Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni

Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnïau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnïau
Llyfrgell
Canllaw
Cyfathrebu yn Gymraeg
Amrywiol
Dogfennau Polisi


Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)

Enwau Cwmni - GBF2

Tachwedd  2007 Fersiwn 17 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmniau 2006

Cynnwys

0Brig
Cyflwyniad

Mae'r llyfryn hwn yn egluro:
  • y rheolau a'r cyfyngiadau o ran defnyddio enwau cwmni wrth sefydlu'r cwmni ac wrth newid enw;
  • pryd na fydd Tŷ'r Cwmnïau'n cofrestru enw cwmni a phryd y bydd angen cyfiawnhau defnyddio geiriau neu ymadroddion sensitif neu angen cymeradwyaeth flaenorol awdurdod cydnabyddedig;
  • pryd y gallwch wrthwynebu cofrestru enw cwmni arbennig, a hefyd beth y gallwch ei wneud os gwrthwynebwyd enw'ch cwmni a'ch bod yn cael eich cyfarwyddo gan yr Ysgrifennydd Gwladol i newid yr enw;
  • sut i newid enw cwmni, ond nid sut i ffurfio cwmni (ar gyfer hyn, gweler ein llyfryn 'Ffurfio Cwmnïau').
Bydd y llyfryn hefyd o fudd i bartneriaethau heb eu corffori ac unig fasnachwyr sy'n defnyddio enw busnes, i gwmnïau a gorfforwyd dramor gan fasnachu o gyfeiriad ym Mhrydain, i gwmnïau buddsoddi penagored, grwpiadau buddiannau economaidd Ewropeaidd a phartneriaethau cyfyngedig.


Fe welwch y gyfraith berthnasol yn Neddf Cwmnïau 1985 (fel y'i diwygiwyd ym 1989 ac wedyn) ac yn y Rheoliadau Enwau Cwmni a Busnes (fel y'u diwygiwyd). Gyda golwg ar gymdeithasau cyfunddaliad a chwmnïau hawl i reoli, ceir cyfyngiadau pellach yn Rheoliadau cyfunddaliad 2004, Rheoliadau (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad) Cwmnïau Hawl i Reoli (Cymru) 2004, a Rheoliadau (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad) Cwmnïau Hawl i Reoli (Lloegr) 2003.Gyda golwg ar gwmnïau buddiant cymunedol (cwmnïau BC), mae cyfraith berthnasol Deddf Cwmnïau (Archwilio Ariannol, Ymchwiliadau a Menter Gymunedol) 2004 wedi ei chyfeirnodi ar y wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk

0Brig
PENNOD 1
Dewis enw cwmni


1. Alla i ddewis unrhyw enw a fynna i i'm cwmni?

Na allwch. Gall sawl rheoliad effeithio ar eich dewis. Er enghraifft, rhaid i bob enw cwmni ddiweddu yn y geiriau `Cyfyngedig', `Anghyfyngedig', `Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus', neu eu talfyriadau neu'r geiriau Saesneg cyfatebol. Caiff rhai cwmnïau wneud cais am gael eu heithrio rhag defnyddio'r gair `cyfyngedig' - gweler pennod 4 am ragor o fanylion.

Rhaid i enw pob cwmni sy’n gymdeithas cyfunddaliad ddiweddu yn ‘cymdeithas cyfunddaliad gyfyngedig’ neu’r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg. Rhaid i enw pob cwmni hawl i reoli ddiweddu yn ‘cwmni hawl i reoli cyfyngedig’ neu’r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg.

Rhaid i bob cwmni sy’n gwmni buddiant cymunedol (cwmnïau BC) fod ag enwau sy’n diweddu â’r geiriau ‘cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig cyhoeddus’, ‘cwmni buddiant cymunedol’ neu’r talfyriadau perthnasol neu’r Saesneg cyfatebol.

2. A ellid gwrthod yr enw a ddewisais?

Gellid:
  • os yw un fath' ag enw sydd eisoes ar y mynegai - gweler cwestiwn 3 isod;
  • os yw'n cynnwys y geiriau 'cyfyngedig' 'anghyfyngedig' neu 'cwmni cyfyngedig cyhoeddus' neu ‘cwmni buddiant cymunedol’ unrhyw le arall ond ar ddiwedd yr enw. Mae hyn yr un mor wir am dalfyriadau neu fersiynau Saesneg y geiriau;
  • os yw’n diweddu yn ‘cymdeithas cyfunddaliad gyfyngedig’ neu’r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg (oni bai bod y cwmni yn gymdeithas cyfunddaliad);
  • os yw’n diweddu mewn ‘cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig cyhoeddus’, ‘cwmni buddiant cymunedol’ (neu’r talfyriadau perthnasol neu’r Saesneg cyfatebol) oni bai bod y cwmni yn gwmni buddiant cymunedol;
  • os yw’n cynnwys unrhyw le o’i fewn unrhyw un o’r canlynol:
    • ‘cwmni buddsoddi gyda chyfalaf amrywiol’ (neu’r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg);
    • cwmni buddsoddi penagored’ (neu’r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg);
    • ‘partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig’ (neu’r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg);
    • ‘SE’ (neu’r talfyriad SE rhwng cromfachau neu gydag atalnodi arall cyn neu ar ôl y talfyriad). Am ragor o wybodaeth, gweler ein llyfryn The European Company: Societas Europaea (SE);
  • os yw'n sarhaus;
  • os byddai ei ddefnyddio'n dramgwydd troseddol.
Yn ogystal, mae eisiau cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i rai enwau cyn bod modd eu cofrestru. Ymhlith y rhain mae enwau sy'n cynnwys geiriau a bennwyd o dan y rheoliadau (gweler cwestiwn 4 isod) ac enwau sy'n awgrymu cysylltiad â llywodraeth ganolog neu leol.

Os osgoir y categorïau hyn, cewch fel arfer ddefnyddio'r enw a ddewiswyd gennych.

Cyn gwneud cais am sefydlu cwmni, neu cyn gwneud unrhyw beth i newid ei enw, syniad da yw chwilio mynegai Tŷ’r Cwmnïau er mwyn cael gweld a oes cwmnïau sy’n bod yn barod o dan enw tebyg i’r un a ddymunwch. Os byddwch yn amau, ffoniwch ni ar 0870 3333636 neu archwilio’r mynegai cwmnïau ar y wefan yn www.companieshouse.gov.uk.

3. Beth yw ystyr 'yr un fath'?

Wrth benderfynu a yw enw `yr un fath' ag enw arall, bydd y Cofrestrydd yn anwybyddu atalnodi, statws y cwmni, `y/yr' ar ddechrau'r enw a geiriau fel `cwmni' neu `a'r cwmni'. Gellir derbyn enw sy'n swnio yr un fath ag un sydd eisoes ar y Mynegai Enwau Cwmni os yw'r ddau enw wedi eu sillafu'n wahanol.

Er enghraifft, os yw'r enw 'Diacen Cyfyngedig' wedi ei gofrestru'n barod, yna fe wrthodid y canlynol:

  • Diacen Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (neu CCC)
  • D ac N Cyfyngedig (neu Cyf)
  • D ac N Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (neu CCC)
  • D & N Cyfyngedig (neu Cyf)
  • unrhyw rai o'r uchod, gyda'r geiriau `Cwmni' neu `a'r Cwmni' wedi eu hychwanegu.
Er y gall enw cwmni fod yn ddigon wahanol i enw sydd eisoes ar y Mynegai i ganiatáu ei gofrestru, hwyrach na fydd hynny'n ddigon i osgoi ystyried yr enwau'n 'rhy debyg' i'w gilydd os cyflwynir gwrthwynebiad ar ôl corffori'r ail gwmni. Mewn enghreifftiau o'r fath, gellid cyfarwyddo'ch cwmni i newid ei enw - gweler pennod 5.


Dylech fod yn ymwybodol, os mabwysiadwch enw sy'n camarwain y cyhoedd i gredu bod eich busnes chi yn dilyn yr un gweithgarwch â busnes arall - er enghraifft, masnachu'n siop adrannol o dan yr enw 'Harrods' - yna fe allai'r person y gwnaethoch effeithio ar ei fusnes/busnes ddwyn achos yn eich erbyn am ymhonni'. Nid yw cofrestru enw gyda Thŷ’r Cwmnïau yn warant eich bod yn ddiogel rhag gweithredu o’r fath.

