|
 |
Enwau Busnes - GBF3
Mai 2009 - Fersiwn 18
Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006
Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)
Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn:
Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym. Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol. Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy’r holl nodiadau hyn, gymaint â phosib, pa Ddeddf sy’n berthnasol. Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, ymwelwch â’n gwefan www.companieshouse.gov.uk. Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006 lle gallwch chi weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosib, eglurwn hyn yn y canllaw presennol a rhown fanylion ar ein gwefan.
Mae un cam olaf yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 sydd wedi ei drefnu ar gyfer Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau hynny ar y pryd. Efallai yr hoffech chi gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu barhau, er mwyn ichi gael mynediad at y newyddion diweddaraf.
Hyd fis Hydref 2009, mae’r nodiadau canllaw hyn yn berthnasol i gwmnïau sydd wedi cael eu ffurfio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Ar ôl hynny, rhaglennir i’r system ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon ymdoddi i’r system gyfun ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd.
Cynnwys
| Cyflwyniad |
| 1. Enwau busnes |
| 2. Rheolau datgelu |
| 3. Gwybodaeth bellach |
Canllaw yn unig yw'r llyfryn hwn a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
|
Brig
Cyflwyniad
Ni chaiff enwau busnes eu cofnodi o dan y Ddeddf Cwmnïau na chydag unrhyw adran o'r llywodraeth. Ond mae Deddf Enwau Busnes 1985 yn rhoi i’r Ysgrifennydd Gwladol reolaeth arbennig dros yr enw a ddewiswch i’ch busnes a beth mae’n rhaid ichi ei ddweud wrth eraill am berchnogaeth y busnes .
Yn ychwanegol, mae rhai geiriau ac ymadroddion wedi eu rheoli gan ddeddfau eraill a gallai defnyddio un o’r geiriau hyn fod yn dramgwydd troseddol. Mae gwybodaeth bellach wedi ei chynnwys yn y canllaw hwn. Nid yw'n ddatganiad cyflawn o'r gyfraith. Os ydych chi'n ansicr ynglŷn ag unrhyw rai o'r manylion, dylech ddarllen y ddeddf eich hun neu geisio cyngor proffesiynol gan, er enghraifft, gyfreithiwr. Dychmygol yw unrhyw enwau busnes sydd wedi eu nodi yn y canllaw hwn.
Mae Deddf Enwau Busnes 1985 yn mynnu bod unrhyw un sy’n cynnal busnes, p’un a fo hwnnw wedi ei gorffori neu beidio:
- yn sicrhau cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol cyn cynnal busnes sy’n defnyddio unrhyw un o’r geiriau sydd wedi eu rhestru yn Atodiadau A a B;
- yn gofalu nad yw defnyddio unrhyw un o’r geiriau sydd wedi eu rhestru yn Atodiad C yn dramgwydd troseddol; a hefyd
- yn trefnu i wybodaeth arbennig fod ar gael i eraill am berchnogaeth y busnes.
O 1 Hydref 2009 ymlaen, caiff Deddf Enwau Busnes 1985 ei disodli gan Ddeddf Cwmnïau 2006 ond bydd y gofynion hyn yn dal mewn grym.
Brig
Pennod 1
Enwau busnes
1. Beth yw 'enw busnes'?
Mae enw busnes yn enw a gaiff ei ddefnyddio gan unrhyw berson, partneriaeth neu gwmni at ddibenion cynnal busnes, oni fo yr un fath â'u henw eu hun.
2. Pa archwilio dylwn i ei wneud cyn defnyddio enw busnes?
Peth doeth yw gwirio o dan sawl gwedd i weld a yw unrhyw fusnes neu gwmni arall eisoes yn defnyddio'r enw. Gallwch:
- wirio’r mynegai enwau cwmni yn www.companieshouse.gov.uk
- ffonio’n Canolfan Cysylltu ar 0303 123 4500;
- gwirio llyfrau ffôn lleol ac unrhyw gylchgronau masnach perthnasol; neu
- gysyllltu â chofrestrfa nodau masnach Swyddfa Eiddo Deallusol y DG yn www.ipo.gov.uk, dros y ffôn ar 08459 500 505 neu drwy e-bostio enquiries@ipo.gov.uk
Dylai’r gwirio hwn eich helpu i osgoi unrhyw anhawster cyfreithiol yn y dyfodol ynglŷn â defnyddio enw neilltuol ond hwyrach hefyd y carech geisio cyngor proffesiynol gan gyfreithiwr, yn enwedig os gellid drysu rhwng eich enw dethol chi a nod masnach sy’n bod yn barod.
