbennig ichi ei defnyddio i roi gwybod inni am y newid. Mae hyn yn cynnwys: (a) Rhoi gwybod am newid cyfarwyddwr/cyfarwyddwyr ac ysgrifennydd, o fewn 14 diwrnod, ar gyfer: Penodiadau (Ffurflen 288), terfyniadau (Ffurflen 288b) a newid manylion personol swyddogion cwmni (Ffurflen 288c). Mae ffeilio’r ffurflenni hyn yn llawer cyflymach os defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling. (b) Cyfrannau: Manylion cyfrannau newydd sy'n cael eu clustnodi, o fewn mis. Defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu Webfiling (neu Ffurflen 88(2)). Gweler ein canllaw 'Cyfalaf Cyfrannau a Llyfrynnau Prosbectws' am ragor o wybodaeth. (c) Penderfyniadau: Unrhyw benderfyniad arbennig a rhai mathau o benderfyniad arferol (p’un a gaiff ei fabwysiadu mewn cyfarfod neu yn ysgrifenedig), o fewn 15 diwrnod i’r cwmni ei fabwysiadu. Does dim ffurflen benodedig ar gyfer penderfyniad ond bydd angen inni gael copi o’r penderfyniad. Mae gwybodaeth bellach am benderfyniadau cwmni i’w chael yn ein canllaw ‘Penderfyniadau’ yn www.companieshouse.gov.uk Lle bo penderfyniad yn newid memorandwm neu erthyglau cymdeithasiad y cwmni, mae’n rhaid hefyd anfon copi o’r ddogfen ddiwygiedig yr un pryd â’r penderfyniad. (d) Arwystlon: Manylion arwystlon a gaiff eu creu gan y cwmni, o fewn 21 diwrnod ar ôl dyddiad creu’r arwystl. Gweler ein canllaw 'Arwystlon a Morgeisiau Cwmni' neu ar gyfer cwmnïau Albanaidd 'Company Charges (Scotland)' yn www.companieshouse.gov.uk Gall cais am gofrestru arwystl gael ei wneud gan unrhyw bersonau sydd â buddiant ar wahân i’r cwmni sy’n ddarostyngedig i’r arwystl: er enghraifft, banc sy’n rhoi benthyg arian ac sy’n dal budd yr arwystl. (e) Cyfeiriad y swyddfa gofrestredig: Newid swyddfa gofrestredig. Defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling (neu Ffurflen 287). Sylwer nad yw’r newid cyfeiriad yn dod i rym cyfreithiol nes i Dŷ’r Cwmnïau gofrestru’r hysbysiad sy’n cadarnhau’r newid. Caiff pobl eraill barhau i anfon gohebiaeth a hysbysiadau, ac ati, i’r hen gyfeiriad am hyd at 14 diwrnod ar ôl y cofrestru. 8. Beth yw PROOF? Ystyr hyn yw cynllun PROOF (PROtected On-line Filing) y Cofrestrydd. Mae'n cynnig diogelwch ychwanegol gyda golwg ar gyflwyno manylion cyfarwyddwyr a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig ar gyfer dogfennau a gaiff eu hanfon yn electronig. Mae cyfarwyddwyr yn dal safle pwysig o fewn y cwmni: mae ganddyn nhw'r pŵer i brynu, a gwneud trefniadau credyd ar ran y cwmni. Yn yr un modd, mae cyfeiriad y swyddfa gofrestredig yn bwysig am mai dyma lle'r anfonir pob gohebiaeth swyddogol. Caiff cofnodion Tŷ'r Cwmnïau eu defnyddio weithiau i wirio cyfreithlonrwydd cwmni a'i gyfarwyddwyr cyn caniatáu credyd neu fenthyciadau, felly mae'n bwysig bod y cofnodion yn gywir. Bydd cwmnïau'n agored i dwyll ariannol os caiff y bobl anghywir eu cynnwys ar y cofnod fel cyfarwyddwyr cwmni neu os caiff cyfeiriad swyddfa gofrestredig ffug ei ffeilio. I atal twyllwyr rhag ymhonni’n gyfarwyddwyr cyfreithlon, mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynnig i gwmnïau system ddiogel a chwbl electronig yn rhad ac am ddim ar gyfer rhoi gwybod am newidiadau o