Hefyd, os oes nod masnach wedi’i gofrestru neu gais am gofrestru nod masnach neu sy’n cynnwys nod masnach wedi’i wneud a hwnnw’n nod masnach cofrestredig sydd yr un fath â’r enw cwmni neu’n debyg iddo, fe allech chi wynebu achos cyfreithiol am dorri’r nod masnach. Oherwydd hynny, mae’n ddoeth ymgynghoriâthwrnai nodau masnach neu gyfreithiwr cyn defnyddio’r enw thwrnai nodau masnach neu gyfreithiwr cyn defnyddio’r enw. I ddod o hyd i dwrnai nodau masnach, cysylltwch â Sefydliad y Twrneiod Nodau Masnach ar 020 8686 2052 neu edrychwch ar www.itma.org.uk. I ddod o hyd i gyfreithiwr, cysylltwch â Chymdeithas y Cyfreithwyr ar 0870 606 6575 neu edrychwch ar www.lawsociety.org.uk.

Gallwch edrych hefyd ar y Gofrestr Nodau Masnach yn y Swyddfa Eiddo Deallusol cyn ichi gofrestru enw yn Nhŷ’r Cwmnïau. Hyd yn oed os na fydd Tŷ’r cwmnïau’n gwrthwynebu’ch enw ar y sail ei fod yn “rhy debyg” , ni fydd hynny yn amddifyniad ichi yn erbyn unrhyw hawliad yn nes ymlaen yng nghyswllt tor-nod masnach neu ymhonni. Arnoch chi y bydd y cyfrifoldeb i gadarnhau bod yr enw yn rhydd i gael ei ddefnyddio.

I gael rhagor o gyngor, gan gynnwys sut i chwilio’r Gofrestr Nodau Masnach, cysylltwch â Chofrestrfa Nodau Masnach Swyddfa Eiddo Deallusol y DU (UK-IPO) ar e-bost: enquiries@ipo.gov.uk

Gwefan: www.ipo.gov.uk

Ffôn: 08459 500 505

Mae cofrestru enw'n atal cwmni cyfyngedig arall rhag bod â'r un enw, ond nid yw'n atal defnyddio'r enw fel enw masnachu neu enw busnes, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd uchod.

Newidiodd y Swyddfa Batentau ei henw i Swyddfa Eiddo Deallusol y DG (UK-IPO) ar 2 Ebrill 2007.



4. Pa enwau sydd angen cymeradwyaeth?

Yr enwau sydd angen cymeradwyaeth yw'r rhai sy'n cynnwys geiriau neu ymadroddion a nodir o dan reoliadau statudol ac enwau sy'n rhoi'r argraff bod y cwmni'n gysylltiedig â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu ag awdurdod lleol. Gwelir rhestri llawn o'r geiriau 'sensitif ' yn Atodiadau A, B ac C, a rhoir gwybodaeth bellach am eiriau sensitif ym mhennod 3.

Enwau sy'n awgrymu gweithgarwch bancio
Yn sgil dirymu Deddf Bancio 1987, nid oes eisiau cymeradwyaeth mwyach ar gyfer enwau cwmni sy'n cynnwys bank, banker, banking neu deposit. Ond mae defnyddio geiriau sy'n awgrymu gweithgarwch bancio yn cyfleu'r syniad bod y person sy'n defnyddio'r enw yn dilyn busnes bancio a chan hynny yn derbyn adneuon - gweithgarwch sydd wedi ei reoleiddio o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000. Felly, byddai angen yn arferol i'r person fod yn 'berson awdurdodedig' neu fod wedi ei (h)eithrio o dan y Ddeddf.

Gall defnydd enw bancio gan rywun nad yw wedi ei (h) awdurdodi na'i (h)eithrio o dan y Ddeddf fod yn arwyddocaol o ran penderfynu a gyflawnwyd tramgwydd o dan adran 24 o'r Ddeddf. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gallai'r person brofi nad yw'r ffordd y mae'n dilyn y busnes yn golygu bod y rhai sy'n delio ag ef/â hi yn cymryd ei bod/fod yn berson awdurdodedig.

Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod penderfyniad gennym ni i gofrestru enw bancio penodol yn golygu na fyddai ei ddefnyddio o dan amgylchiadau arbennig yn groes i adran 24. Os ydych yn ansicr, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

5. Beth os oes eisiau cymeradwyaeth i'r enw a ddewisais?

Os dewiswch chi enw cwmni sydd angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant cyn ei ddefnyddio, cysylltwch â'r Adran Cwmnïau Newydd yn Nhŷ'r Cwmnïau, Caerdydd neu Gaeredin yn ôl sy'n briodol, a gofyn am wybodaeth ynghylch y rheolau sy'n llywio defnyddio'r gair a ddewiswyd gennych.
  • Os dewiswch chi enw sy'n cynnwys unrhyw un o'r geiriau a restrir yn Atodiad A, mae'n debyg y gofynnir ichi gyflenwi gwybodaeth ategol cyn inni gofrestru'r enw. Dylech ysgrifennu, gan amgáu gwybodaeth yn ategu'ch cais, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant yn Nhŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd (i gwmnïau Cymreig neu Seisnig) neu Gaeredin (i gwmnïau Albanaidd).

  • Os yw'r enw a ddewiswyd gennych yn cynnwys unrhyw un o'r geiriau a restrir yn Atodiad B, yna bydd angen ichi ysgrifennu at y `corff perthnasol' i ofyn a oes ganddynt wrthwynebiad (ac os oes, pam) i ddefnyddio'r gair neu'r ymadrodd yn enw'ch cwmni. Wrth ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant yn Nhŷ'r Cwmnïau, Caerdydd neu Gaeredin, i geisio cymeradwyaeth i'r enw, bydd raid ichi amgáu copi o unrhyw ateb a gawsoch gan y `corff perthnasol'.

  • Mae deddfwriaeth arall yn rhychwantu defnyddio rhai geiriau ac ymadroddion a gallai eu camarfer mewn enwau cwmni fod yn dramgwydd troseddol. Rhestrir y rhai sy'n wybyddus i Dŷ'r Cwmnïau yn Atodiad C. Os hoffech gynnwys un o'r enwau neu ymadroddion hyn yn enw'ch cwmni, yna dylech gysylltu â'r awdurdod rheoleiddio perthnasol neu geisio cyngor gennym ni.

  • Os yw'r enw a ddewiswyd gennych yn rhoi'r argraff bod eich cwmni'n gysylltiedig â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu ag awdurdod lleol, yna bydd arnoch chi angen cymeradwyaeth ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant cyn bod modd cofrestru'r enw. Ysgrifennwch at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant yn Nhŷ'r Cwmnïau, Caerdydd neu Gaeredin yn ôl sy'n briodol, gan roi cymaint o fanylion ag y gallwch i ategu'ch cais. Fel arfer, dim ond lle gallwch chi ddangos bod cyswllt go iawn yn bodoli a lle bo'r corff llywodraeth perthnasol yn cefnogi'r cais y caiff enwau o'r fath eu cymeradwyo. Gweler pennod 3.
6. Sut dylwn i gofrestru enw fy nghwmni?

Os nad yw'r enw a ddewiswyd gennych eisoes ar y Mynegai Enwau Cwmni ac nad yw yn un sydd eisiau cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol, anfonwch eich dogfennau corffori (neu'r penderfyniad arbennig os yw cwmni presennol yn newid ei enw) i'r:
  • Adran Cwmnïau Newydd, Caerdydd, ar gyfer cwmnïau'n cofrestru yng Nghymru a Lloegr; neu at
  • Gofrestrydd Cwmnïau'r Alban ar gyfer cwmnïau'n cofrestru yno.
Os yw'ch dogfennau'n gywir, caiff enw'r cwmni ei gofrestru ac fe roir tystysgrif gorffori.