3. I bwy mae'r Ddeddf Enwau Busnes yn gymwys?
Mae'r Ddeddf yn gymwys i:
- unigolyn sy'n masnachu o dan enw nad yw'n gyfenw iddo/i. Does dim gwahaniaeth a ychwanegir enwau cyntaf neu flaenlythrennau'r unigolyn neu beidio. Felly, byddai'r Ddeddf yn gymwys i Mr JQZ Singh pe bai'n masnachu fel 'Hynafolion Singh' ond nid pe bai'n masnachu fel 'Singh' neu 'JQZ Singh';
- partneriaeth sy’n defnyddio enw busnes neilltuol ac nad yw'n masnachu o dan enwau pawb o'r partneriaid; a hefyd
- i gwmni neu Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig sy'n masnachu o dan enw nad yw'n enw corfforaethol iddo, er enghraifft 'XYZ Cyfyngedig' yn masnachu fel 'Hynafolion Llwyd'.
4. Oes rheolaeth neu gyfyngu ar enwau busnes a gaiff eu defnyddio?
Oes. Mae eisiau cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i enwau sy'n cynnwys geiriau neu ymadroddion a gafodd eu pennu drwy reoliad cyn bod modd eu defnyddio. Mae hefyd dermau eraill y gall fod yn dramgwydd troseddol i'w defnyddio mewn enw o dan rai amgylchiadau. Gweler y cwestiynau nesaf hyn am ragor o fanylion.
Sylwer y bydd ar fusnes sy’n defnyddio’r geiriau ‘bank’, ‘banker’, ‘banking’ neu ‘deposit’ angen awdurdodiad yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) os yw’n dilyn gweithgarwch bancio ac yn derbyn adneuon. Cyfeiriwch at eu gwefan www.fsa.gov.uk am wybodaeth bellach. Os byddwch yn ansicr ynglŷn â defnyddio un o’r geiriau hyn neu am y gweithgarwch busnes arfaethedig, cysylltwch â’r FSA neu ceisiwch gyngor proffesiynol annibynnol.
5. Pa enwau sydd angen cymeradwyaeth?
Rhaid i enwau sy’n rhoi’r argraff bod gan y busnes gyswllt â Llywodraeth Ei Mawrhydi, gweinyddiaethau Cymru neu’r Alban, neu awdurdod lleol gael eu cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol a gall fod angen cefnogaeth yr adran briodol o’r llywodraeth neu gorff perthnasol.
Mae’n ofynnol hefyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo defnyddio enw a allai gamarwain y cyhoedd i gredu bod i’r busnes faint neu statws nad oes cyfiawnhad drosto.
Os bwriadwch chi ddefnyddio unrhyw un o'r geiriau sensitif sydd wedi eu rhestru yn Atodiadau A a B, bydd angen ichi gyflenwi gwybodaeth ategol a fydd yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo’r enw. Mae deddfwriaeth arall yn rhychwantu’r geiriau a’r ymadroddion sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad C a gallai unrhyw ddefnyddio amhriodol ar eiriau o’r fath mewn enw busnes fod yn dramgwydd troseddol. Gwelir gwybodaeth bellach am eiriau sensitif penodol yng nghwestiynau 6 a 7 isod.
Mae rhestr o eiriau sensitif i’w chael hefyd ar ein gwefan yn www.companieshouse.gov.uk Os byddwch yn ansicr ynglŷn â defnyddio gair penodol mewn enw busnes, gallwch hefyd gysylltu â ni ar 0303 123 4500.
O 1 Hydref 2008 ymlaen, bydd Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno darpariaethau newydd sy’n caniatáu i unrhyw berson neu gwmni wrthwynebu enw cwmni ar sail “cofrestru manteisgar” os yw’r enw:
- yr un fath ag enw sy’n gysylltiedig â’r achwynydd ac y mae ganddo/ganddi ewyllys da ynddo; neu
- mor gyffelyb fel y byddai ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig yn debygol o gamarwain drwy awgrymu cysylltiad rhwng y cwmni a’r achwynydd.
Sylwer na all Tŷ’r Cwmnïau drin unrhyw gwynion ynglŷn â chofrestru manteisgar. Dylai gwrthwynebiadau ac ymholiadau gael eu cyfeirio at y “Tribiwnlys Enwau Cwmni” (a elwir hefyd "y Dyfarnydd") sy’n cael ei weithredu a’i weinyddu gan Swyddfa Eiddo Deallusol y DG. Mae gwybodaeth bellach i’w chael yn www.ipo.gov.uk/cna.
6. Pa fath o eiriau ac ymadroddion sy'n sensitif?
Mae'r geiriau canlynol (gweler Atodiadau A a B) yn awgrymu blaenoriaeth genedlaethol neu ryngwladol:
- British - Byddai angen ichi ddangos bod y busnes yn amlwg yn ei faes drwy ddarparu tystiolaeth ategol gan ffynhonnell annibynnol megis adran o'r Llywodraeth, cymdeithas fasnach neu gorff cynrychioli arall. Caiff y flaenoriaeth ei gostwng os nad yw’r enw yn ei grynswth yn disgrifio cynnyrch, ond byddai’n rhaid o hyd ichi ddangos bod eich cwmni’n amlwg ym maes ei weithgarwch hyd yn oed os nad oedd hwnnw wedi ei ddisgrifio yn enw’r busnes.