ran cyfarwyddwyr a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Os dewiswch chi roi gwybod am y manylion hyn drwy’r dull electronig yn unig, fe gânt eu diogelu drwy godau electronig ac ni fyddwn yn derbyn hysbysiadau gan eich cwmni wedi eu cyflwyno ar unrhyw ddiwyg arall. I fanteisio ar y gwasanaeth hwn, bydd angen yn gyntaf ichi gofrestru drwy'n gwasanaeth WebFiling i gael côd diogelwch a chôd dilysu fel y gall eich cwmni ffeilio'n electronig. I ddysgu mwy am hyn, ymwelwch â'n gwefan yn www.companieshouse.gov.uk. Yna, bydd angen ichi lenwi ffurflen 'Opt-in' (PR1) a chytuno â'r amodau a'r telerau fel mai dim ond pan gânt eu cyflwyno drwy'r dull electronig diogel, a byth ar ffurflen bapur, y bydd Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn unrhyw newidiadau o ran cyfarwyddwyr neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Mae’r ffurflen ‘Opt-in’ a’r amodau a’r telerau ar gael drwy’n gwefan neu drwy ffonio 0303 123 4500. Ar ôl ei llenwi, bydd raid postio’r ffurflen yn ôl i Dŷ’r Cwmnïau. Mae’r gwasanaeth hwn yn wirfoddol; gallwch chi ddewis peidio â chymryd rhan ar unrhyw adeg a bydd Tŷ’r Cwmnïau yn mynd yn ôl i dderbyn hysbysiadau’ch cwmni wedi eu cyflwyno’n electronig neu ar ffurflenni papur. 9. Beth fydd Tŷ'r Cwmnïau yn ei wneud â'r wybodaeth gaiff ei hanfon gan fy nghwmni? Rhaid i Dy’r Cwmniau drefnu i'r wybodaeth a ddaliwn am gwmnïau cofrestredig fod ar gael i unrhyw un sydd am ei gweld. Unwaith bod y dogfennau wedi eu prosesu, fe ymddangosant fel delwedd ar ein cronfa ddata at ddefnydd chwilwyr. Fodd bynnag, bydd rhywfaint o wybodaeth heb fod ar gael i’r cofnod cyhoeddus, megis cyfeiriad preswyl arferol unigolion sy’n fuddiolwyr Gorchymyn Cyfrinachedd. . 10. Beth sy'n digwydd os nad anfona i'r wybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau mewn pryd? Os cyflwynwch eich cyfrifon yn hwyr, mae cosb awtomatig. Bydd y gosb hon rhwng £100 a £1,000 ar gyfer cwmni preifat a rhwng £500 a £5,000 ar gyfer cwmni cyhoeddus, yn ôl pa mor hwyr y bydd eich cyfrifon yn dod i law. Bydd y ffigurau hyn yn cynyddu o 1 Chwefror 2009 ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth am gosbau ffeilio hwyr i'w chael yn ein canllaw www.companieshouse.gov.uk.Yn ychwanegol, gellir erlyn cyfarwyddwyr am beidio â ffeilio dogfennau arbennig. O'u collfarnu, bydd ganddynt record droseddu a byddant yn agored i'w dirwyo hyd at £5,000 am bob tramgwydd. Mewn rhai enghreifftiau, gellid hefyd eu gwahardd rhag dal swydd cyfarwyddwr cwmni neu gymryd rhan yn rheolaeth unrhyw gwmni am gyfnod penodedig. Mae'n hawdd colli ffydd mewn cwmni nad yw'n cwrdd â'i rwymedigaethau cyfreithiol. Os na ddywedwch wrthym am gyflwr ariannol eich cwmni yn brydlon, ac os na chyflwynwch fanylion am newidiadau, ni fydd y sawl sydd am wneud busnes â chi yn cael mantais yr wybodaeth ddiweddaraf am eich cwmni. 