Mae rhagor o wybodaeth am gorffori cwmnïau i'w chael yn ein llyfryn 'Ffurfio Cwmnïau'. Rhoir gwybodaeth am newid enw cwmni ym mhennod 2 o'r llyfryn hwn.

0Brig
PENNOD 2
Newid enw cwmni


1. Oes unrhyw gyfyngiadau ar yr enw newydd y caiff cwmni ei ddewis?

Oes. Mae'r rhain yr un fath â'r cyfyngiadau sy'n gymwys i gwmni newydd sy'n gwneud cais am gofrestriad. Felly, cyn penderfynu ar enw newydd i'ch cwmni, darllenwch bennod 1. Os dewiswch chi enw annerbyniol, ni fyddwn yn ei gofrestru.

Os cofrestrir enw sy'n rhy debyg i un sydd eisoes ar y mynegai a bod gwrthwynebiad yn cael ei wneud, yna gall yr Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo'ch cwmni i newid ei enw. Am wybodaeth ynghylch pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, gweler pennod 5.

2. Beth yw newid enw?

Byddwch yn ofalus i wahaniaethu rhwng newid enw a newid statws y cwmni. Er enghraifft, newid enw yw newid o J JONES CYFYNGEDIG i J JONES A'I FAB CYFYNGEDIG, ond lle bo cwmni'n newid o J JONES CYFYNGEDIG i J JONES CCC mae hynny'n adlewyrchu newid statws o gwmni cyfyngedig preifat i gwmni cyfyngedig cyhoeddus. Am ragor o wybodaeth ynghylch newid statws cwmnïau, gweler ein llyfryn 'Ffurfio Cwmnïau'.

3.Sut newidir yr enw?

Rhaid i'r cwmni fabwysiadu penderfyniad arbennig mewn cyfarfod, neu fe all yr aelodau (gan gynrychioli nid llai na 75% o'r holl hawliau pleidleisio mewn cysylltiad â chyfrannau cymwys) gymeradwyo penderfyniad ysgrifenedig y dylid newid enw'r cwmni i'r enw newydd.  Mae gwybodaeth bellach am benderfyniadau i'w chael yn ein llyfryn 'Penderfyniadau' (Deddf Cwmnïau 1985  neu Ddeddf Cwmnïau 2006 )  Yna, dylid anfon copi llofnodedig o'r penderfyniad yn cynnwys yr enw newydd at y Cofrestrydd, ynghyd â'r ffi (ar hyn o bryd £10). Rhaid hefyd anfon copi o’r memorandwm ac erthyglau diwygiedig yr un pryd â’r penderfyniad(au) newid enw. Os bydd popeth yn iawn, bydd Tŷ'r Cwmnïau wedyn yn prosesu'r penderfyniad ac yn rhoi Tystysgrif Corffori wrth Newid Enw. Ni newidir enw'r cwmni nes rhoi'r dystysgrif newydd.


4. Pa mor hir y bydd hyn yn ei gymryd?

Os yw'r holl ddogfennau'n gywir, caiff y newid enw ei brosesu'n arferol o fewn pum diwrnod gwaith i'w dderbyn yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Mae Tŷ'r Cwmnïau hefyd yn cynnig gwasanaeth premiwm lle rhown y dystysgrif newid enw yr un diwrnod â derbyn y penderfyniad. Dim ond lle cyflwynir y penderfyniad arbennig perthnasol cyn 3pm y gellir gwarantu'r gwasanaeth hwn, sy'n costio £50. Mae’r gwasanaeth ar gael gan unrhyw un o swyddfeydd Tŷ’r Cwmnïau Sylwer na fydd gwasanaeth yr un diwrnod ar gael i gwmnïau buddiant cymunedol (cwmnïau BC) yn y dyfodol agos .


Ceisiadau yr un diwrnod
Gyda cheisiadau a gaiff eu postio, rhai a anfonir trwy negesydd a cheisiadau seliedig eraill am newid enw yr un diwrnod, rhaid marcio'n glir ar yr amlen 'I sylw'r Adran Cwmnïau Newydd' a 'Newid enw yr un diwrnod'.

5. Oes modd newid enw a statws gyda'i gilydd?

Oes. Cewch gyfuno penderfyniad i newid yr enw a phenderfyniad i newid y statws - er enghraifft, penderfynu newid yr enw o ABC Cyfyngedig i XYZ CCC. Fodd bynnag, os bydd CCC am newid ei statws, dim ond lle bo mwyafrif aelodau'r cwmni wedi cytuno â'r newid y gellir ailgofrestru'r un diwrnod. Am ragor o wybodaeth, gweler pennod 4 o'n llyfryn 'Ffurfio Cwmnïau'.

Bydd angen ichi gyflwyno'r holl ddogfennaeth sy'n gysylltiedig â'r broses newid statws yr un pryd. Bydd angen hefyd ichi gyflwyno dwy ffi: £10 am newid enw a £20 am newid statws (£30 i gyd), neu £100 os dymunwch y gwasanaeth premiwm yr un diwrnod.

0Brig
PENNOD 3
Geiriau ac ymadroddion sensitif


1. Beth yw 'geiriau ac ymadroddion sensitif'?

Mae'r rhain yn eiriau ac ymadroddion a all, o'u defnyddio mewn enw cwmni, awgrymu blaenoriaeth fusnes, statws neilltuol neu swyddogaeth benodol. Am y rheswm hwn, cawsant eu pennu o dan y rheoliadau fel rhai sy'n gofyn cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Y nod yw sicrhau bod cyfiawnhad dros y gair fel na chaiff y cyhoedd mo'i gamarwain gan yr enw. Gweithredwn ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol wrth ddelio â cheisiadau am gymeradwyo geiriau ac ymadroddion o'r fath.

Mae cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ei chyfyngu i ddefnydd geiriau neu ymadroddion arbennig yn enw'r cwmni. Nid yw cymeradwyaeth yn awgrymu cymeradwyo nodau ac amcanion y cwmni.

Mae'r bennod hon yn rhoi canllawiau i'r amodau y bydd angen i'ch cwmni eu bodloni os dymunwch ddefnyddio un o'r geiriau a restrir yn Atodiad A.

2. Pa fath o eiriau ac ymadroddion sy'n sensitif?

Mae'r geiriau canlynol yn awgrymu blaenoriaeth genedlaethol neu ryngwladol:
  • British - bydd cymeradwyaeth i'r gair hwn yn enw'ch cwmni'n dibynnu ar sut y caiff ei ddefnyddio. Fel arfer, byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl i'r cwmni fod o dan berchnogaeth Brydeinig. Byddai angen ichi ddangos bod y cwmni'n amlwg yn ei faes trwy ddarparu tystiolaeth ategol gan ffynhonnell annibynnol megis adran o'r Llywodraeth neu gymdeithas fasnach.