- England, English, Scotland, Scottish, Wales, Welsh, Ireland neu Irish - lle bo un o’r geiriau hyn yn ymddangos unrhyw le yn yr enw ond ar y diwedd, mae'r gofynion yn debyg i'r rhai ar gyfer `British'. Fel arfer, fe gewch gymeradwyaeth i ddefnyddio unrhyw un o'r geiriau hyn ar ddiwedd yr enw os gallwch ddangos fod prif leoliad y busnes yn y wlad dan sylw. Os dymunwch ddefnyddio un o'r geiriau hyn am ei fod yn gyfenw, fe roir cymeradwyaeth ichi fel arfer ar yr amod bod enw'r cwmni'n cynnwys enwau cyntaf neu flaenlythrennau.
- National - mae'r meini prawf ar gyfer defnyddio’r gair hwn yr un fath ag ar gyfer `British'.
- Great Britain neu United Kingdom - os dymunwch ddefnyddio'r ymadroddion hyn ar ddechrau’r enw, neu os bwriadwch ddefnyddio `of Great Britain' neu `of the United Kingdom' ar y diwedd, yna mae'r gofynion yn debyg i’r rhai ar gyfer `British'. Mae fel arfer yn dderbyniol i ddefnyddio ‘Great Britain’ neu ‘United Kingdom’ ar ddiwedd yr enw. Does dim eisiau cymeradwyaeth fel arfer i ddefnyddio'r blaenlythrennau `GB' neu `UK' yn enw'ch busnes.
- European - ni chymeradwywn enwau sy'n cynnwys y gair hwn os awgrymant, yn ddigyfiawnhad, gyswllt â chyrff swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Os oes cyswllt, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o gefnogaeth y corff perthnasol.
- International - os dymunwch ddefnyddio'r gair hwn ar ddechrau’r enw, bydd angen ichi ddangos bod masnachu tramor yn cyfrif am ran helaeth o weithgareddau'r busnes. Os dymunwch ei ddefnyddio rywle arall yn yr enw, yna fe rown gymeradwyaeth fel arfer ar yr amod y gallwch ddangos bod y busnes yn gweithredu mewn dwy neu ragor o wledydd tramor.
- association, federation neu society - os dymunwch chi ddefnyddio un o'r geiriau hyn, dylai'r cyfansoddiad gynnwys cymal dim-dosbarthu-elw. Mae hyn yn darparu bod un bleidlais gan bob aelod ac y dylai unrhyw elw gael ei ddefnyddio i hybu amcanion y busnes ac nid ei dalu i'r aelodau ar ffurf buddrannau.
- group – dim ond lle mae sawl busnes o dan berchnogaeth gyffredin y gellir defnyddio'r gair hwn mewn enw busnes. Ond os yw'r enw'n dangos yn glir fod y busnes i hybu buddiannau grŵp o unigolion, er enghraifft grwpiau’n dilyn gweithgareddau cymunedol, yna fe gaiff yr enw ei gymeradwyo fel arfer.
- assurance, assurer, insurance, insurer, re-assurance, re-assurer, re-insurance neu re-insurer - os oes angen yr enw i fusnes tanysgrifennu, bydd Tŷ’r Cwmnïau fel arfer yn ceisio cyngor pellach. Ond os dymunwch ddefnyddio'r enw i fusnes na fydd yn darparu ond gwasanaethau yswiriant, yna fe ddylech gynnwys y disgrifiad priodol, er enghraifft `agents', `consultants' neu `services', yn yr enw.
- institute neu institution - dim ond i'r cyrff hynny sy'n gwneud gwaith ymchwil ar y lefel uchaf neu i gyrff proffesiynol o'r rheng flaen y rhown gymeradwyaeth i ddefnyddio'r geiriau hyn fel arfer. Bydd eisiau ichi ddangos inni fod angen y sefydliad a arfaethir a bod ganddo reoliadau priodol neu safonau archwilio. Bydd eisiau ichi sicrhau tystiolaeth o gefnogaeth cyrff cynrychioliadol ac annibynnol eraill.
- benevolent, foundation neu fund – ni chymeradwywn enwau sy'n cynnwys unrhyw un o'r geiriau hyn os rhoddant yr argraff, yn ddigyfiawnhad, fod statws elusennol i'r busnes. Os yw'r busnes wedi ei gyfyngu drwy warant a bod ganddo gymal dim-dosbarthu-elw yn y memorandwm cymdeithasiad, yna fe gaiff yr enw ei gymeradwyo fel arfer.
- charity neu charitable - er mwyn defnyddio’r geiriau hyn, mae’n rhaid i’r busnes ddarparu llythyr oddi wrth y Comisiwn Elusennau sy’n dweud nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad. Os na fwriadwch weithredu’n elusen a’ch bod am gynnwys y gair hwn yn enw’r busnes, bydd eisiau ichi egluro wrth y Comisiwn Elusennau pam y mae angen y gair. Ymwelwch â gwefan y Comisiwn Elusennau yn www.charity-commission.gov.uk.