11. Beth os na fydd y cwmni'n llwyddo neu na fydd arna i ei angen mwyach? Gall cwmnïau preifat sydd heb fasnachu na dilyn busnes mewn ffordd arall ers o leiaf tri mis wneud cais i'r Cofrestrydd am gael eu dileu o'r gofrestr. Am ragor o wybodaeth ynghylch hyn, gweler ein canllaw 'Dileu o'r Gofrestr, Diddymu ac Adfer' neu ar gyfer cwmnïau Albanaidd ‘Strike-off, Dissolution and Restoration (Scotland)' yn www.companieshouse.gov.uk Nid yw hyn yn drefn yn lle gweithrediadau ansolfedd ffurfiol lle bo'r rheiny'n briodol - gweler ein canllaw Ymddatod ac Ansolfedd' neu ar gyfer cwmnïau Albanaidd ‘Liquidation and Insolvency (Scotland)’ yn www.companieshouse.gov.uk Pennod 7 Bydd ein staff yng Nghaerdydd a Chaeredin yn gallu’ch cynghori ynghylch materion yn gyffredinol, ond wrth ddechrau cwmni mae’n bwysig gwneud pethau’n iawn. Fel na fyddwch chi’n gwneud camgymeriadau a allai droi’n gostus, peth doeth, efallai, yw ymgynghori â chyfreithiwr, asiant ffurfio cwmnïau, ysgrifennydd siartredig neu gyfrifydd fel sy’n briodol. Fe welir y cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau. Am ymholiadau ynghylch Cwmnïau Buddiant Cymunedol, ymwelwch â’r wefan cwmnïau BC yn www.cicregulator.gov.uk.2. Sut mae anfon gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau? Y ffordd fwyaf diogel i anfon gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw defnyddio’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru, edrychwch ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk.Gallwch chi gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy’r drefn DX, drwy negesydd neu’n bersonol (gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos) i’n swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin. Gallwch chi hefyd anfon dogfennau i’n swyddfa yng Nghaeredin drwy’r Post Cyfreithiol (LP). Sylwer mai dim ond yn ein swyddfa yng Nghaerdydd y gellir cael derbynebau i tu allan i oriau swyddfa. Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy wasanaeth DX neu LP a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, rhaid amgáu copi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch chi. Sylwer nad yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn anfon nodyn cydnabod awtomatig drwy’r e-bost ar gyfer pob cyflwyniad a wneir o dan drefn WebFiling, gyda neges e-bost ddiweddarach yn dangos a gafodd y cyflwyniad ei dderbyn neu ei wrthod. 3. Ga i ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill? Yn gyffredinol, mae’r dogfennau sy’n cael eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau yn gorfod bod yn Saesneg. Er hynny, gall dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau Cymreig - sef, cwmnïau y dywed eu memoranda fod rhaid i’w swyddfa gofrestredig fod yng Nghymru - gael eu llunio a’u cyflwyno yn Gymraeg. Caiff cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os bydd cyfieithiad Saesneg ardystiedig yn cael ei hanfon gyda nhw:
Caiff cwmnïau hefyd ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sy’n dod o dan y gofynion yn y Gyfarwyddeb gyntaf ar ddatgelu. Mae hyn yn cynnwys:
4. Ble galla i gael ffurflenni a chanllawiau? Mae Ffurflenni statudol a chanllawiau ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ'r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i'w sicrhau yw drwy'n gwefan www.companieshouse.gov.uk neu drwy ffonio 0303 123 4500. Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau. |
|||||||||||||||||||||||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|