    Os yw'r gair `British' wedi ei oleddfu gan eiriau nad ydynt yn disgrifio gweithgarwch neu gynnyrch, er enghraifft trwy ddefnyddio gair `gwneud', yna ni fydd tystiolaeth o flaenoriaeth o angenrheidrwydd yn hanfodol. Ond byddai disgwyl ichi ddangos bod eich cwmni'n un sylweddol o ran ei weithgarwch neu ei gynnyrch a'i fod yn amlwg yn ei faes ei hun.
  • England, English, Scotland, Scottish, Wales, Welsh, Ireland neu Irish - os dymunwch ddefnyddio'r geiriau hyn o flaen enw'ch cwmni, mae'r rheolau'n debyg i'r rhai ar gyfer `British'. Fel arfer, fe gewch gymeradwyaeth i ddefnyddio unrhyw un o'r geiriau hyn ar ôl yr enw os dangoswch fod prif leoliad busnes y cwmni yn y wlad dan sylw. Os dymunwch ddefnyddio un o'r geiriau hyn am ei fod yn gyfenw, fe roir cymeradwyaeth ichi fel arfer ar yr amod bod enw'r cwmni'n cynnwys enwau cyntaf neu flaenlythrennau.
  • European - ni chymeradwyir enwau sy'n cynnwys y gair hwn os awgrymant, yn ddigyfiawnhad, gyswllt â chyrff swyddogol Undeb Ewrop. Os oes cyswllt go iawn â chorff swyddogol, fe ellir caniatáu'r enw lle bo'r corff perthnasol yn cefnogi'r cais.
  • Great Britain neu United Kingdom - os dymunwch ddefnyddio'r ymadroddion hyn o flaen yr enw, neu ddefnyddio `of Great Britain' neu `of the United Kingdom' ar ei ôl, yna mae'r meini prawf yr un fath â'r rhai ar gyfer `British'. Os defnyddir y geiriau ar ôl yr enw, cânt eu caniatáu fel arfer yn ddidrafferth. Nid oes eisiau cymeradwyaeth i ddefnyddio'r blaenlythrennau `GB' neu `UK' yn enw'ch cwmni.
  • International - os dymunwch ddefnyddio'r gair hwn o flaen yr enw, bydd angen ichi ddangos bod masnachu tramor yn cyfrif am ran helaeth o weithgareddau'r cwmni. Os dymunwch ei ddefnyddio ar ei ôl, yna fe roir cymeradwyaeth fel arfer ar yr amod y gallwch chi ddangos bod y cwmni'n gweithredu mewn dwy neu agor o wledydd tramor.
  • National - mae'r meini prawf ar gyfer y gair hwn yr un fath ag ar gyfer `British'.
Mae'r geiriau canlynol yn awgrymu blaenoriaeth fusnes neu statws cynrychioliadol neu awdurdodol:
  • association, federation neu society - os dymunwch ddefnyddio un o'r geiriau hyn, byddai'ch cwmni fel arfer wedi ei gyfyngu trwy warant. Dylai pob aelod fod ag un bleidlais a dylai'r cyfansoddiad gynnwys cymal dim-dosbarthu-elw. Mae hyn yn darparu bod unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio i hybu amcanion y cwmni a pheidio â chael ei dalu i'r aelodau ar ffurf buddrannau.
  • authority, board neu council - os dymunwch ddefnyddio unrhyw un o'r geiriau hyn, dylech geisio cyngor gennym ni. Os yw'r cwmni i gael ei gofrestru yn yr Alban, cysylltwch â Thŷ'r Cwmnïau yng Nghaeredin.
  • institute neu institution - dim ond i'r cyrff hynny sy'n gwneud gwaith ymchwil ar y lefel uchaf neu i gyrff proffesiynol o'r rheng flaen y rhoir cymeradwyaeth i ddefnyddio'r geiriau hyn fel arfer. Bydd eisiau ichi ddangos inni fod angen y sefydliad a arfaethir a bod ganddo reoliadau priodol neu safonau archwilio. Bydd eisiau ichi sicrhau tystiolaeth o gefnogaeth cyrff cynrychioliadol ac annibynnol eraill.
  • Llywodraeth - dim ond os yw Tŷ’r Cwmnïau’n fodlon nad oes cyswllt swyddogol â Llywodreth Ei Mawrhydi neu unrhyw ran o weinyddiaeth yr Alban neu Gymru y rhoir cymeradwyaeth i ddefnyddio’r gair hwn. Caiff yr enw cwmni cyfan ei gymryd i ystyriaeth a’i farnu’n annibynnol yn ôl ei rinwedd.
  • HSC (Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol) - Gall Tŷ’r Cwmnïau ymgynghori â’r DHSSPS (Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus) wrth ystyried cymeradwyo enwau sy’n cynnwys y gair hwn, gan y gallai roi camargraff i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd yn ehangach bod y busnes â statws cydnabyddedig mewn cysylltiad ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • HPSS (Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol) - Gall Tŷ’r Cwmnïau ymgynghori â’r DHSSPS (Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus ) wrth ystyried cymeradwyo enwau sy’n cynnwys y gair hwn, gan y gallai roi camargraff i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd yn ehangach bod y busnes â statws cydnabyddedig mewn cysylltiad â’r Gwasanaethau Iechyd a Gofal Personol Chymdeithasol.
Mae'r geiriau canlynol yn awgrymu amcanion neu swyddogaethau penodol:
  • assurance, assurer, insurance, insurer, re-assurance, re-assurer, re-insurance neu re-insurer - os oes angen yr enw i gwmni tanysgrifennu, byddwn fel arfer yn ceisio cyngor pellach. Ond os dymunwch ddefnyddio'r enw i gwmni na fydd yn darparu ond gwasanaethau yswiriant, yna fe ddylech chi gynnwys y disgrifiad priodol, er enghraifft `agents', `consultants' neu `services', yn yr enw.

  • benevolent, foundation neu fund - gwrthodir enwau sy'n cynnwys unrhyw un o'r geiriau hyn os rhoddant yr argraff yn ddigyfiawnhad fod statws elusennol i'r cwmni. Os yw'r cwmni wedi ei gyfyngu trwy warant  a bod ganddo gymal dim-dosbarthu-elw yn y memorandwm cymdeithasiad, yna fe gaiff yr enw ei gymeradwyo fel arfer.
  • charter neu chartered - gwrthodir enwau sy'n cynnwys y geiriau hyn os rhoddant yr argraff, yn ddigyfiawnhad, fod gan y cwmni Siarter Frenhinol. Os defnyddir y geiriau i ddisgrifio proffesiwn, fe geisiwn gyngor y corff llywodraethu priodol cyn ystyried p'un ai i roi cymeradwyaeth.

  • charity - er mwyn defnyddio’r gair hwn, mae’n rhaid i’r cwmni ddarparu llythyr oddi wrth y Comisiwn Elusennau sy’n dweud nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad. Os na fwriedir i’r cwmni fod yn elusen, rhaid anfon copi o’r memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad arfaethedig at y Comisiwn Elusennau, ynghyd â manylion gweithgareddau’r cwmni ac esboniad pam y mae angen y gair.

  • chemist neu chemistry - os dymunwch ddefnyddio'r geiriau hyn, dylech chi geisio cyngor Tŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd. Os yw'r cwmni gael ei gofrestru yn yr Alban, cysylltwch â Thŷ'r Cwmnïau yng Nghaeredin.

  • co-operative - os dymunwch ddefnyddio’r gair hwn, dylai Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad eich cwmni ddilyn y rheolau sydd at ei gilydd yn cwmpasu cyrff cydweithredol yn y DU. Os bydd arnoch chi angen cyngor pellach, dylech gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd. Os yw'r cwmni i gael ei gofrestru yn yr Alban, cysylltwch â Thŷ'r Cwmnïau yng Nghaeredin.

  • Friendly Society neu Industrial and Provident Society - byddwn yn atgyfeirio enwau sy'n cynnwys yr ymadroddion hyn i sylw Cofrestrydd y Cymdeithasau Llesiant, gan geisio ei gyngor/chyngor. Os dymunwch eu defnyddio yn enw'ch cwmni, dylech chi ofyn yn gyntaf i Dŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd. Os yw'r cwmni i gael ei gofrestru yn yr Alban, cysylltwch â Thŷ'r Cwmnïau yng Nghaeredin.

  • group - os yw defnyddio'r gair hwn yn awgrymu sawl cwmni o dan un berchnogaeth gorfforaethol, yna bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth o'r cydgymdeithasu fel rhiant neu is-ymgymeriad â dau neu ragor o cwmnïau Prydeinig neu dramor. Os yw'r enw'n dangos yn glir fod y cwmni i hybu buddiannau grŵp o unigolion, yna fe gaiff yr enw ei gymeradwyo fel arfer.

  • holding(s) - rhaid i gwmni sydd am ddefnyddio'r gair hwn fod yn gwmni dal yn unol â diffiniad adran 736 o Ddeddf Cwmnïau 1985.

  • patent neu patentee - dim ond lle nad yw'r enw'n groes i Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 y cymeradwyir enw sy'n cynnwys y naill neu'r llall o'r geiriau hyn.

  • post office - rydym yn debygol o geisio cyngor ar geisiadau sy'n cynnwys y geiriau hyn.