- government - dim ond os yw Tŷ’r Cwmnïau’n fodlon nad oes cyswllt swyddogol â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu unrhyw ran o weinyddiaeth yr Alban neu Gymru, neu unrhyw awdurdod lleol, y rhoir cymeradwyaeth i ddefnyddio’r gair hwn.
- HSC (Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol) neu HPSS (Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol) - gall Tŷ’r Cwmnïau ymgynghori â’r DHSSPS (Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus) wrth ystyried cymeradwyo enwau sy’n cynnwys y gair hwn, gan y gallai roi camargraff i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd yn ehangach bod y busnes â statws cydnabyddedig mewn cysylltiad ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol Personol.
7. Beth sy'n digwydd os bydd y berchnogaeth yn newid?
Pan newidir perchnogaeth busnes sydd ag enw'n cynnwys gair a gafodd ei bennu, rhaid i'r perchennog newydd sicrhau cymeradwyaeth o hyd, cyn pen 12 mis, i ddefnyddio'r enw. Bydd hyn yn gymwys p'un a gafodd yr enw ei gofrestru'n flaenorol o dan Ddeddf Enwau Busnes 1985, Deddf Cofrestru Enwau Busnes 1916 neu ei gymeradwyo o dan Ddeddf Cwmnïau 1981.
8. Sut dylwn i wneud cais am gymeradwyaeth i ddefnyddio enw?
Os hoffech ddefnyddio enw sy'n cynnwys gair neu ymadrodd a restrir yn Atodiad A neu B, bydd angen ichi sicrhau cydsyniad a chefnogaeth ysgrifenedig yr adran briodol o’r llywodraeth neu’r corff perthnasol. Dylech anfon yr wybodaeth hon gyda’ch cais at:
| ar gyfer busnesau'n gweithredu yng Nghymru neu Loegr |
ar gyfer busnesau'n gweithredu yn yr Alban |
Yr Ysgrifennydd Gwladol
Cwmnïau Newydd
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
neu
DX3350 Caerdydd 1 |
The Secretary of State
New Companies
Companies House
4th Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF
LP - 4 Edinburgh 2 (Legal Post) neu
DX ED235 Edinburgh 1
Ffôn: +44 (0)303 1234 500
Ffacs: 029 20380900
|
Pob ymholiad teleffon: 0303 123 4500
Dim ond os yw’r wybodaeth a ddarparwch chi yn dangos bod y busnes yn bodloni’r amodau perthnasol adeg eich cais neu’n fuan wedyn y rhoir cymeradwyaeth.
Bydd cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i'r enw wedi ei chyfyngu i ddefnyddio geiriau neu ymadroddion neilltuol. Nid yw cymeradwyaeth o'r fath yn ymestyn i nodau ac amcanion y cwmni.
Os hoffech ddefnyddio unrhyw un o’r geiriau a’r ymadroddion sydd wedi eu rhestru yn Atodiad C mewn enw busnes, dylech ysgrifennu i'r corff priodol ac ymgynghori â chyfreithiwr. Nid oes gan yr Ysgrifennydd Gwladol bŵer i gymeradwyo na gwrthod enwau o'r fath nad ymdrinnir â nhw o dan Ddeddf Enwau Busnes 1985. Sylwer y gallai defnyddio amhriodol ar air sydd wedi ei gynnwys yn Atodiad C fod yn dramgwydd troseddol.
Brig
Pennod 2
Rheolau datgelu
1. Ydy'r rheolau datgelu'n gymwys i bob busnes?
Os yw Deddf Enwau Busnes 1985 yn gymwys i chi (gweler pennod 1, cwestiwn 3), yna mae'n rhaid cydymffurfio â'r rheolau datgelu.
Er enghraifft, os bydd Mr W Jones yn masnachu fel 'Popty W Jones', yna bydd y rheolau datgelu a welir yn y Ddeddf Enwau Busnes yn gymwys.
Mae'r rheolau datgelu hefyd yn gymwys i gwmnïau corfforedig sy'n masnachu o dan enw gwahanol, er enghraifft Bwydydd ABC Cyfyngedig fel Bwydydd ABC.
At hyn, mae’n rhaid i gwmnïau corfforedig gydymffurfio â'r rheolau datgelu o dan Ddeddf Cwmnïau 1985. Mae'r rhain yn sôn am beth mae'n rhaid ei nodi ar ddeunydd ysgrifennu, dogfennau, y man archwilio a gwefannau. Mae Rheoliadau Cwmnïau (Datgeliadau Masnachu) 2008 (Offeryn Statudol 2008/495) yn cyflwyno newidiadau pellach o 1 Hydref 2008 ymlaen. Fe welir y rheolau hyn wedi eu hegluro’n llawn yn ein canllaw 'Ffurfio Cwmnïau' yn www.companieshouse.gov.uk
2. Pa fanylion y mae'n rhaid eu datgelu ynglŷn â busnes?
Bydd angen ichi ddatgelu (yn ôl sy'n briodol):
- yr enw corfforaethol (os yw’r busnes yn defnyddio enw masnachu gwahanol); neu
- enw pob partner; neu
- enw'r person unigol; ac
- ar gyfer pob person a enwir, cyfeiriad lle gellir anfon dogfennau.