  • register neu registered -byddwn yn trin pob cais am ddefnyddio'r geiriau hyn yn ôl ei rinweddau. At ei gilydd, ceisiwn gyngor y corff llywodraethu priodol lle bo enwau sy'n cynnwys y geiriau hyn wedi eu cysylltu â chymhwyster proffesiynol. Ni chofrestrir mo'r enw os awgryma, yn ddigyfiawnhad, gysylltiad â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu awdurdod lleol. Os oes cysylltiad gwirioneddol o'r fath, fe ellir caniatáu'r enw lle bo'r corff priodol yn cefnogi'r cais.

  • Sheffield - os dymunwch ddefnyddio enw sy'n cynnwys y gair `Sheffield', bydd angen inni gadarnhau manylion lleoliad y cwmni a'i weithgareddau busnes. Byddwn hefyd yn ymgynghori â Chwmni'r Cyllellwyr yn Hallamshire.

  • stock exchange - gwrthodir enwau'n cynnwys yr ymadrodd hon fel arfer, onid oes amgylchiadau arbennig.

  • trade union - gwrthodir enwau'n cynnwys yr ymadrodd hon fel arfer, oni chydymffurfiant â'r ddeddfwriaeth ynglŷn ag undebau llafur.

  • trust - gellir defnyddio'r gair `trust' mewn llawer gwahanol ystyr. Ymdrinnir â phob cais yn ôl ei rinweddau ond mae'r prif ffyrdd o ddefnyddio'r gair hwn fel a ganlyn:

    charitable trust - mae eisiau i'r cwmnïau hyn fod ag amcanion elusennol a chymal dim-dosbarthu-elw yn y memorandwm cymdeithasiad. Gofynnir ichi gadarnhau eich bod wedi gwneud cais, neu y byddwch yn gwneud cais, am gofrestriad fel elusen gan y Comisiwn Elusennau. Bydd angen i gwmnïau Albanaidd sydd am ddefnyddio'r ymadrodd `charitable trust' wneud cais i Gyllid y Wlad yng Nghaeredin, am nad oes gan y Comisiwn Elusennau awdurdodaeth yn yr Alban.

    educational trust neu artistic trust - dylai cwmnïau felly fod â chymal dim-dosbarthu-elw yn y memorandwm cymdeithasiad a dylai'r enw adlewyrchu natur yr ymddiriedolaeth. Dylai'r hybwyr fod yn uchel eu parch yn y maes.

    enterprise trust - rhaid i'r cwmnïau hyn fod â chymal dim- dosbarthu-elw yn y memorandwm cymdeithasiad a rhaid iddynt allu darparu tystiolaeth o gefnogaeth, er enghraifft, awdurdodau lleol, busnesau neu fanciau.

    family trust - rhaid i gwmnïau o'r fath beidio â dosbarthu elw a rhaid i'r amcanion adlewyrchu natur yr ymddiriedolaeth. Caiff enwau ymddiriedolaethau teuluol eu cymeradwyo fel arfer os yw'r enw yn ei grynswth yn uniaethu'r cwmni fel y cyfryw.

    financial trust neu investment trust -os dymunwch ddefnyddio'r ymadroddion hyn, bydd angen ichi ddarparu sicrwydd ysgrifenedig y gwireddir cyfalaf cyfrannau llawndaledig neu gronfeydd eraill o fewn cyfnod rhesymol wedi'r corffori.

    pensions neu staff trust - rhaid i enwau cwmnïau felly gynnwys enw'r rhiant-gwmni a rhaid i amcanion y cwmni gynnwys gweithredu cronfeydd pensiwn.

    unit trust - os dymunwch ddefnyddio hyn fel rhan o enw'ch cwmni, dylech geisio cyngor Tŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd. Os yw'r cwmni i gael ei gofrestru yn yr Alban, cysylltwch â Thŷ'r Cwmnïau yng Nghaeredin.
0Brig
PENNOD 4
Rhyddhau rhag defnyddio'r gair "cyfyngedig" mewn enw cwmni


1. Defnyddio 'cyfyngedig'

Fel arfer, mae'n rhaid i gwmnïau cyfyngedig fod â'r gair `cyfyngedig' (neu'r fersiwn Saesneg cyfatebol `limited') yn rhan o'u henw. Gellir talfyrru hyn i `cyf.' (neu `ltd.'). Fodd bynnag o dan adran 30 o Ddeddf Cwmnïau 1985, nid oes raid i rai cwmnïau gynnwys y gair`cyfyngedig' os bodlonant feini prawf arbennig.

Hefyd, bydd cwmni sy'n manteisio ar ryddhad o'r fath:
  • wedi ei ryddhau o Ddeddf Cwmnïau 1985 gyda golwg ar gyhoeddi ei enw; a
  • heb fod dan orfodaeth i anfon rhestri o'r aelodau at y Cofrestrydd.
2. Pa fath o gwmni all gael ei ryddhau rhag defnyddio `cyfyngedig' yn ei enw?

I gael ei ryddhau, mae'n rhaid i gwmni fod yn gwmni preifat wedi ei gyfyngu trwy warant; rhaid i amcanion y cwmni fod yn gysylltiedig â hybu masnach, celfyddyd, gwyddoniaeth, addysg, crefydd, cardod neu unrhyw broffesiwn; a rhaid i'r memorandwm neu'r erthyglau cymdeithasiad nodi:
  • bod unrhyw elw, neu incwm arall, i gael ei wario ar hybu amcanion y cwmni;
  • na thelir buddran i aelodau;
  • os dirwynir y cwmni i ben, y caiff yr holl asedion eu trosglwyddo i gorff arall sydd ag amcanion tebyg, neu sy'n hybu elusen.
Mae'n rhaid i gwmni sydd am gael ei ryddhau rhag defnyddio `cyfyngedig' yn ei enw fodloni pob un o'r amodau uchod. Os nad ydych chi'n siŵ'r a yw'ch cwmni'n gymwys, dylech ymgynghori â chyfreithiwr.

Yn ychwanegol, gall cwmni a oedd ar 25 Chwefror 1982 yn gwmni preifat wedi ei gyfyngu trwy gyfrannau hefyd gael ei ryddhau os na chynhwysai `cyfyngedig' yn ei enw am fod ganddo drwydded o dan adran 19 o Ddeddf Cwmnïau 1948, a'i fod yn cydymffurfio â'r gofynion uchod.

3. Os yw fy nghwmni'n gymwys, sut galla i hawlio'r rhyddhad?

Wrth ffurfio'ch cwmni, mae'n rhaid ichi wneud datganiad statudol ar Ffurflen 30(5)(a) a'i hanfon at y Cofrestrydd gyda'ch dogfennau corffori. Gwelir mwy o wybodaeth ynglŷn â ffurfio cwmnïau yn ein llyfryn 'Ffurfio Cwmnïau'.

4. Beth os bydd cwmni sy'n bod yn barod am hawlio'r rhyddhad?

Os yw'r cwmni mewn bodolaeth yn barod, mae'n rhaid ichi fabwysiadu penderfyniad arbennig i newid ei enw, gan hepgor `cyfyngedig'. Rhaid ichi anfon y penderfyniad i Dŷ'r Cwmnïau gyda datganiad statudol ar Ffurflen 30(5)(c). Gweler pennod 2 am wybodaeth ynglŷn â newid enw'ch cwmni.

Mae ffurflenni 30(5)(a) a 30(5)(c) ar gael yn rhad ac am ddim gan Dŷ'r Cwmnïau, Caerdydd a Chaeredin.

5. Beth fydd y gost?

Ni chodir tâl am sicrhau rhyddhad i hepgor y gair `cyfyngedig' o enw'ch cwmni. Os hawliwch y rhyddhad wrth ffurfio'r cwmni, byddwch yn talu'r ffi gorffori safonol.

Os hawliwch ryddhad i gwmni sy'n bod yn barod, fe dalwch chi'r ffi safonol am newid enw.

Cofiwch, pan roir ichi ryddhad, na chewch newid y memorandwm a'r erthyglau cymdeithasiad mewn ffordd sy'n golygu nad ydynt mwyach yn bodloni'r amodau ar gyfer cael rhyddhad.

0Brig
PENNOD 5
Cyfarwyddyd i newid enw cwmni


1. Beth yw 'cyfarwyddyd'?

Mae cyfarwyddyd i newid enw cwmni yn orchymyn cyfreithiol i gwmni fabwysiadu penderfyniad (Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006) i dderbyn enw newydd a chofrestru'r newid yn Nhŷ'r Cwmnïau o fewn cyfnod penodol. Gellir rhoi cyfarwyddyd, er enghraifft, yn sgil cyflwyno gwrthwynebiad gan rywun sydd â buddiant oherwydd bod un enw yn `rhy debyg' i un arall. Mae'r bennod hon yn egluro sut i gyflwyno gwrthwynebiad, beth a ystyrir wrth benderfynu a yw un enw'n rhy debyg i un arall ac, yn gyffredinol, pryd y gellir rhoi cyfarwyddyd.


2. Pwy all gyfarwyddo cwmni i newid ei enw?

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bwerau statudol i gyfarwyddo cwmni i newid ei enw o dan amgylchiadau arbennig.

3. Sut galla i wrthwynebu enw?

Os hoffech chi wrthwynebu enw, er enghraifft am y gallai ei debygrwydd i enw'ch cwmni chi arwain at ddryswch rhwng cwmnïau, yna rhaid ichi ysgrifennu at:

Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori yng
Nghymru a Lloegr:
Yr Ysgrifennydd Gwladol dros
Fasnach a Diwydiant
Cangen Gweinyddu Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori yn yr
Alban:
The Secretary of State for
Trade & Industry
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB

4. Beth yw ystyr 'rhy debyg'?

Yn gyntaf oll, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn edrych ar y ddau enw. Dim ond ymddengys bod y ddau enw'n gyffelyb y bydd yn ystyried a ydynt yn 'rhy debyg' - hynny yw, a oes perygl dryswch rhwng cwmnïau.

Os oes gwahaniaeth o un neu ragor o eiriau rhwng yr enwau, gall hyn awgrymu nad ydynt yn `rhy debyg', gan ddibynnu, er enghraifft, ar y gair/geiriau a hyd yr enwau dan sylw.

Os mewn mân bethau yn unig y mae’r enwau’n gwahaniaethu, gall hyn awgrymu bod yr enwau yn “rhy debyg” ac mewn amgylchiadau felly fe ellir rhoi cyfarwyddyd. Enghreifftiau posibl yw:
  1. Lle nad yw ond llythyren neu ddwy yn cyfrif am y gwahaniaeth, yn enwedig pan fo’r rheiny’n cyfleu lluosog gair a gynhwysir mewn enw ar y gofrestr a fyddai fel arall yn hollol yr un fath.
  2. Lle bo geiriau byr yn gwahaniaethu rhwng yr enwau, yn enwedig geiriau o gymeriad generig megis “GB” neu “UK” neu “.com”.
  3. Lle bo geiriau ychydig yn hwy yn gwahaniaethu rhwng yr enwau a bod ganddynt elfennau sylweddol neu arbennig iawn yn gyffredin.
  4. Lle gwahaniaethant o ran y ffordd y defnyddir symbolau.
Nodyn: dim ond enw corfforaethol llawn y cwmni y gellir ei ystyried.

5. Beth os yw'r enw'n awgrymu cysylltiad â chwmni sydd eisoes ar y mynegai?

Ni fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried un-rhyw agwedd ar `berthynas ymhlyg' - hynny yw, a ellid tybied bod y cwmni'n aelod o gwmni neu grŵp o gwmnïau arbennig, neu'n gysylltiedig. Nid ystyria ychwaith y ffordd y defnyddir enwau masnach neu enwau busnes, logos, perchnogaeth nodau masach neu wasanaeth cofrestredig, hawlfreintiau, patentau ac ati, nac unrhyw hawliau perchnogol eraill sydd ynghlwm wrth enwau neu rannau o enwau.

6. Sut y delir â gwrthwynebiadau?

Rhai dewisol yw pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol ac ystyrir pob achos yn ôl ei rinweddau. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol fel arfer yn rhoi gwybod i’r cwmni yr arfaetha gyfarwyddo ei fod yn newid ei enw fel bod modd i’r cwmni hwnnw gyflwyno unrhyw dystiolaeth a wêl yn briodol i gyfiawnhau cadw’r enw presennol. Wrth ddod i benderfyniad, fe ystyrir unrhyw wybodaeth berthnasol a ddarperir i ategu neu wrthod yr achos sy’n honni dryswch rhwng cwmnïau fel cwmnïau (ond nid rhwng cwmnïau fel y cânt eu cynrychioli gan eu teitl masnachu, eu dull gweithredu neu eu gweithgarwch).

7. Pryd y gellir rhoi cyfarwyddyd?

Gellir cyfarwyddo cwmni i newid ei enw:
  • O fewn 12 mis i ddyddiad ei gofrestru os yw ei enw yr un fath ag enw sy'n ymddangos (neu a ddylai fod wedi ymddangos) ar y mynegai adeg y cofrestru, neu sydd, ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol, yn 'rhy debyg' i enw felly.
  • O fewn pum mlynedd i'w gofrestru lle bo gan yr Ysgrifennydd Gwladol le i gredu bod y cwmni wedi darparu gwybodaeth gamarweiniol at ddibenion y cofrestru, neu eu bod nhw, at ddibenion y cofrestru, wedi derbyn ymgymeriadau neu wedi rhoi sicrhad na wireddwyd mohonynt.
  • Unrhyw bryd os yw'r enw'n rhoi argraff mor gamarweiniol o natur gweithgareddau'r cwmni fel ei fod yn debyg o niweidio lles y cyhoedd. Rhai cydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwn o fewn chwe wythnos, oni wneir cais i'r Llys am iddo gael ei ddirymu. (Adran 32, Deddf Cwmnïau 1985)
8. A ellir gwrthod enw 'rhy debyg' cyn cofrestru'r cwmni?

Na ellir. Er bod enw cwmni arfaethedig yn cael ei wrthod os yw 'yr un fath' ag enw cwmni sy'n bodoli eisoes, does dim pŵer i wrthod enw ar y sail ei fod yn `rhy debyg' i enw cwmni arall.

Mae er eich lles eich hun ichi sicrhau bod yr enw a ddewiswch i'ch cwmni'n ddigon wahanol i unrhyw enw arall ar y gofrestr. Bydd hynny'n lleihau perygl dryswch, ynghyd â'r anawsterau posibl canlynol:
  • gwrthwynebiadau i enw'r cwmni;
  • dryswch rhyngoch chi â chwmnïau eraill sydd â hanes masnachu gwael;
  • gweithrediadau `ymhonni' o dan y gyfraith sifil.
  • achos o dan y gyfraith sifil ar sail ‘ymhonni’ neu dorri nod masnach.
0Brig
PENNOD 6
Sut mae rheolaeth enwau'n gymwys i fathau eraill o gwmnïau a busnesau


1. Cwmnïau tramor

Mae'r un rheolau sy'n llywio defnyddio enwau ar gwmnïau wedi eu cofrestru ym Mhrydain yn gymwys i enwau cwmnïau tramor a'u canghennau a gofrestrir o dan Ran XXIII o Ddeddf Cwmnïau 1985. Os nad yw'r enw'n dderbyniol, caiff y cwmni rybudd i'w newid. Mae gwybodaeth am gofrestru cwmnïau tramor i'w chael yn ein llyfryn 'Oversea Companies'.

2. Cwmnïau buddsoddi penagored, grwpiadau buddiannau economaidd Ewropeaidd a phartneriaethau cyfyngedig

Fel gyda chwmnïau tramor, cedwir enwau'r cwmnïau hyn ar y Mynegai Enwau Cwmni. Maent yn dibynnu ar yr un rheolau ynghylch defnyddio enwau, ac fe gymerir eu henwau i ystyriaeth wrth benderfynu a yw un enw `yr un fath' ag un arall - gweler pennod 1.

3. Enwau busnes

Nid yw'r rheolau yngŷln ag enwau `rhy debyg' a rhai `yr un fath' yn gymwys. Ond bydd angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant o hyd i eiriau ac ymadroddion arbennig a gynhwysir mewn enwau busnes cyn y gellir eu defnyddio.

Mae gwybodaeth bellach am enwau busnes i'w chael yn ein llyfryn 'Enwau Busnes'.