3. Ble mae'n rhaid dangos yr wybodaeth hon?
Bydd angen ichi ddangos yr wybodaeth yn glir:
- ymhobman lle cynhaliwch eich busnes a lle byddwch chi'n delio â chwsmeriaid neu gyflenwyr;
- ar bob llythyr busnes;
- gwefanna
- ar bob archeb ysgrifenedig am gyflenwi nwyddau neu wasanaethau;
- ar bob anfoneb a derbynneb;
- ar bob cais ysgrifenedig am dalu dyledion busnes.
Mae Atodiad D yn nodi rhai enghreifftiau o ffyrdd y gallwch chi ddangos yr wybodaeth ar eich deunydd ysgrifennu. Cyhyd ag y bo'r manylion yn 'glir a darllenadwy', gallant fod wedi eu hysgrifennu â llaw neu wedi eu hargraffu.
4. Oes rhaid ei dangos yr enw mewn modd arbennig?
Cyhyd â'i fod yn hawdd ei gweld a'i darllen, nid yw o bwys sut y dangoswch chi'r wybodaeth. (Rhoir enghraifft o hysbysiad yn Atodiad E). Ar eiddo mawr, hwyrach y bydd angen ichi feddwl yn ofalus am faint yr hysbysiad a lle y caiff ei arddangos er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb o'ch cwsmeriaid a'ch cyflenwyr yn ei weld. Cewch godi mwy nag un hysbysiad os dymunwch chi. Rhoir enghraifft o hysbysiad yn Atodiad E.
5. Oes rhaid rhoi'r wybodaeth i unrhyw un arall?
Os gofynnir amdanynt, rhaid i'r enwau a'r cyfeiriadau y mae angen eu datgelu gael eu rhoi ar unwaith hefyd, yn ysgrifenedig, i unrhyw un y gwnewch chi fusnes â nhw.
6. Beth os oes sawl partner - oes rhaid datgelu'r holl enwau?
Os oes mwy na 20 partner i'r busnes, does dim rhaid ichi nodi enwau'r holl bartneriaid ar eich dogfennau busnes. Ond rhaid ichi nodi cyfeiriad y prif le busnes a dweud bod modd archwilio rhestr lawn o enwau a chyfeiriadau'r partneriaid yno.
7. Beth sy'n digwydd os na fydda i'n cydymffurfio â'r gofynion?
Byddwch yn cyflawni tramgwydd troseddol:
- os defnyddiwch chi enw busnes sydd eisiau cymeradwyaeth ymlaen llaw, a chithau heb sicrhau'r gymeradwyaeth honno;
- os na ddatgelwch chi'r manylion busnes a fynnir gan y Ddeddf Enwau Busnes a, lle bo’r rheiny’n briodol, y newidiadau sy’n cael eu gweithredu ar 1 Hydref 2008 (gweler cwestiwn 1).
Cofiwch: os na threfnwch i fanylion eich busnes fod ar gael, neu os na fyddwch yn eu harddangos, hwyrach na fydd modd ichi orfodi cytundeb a dynnwyd gennych.
Brig
Pennod 3
Gwybodaeth bellach
1. Ble galla i gael cymorth?
Os hoffech chi wybodaeth bellach am enwau busnes neu’r gofynion datgelu, bwriwch gip ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk neu gysylltu â ni ar 0303 123 4500. Gallech chi hefyd ymgynghori â chyfrifydd neu gyfreithiwr.
2. Ble galla i gael ffurflenni a gwybodaeth ganllaw?
Os ydych chi’n fusnes ac yn ystyried posibilrwydd ffurfio cwmni cyfyngedig, gweler ein canllaw ‘Ffurfio Cwmnïau’ yn www.companieshouse.gov.uk. Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 0303 123 4500. Peth doeth hefyd yw ceisio cyngor cyfrifydd neu gyfreithiwr.
Gellir lawrlwytho ffurflenni yn rhad ac am ddim o’n gwefan ac mae modd eu cael hefyd gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
3. Sut mae anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?
Dim ond os ydych yn gwmni preifat neu gyhoeddus neu’n Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) sy’n defnyddio enw busnes y bydd angen ichi ffeilio gwybodaeth statudol gyda Thŷ’r Cwmnïau. Os ydych yn fusnes a bod angen ichi sicrhau cymeradwyaeth i gael denfyddio enw penodol neu os oes gennych ymholiad cyffredinol, ysgrifennwch at:
| Ar gyfer busnesau'n gweithredu yng Nghymru neu Loegr |
Ar gyfer busnesau'n gweithredu yn yr Alban |
Yr Ysgrifennydd Gwladol
Cwmnïau Newydd
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
neu
DX3350 Caerdydd 1 |
The Secretary of State
New Companies
Companies House
4th Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF
LP - 4 Edinburgh 2 (Legal Post) neu
DX ED235 Edinburgh 1
Ffôn: +44 (0)303 1234 500
Ffacs: 029 20380900
|
Ein rhif teleffon ar gyfer pob ymholiad yw 0303 123 4500.
Gellir cyflwyno dogfennau a gohebiaeth i’n swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin (gweler y cyfeiriadau ar ddiwedd y canllaw hwn) unrhyw adeg, gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, gwyliau banc a thros y penwythnos. Dim ond o’n swyddfa yng Nghaerdydd y gellir cael derbynneb y tu allan i oriau swyddfa.
Sylwer: Nid yw Tŷ Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.
Atodiad A
Bydd arnoch chi angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio cyn cael defnyddio unrhyw rai o'r geiriau neu'r ymadroddion sydd wedi eu gosod yn (a), (b) ac (c) (neu eu ffurfiau lluosog neu feddiannol) yn enw'ch busnes. Mae gwybodaeth bellach am rai o’r geiriau hyn wedi ei chynnwys yng nghwestiwn 6.
| (a) Geiriau sy'n awgrymu blaenoriaeth genedlaethol neu ryngwladol: |
| British |
International |
Scottish |
| England |
Ireland |
United Kingdom |
| English |
Irish |
Wales |
| European |
National |
Welsh |
| Great Britain |
Scotland |
|
| (b) Geiriau sy'n awgrymu blaenoriaeth fusnes neu statws cynrychioliadol: |
| Association |
Council |
Institution |
| Authority |
Federation |
Society |
| Board |
Institute |
Government |
| HSC (Health and Social Care) |
HPSS (Health and Personal Social Services) |
|
| (c) Geiriau sy'n awgrymu amcanion neu swyddogaethau penodol: |
| Assurance |
Friendly society |
Post office |
Trade union |
| Assurer |
Fund |
Reassurance |
Trust |
| Benevolent |
Group |
Re-assurer |
|
| Charter |
Holding |
Register |
|
| Chartered |
Industrial & provident society |
Registered |
|
| Chemist |
Insurance |
Re-insurance |
|
| Chemistry |
Insurer |
Re-insurer |
|
| Co-operative |
Patent |
Sheffield |
|
| Foundation |
Patentee |
Stock exchange |
|
Atodiad B
Bydd angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd i eiriau neu ymadroddion y rhestr ganlynol. Os dymunwch ddefnyddio unrhyw un ohonynt yn enw'ch busnes, bydd eisiau ichi ysgrifennu'n gyntaf i'r corff perthnasol i sicrhau eu cydsyniad a’u cefnogaeth ysgrifenedig i ddefnyddio’r enw. Dylid anfon copi o’r llythyr ategol gyda’ch llythyr yn ceisio cymeradwyaeth i gael defnyddio’r enw.
| Gair neu ymadrodd |
Corff perthnasol i
gwmnïau'n bwriadu bod â'u swyddfa gofrestredig
yng Nghymru neu Loegr |
Corff perthnasol i
gwmnïau'n bwriadu bod â'u swyddfa gofrestredig
yn yr Alban |
| Charity, Charitable |
Head of Status
Charity Commission
Woodfield House
Tangier
Taunton TA1 4BL |
I gael cydnabyddiaeth
fel elusen Albanaidd
Inland Revenue
FICO (Scotland)
Trinity Park House
South Trinity Road
Edinburgh
EH5 3SD |
| Contact Lens |
The Registrar
General Optical Council
41 Harley Street
London W1N 2DJ |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| Dental, Dentistry |
The Registrar
General Dental Council
37 Wimpole Street
London W1M 8DQ |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
District Nurse,
Health Visitor,
Midwife, Midwifery,
Nurse, Nursing |
The Registrar &
Chief Executive
United Kingdom Central
Council for Nursing,
Midwifery and Health Visiting
23 Portland Place
London W1N 3AF |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| Health Centre |
Mike Pattrick
SOL COMMERCIAL
Office of The Solicitor
Department of Health
Room 518
New Court
48 Carey Street
London WC2A 2LS
|
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| Health Service |
Ian Williams
Head of Brand Management
Department of Health
Skipton House
80 London Road
London
SE1 6LH
|
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| NHS (National Health Service) |
Mike Pattrick
SOL COMMERCIAL
Office of the Solicitor
Dept of Health, Room 518,
New Court 48,Carey Street
London WC2A 2LS
Tel 0207 412 1225
Email Mike.Pattrick@dwp.gsi.gov.uk
|
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
|
| Police |
Pauline Laybourne
Briefing and Honours Team
CRCSG Change and Support Unit
3rd Floor A
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
|
The Scottish Ministers
Police Division
St Andrews House
Regent Road
Edinburgh EH1 3DG
|
| Polytechnic |
Department of Education
and Science
FHE 1B
Sanctuary Buildings
Great Smith Street
Westminster
London SW1P 3BT |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
Pregnancy,
Termination,
Abortion |
Department of Health
Area 423
Wellington House
133-135 Waterloo Road
London SE1 8UG |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
Royal, Royale,
Royalty, King,
Queen, Prince, Princess,
Windsor, Duke,
His/Her Majesty |
Os seiliedig yng Nghymru:
Y Swyddfa Gymreig
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Os seiliedig yn Lloegr:
Linda Henshaw
Ministry of JusticeConstitutional Settlement Division
newid cyfeiriad yn effeithiol o 20/10/2008
7C-018 (Post Point 7.42)
102 Petty France
London
SW1H 9AJ |
Douglas Boyd
Protocol Unit
St Andrew's House
Regent Road
Edinburgh
EH1 3DG |
| Special School |
Clinton Roche
Department for Education and Skills
Caxton House
6-12 Tothill Street
LONDON
SW1H 9NA
Tel: 0870 0012345 |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
|
| University |
Privy Council Office
2 Carlton Gardens
London SW1Y 5AA |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
Atodiad C
Mae geiriau neu ymadroddion arbennig wedi eu rhychwantu gan ddeddfwriaeth arall a gallai eu defnyddio fod yn dramgwydd troseddol. Rhestrir rhai o'r rhain isod, ond nid yw'r rhestr yn ddisbyddol ac os bydd gennych chi unrhyw amheuon dylech geisio cyngor pellach. Os dymunwch ddefnyddio unrhyw un o'r enwau neu'r ymadroddion hyn yn enw'ch busnes, hwyrach y carech chi ymgynghori â chyfreithiwr ac ysgrifennu i'r corff priodol i geisio'u cyngor o ran a fyddai defnyddio enw'n dramgwydd troseddol.
| Gair neu ymadrodd |
Deddfwriaeth berthnasol |
Corff perthnasol |
| Architect |
Section 20 Architects
Registration Act 1997 |
The Registrar
Architects Registration
Board
Regulation Department
8 Weymouth Street
London
WlW 5BU |
| Credit Union |
Credit Union Act 1979 |
The Public Records Section
Financial Services Authority
25 The North Colonnade
Canary Wharf
London E14 5HS |
Veterinary Surgeon,
Veterinary, Vet |
Sections 19/20
Veterinary Surgeons
Act 1966 |
The Registrar
Royal College of
Veterinary Surgeons
62-64 Horseferry Rd
London SW1P 2AF |
| Solicitor (Scotland) |
S.31, Solicitors (Scotland) Act 1980 |
The Law Society of Scotland
26 Drumsheugh Gardens
Edinburgh EH3 7YR |
Dentist,
Dental Surgeon,
Dental Practitioner, |
Dental Act 1984 |
The Registrar
General Dental Council
37 Wimpole Street
London W1M 8DQ |
Drug, Druggist,
Pharmaceutical,
Pharmaceutist,
Pharmacist,
Pharmacy |
Section 78
Medicines Act 1968 |
The Director of
Legal Services
The Royal Pharmaceutical
Society of Great Britain
1 Lambeth High Street
London SE1 7JN
(i gwmnïau wedi eu
cofrestru yn yr Alban)
The Pharmaceutical
Society
36 York Place
Edinburgh
EH13HU |
Olympiad ,
Olympiads,
Olympian,
Olympians,
Olympic,
Olympics,
Paralympic,
Paralympics,
Paralympiad,
Paralympiads,
Paralympian,
Paralympians,
c yfieithiad o'r rhain neu o eiriau tebyg i’r geiriau wedi eu diogelu
|
Olympic Symbol etc. (Protection) Act 1995*
(fel y’i diwygiwyd)*
Gallai defnyddio’r geiriau hyn dorri hawliau Cymdeithas Olympaidd Prydain/Cymdeithas Baralympaidd Prydain
* Hefyd yn diogelu'r symbol
Olympaidd o bum cylch
plethedig a'r arwyddair Olympaidd "Citius Altius Fortius" (“Cynt, Uwch, Cryfach”); symbol Paralympaidd y tri “agitos”; yr arwyddair Paralympaidd “Spirit in Motion”; ac unrhyw beth tebyg iddynt.
Yn sgil cais llwyddiannus Llundain am gynnal y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn 2012, mae Deddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006 wedi ei chyflwyno. Mae hon yn rhoi rhagor o hawliau i ddiogelu geiriau, symbolau a marciau Olympaidd sy’n ymwneud â’r gemau. Yn ychwanegol at y geiriau wedi eu diogelu a amlinellir yn y canllawhwn, gallai cofrestru enw cwmni sy’n cynnwys geiriau penodol sy’n awgrymu cysylltiad â Gemau Llundain 2012 dorri hawliau The London Organising Committee of the Olympic Games Limited (LOCOG) o dan y Ddeddf hon. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar:
www.london2012 .com/brandprotection |
The London Organising Committee of the Olympic Games Limited (LOCOG)
23 rd Floor
1 Churchill Place
Canary Wharf
London
E14 5LN
|
Optician,
Ophthalmic Optician
Dispensing Optician,
Enrolled Optician,
Registered Optician,
Optometrist |
Opticians Act 1989 |
The Registrar
General Optical Council
41 Harley Street
London W1N 2DJ |
Red Cross,
Geneva Cross,
Red Crescent,
Red Lion and Sun |
Geneva Convention
Act 1957 |
Ceisier cyngor
Tŷ'r Cwmnïau |
| Anzac |
Section 1 Anzac Act 1916 |
Ceisier cyngor
Tŷ'r Cwmnïau |
Chiropodist, Dietician,
Medical Laboratory,
Technician,
Occupational Therapist,
Orthoptist,
Physiotherapist,
Radiographer
Remedial Gymnast |
Professions
Supplementary to
Medicine Act 1960
if preceded by
Registered, State neu
Registered |
Mrs Joan Arnott
Department of Health
HRD HRB
Rm 2N35A
Quarry House
Quarry Hill
Leeds LS2 7JE |
| Chiropractor |
Chiropractors Act 1994 |
The Chief Executive
General Chiropractic Council
44 Wicklow Streer
LondonWC1X 9HL
|
Institute of Laryngology,
Institute of Otology,
Institute of Urology,
Institute of Orthopaedics |
University College
London Act 1988 |
Ceisier cyngor
University College
London
Gower Street
London
WC1E 6BT |
Patent Office,
Patent Agent |
Copyright, Designs
and Patents Act
1988 |
IPPD (Intellectual Property Policy Directorate)
Room 3B38, Concept House
The Patent Office
Cardiff Road
Newport NP10 8QQ |
| Building Society |
Building Society
Act 1986 |
Ceisier cyngor
Building Societies Commission
Victoria House
30-40 Kingsway
London WC2B 6ES |
Siambr Fusnes/Siambrau Busnes
Siambr Fasnach/Siambrau Masnach
Siambr(au) Masnach a Diwydiant
Siambr(au) Masnach, Hyfforddiant a Menter
Siambr Fenter/Siambrau Menter
Siambr Ddiwydiant/Siambrau Diwydiant
Siambr(au) Hyfforddiant
Siambr(au) Hyfforddiant a Menter
neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn |
Company and Business Names (Chamber of Commerce etc.) Act 1999 |
Mae canllaw ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau |
The Victoria University of Manchester,
University of Manchester Institute of Science and Technology,
UMIST,
Manchester University |
Gwaherddir i bawb ond Prifysgol Manceinion gan “University of Manchester Act 2004” |
|
Athrofa Feddygaeth Prifysgol Cymru,
Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru
neu’r Saesneg cyfatebol |
Gwaherddir i bawb ond Prifysgol Cymru gan “University of Wales, Cardiff Act 2004” |
|
Atodiad D
Does dim rheolau ynglŷn â sut dylech chi ddangos yr wybodaeth angenrheidiol ar ddeunydd ysgrifennu'ch busnes, ond dyma rai enghreifftiau i'ch helpu:
1. Busnes ym meddiant person unigol:
POPTY W.JONES
(Perch: W. Jones)
12 Stryd Fawr
Pont-y-rhyd
Sir Gaernewydd
SA1 2YZ
2. Busnes ym meddiant partneriaeth
JONES AC EVANS (TRWSIO CEIR)
(partneriaid: P Jones ac A Evans)
34 Stryd Isaf
Pont-y-rhyd
Sir Gaernewydd
SA2 3WX
3. Busnes ym meddiant cwmni:
BWYDYDD ABC
Uned 2
Ystad Fasnachol Newydd
Pont-y-rhyd
Sir Gaernewydd
BA3 4ST
Ar waelod y pennawd llythyr (mae angen y manylion hyn o dan Ddeddf Enwau Busnes 1985 a'r Deddfau Cwmnïau):
BWYDYDD ABC (PRYDAIN FAWR) CYF, cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Rhif cofrestru: 1234567
Swyddfa Gofrestredig: 5 Stryd Ganol, Pont-y-rhyd, Sir Gaernewydd SA4 5QR
COFIWCH: rhaid dangos yr hysbysiad hwn mewn lle amlwg fel bod modd ei ddarllen yn rhwydd ymhob man lle dilynwch eich busnes a lle byddwch chi'n delio â chwsmeriaid neu gyflenwyr.
Atodiad E
Unwaith eto, does dim rheolau sy'n llywio'r ffordd y byddwch chi'n dangos enw'ch busnes gydag enw a chyfeiriad y perchennog. Ond efallai y bydd yr enghraifft ganlynol o gymorth.
MANYLION PERCHNOGAETH
POPTY W JONES
(yn unol â gofynion Deddf Enwau Busnes 1985)
William Jones
12 Stryd Fawr
Pont-y-rhyd
Sir Gaernewydd
SA1 2YZ
Brig
|