4. A ellid effeithio ar y dewis o enw gan y mynegai nodau masnach?

Ni fydd y Cofrestrydd yn ymgynghori â’r Mynegai Nodau Masnach wrth ystyried cais am enw cwmni. Felly, nid yw cofrestru enw yn golygu nad yw hawliau nod masnach yn bodoli. Arnoch chi y bydd y cyfrifoldeb i gadarnhau bod yr enw yn rhydd i gael ei ddefnyddio.

Peth doeth yw ymgynghori â chyfreithiwr cyn dewis enw. Dylech chi hefyd wirio llyfrau ffôn lleol ac unrhyw gylchgronau masnach perthnasol, i gael gweld a oes busnes arall eisoes yn defnyddio’r enw. Os oes, gallech chi wynebu anawsterau cyfreithiol.

Os bwriadwch fasnachu mewn nwyddau neu wasanaethau, cyngor da ichi fyddai sichrau nad yw enw’ch cwmni’n gwrthdaro â nod masnach cofrestredig. Does dim rhaid iddo fod yr un fath yn hollol â nod masnach i beri gwrthdaro posibl. Gall problemau godi os bernir bod enw’n ddigon tebyg i beri dryswch. Am gyngor pellach, gan gynnwys sut i chwilio’r Gofrestr Nodau Masnach, cysylltwch â Chofrestrfa Nodau Masnach y Swyddfa Eiddo Deallusol ar:

E-bost: enquiries@ipo.gov.uk
Gwefan: www.ipo.gov.uk
Ffôn: 08459 500505

.. neu gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr?

Nid yw cofrestru enw'ch cwmni'n awgrymu derbyn yr un enw at ddibenion Deddf Credyd Defnyddwyr 1974. Os oes angen trwydded arnoch chi o dan y Ddeddf honno i gynnal busnes, yna dylech ymgynghori â'r gangen drwyddedu yn:

Office of Fair Trading
3rd Floor
Craven House
40 Uxbridge Road
Ealing
London W5 2BS
Tel: 020 7211 8000

i gael gweld a yw'r enw a ddewiswyd gennych yn dderbyniol at ddibenion y Ddeddf.

0Brig
PENNOD 7
Gwybodaeth bellach


1. Ble galla i gael cymorth?

Am ragor o wybodaeth ynghylch enwau sydd angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol, dylech chi ysgrifennu at:

Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori yng
Nghymru a Lloegr:
Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori yn yr
Alban:
Adran Cwmnïau Newydd
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

DX33050 Caerdydd 1
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB

DX ED235 Edinburgh 1
LP – Edinburgh 2


Gallwch hefyd gael cyngor ynghylch defnyddio geiriau ac ymadroddion arbennig gan y cyrff perthnasol y gwelir eu henwau a'u cyfeiriadau yn yr Atodiadau.

2. Sut mae anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?

Y ffordd fwyaf diogel i anfon gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw defnyddio’n gwasanaethau ffeilio ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru, edrychwch ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk Gallwch chi gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin – gweler y clawr cefn am y cyfeiriadau.

Gallwch hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post drwy'r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX ) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban.

Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:


Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyng Nghymru a Lloegr: Ar gyfer cwmnïau wedi eu corfforiyn yr Alban:
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

DX33050 Caerdydd 1
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB

DX ED235 Edinburgh 1
LP – Edinburgh 2

Dim ond os darparwch chi amlen stampiedig yn dangos y cyfeiriad dychwelyd y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cydnabod i ddogfennau ddod i law.

Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy drefn Britdoc (DX) a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch.

Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.


3. Ga i ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?

Yn gyffredinol, mae’r dogfennau sy’n cael eu hanfon at y Cofrestrydd yn gorfod bod yn Saesneg. Er hynny, caiff dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau Cymreig gael eu llunio a’u cyflwyno yn Gymraeg.

O 1 Ionawr 2007 ymlaen, caiff cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os bydd cyfieithiad Saesneg ardystiedig yn cael ei hanfon gyda nhw:

  • Penderfyniadau a chytundebau sy’n effeithio ar gyfansoddiad cwmni
  • Contractau sy’n dyrannu cyfrannau am gydnabyddiaeth heblaw arian parod
  • Yn achos cwmnïau sydd wedi’u cynnwys yng nghyfrifon grwpiau mwy yn yr AEE neu y tu allan i’r AEE, cyfrifon y grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad
  • Offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon)

O 1 Ionawr 2007 ymlaen, mae cwmnïau hefyd yn cael ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sy’n dod o dan y gofynion yn y Gyfarwyddeb ar ddatgelu. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dogfennau cyfansoddiadol fel y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad
  • Penodiadau cyfarwyddwyr, newid manylion neu ymddiswyddiadau
  • Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol
  • Hysbysiad ynglŷn ag unrhyw newid yn swyddfa gofrestredig y cwmni
  • Dogfennau dirwyn i ben
  • Dogfennau cyfalaf cyfrannau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
  • Dogfennau ynghylch cyfuno a rhannu cwmnïau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
  • Dogfennau ynghylch cwmnïau tramor
Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol gyfeirio at ddogfen a gyflwynwyd i’r Cofrestrydd ar 1 Ionawr 2007 neu wedi hynny. Gall cyfieithiadau gwirfoddol gael eu ffeilio yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unig a rhaid anfon Ffurflen 1106 i gyd-fynd â nhw.

4. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?

Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.

Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0870 3333636.

Os bydd yn well gennych, cewch ysgrifennu at ein hadrannau deunydd ysgrifennu yng Nghaerdydd neu Gaeredin.

Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid llunio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.

ATODIAD A

Bydd arnoch chi angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant cyn defnyddio unrhyw rai o'r geiriau neu'r ymadroddion canlynol (neu eu ffurfiau lluosog neu feddiannol) yn yr enw a ddewiswch i'ch cwmni.

(a) Geiriau sy'n awgrymu blaenoriaeth genedlaethol neu ryngwladol:

British Great Britain National Wales
England International Scotland Welsh
English Ireland Scottish
European Irish United Kingdom


(b) Geiriau sy'n awgrymu blaenoriaeth fusnes neu statws cynrychioliadol neu awdurdodol:

Association Board Federation Institution
Authority Council Institute Society
Government HSC (lechyd a Gofal Cymdeithasol) HPSS (Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol)  


(c) Geiriau sy'n awgrymu amcanion neu swyddogaethau penodol:

Assurance Friendly society Post office Trade union
Assurer Fund Reassurance Trust
Benevolent Group Re-assurer  
Charter Holding Register  
Chartered Industrial & provident society Registered  
Chemist Insurance Re-insurance  
Chemistry Insurer Re-insurer  
Co-operative Patent Sheffield  
Foundation Patentee Stock exchange  


ATODIAD B

Bydd angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i eiriau neu ymadroddion yn y rhestr ganlynol. Os dymunwch ddefnyddio unrhyw un ohonynt yn enw'ch cwmni, bydd eisiau ichi ysgrifennu'n gyntaf i'r corff perthnasol i ofyn a oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i'r defnydd. Wrth wneud cais am gymeradwyaeth i ddefnyddio'r enw, dylech chi ddweud wrth Dŷ'r Cwmnïau eich bod wedi ysgrifennu i'r corff perthnasol ac amgáu copi o'r ateb a gawsoch.

Gair neu ymadrodd Corff perthnasol i
gwmnïau'n bwriadu bod
â'u swyddfa gofrestredig
yng Nghymru neu Loegr
Corff perthnasol i
gwmnïau'n bwriadu bod
â'u swyddfa gofrestredig
yn yr Alban
Charity, Charitable Head of Status
Charity Commission
Woodfield House
Tangier
Taunton TA1 4BL
I gael cydnabyddiaeth
fel elusen Albanaidd
Inland Revenue
FICO (Scotland)
Trinity Park House
South Trinity Road
Edinburgh
EH5 3SD
Contact Lens The Registrar
General Optical Council
41 Harley Street
London W1N 2DJ
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
Dental, Dentistry The Registrar
General Dental Council
37 Wimpole Street
London W1M 8DQ
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
District Nurse,
Health Visitor,
Midwife, Midwifery,
Nurse, Nursing
The Registrar &
Chief Executive
United Kingdom Central
Council for Nursing,
Midwifery and Health Visiting
23 Portland Place
London W1N 3AF
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
Health Centre Office of the Solicitor
Department of Health &
Social Security
48 Carey Street
London WC2A 2LS
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
Health Service

Penny Turner
Head of Branding
Department of Health
Room 230B
Skipton House
80 London Road
London
SE1 6LH

Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
Police Pauline Laybourne
Briefing and Honours Team
CRCSG Change and Support Unit
3rd Floor A
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
The Scottish Ministers
Police Division
St Andrews House
Regent Road
Edinburgh EH1 3DG

Polytechnic Department of Education
and Science
FHE 1B
Sanctuary Buildings
Great Smith Street
Westminster
London SW1P 3BT
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
Pregnancy,
Termination,
Abortion
Department of Health
Area 423
Wellington House
133-135 Waterloo Road
London SE1 8UG
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
Royal, Royale,
Royalty, King,
Queen, Prince, Princess,
Windsor, Duke,
His/Her Majesty
(Os seiliedig yng Nghymru):
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ

(Os seiliedig yn Lloegr):
Linda Henshaw
Ministry  of Justice
Constitutional Settlement Division
6 th Floor - Point 6B
Selbourne House
54 Victoria Street London
SW1E 6QW

Douglas Boyd
Protocol Unit
St Andrew's House
Regent Road
Edinburgh
EH1 3DG

Special School

Clinton Roche
Department for Education and Skills
Caxton House
6-12 Tothill Street
London
SWlH 9NA
Tel: 0870 0012345

Fel ar gyfer Cymru a Lloegr

University Privy Council Office
2 Carlton Gardens
London SW1Y 5AA
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr

ATODIAD C

Mae rhia geiriau neu ymadroddion arbennig wedi eu rhychwantu gan ddeddfwriaeth arall a gallai eu defnyddio mewn enwau cwmni fod yn dramgwydd troseddol. Rhestrir y rhain isod. Os dymunwch ddefnyddio unrhyw un o'r enwau neu'r ymadroddion hyn yn enw'ch cwmni, yna dylech chi gysylltu â'r corff rheoleiddio perthnasol neu geisio cyngor gennym ni cyn bwrw ymlaen. Gallwn ninnau geisio cyngor annibynnol y corff perthnasol.

Gair neu ymadrodd Deddfwriaeth berthnasol Corff perthnasol
Anzac Section 1 Anzac Act 1916 Ceisier cyngor
Tŷ'r Cwmnïau
Architect Section 20 Architects
Registration Act 1997
Architects Registration
Board
73 Hallam Street
London W1N 6EE
Building Society

Siambr Fusnes/Siambrau Busnes Siambr Fasnach/Siambrau Masnach

Siambr(au) Masnach a Diwydiant

Siambr(au) Masnach, Hyfforddiant a Menter

Siambr Fenter/Siambrau Menter

Siambr Ddiwydiant/Siambrau Diwydiant

Siambr(au) Hyfforddiant

Siambr(au) Hyfforddiant a Menter

neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn

Building Society Act 1986 Ceisier cyngor
Building Societies Commission
Victoria House
30-40 Kingsway
London WC2B 6ES
Chiropodist, Dietician,
Medical Laboratory,
Technician,
Occupational Therapist,
Orthoptist,
Physiotherapist,
Radiographer
Remedial Gymnast
Professions
Supplementary to
Medicine Act 1960
lle cyflwynir gan
Registered, State neu
Registered
Mrs Joan Arnott
Department of Health
HRD HRB
Rm 2N35A
Quarry House
Quarry Hill
Leeds LS2 7JE
Credit Union Credit Union Act 1979 The Public Records Section
Financial Services Authority
25 The North Colonnade
Canary Wharf
London E14 5HS
Dentist,
Dental Surgeon,
Dental Practitioner,
Dental Act 1984 The Registrar
General Dental Council
37 Wimpole Street
London W1M 8DQ
Druggist,
Pharmaceutical,
Pharmaceutist,
Pharmacist,
Pharmacy
Section 78
Medicines Act 1968
The Director of
Legal Services
The Royal Pharmaceutical
Society of Great Britain
1 Lambeth High Street
London SE1 7JN
(i gwmnïau wedi eu
cofrestru yn yr Alban)
The Pharmaceutical
Society
36 York Place
Edinburgh
EH13HU
Institute of Laryngology,
Institute of Otology,
Institute of Urology,
Institute of Orthopaedics
University College
London Act 1988
Ceisier cyngor
University College
London
Gower Street
London
WC1E 6BT
Intellectual Property Office,
Patent Agent
Copyright, Designs
and Patents Act
1988
IPPD (Intellectual Property Policy Directorate)
Room 3B38, Concept House
Y Swyddfa Batentau
Cardiff Road
Casnewydd
NP10 8QQ

Olympiad ,
Olympiads,
Olympian,
Olympians,
Olympic,
Olympics,
Paralympic,
Paralympics,
Paralympiad,
Paralympiads,
Paralympian,
Paralympians,

c yfieithiad o'r rhain neu o eiriau tebyg i’r geiriau wedi’u diogelu

Olympic Symbol etc. (Protection) Act 1995 (fel y’i diwygiwyd)*

Gallai defnyddio’r geiriau hyn dorri hawliau Cymdeithas Olympaidd Prydain/Cymdeithas Baralympaidd Prydain.

*Hefyd yn diogelu'r symbol
Olympaidd o bum cylch
plethedig a'r arwyddair Olympaidd
'Citius Altius Fortius'

(“Cynt, Uwch, Cryfach”); symbol Paralympaidd y tri “agitos”; yr arwyddair Paralympaidd “Spirit in Motion”; ac unrhyw beth tebyg iddynt.

Yn sgil cais llwyddiannus Llundain am gynnal y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn 2012, mae Deddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006 wedi’i chyflwyno. Mae hon yn rhoi rhagor o hawliau i ddiogelu geiriau, symbolau a marciau Olympaidd sy’n ymwneud â’r gemau. Yn ychwanegol at y geiriau wedi’i diogelu a amlinellir yn y llyfryn hwn, gallai cofrestru enw cwmni sy’n cynnwys geiriau penodol sy’n awgrymu cysylltiad â Gemau Llundain 2012 dorri hawliau The London Organising Committee of the Olympic Games Limited (LOCOG) o dan y Ddeddf hon. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar:

www.london2012.com/brandprotection

The London Organising Committee of the Olympic Games Limited (LOCOG)
23 rd Floor
1 Churchill Place
Canary Wharf
London
E14 5LN

Optician,
Ophthalmic Optician
Dispensing Optician,
Enrolled Optician,
Registered Optician,
Optometrist
Opticians Act 1989 The Registrar
General Optical Council
41 Harley Street
London W1N 2DJ
Red Cross,
Geneva Cross,
Red Crescent,
Red Lion and Sun
Geneva Convention
Act 1957
Ceisier cyngor
Tŷ'r Cwmnïau
Solicitor (Scotland) S.31, Solicitors (Scotland) Act 1980

The Law Society of Scotland
26 Drumsheugh Gardens
Edinburgh EH3 7YR

Veterinary Surgeon,
Veterinary, Vet
Sections 19/20
Veterinary Surgeons
Act 1966
The Registrar
Royal College of
Veterinary Surgeons
62-64 Horseferry Rd
London SW1P 2AF

sut i gysylltu â ni

Canolfan Cysylltu: 0870 3333 636*
Mini-com: 029 2038 1245
enquiries@companieshouse.gov.uk
www.companieshouse.gov.uk

*At ddibenion hyfforddiant ac ansawdd, gall eich galwad gael ei monitro

Caerdydd:
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron, Caerdydd CF14 3UZ
Ffacs: 029 2038 0900

Caeredin:
Companies House
37 Castle Terrace, Edinburgh EH1 2EB
Ffacs: 0131 535 5820

Llundain:
Companies House
21 Bloomsbury Street,
London
WC1B 3XD
Ffacs: 029 2038 0900


0Brig
Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies