Amdanon Ni |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Mehefin 2008 - Fersiwn 11
Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006
Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig - Gweinyddu a Rheoli: GBLLP2 Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn: Cafodd Deddf Cwmnïau 1985 (a 1989) ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001. Mae’r llywodraeth wedi ymgynghori’n ddiweddar ynghylch cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006 at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. Y bwriad yw cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006 at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig lle bo hynny’n briodol. Ond mae’n bosib na fyddir yn cymhwyso Deddf 2006 at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yr un pryd ag y byddan nhw’n dod i rym ar gyfer cwmnïau. Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym ac wedi cael eu cymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn barod. Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol. Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy’r holl nodiadau hyn, gymaint â phosib, pa Ddeddf sy’n berthnasol. Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, ymwelwch â’n gwefan http://www.companieshouse.gov.uk Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html lle gallwch chi weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosib, eglurwn hyn yn y canllaw hwn a rhown fanylion ar ein gwefan. Mae dau gam pellach yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 sydd wedi eu trefnu ar gyfer Hydref 2008 a Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau hynny ar y pryd. Efallai yr hoffech chi gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu barhau, fel y gallwch gael mynediad at y newyddion diweddaraf. Pa newidiadau sydd wedi dod i rym yn barod?
Pryd bydd gweddill y newidiadau’n dod i rym?
Cynnwys
Mae’r llyfryn hwn yn arweiniad i weinyddu a rheoli partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Mae’n gymwys i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig wedi eu ffurfio a’u cofrestru yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r llyfryn:
Canllaw yn unig yw hyn a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddeddfwriaeth berthnasol:
Os byddwch yn dal yn ansicr am eich cyfrifoldebau ar ôl darllen y llyfryn hwn, dylech chi geisio cyngor proffesiynol cyfreithiwr neu gyfrifydd. Cyfrifoldebau aelodau ac aelodau dynodedig Adran 1.1 Aelodaeth partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig 1. Pwy yw aelodau partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig? Wrth ffurfio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yr aelodau yw’r bobl sydd wedi eu henwi ar y ddogfen gorffori. Rhaid penodi o leiaf dau aelod yn ‘aelodau dynodedig’ – gweler cwestiwn 4 isod. Mae’n rhaid i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fod ag o leiaf dau aelod. Os bydd yr aelodaeth yn disgyn i un aelod yn unig a bod y bartneriaeth yn parhau i fasnachu am fwy na chwe mis, yna mae’n colli buddion atebolrwydd cyfyngedig. Mae pob aelod yn asiant i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a bydd y bartneriaeth wedi ei rhwymo gan unrhyw beth a wnaiff aelod ar ei rhan, ac eithrio yn yr amgylchiadau canlynol:
2. Pryd bydd aelod yn peidio â bod yn aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig? Bydd aelodau yn peidio â bod yn aelodau:
Wrth ddelio â phobl eraill, caiff cyn-aelod ei (h)ystyried yn aelod o hyd oni fydd rhybudd bod y cyn-aelod wedi rhoi’r gorau i’w (h)aelodaeth:
3. Oes rhaid rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am unrhyw newid o ran aelodau? Rhaid i rybudd bod rhywun wedi dod yn aelod neu wedi rhoi’r gorau i fod yn aelod gael ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 14 diwrnod ar y ffurflenni canlynol:
Wrth benodi hefyd yn ‘aelod dynodedig’, rhaid cofnodi hynny ar Ffurflen LLP288a. Rhaid i rybudd bod aelod presennol wedi newid ei (h)enw neu ei gyfeiriad/chyfeiriad gael ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 28 diwrnod ar y ffurflen ganlynol:
4. Pwy yw ‘aelodau dynodedig’ partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig? Rhaid bod o leiaf dau aelod dynodedig. Mae’n rhaid i’r ddogfen gorffori ddweud:
Gall yr aelodau benderfynu unrhyw adeg wrthdroi’r sefyllfa drwy gyflwyno rhybudd i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen LLP8. Os dywed Ffurflen LLP8 y bydd aelodau arbennig yn aelodau dynodedig, yna mae’n rhaid rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am fanylion statws pob aelod o fewn 28 diwrnod ar Ffurflen LLP288c. Lle bo aelodau arbennig yn aelodau dynodedig, gall aelod ddod yn aelod dynodedig – neu’r ffordd arall – unrhyw adeg drwy gytundeb â’r aelodau eraill. Unwaith eto, rhaid cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau rybudd bod yr aelod wedi newid statws o fewn 28 diwrnod ar Ffurflen LLP288c. Bydd aelod dynodedig sy’n rhoi’r gorau i’w (h)aelodaeth yn peidio’n awtomatig â bod yn aelod dynodedig. Os bydd nifer yr aelodau dynodedig am unrhyw reswm yn disgyn i un, neu ddim un, bydd y gyfraith yn ystyried bod pob aelod yn aelod dynodedig. 5. Beth yw cyfrifoldebau aelodau dynodedig? Mae gan aelodau dynodedig yr un hawliau a dyletswyddau tuag at y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ag unrhyw aelod arall. Caiff yr hawliau a’r dyletswyddau cilyddol hyn eu llywio gan gytundeb y bartneriaeth neu gan y gyfraith. Ond mae’r gyfraith hefyd yn gosod cyfrifoldebau ychwanegol ar aelodau dynodedig. Yn fwyaf arbennig, mae aelodau dynodedig yn gyfrifol am:
Mae aelodau dynodedig hefyd yn atebol o dan y gyfraith am unrhyw fethiant i fodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol hyn. 6. Oes rhaid rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am newid cyfeiriad y swyddfa gofrestredig? Mae’n hollbwysig ichi roi inni’r wybodaeth ddiweddaraf am leoliad eich swyddfa gofrestredig. Rhaid i bob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fod â swyddfa gofrestredig: dyma ‘gartref’ y bartneriaeth, lle byddwn yn anfon pob dogfen swyddogol, hysbysiad a phapur llys. Rhaid i’r cyfeiriad fod yn lleoliad ffisegol, nid blwch swyddfa’r post yn unig. Y rheswm am hyn yw bod pobl â hawl i ymweld â’ch swyddfa i archwilio cofrestri a dogfennau arbennig, ac i gyflwyno dogfennau â llaw. Gallwch chi newid cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig drwy lenwi ac anfon i Dŷ’r Cwmnïau ffurflen LLP287. Dim ond wrth inni gofrestru’r ffurflen y daw’r newid i rym cyfreithiol. Adran 1.2 Ansawdd dogfennau 1. Beth sy’n digwydd i ddogfennau a gaiff eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau? Mae’r dogfennau a’r ffurflenni a gyflwynwch chi i Dŷ’r Cwmnïau yn cael eu sganio i greu delwedd electronig. Wedyn, caiff y dogfennau gwreiddiol eu rhoi i gadw a defnyddir y ddelwedd electronig fel dogfen waith. Wrth i bobl sy’n chwilio’r Gofrestr adolygu record y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, fe welan nhw’r ddelwedd electronig wedi ei hatgynhyrchu ar-lein. Felly, mae’n bwysig bod y gwreiddiol yn ddarllenadwy fel bod modd ei ddefnyddio i greu copi clir. Mae’r adran hon yn gosod ychydig o ganllawiau ansawdd i’w dilyn wrth baratoi dogfen i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau. 2. Beth sy’n digwydd os nad yw fy nogfennau’n bodloni’r canllawiau? Gall Tŷ’r Cwmnïau wrthod dogfennau na ellir mo’u cipio’n electronig, gan roi rhybudd yn dweud pam eu bod nhw’n annerbyniol. Rhaid cyflwyno copi derbyniol o fewn 14 diwrnod i’r rhybudd – fel arall, byddwn yn ystyried bod y gwreiddiol heb ei gyflwyno. 3. Sut dylid trefnu dogfennau? Rhaid i bob dogfen a gaiff ei chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau nodi rhif cofrestru’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig mewn lle amlwg, a rhaid iddi gydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir gan y Cofrestrydd gyda golwg ar lunwedd y ddogfen honno. Yn gryno, dylai dogfennau fod ar bapur gwyn plaen o faint A4 yn pwyso rhwng 80gsm a 100gsm gyda gorffeniad di-sglein. Dylai’r testun fod yn ddu, yn glir, yn ddarllenadwy ac o ddwysedd cyson. Rhaid i lythrennau a rhifau fod o leiaf 1.8mm o uchder, gyda lled llinell o 0.25mm fan leiaf.
Pwysig: gall testun mewn inc lliw fynd ar goll (diflannu) wrth i ddogfen gael ei sganio i greu delwedd. I osgoi hyn, defnyddiwch inc du bob amser i lenwi a llofnodi unrhyw ddogfen. 4. Beth yw’r broblem fwyaf cyffredin i’w hosgoi? Cyfrifon sglein 5. Alla i gael rhagor o wybodaeth am hyn? Am ganllawiau pellach ynglŷn â’n gofynion argraffu, cysylltwch â 0303 1234 500. Ffurflen Flynyddol Adran 2.1 Llenwi ffurflen flynyddol 1.1 Pa bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig y mae’n rhaid iddyn nhw anfon ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau? Rhaid i bob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gyflwyno ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 28 diwrnod i’w dyddiad diwallu (gweler cwestiwn 3). Bydd aelodau dynodedig y bartneriaeth yn gyfrifol am sicrhau bod y ffurflen flynyddol:
Cofiwch: Mae peidio â chyflwyno ffurflen flynyddol y bartneriaeth o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad diwallu yn dramgwydd troseddol y gall yr aelodau dynodedig gael eu herlyn amdano. 2 Beth yw ffurflen flynyddol (Ffurflen LLP363)? Mae ffurflen flynyddol yn giplun o wybodaeth ar y dyddiad diwallu (gweler cwestiwn 3). Mae’n wahanol i gyfrifon blynyddol y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Rhaid i ffurflen flynyddol gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
Mewn rhai achosion, gall fod gwybodaeth am ymgymeriadau cysylltiedig wedi ei hatodi wrth y ffurflen flynyddol. 3. Beth yw’r dyddiad diwallu? Dyma’r dyddiad pryd mae’n rhaid i holl wybodaeth y ffurflen flynyddol fod yn gywir. Fel arfer, daw’r dyddiad diwallu flwyddyn ar ôl:
4. Pryd mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau? Rhaid cyflwyno’r ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad diwallu sydd wedi ei nodi ar y ffurflen. 5. Llenwi ffurflen flynyddol LLP363 Rhaid i’r holl fanylion a rowch chi ar Ffurflen LLP363 gadarnhau’r wybodaeth am y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd eisoes ar gofnod cyhoeddus Tŷ’r Cwmnïau ar y dyddiad diwallu. Mae’r manylion y dylech chi eu rhoi wedi eu nodi o dan gwestiwn 2. Dim ond drwy anfon y ffurflen(ni) statudol briodol/priodol gyda’r ddogfen y cewch chi newid y manylion:
Ni chofrestrwn ffurflen flynyddol LLP363 os dengys wybodaeth sy’n wahanol i’r cofnod cyhoeddus, oni roddwyd gwybod inni am y newid ar y ffurflen statudol briodol. Cyfrifon a Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg Adran 3.1 Dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg 1. Beth yw blwyddyn ariannol? Mae’n rhaid i bob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig baratoi cyfrifon blynyddol yn cyfleu perfformiad a sefyllfa ariannol y bartneriaeth yn ystod y flwyddyn. Y cyfnod y sonnir amdano yn y cyfrifon yw’r flwyddyn ariannol. Bydd hon yn dechrau’r diwrnod ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf neu, yn achos partneriaeth newydd, ar y dyddiad corffori. Term arall ar gyfer y ‘flwyddyn ariannol’ yw’r ‘cyfnod cyfeirnod cyfrifeg’. Daw’r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg – gweler cwestiynau 2 a 3 – neu ar ddyddiad hyd at saith diwrnod y naill ochr neu’r llall i’r dyddiad cyfeirnod os bydd hynny’n fwy cyfleus. 2. Sut pennir y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig newydd, pennir y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg drwy gyfeirio at ddyddiad ei chorffori – gweler cwestiwn 3. Gallwch chi newid y cyfnod cyfeirnod cyntaf a chyfnodau cyfeirnod dilynol drwy newid y dyddiad cyfeirnod – gweler cwestiynau 4 a 5. 3. Pa gyfnod y mae’n rhaid i gyfrifon cynta’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei fodloni? Ar gyfer pob partneriaeth newydd, y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf, yn awtomatig, fydd diwrnod ola’r mis un flwyddyn wedi corffori’r bartneriaeth. Er enghraifft, os corfforwyd y bartneriaeth ar 10 Mehefin 2007, ei dyddiad cyfeirnod fyddai 30 Mehefin, a byddai’r cyfrifon cynta’n bodloni cyfnod rhwng 10 Mehefin 2007 a 30 Mehefin 2008 – neu hyd at saith diwrnod wedyn neu ynghynt. Er y pennir y dyddiad cyfeirnod adeg y corffori, fe allwch ei newid – gweler cwestiwn 4. 4. Oes modd newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Oes, drwy lenwi Ffurflen LLP225 a’i hanfon i Dŷ’r Cwmnïau. Ond dim ond y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg presennol neu’r un blaenorol y gellir ei newid ac mae’n rhaid ichi gofrestru’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg newydd cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio’r cyfrifon. Mewn geiriau eraill, os yw Tŷ’r Cwmnïau’n disgwyl cyfrifon erbyn dyddiad cyfeirnod cyfrifeg arbennig a bod y rheiny’n mynd yn orddyledus, mae’n rhy hwyr i ddweud eich bod am newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Fel arfer, bydd gan bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig 10 mis (naw mis os yw’r cyfnod yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008) i gyflwyno’u cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau. Mae trefn wahanol o ran pennu’r cyfnod a ganiateir ar gyfer anfon cyfrifon cynta’r bartneriaeth ac eglurir hon yn adran 3.2. 5. Oes unrhyw gyfyngu o ran newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Cewch newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg drwy fyrhau cyfnod cyfeirnod cyfrifeg mor aml ag y dymunwch a chan gymaint o fisoedd ag y dymunwch. Ond mae yna gyfyngiadau o ran estyn cyfnodau cyfeirnod:
Dyma wledydd Ardal Economaidd Ewrop:
Adran 3.2 Paratoi a ffeilio cyfrifon Mae’r adran hon yn egluro’r rheolau sylfaenol ar gyfer paratoi a ffeilio cyfrifon. Mae’n gymwys i unrhyw gyfrifon partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ni waeth a fydd eithriadau ffeilio’n berthnasol i gynnwys y cyfrifon. 1. Oes rhaid i bob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gadw cofnodion cyfrifeg? Rhaid i bob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, p’un a fo’n masnachu neu beidio, gadw cofnodion cyfrifeg. 2. Beth yw cynnwys set o gyfrifon? At ei gilydd, mae’n rhaid i gyfrifon gynnwys:
Ni all y llyfryn hwn fanylu ar yr holl wybodaeth y mae’n rhaid i’r dogfennau uchod ei chynnwys – ar gyfer hyn, gweler y Ddeddf. Gellir hepgor gwybodaeth arbennig o gyfrifon partneriaethau o faint bach a chanolig (gan gynnwys rhai segur) wedi eu paratoi o dan ddarpariaethau arbennig Rhan VII o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001). Caiff y partneriaethau hyn grynhoi ymhellach ar y cyfrifon y byddan nhw’n eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau – gweler adran 3.3 o’r bennod hon. Gall rhai partneriaethau bach a phartneriaethau segur hefyd gael eu heithrio rhag archwilio ariannol – gweler adrannau 3.4 a 3.5. 3. Oes rhaid i bob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gyflwyno’i chyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau? Oes. 4. Pa gyfnod y mae’n rhaid i’r cyfrifon ei fodloni? Rhaid i gyfrifon cynta’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fodloni’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad corffori, nid y diwrnod masnachu cyntaf. Daw’r cyfnod i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu hyd at saith diwrnod y naill ochr neu’r llall i’r dyddiad hwnnw. Ymdriniwyd yn adran 3.1 â dyddiadau cyfeirnod a sut i’w newid. Bydd cyfrifon dilynol yn dechrau’r dydd ar ôl i gyfnod y cyfrifon blaenorol ddod i ben. Diweddant ar y dyddiad cyfeirnod neu hyd ar saith diwrnod y naill ochr neu’r llall iddo. 5. Pa mor hir sydd gen i i ffeilio cyfrifon cyntaf fy mhartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig? Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau cyn 6 Ebrill 2008: Os ydych chi’n ffeilio’ch cyfrifon cyntaf a’u bod yn bodloni cyfnod o fwy na 12 mis, mae’n rhaid eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 22 mis i’r dyddiad corffori neu dri mis i’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, p’un bynnag fo hiraf. Er enghraifft, bydd partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a gorfforwyd ar 1 Ionawr 2005, a 31 Ionawr yn ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddi, yn cael tan ganol nos ar 1 Tachwedd 2006 (22 mis ar ôl y dyddiad corffori) i gyflwyno’i chyfrifon, nid 30 Tachwedd. Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008: Rhaid cyflwyno’ch cyfrifon cyntaf i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 21 mis i’r dyddiad corffori neu dri mis i’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, p’un bynnag fo hiraf. Er enghraifft, bydd partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a gorfforwyd ar 6 Ebrill 2008, a 30 Ebrill yn ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddi, yn cael tan ganol nos ar 6 Ionawr 2010 (21 mis ar ôl y dyddiad corffori) i gyflwyno’i chyfrifon, nid 31 Ionawr. 6. Pa mor hir sydd gen i fel arfer i ffeilio fy nghyfrifon? Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau cyn 6 Ebrill 2008: Oni bai eich bod chi’n ffeilio cyfrifon cynta’ch partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (gweler cwestiwn 5), yr amser a ganiateir fel arfer i gyflwyno cyfrifon yw 10 mis o’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Ond os byrhawyd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, yr amser a ganiateir i ffeilio’r cyfrifon yw naill ai:
Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008: Oni bai eich bod chi’n ffeilio cyfrifon cynta’ch partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yr amser a ganiateir fel arfer i gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau yw naw mis o’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Ond os byrhawyd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, yr amser a ganiateir i ffeilio’r cyfrifon yw naw mis o’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu dri mis o ddyddiad yr hysbysiad (Ffurflen LLP225), p’un bynnag fo hiraf. 7. Oes modd estyn yr amser a ganiateir i gyflwyno cyfrifon? Gallwch chi wneud cais am estyn yr amser ar gyfer gosod a chyflwyno cyfrifon os oes rheswm arbennig dros wneud – er enghraifft, os buodd digwyddiad na ragwelwyd ac a oedd y tu hwnt i reolaeth y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a’i harchwilwyr ariannol. Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig, cael ei gyflwyno cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio, a rhaid iddo gynnwys esboniad llawn o resymau’r estyniad a hyd yr estyniad a geisir.
8. Beth os cyflwyna i’r cyfrifon yn hwyr? Mae cosb sifil awtomatig am ffeilio hwyr. Mae’r swm yn dibynnu ar ba mor hwyr y bydd y cyfrifon yn dod i law. Mae methiant i gyflwyno cyfrifon prydlon hefyd yn dramgwydd troseddol y gall aelodau dynodedig gael eu herlyn amdano. Eglurwn gosbau ffeilio hwyr yn llawn yn y llyfryn ‘Cosbau Ffeilio Hwyr’. Sylwer: os bydd terfyn amser ar gyfer ffeilio’n dod i ben ar ddydd Sul neu ŵyl banc, mae’r gyfraith o hyd yn mynnu i gyfrifon gael eu ffeilio erbyn y dyddiad hwnnw. Felly, fe ddylech chi wneud yn siŵr y cânt eu postio mewn pryd i gyrraedd cyn terfyn amser o’r fath. 9. Pwy all gymeradwyo a llofnodi cyfrifon? Rhaid i’r cyfrifon gael eu cymeradwyo gan aelodau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a’u llofnodi cyn eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau.
10. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi cyngor technegol ar gyfrifon? Gallwn roi canllaw cyffredinol ond nid cyngor ar faterion cyfrifeg penodol. Yn gyntaf, nid yw cynnig cyngor technegol yn swyddogaeth a roddodd y Llywodraeth inni, ac nid oes gennym y cymwysterau i wneud. Yn ail, nid yw’n ymarferol: mae’ch cyfrifon yn dibynnu ar ofynion cyfreithiol cymhleth, ac ni wyddom ddigon am eich partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i fod yn hyderus ein bod yn rhoi ichi gyngor priodol. Hwyrach yr hoffech ymgynghori â chyfrifydd os bydd arnoch chi angen y math hwn o gyngor. Adran 3.3 Eithriadau ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach a chanolig 1. Pa eithriadau sydd ar gael? Caiff rhai partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach neu ganolig baratoi cyfrifon ar gyfer eu haelodau o dan ddarpariaethau arbennig adrannau 246 a 246A o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001). Yn ogystal, cânt baratoi cyfrifon cryno a’u cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Mae’r adran hon yn egluro’r eithriadau sydd ar gael i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach a chanolig. Gall rhai partneriaethau bach sydd â throsiant busnes o lai na £5.6 miliwn ac asedion o lai na £2.8 miliwn hawlio cael eu heithrio rhag archwilio ariannol. Sonnir am hyn yn adran 3.4 o’r bennod hon. Ymdriniwyd yn adran 3.2 â’r cyfnod y mae’n rhaid i’r cyfrifon ei fodloni ac â’r amser a ganiateir i’w hanfon i Dŷ’r Cwmnïau. 2. Beth yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig o faint bach neu ganolig? Ni all rhai partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, yn enwedig yn y sectorau rheoledig, fod yn gymwys fel cwmnïau bach neu ganolig. Yn yr un modd, ni all partneriaethau sy’n rhan o grŵp ag aelodau sy’n gwmnïau cyhoeddus neu’n gwmnïau yn y sector rheoledig fod yn gymwys fel cwmnïau bach neu rai o faint canolig (ac eithrio o dan amgylchiadau arbennig – gweler adran 3.4). Ar gyfer partneriaethau eraill, maint y bartneriaeth (ac yn achos rhiant-bartneriaeth, maint y grŵp a arweinir ganddi) yn nhermau ei throsiant busnes, cyfanswm ei mantolen (sef, cyfanswm yr asedion sefydlog a chyfredol) a nifer cyfartalog ei gweithwyr sy’n penderfynu a gaiff ei dosbarthu’n un fach neu ganolig. Rhoir isod grynodeb o’r amodau. I fod yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig o faint bach, rhaid bodloni o leiaf dau o’r amodau canlynol:
I fod yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ganolig ei faint, rhaid bodloni o leiaf dau o’r amodau canlynol:
At ei gilydd, bydd partneriaeth yn gymwys fel un ‘fach’ neu ‘ganolig’ yn ei blwyddyn ariannol gyntaf, neu mewn unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol, os bodlona’r amodau yn ystod y flwyddyn honno a’r flwyddyn cynt. Os paid y bartneriaeth â bod yn fach neu ganolig, bydd yr eithrio’n parhau am y flwyddyn gyntaf nad yw’r bartneriaeth yn bodloni’r amodau. Mae’r eithrio’n parhau’n ddi-dor os daw’r bartneriaeth yn un fach neu ganolig unwaith eto y flwyddyn ddilynol – gweler y tabl isod. Os credwch chi y gallai’r bartneriaeth fod yn gymwys fel un fach neu ganolig, dylech ymgynghori â chyfrifydd proffesiynol cyn paratoi cyfrifon ‘darpariaeth arbennig’. Os crynhowch y cyfrifon, bydd eisiau hefyd ichi ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau adroddiad arbennig gan archwilydd ariannol yn cadarnhau bod y bartneriaeth yn gymwys i greu cyfrifon o’r fath. Ni fydd angen yr adroddiad hwn os cafodd y bartneriaeth ei heithrio rhag archwilio ariannol – gweler adran 3.4 ar bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach iawn. Hwyrach y bydd y tabl canlynol o gymorth ichi benderfynu a ydych yn gymwys i baratoi cyfrifon ‘bach’ neu ‘ganolig’. Mae’r tabl yn berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach. Ar gyfer rhai canolig eu maint, ni raid ond rhoi ‘canolig’ yn lle ‘bach’.
3. Beth sy’n rhaid i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig o faint bach neu ganolig ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau? Gall y bartneriaeth gyflwyno’r cyfrifon a gafodd eu paratoi ar gyfer ei haelodau o dan ddarpariaethau arbennig Rhan VII o Ddeddf Cwmnïau 1985 fel y cymhwysir honno at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, neu fe all gyflwyno fersiwn cryno o’r cyfrifon hynny. Rhaid i gyfrifon cryno partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig o faint bach gynnwys:
Rhaid i gyfrifon cryno partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig o faint canolig gynnwys:
Dylai adroddiad arbennig yr archwilydd ariannol ddweud bod gan y bartneriaeth hawl, ym marn yr archwilydd, i gyflwyno cyfrifon cryno a bod y rheiny wedi eu paratoi’n briodol yn unol ag adran 246(5) neu (6) neu 246A(3) o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3(1) o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001), yn ôl y galw. Rhaid i’r fantolen gynnwys datganiad i’r perwyl bod y cyfrifon wedi eu paratoi yn unol â darpariaethau arbennig Rhan VII o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001) gyda golwg ar bartneriaethau bach neu ganolig, yn ôl y galw. 4. Oes rheolau arbennig i grwpiau bach a chanolig eu maint? Oes, does dim angen i riant-bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig baratoi cyfrifon grŵp na’u hanfon i Dŷ’r Cwmnïau os yw’r grŵp yn un bach neu ganolig ei faint ac os nad yw’r un o’i aelodau yn gwmni cyhoeddus nac yn berson sydd â chaniatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio, nac yn berson sy’n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant. I fod yn gymwys fel un bach, rhaid i grŵp fodloni o leiaf dau o’r amodau canlynol:
I fod yn gymwys fel un canolig, rhaid i grŵp fodloni o leiaf dau o’r amodau canlynol:
5. Beth os oes angen i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig o faint bach neu ganolig baratoi cyfrifon grŵp? Gall rhiant-bartneriaeth fach sydd wedi paratoi cyfrifon unigol ar gyfer ei haelodau drwy ddilyn darpariaethau arbennig adran 246(2) neu (3) o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001) ddewis paratoi cyfrifon grŵp o dan ddarpariaethau arbennig adran 248A. Ond ni all grŵp bach ffeilio cyfrifon cryno yn Nhŷ’r Cwmnïau. Rhaid i gyfrifon grŵp wedi eu paratoi o dan adran 248A gynnwys datganiad uwchben y llofnod ar y fantolen, yn cadarnhau eu bod wedi eu paratoi yn unol â darpariaethau arbennig adran 248A gyda golwg ar bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach. Os bydd partneriaeth ganolig ei maint yn paratoi cyfrifon grŵp, rhaid i’r rheiny fod yn gyfrifon grŵp llawn. Diwyg cyfrifon 6. Pa mor hir sydd gen i i gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau? Mae’r un amser yn gymwys ag ar gyfer pob math arall o gyfrifon. Gosodir yr un cosbau am ffeilio hwyr. Gweler adran 3.2 o’r bennod hon. Adran 3.4 Eithrio partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach rhag archwilio ariannol 1. Pa eithriadau sydd ar gael? Caiff rhai partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach eu heithrio’n llwyr rhag archwilio ariannol os ydyn nhw’n gymwys ac am fanteisio ar y ddarpariaeth. Aiff yr adran hon ymlaen i roi manylion pellach am sut i hawlio’r eithriadau. 2. Pa bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach sy’n gymwys i’w heithrio rhag archwilio ariannol? I fod yn gymwys i’w heithrio’n llwyr rhag archwilio ariannol, mae’n rhaid i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig:
3. Ydy pob math o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig o faint bach yn gymwys i’w heithrio? Nac ydyn. Rhaid cyflwyno cyfrifon archwiliedig i Dŷ’r Cwmnïau os yw’r bartneriaeth yn perthyn i unrhyw un o’r categorïau canlynol: (a) Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a oedd, unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi o dan drefn MiFID (sef, y Gyfarwyddeb Marchnadoedd Offerynnau Ariannol) neu’n gwmni rheoli’n perthyn i UCITS; (b) yn gorff cofrestr arbennig neu’n gymdeithas gyflogwyr o dan Ddeddf (Cydgyfnerthu) Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur 1992; (c) yn aelod o grŵp anghymwys. Mae grŵp yn anghymwys os yw unrhyw un o’i aelodau –
(d) yn rhiant-bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu is-ymgymeriad (onid oedd yn segur yn ystod y cyfnod pan fuodd yn is-ymgymeriad), ac eithrio lle mae’r grŵp:
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sy’n dilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio, gwiriwch wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol www.fsa.gov.uk/pages/index.shtml 4. Beth sydd angen i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a gafodd ei heithrio rhag archwilio ariannol ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau? Os yw’r bartneriaeth yn gymwys (gweler cwestiynau 2 a 3), caiff gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau gyfrifon heb eu harchwilio ar ffurf mantolen gryno a nodiadau’n cynnwys y datganiadau canlynol uwchben llofnod yr aelod dynodedig: (a) Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ... (dyddiad), yr oedd gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig hawl i gael ei heithrio o dan adran 249A(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001). (b) Mae’r aelodau’n cydnabod eu cyfrifoldeb am:
(c) Paratowyd y cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig Rhan VII o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001) gyda golwg ar bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach. Os bydd y bartneriaeth yn dewis, gall gyflwyno’r cyfrifon heb eu crynhoi fel y cawsant eu paratoi ar gyfer ei haelodau. Rhaid i’r un datganiadau ymddangos ar y fantolen heb ei chrynhoi. Sylwer: Ni ddylai’r datganiadau o ran eithrio rhag archwilio ariannol gynnwys cyfeiriad at adran 249b(2), sef bod yr aelodau heb fynnu archwiliad. Nid yw’r adran hon o’r Ddeddf yn gymwys i bartneriaethau PAC ac ni ddylid cynnwys y datganiad ar y fantolen. 5. Pa mor hir sydd gen i i gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau? Mae’r un amser yn gymwys ag ar gyfer pob math arall o gyfrifon. Gosodir yr un cosbau am ffeilio hwyr. Gweler adran 3.2. 6. Oes rhaid i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a gafodd ei heithrio rhag archwilio ariannol anfon cyfrifon at ei haelodau o hyd? Yn unol â’r Ddeddf, mae gan aelodau hawl i dderbyn a mynnu copïau o’r cyfrifon. Anfanteision posib cyfrifon heb eu harchwilio’n ffurfiol Bydd banciau a rheolwyr credyd yn dibynnu ar yr wybodaeth sydd ar gael o Dŷ’r Cwmnïau i asesu dibynadwyedd credyd partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ac ar hyn o bryd byddan nhw’n ceisio sicrwydd archwiliad annibynnol. Os yw’n gymwys i’w heithrio rhag archwilio ariannol, bydd eisiau i’r bartneriaeth benderfynu a yw cyfrifon heb eu harchwilio’n ffurfiol yn drefn addas i’w hamgylchiadau ei hun. 7. Oes angen cyflwyno cyfrifon blynyddol os nad yw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn masnachu? Rhaid i bob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, p’un a fo’n masnachu neu beidio, baratoi a chyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau. Ond caiff partneriaeth hawlio cael ei heithrio rhag archwilio ariannol fel ‘partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig segur’ lle na fuodd yn masnachu yn ystod y flwyddyn ariannol, ac ar yr amod ei bod yn bodloni meini prawf arbennig eraill (gweler adran 3.5). Does dim angen i bartneriaethau segur benodi archwilwyr ariannol a chânt gyflwyno cyfrifon blynyddol symlach fyth i Dŷ’r Cwmnïau. Am ragor o wybodaeth ynghylch cyfrifon segur, gweler adran nesa’r llyfryn hwn. Adran 3.5 Eithrio partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sy’n segur rhag archwilio ariannol 1. Beth yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig segur? Mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn segur os na chafodd unrhyw ‘drafodion cyfrifeg arwyddocaol’ yn ystod y cyfnod. ‘Trafodion cyfrifeg arwyddocaol’ yw trafodion y mae’n rhaid eu cynnwys yng nghofnodion cyfrifeg y bartneriaeth, ond wrth ystyried a yw’r bartneriaeth yn segur, fe gewch chi anwybyddu’r trafodion ariannol canlynol:
Ni all partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fanteisio ar statws segur os oedd, unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi o dan drefn MiFID neu’n gwmni rheoli’n perthyn i UCITS. Os nad yw’r bartneriaeth yn segur ers ei chorffori, ond iddi fynd yn segur wedyn, gall fanteisio ar yr eithriadau ar yr amod:
2. Pa eithriadau sydd ar gael? Gall partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sy’n segur hawlio cael eu heithrio rhag archwilio ariannol, a dim ond mantolen gryno a nodiadau y mae angen iddynt eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Does dim rhaid cynnwys cyfrif elw a cholled gyda chyfrifon segur wrth eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau. Ond mae’n rhaid paratoi cyfrifon mwy manwl ar gyfer yr aelodau o hyd, gan gynnwys, o bosib, gyfrif elw a cholled os buodd i’r bartneriaeth fasnachu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 3. Pa wybodaeth y mae’n rhaid i gyfrifon segur ei chynnwys? Does dim angen i gyfrifon segur a gaiff eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau gynnwys cyfrif elw a cholled. Gwelir mantolenni enghreifftiol a allai fod o gymorth ichi ar ddiwedd yr adran hon. Mae cyfrifon segur sydd heb eu harchwilio’n ffurfiol yn llawer symlach na chyfrifon partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n masnachu ond mae’n rhaid iddyn nhw ddangos:
4. Pa ddatganiadau sydd angen ar y fantolen? Mae’n rhaid i’r datganiadau canlynol ymddangos uwchben llofnod yr aelod dynodedig: (a) Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ... (dyddiad), yr oedd gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig hawl i gael ei heithrio o dan adran 249AA(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001). (b) Mae’r aelodau’n cydnabod eu cyfrifoldeb am:
Sylwer: Ni ddylai’r datganiadau o ran eithrio rhag archwilio ariannol gynnwys cyfeiriad at adran 249b(2), sef bod yr aelodau heb fynnu archwiliad. Nid yw’r adran hon o’r Ddeddf yn gymwys i bartneriaethau PAC ac ni ddylid cynnwys y datganiad ar y fantolen. 5. Pa mor hir sydd gen i i gyflwyno cyfrifon segur i Dŷ’r Cwmnïau? Mae’r un amser yn gymwys ag ar gyfer pob math arall o gyfrifon. Gosodir yr un cosbau am ffeilio hwyr. Gweler adran 3.2. 6. Beth sy’n digwydd os bydd fy mhartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ailddechrau masnachu? Bydd unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi ei heithrio rhag angen penodi archwilwyr ariannol oherwydd ei bod yn segur yn peidio â chael ei heithrio os bydd:
Pe digwyddai unrhyw un o’r pethau hyn, byddai’n rhaid cyflwyno cyfrifon mwy manwl ar gyfer y flwyddyn ariannol pryd y peidiodd y bartneriaeth â chael ei heithrio ac efallai y byddai eisiau i’r aelodau benodi archwilwyr ariannol. Mae’n bosib y byddai’r bartneriaeth yn gymwys i rai eithriadau fel partneriaeth o faint canolig neu fach. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion cyfrifeg i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig ac am eithrio partneriaethau bach rhag archwilio ariannol i’w chael yn adrannau 3.3 a 3.4 o’r bennod hon. Mantolenni enghreifftiol ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig Y mantolenni a welir ar y tudalennau canlynol yw’r rhai y cyfeiriwyd atyn nhw yng nghwestiwn 3 uchod. Mae’r patrymau hyn yn ganllaw i’r holl wybodaeth y mae angen ichi ei chynnwys. Bwriedir i’r patrymau adlewyrchu’r holl asedion a rhwymedigaethau posib a all fod gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond dim ond os oes swm ar wahân i ddim byd i’w gofnodi y mae angen ichi gynnwys pennawd penodol.Fel eglureb yn unig y bwriedir y mantolenni enghreifftiol hyn. Ni ddylid mo’u ffotogopïo a’u llenwi. Os bu’r bartneriaeth yn masnachu mewn blwyddyn ariannol flaenorol, cadwch mewn cof y bydd mantolen eich blwyddyn flaenorol yn dangos sefyllfa ariannol y bartneriaeth fel yr oedd ar y pryd. Os na fu trafodion cyfrifeg ers hynny, hwyrach na fyddwch chi ond yn cario ymlaen ffigurau’r llynedd. Ceir ddau ddiwyg – wedi eu marcio A a B – y gellir dilyn y naill neu’r llall ohonyn nhw. Mae cynnwys y ddau ddiwyg yr un fath: dim ond cyflwyno penawdau’r fantolen mewn trefn wahanol y maen nhw. Mae’n rhaid i’r fantolen fantoli:
Rhaid i bob cofnod fod yn swm mewn ffigurau (nid geiriau) neu’n ‘0.00’. Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfen sy’n cofnodi ‘Dim’ lle dylai ffigur ymddangos. Wrth baratoi’ch cyfrifon, byddwch cystal â dilyn canllawiau adran 1.2 Mantolen segur diwyg A Rhif y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig: MANTOLEN AR .../.../......
a. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ... (dyddiad), yr oedd gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig hawl i gael ei heithrio o dan adran 249AA(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001). b. Mae’r aelodau’n cydnabod eu cyfrifoldeb am: i. sicrhau bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cadw cofnodion cyfrifeg sy’n cydymffurfio ag adran 221; a hefyd ii. paratoi cyfrifon sy’n rhoi golwg wir a theg ar gyflwr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac ar ei helw neu ei cholled am y flwyddyn ariannol, yn unol â gofynion adran 226, ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau ynglŷn â chyfrifon, mor bell ag y bo’r rheiny’n berthnasol i’r bartneriaeth. Cymeradwywyd gan yr aelodau ar .......... (dyddiad) Mantolen segur diwyg B Rhif y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig: MANTOLEN AR .../.../......
a. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ... (dyddiad), yr oedd gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig hawl i gael ei heithrio o dan adran 249AA(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001). b. Mae’r aelodau’n cydnabod eu cyfrifoldeb am: i. sicrhau bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cadw cofnodion cyfrifeg sy’n cydymffurfio ag adran 221; a hefyd ii. paratoi cyfrifon sy’n rhoi golwg wir a theg ar gyflwr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac ar ei helw neu ei cholled am y flwyddyn ariannol, yn unol â gofynion adran 226, ac sydd fel arall yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau ynglŷn â chyfrifon, mor bell ag y bo’r rheiny’n berthnasol i’r bartneriaeth. Cymeradwywyd gan yr aelodau ar .......... (dyddiad) Nodiadau i fantolen partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n segur Rhaid rhoi’r wybodaeth ganlynol fel nodiadau i’r fantolen:
Yn ychwanegol, mae’n rhaid rhoi’r wybodaeth ganlynol am unrhyw is-ymgymeriadau a buddsoddiadau eraill:
Adran 4.1 Penodi archwilwyr ariannol 1. Beth yw archwilydd ariannol? Archwilydd ariannol yw rhywun sy’n llunio adroddiad annibynnol i aelodau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yn dweud a gafodd ei chyfrifon blynyddol eu paratoi’n briodol yn unol â’r Ddeddf. Rhaid i’r adroddiad ddweud hefyd a yw cyfrifon y bartneriaeth yn rhoi golwg wir a theg ar ei sefyllfa a’i helw a’i cholled am y flwyddyn. Mae’n ofynnol i’r mwyafrif o bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig drefnu archwiliad ffurfiol o’u cyfrifon – ond gweler cwestiwn 2 isod. 2. Oes rhaid i gyfrifon pob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gael eu harchwilio? Nac oes. Os ydyn nhw’n gymwys a’u bod am fanteisio ar y ddarpariaeth, does dim rhaid i’r mwyafrif o bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig o faint bach a rhai sy’n segur drefnu archwiliad o’u cyfrifon.
– Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dod i ben wedi 30 Mawrth 2004, mae’n rhaid i drosiant busnes y bartneriaeth fod yn £5.6 miliwn neu lai ac i gyfanswm ei mantolen fod yn £2.8 miliwn neu lai.
Mae rhagor o wybodaeth am eithrio partneriaethau bach iawn a segur i’w chael yn adrannau 3.4 a 3.5. 3. Sut y penodir archwilydd? Yr aelodau dynodedig fydd yn penodi archwilydd ariannol y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig bob blwyddyn. Rhaid penodi’r archwilydd cyntaf cyn diwedd y flwyddyn ariannol y gwneir y penodi ar ei chyfer. Wedyn, bydd rhaid penodi neu ailbenodi archwilydd o fewn dau fis i gymeradwyo’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol cynt. 4. Beth wnaiff archwilydd ariannol? Bydd yr archwilydd yn bwrw golwg dros gyfrifon a chofnodion cyfrifeg y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ac yn paratoi adroddiad i’w haelodau. Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ionawr 2005, rhaid i adroddiad yr archwilwyr ariannol gynnwys:
Rhaid i adroddiad yr archwilwyr, fel y caiff ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau, fod wedi ei lofnodi gan yr archwilwyr. Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ionawr 2005, rhaid hefyd i adroddiad yr archwilwyr fod wedi ei ddyddio. Os nad yw’r cyfrifon, ym marn yr archwilydd, yn cydymffurfio â’r Ddeddf, rhaid i’r archwilydd ddweud hynny yn yr adroddiad. 5. A gaiff fy nghyfrifydd fod yn archwilydd ariannol imi? Mae’n rhaid i archwilydd ariannol fod yn annibynnol ar y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; felly, ni all rhywun gael ei benodi/phenodi yn archwilydd os yw:
Os nad yw’ch cyfrifydd yn perthyn i’r un o’r categorïau uchod a’i fod/bod yn Archwilydd Cofrestredig wedi ei (g)oruchwylio gan gorff goruchwylio cydnabyddedig, yna fe gaiff weithredu’n archwilydd i’r bartneriaeth. Cofiwch: Nid yw pob aelod o gorff cyfrifeg yn gymwys i weithredu’n archwilydd ond gall y corff goruchwylio priodol ddweud wrthych chi a yw unigolyn neu gwmni arbennig yn Archwilydd Cofrestredig. 6 Beth a phwy sy’n gyrff goruchwylio cydnabyddedig? Mae’r rhain yn gyrff sydd wedi eu cydnabod gan y Bwrdd Proffesiynol Goruchwylio Cyfrifeg am fod ganddynt reolau y bwriedir iddynt sicrhau bod archwilwyr ariannol o’r cymhwyster proffesiynol uchaf. Mae gan bob corff cydnabyddedig reoliadau caeth a chôd disgyblu’n llywio ymddygiad ei archwilwyr cofrestredig. Y pum corff cydnabyddedig yw: 1. The Institute of Chartered Accountants of Scotland 2. The Institute of Chartered Accountants in England and Wales 3. The Institute of Chartered Accountants in Ireland 4. The Association of Chartered Certified Accountants 5. The Association of Authorised Public Accountants Cofiwch: Gallwch ofyn i’ch archwilydd ariannol gadarnhau ei fod/bod wedi cofrestru gydag un o’r cyrff hyn, neu fe allwch chi gysylltu â’r corff priodol. 7. Ai â chyfrifon blynyddol a chofnodion cyfrifeg yn unig y bydd archwilydd ariannol fel arfer yn ymwneud? Ie. Fodd bynnag, does dim byd sy’n eich rhwystro rhag cyflogi archwilydd at ddibenion eraill, fel cadw’r llyfrau neu lenwi’r ffurflen dreth, ar yr amod nad yw’n cyfrannu at reolaeth y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Dylech chi gytuno ar lythyr cyflogi sy’n nodi dyletswyddau’r archwilydd. Er enghraifft, hwyrach y bydd y bartneriaeth am i’r archwilydd baratoi adroddiad rheoli wedi’r archwiliad ariannol, gan restru’r holl wallau a welodd hyd yn oed os cawsant eu cywiro. Adran 4.2 Diswyddo archwilwyr ariannol 1. Alla i ddiswyddo archwilydd ariannol? Gallwch. Caiff aelodau dynodedig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig symud archwilydd o’i swydd unrhyw adeg yn ystod ei dymor/thymor gwaith, neu benderfynu peidio â’i (h)ailbenodi am dymor pellach. Rhaid iddyn nhw roi i’r archwilydd rybudd o’u bwriad. Wedyn, bydd gan yr archwilydd hawl i ymateb yn ysgrifenedig, gan fynnu bod yr ymateb hwnnw’n cael ei ddosbarthu ymhlith aelodau’r bartneriaeth. Er y gall partneriaeth symud archwilydd ariannol o’i swydd unrhyw adeg, gall fod gan yr archwilydd hawl i ddigollediad neu iawndal yng nghyswllt terfynu’r penodiad. Lle bo archwilydd yn rhoi’r gorau i’w swydd am unrhyw reswm, bydd rhaid iddo/iddi adneuo datganiad yn swyddfa gofrestredig y bartneriaeth. Dylai hwn nodi unrhyw amgylchiadau ynghylch peidio â dal swydd y cred yr archwilydd y dylid eu dwyn i sylw aelodau a chredydwyr y bartneriaeth.
Cosbau Ffeilio Hwyr Adran 5.1 Egluro cosbau ffeilio hwyr 1. Beth yw cosbau ffeilio hwyr? Mae adran 242A o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 3 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001) yn dweud y gosodir cosbau ar unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n cyflwyno’i chyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau ar ôl y cyfnod a ganiateir ar gyfer ffeilio. 2. Faint yw’r cosbau? Mae hynny’n dibynnu ar ba mor hwyr y bydd y cyfrifon yn dod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau, fel y dangosir yn y tabl hwn:
3. Pa mor hir sydd gen i i ffeilio cyfrifon cyntaf fy mhartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig? Os ydych chi’n ffeilio’ch cyfrifon cyntaf a’u bod yn bodloni cyfnod o fwy na 12 mis, mae’n rhaid eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 22 mis i’r dyddiad corffori neu dri mis i’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, p’un bynnag fo hiraf. Mae’r diffiniad o gyfnod o fisoedd mewn cysylltiad â ffeilio cyfrifon a welir yn y blwch isod yn gymwys hefyd i gyfrifon cyntaf. Er enghraifft, bydd partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a gorfforwyd ar 1 Ionawr, a 31 Ionawr yn ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddi, yn cael tan ganol nos ar 1 Tachwedd (22 mis ar ôl y corffori) i gyflwyno’i chyfrifon, nid 30 Tachwedd. PWYSIG: Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008, os ydych chi’n ffeilio cyfrifon cynta’ch cwmni a’u bod yn bodloni cyfnod o fwy na 12 mis, mae’n rhaid eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 21 mis i’r dyddiad corffori. 4. Pa mor hir sydd gen i fel arfer i ffeilio fy nghyfrifon? Oni bai eich bod chi’n ffeilio cyfrifon cynta’ch partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (gweler cwestiwn 3), yr amser a ganiateir fel arfer i gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau yw 10 mis o ddiwedd y cyfnod cyfrifeg perthnasol. PWYSIG: Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008, oni bai eich bod chi’n ffeilio cyfrifon cynta’ch cwmni, yr amser a gaiff ei ganiatáu fel arfer i’w cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau yw naw mis ar ôl y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Os byrhawyd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, yr amser a ganiateir i ffeilio’r cyfrifon yw naill ai:
Mae’r tabl isod yn dangos y dyddiadau ar gyfer cyflwyno cyfrifon lle mae’r cyfnodau’n dechrau cyn 6 Ebrill 2008. Mae’n disgrifio’r hyn a elwir yn rheol “dyddiad cyfatebol” ar gyfer pennu dyddiadau ffeilio.
Os na ddaw cyfnod cyfrifeg eich partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben ar ddiwrnod ola’r mis, yna bydd pob cyfnod yn diweddu ar y dyddiad cyfatebol yn y mis priodol. Er enghraifft, bydd partneriaeth y pennwyd 10 Medi fel dyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddi yn cael tan 10 Gorffennaf y flwyddyn ddilynol i gyflwyno’i chyfrifon. Dylech chi gadw mewn cof y diffiniad canlynol o gyfnod o fisoedd mewn cysylltiad â ffeilio cyfrifon:
5. Fyddwch chi’n pennu’r amser a ganiateir i ffeilio cyfrifon yn yr un ffordd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006? Mewn rhai enghreifftiau, byddwn. Fel arfer, bydd cyfnod o fisoedd ar ôl eich Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg yn dod i ben ar y dyddiad cyfatebol yn y mis priodol. Er enghraifft, bydd partneriaeth y pennwyd 5 Ebrill fel dyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddi yn cael tan ganol nos ar 5 Ionawr yn y flwyddyn berthnasol i gyflwyno’i chyfrifon. Fodd bynnag, ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008, os bydd y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn syrthio ar ddydd ola’r mis, bydd y cyfnod a ganiateir ar gyfer ffeilio hefyd yn dod i ben ar ddydd ola’r mis priodol. Mae’r tabl isod yn dangos y terfynau amser ar gyfer cyflwyno cyfrifon yng nghyswllt cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 06 Ebrill 2008: Adran 5.2 Sut i osgoi cosbau ffeilio hwyr 1. Sut galla i osgoi cosbau? Caniatewch ddigon o amser i sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd Tŷ’r Cwmnïau o fewn y cyfnod a ganiateir yn y Ddeddf Cwmnïau yn ôl fel y caiff honno ei cymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. Does dim gwarant y bydd y post dosbarth cynta'n cyrraedd drannoeth, felly os yw'r terfyn amser ar gyfer ffeilio yn agos, ceisiwch ystyried dulliau dosbarthu gwarantedig a fydd yn sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd mewn pryd. Cofiwch: ni fydd y Cofrestrydd yn hepgor cosb os caiff eich cyfrifon eu hoedi yn y post. I'ch helpu i ffeilio'n brydlon:
2. Alla i estyn yr amser a ganiateir i gyflwyno cyfrifon? Gallwch. Os oes rheswm arbennig dros wneud, cewch wneud cais i’r Cofrestrydd Cwmnïau (sy’n cyflawni’r swyddogaeth hon ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) am estyn yr amser ar gyfer cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cmwnïau: er enghraifft, os bu digwyddiad annisgwyl oedd y tu hwnt i reolaeth y cwmni a’i archwilwyr ariannol. Rhaid ichi wneud y cais yn ysgrifenedig a’i gyflwyno cyn y terfyn amser arferol ar gyfer ffeilio. Rhaid iddo gynnwys esboniad llawn o’r rhesymau dros yr estyn a hyd yr estyniad a geisir. Dylech chi ei anfon i:
3. Beth os bydd Tŷ'r Cwmnïau yn gwrthod fy nghyfrifon am eu bod yn anghywir? Ni allwn dderbyn cyfrifon nes eu bod yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth. Os, er enghraifft, y bydd llofnod yn colli, fe'u dychwelir i gael eu diwygio. Gall hyn olygu cosb ffeilio hwyr os cyflwynwch chi’r cyfrifon diwygiedig yn hwyr. I osgoi problemau, argymhellwn gyflwyno cyfrifon cyn gynted ag y byddan nhw wedi eu cwblhau ac mor hir yn ôl â phosib cyn diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno. Sylwch na dderbynnir copïau adlun (ffacs) o ddogfennau i gael eu cofrestru. Y prif resymau dros wrthod cyfrifon PAC yw:
Adran 5.3 Unwaith y gosodwyd cosb ffeilio hwyr 1. Sut bydda i’n gwybod pan fydd cosb yn ddyledus? Os cyflwynwch chi’r cyfrifon yn hwyr, byddwn yn gyrru anfoneb awtomatig i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig. 2. Beth fydd yn digwydd os na thala i mo’r gosb? Caiff y ddyled ei hatgyfeirio i sylw cynrychiolwyr casglu. Os deil heb ei thalu, gellir cymryd camau cyfreithiol, gan arwain, o bosibl, at ddyfarniad mewn Llys Sirol neu Lys Siryf yn erbyn eich partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. 3. Beth sy’n digwydd os caiff partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei hadfer i’r Gofrestr? O dan rai ceisiadau am adfer, os caiff partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei hadfer ar ôl ei dileu o’r Gofrestr a’i diddymu, yna bydd wedi parhau mewn bodolaeth fel na chawsai mo’i dileu erioed. Bydd cyfrifon a gaiff eu ffeilio ar ôl yr adfer yn agored i gosbau ffeilio hwyr. Wrth benderfynu lefel unrhyw gosb, anwybyddir fel arfer y cyfnod pan oedd y bartneriaeth wedi ei diddymu. Er enghraifft, bydd set o gyfrifon y dylid fod wedi eu cyflwyno ddau fis cyn diddymu partneriaeth yn dal i gael eu hystyried ddau fis yn hwyr os cânt eu cyflwyno wrth adfer – £100 o hyd fydd y gosb ffeilio hwyr. (Gweler adran 5.1, cwestiwn 2 am dabl yn rhestru lefelau cosbau ffeilio hwyr). Fel arfer, ni chasglwn gosbau ffeilio hwyr yng nghyswllt cyfrifon a ddaeth yn ddyledus pan oedd y bartneriaeth wedi ei diddymu ond a dderbyniwyd pan gafodd ei hadfer. Am ragor o wybodaeth ynghylch adfer, gweler ein llyfryn ‘Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig: Dirwyn i Ben’ neu, ar gyfer partneriaethau wedi eu cofrestru yn yr Alban, ‘Limited Liability Partnerships: Winding Up (Scotland)’. 4. Ydy cosbau ffeilio hwyr yn gymwys i unrhyw ddogfennau eraill? Dim ond i gyfrifon. 5. Ydy cosbau ffeilio hwyr yr un fath â’r dirwyon a gaiff eu gosod ar aelodau dynodedig am beidio â ffeilio cyfrifon? Maen nhw’n hollol wahanol.
Pwysig: Gallai cosb a dirwy fod yn daladwy am yr un set o gyfrifon os na chânt mo’u ffeilio mewn pryd, ac os cânt eu cyflwyno’n hwyr wedyn. 6. Oes gan y Cofrestrydd unrhyw ryddid i gasglu cosb neu beidio? Mae gan y Cofrestrydd ryddid cyfyngedig iawn i beidio â chasglu cosb. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gall fanteisio arno. Cofiwch: Ni wireddir danfoniad dogfen i’r Cofrestrydd nes i Dŷ’r Cwmnïau ei derbyn. Angen gwybodaeth bellach? Arwystlon a morgeisiau (Cymru a Lloegr) Adran 6.1 Cofrestru arwystlon a morgeisiau 1. Beth yw arwystlon a morgeisiau? Mae arwystl yn ernes dros dalu dyled neu rwymedigaeth arall nad yw’n trosglwyddo ‘eiddo’ nac unrhyw hawl feddiant i’r person y rhoir yr arwystl iddo/iddi. Mae morgais yn ernes dros dalu dyled neu rwymedigaeth arall sy’n trosglwyddo ‘eiddo’ ond nid hawl feddiant i’r person y rhoir y morgais iddo/iddi. Nodyn: Wrth sôn am ‘arwystl’ yn y llyfryn hwn o hyn ymlaen, cyfeirir hefyd at forgais. 2. Pa arwystlon y mae’n rhaid eu cofrestru? Mae’r blwch isod yn rhoi rhestr o’r arwystlon y mae’n rhaid eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr, ynghyd â disgrifiad cryno o bob un:
3. Beth yw cost pob cofrestriad? Ceir ffi o £13 am gofrestru pob Ffurflen LLP395, LLP397, LLP400 neu LLP466 a gaiff ei chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Does dim ffi am gofrestru datganiad bodloni (Ffurflen LLP419a). Ceir ffi safonol o £15 am gopi ardystiedig o gofrestriad arwystl. Cynigiwn hefyd wasanaeth premiwm yr un diwrnod sy’n costio £50. Mae’r rhain ar gael gan yr Adran Chwiliadau Post yn Nhŷ’r Cwmnïau, Caeredin. 4. Beth yw ystyr ‘offeryn’ a ‘thystiolaethu’ yn yr adran hon? Mae ‘Offeryn’ yn dogfen gyfreithiol ffurfiol ysgrifenedig. ‘Tystiolaethu’ yw darparu prawf o fodolaeth rhywbeth. 5. Pa ffurflen y dylwn i ei defnyddio? Mae rhifau’r ffurflenni yn y tabl canlynol yn cyfateb i adrannau perthnasol Deddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 4 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001). Mae’r rhai y codwn ffi gofrestru amdanyn nhw wedi eu marcio â *.
6. Sut galla i ofalu bod pethau’n iawn y tro cyntaf?
Rhaid i’r offeryn fod yr un un â’r offeryn gwreiddiol, ac eithrio yn y ddau achos canlynol lle gall fod yn gopi wedi ei gadarnhau: (a) Pan greir arwystl y tu allan i’r DU mewn cysylltiad ag eiddo y tu allan i’r DU. (b) Pan fo arwystl yn ymwneud ag eiddo yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, a’r offeryn gwreiddiol wedi ei gofrestru yno.
Cofiwch 7. Beth sy’n digwydd wrth i’r cais am gofrestriad gyrraedd Tŷ’r Cwmnïau? Os yw’r ddogfen yn dderbyniol, byddwn yn cymryd manylion oddi arni i greu tystysgrif gofrestru a threfnu cofnod ar y gofrestr arwystlon. Byddwn yn dychwelyd y dystysgrif a’r offeryn i’r cyflwynydd, ac yn sganio ac yn cofnodi’r ffurflen, y copi o’r dystysgrif a’r manylion ar gyfer y gofrestr. 8. Beth os bydd gan Dŷ’r Cwmnïau reswm dros amau’r cais? Byddwn yn cysylltu â’r cyflwynydd i ofyn unrhyw gwestiynau. Os bydd angen cywiro’r ffurflen, rhaid gwneud hynny o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod. 9. Beth os na chaiff yr arwystl mo’i gofrestru mewn pryd? Os na chaiff arwystl cofrestradwy mo’i gofrestru mewn pryd, yna bydd yn ddilys gogyfer â’r diddymydd neu’r gweinyddydd ac unrhyw un o gredydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Os bydd partneriaeth yn methu â chyflwyno arwystl cofrestradwy, ac nad yw’r un buddiolydd wedi cofrestru’r arwystl, yna bydd y bartneriaeth a phob aelod ohoni sydd heb gyflawni ei gyfrifoldeb/chyfrifoldeb yn agored i’w dirwyo. Os parheir i fethu â chydymffurfio, byddan nhw’n agored i ddirwy ddiffyg feunyddiol. Oes modd cofrestru arwystl ar ôl yr amser priodol?
10. Beth sydd rhaid imi ei wneud os bydd fy mhartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn meddiannu eiddo sydd dan arwystl yn barod? Os yw’r arwystl o fath y byddai wedi bod yn angenrheidiol i’r bartneriaeth ei gofrestru pe bai wedi creu’r arwystl ei hun, yna bydd rhaid iddi roi gwybod am y ffaith ei bod wedi meddiannu’r eiddo hwnnw. I wneud hyn, rhaid i’r bartneriaeth lenwi ac anfon i Dŷ’r Cwmnïau ffurflen LLP400, gyda chopi ardystiedig o unrhyw offeryn a greodd neu a dystiolaethodd i’r arwystl. Rhaid gwneud hyn o fewn 21 diwrnod i’r bartneriaeth gwblhau meddiannu’r eiddo. Os yw’r eiddo y trefnir arwystl drosto y tu allan i’r DU a bod yr arwystl wedi ei greu y tu allan i’r DU, bydd y 21 diwrnod yn dechrau o’r dyddiad y byddai’r copi o’r offeryn wedi dod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau o dan drefn arferol y post, a bwrw ei fod wedi cael ei bostio’n brydlon. Tramgwydd yw cyflwyno manylion yn hwyr ar Ffurflen LLP400. Bydd y bartneriaeth a phob aelod ohoni sydd wedi methu â chyflawni ei gyfrifoldeb/chyfrifoldeb yn agored i ddirwy. Os parheir i fethu â chydymffurfio, byddan nhw’n agored i ddirwy ddiffyg feunyddiol. 11. Pa hawliau sydd gan y pridiannai? Os na fydd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn anfon arwystl aton ni i gael ei gofrestru, yna gall y pridiannai (y person y trefnir arwystl ar yr eiddo yn ei (h)enw) – neu ryw fuddiolydd arall – gofrestru’r dogfennau angenrheidiol. O dan amgylchiadau arbennig, gall y pridiannai benodi derbynnydd neu reolwr, neu ofyn i’r llys benodi derbynnydd neu reolwr, ar gyfer yr eiddo y trefnir yr arwystl yn ei gyswllt – er enghraifft, os bydd y bartneriaeth yn methu â thalu’r ddyled sydd wedi ei gwarantu gan yr arwystl. Rhaid i’r pridiannai roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am y penodiad cyn pen saith diwrnod, gan ddefnyddio Ffurflen LLP405(1). Yna, byddwn yn cofnodi hyn yn y gofrestr arwystlon. Wrth roi’r gorau i weithredu, rhaid i’r derbynnydd neu’r rheolwr roi gwybod inni ar Ffurflen LLP405(2). Byddwn wedyn yn cofnodi’r ffaith yn y gofrestr arwystlon. Gweler ein llyfryn ‘Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig: Dirwyn i Ben’ am ragor o wybodaeth ynghylch derbynwyr a rheolwyr. Adran 6.2 Bodloni arwystlon a morgeisiau 1. Beth ddylwn i ei wneud wrth i’r arwystl gael ei dalu (neu ei ‘fodloni’)? Does dim angen i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau fod arwystl wedi ei fodloni’n llwyr neu’n rhannol. Ond mae’n amlwg ei bod er lles i’r bartneriaeth ei hun bod buddsoddwyr a benthycwyr potensial yn gwybod bod y cyfan neu ran o’r ddyled wedi cael ei bodloni. Felly, gall aelod o’r bartneriaeth wneud datganiad statudol ar Ffurflen LLP403a gerbron Comisiynydd Llwon neu berson cyfatebol, a’i anfon aton ni. 2. Beth os bydd eiddo sydd dan arwystl yn peidio â bod dan arwystl neu’n peidio â pherthyn i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig? Fel gydag arwystlon sydd wedi eu talu’n rhannol neu’n llawn, does dim angen i’r bartneriaeth roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau fod ei heiddo wedi cael ei ryddhau rhag arwystl neu fod yr eiddo heb berthyn i’r bartneriaeth mwyach. Ond mae’n amlwg ei bod er lles i’r bartneriaeth ei hun y dylai buddsoddwyr a benthycwyr potensial wybod. Felly, gall aelod o’r bartneriaeth wneud datganiad statudol ar Ffurflen LLP403b gerbron Comisiynydd Llwon neu berson cyfatebol, a’i anfon aton ni. 3 Oes ffi am gofrestru Ffurflenni LLP403a neu LLP403b? Nac oes. Arwystlon (Yr Alban) Adran 7.1 Cofrestru arwystlon yn yr Alban 1. Beth yw arwystl? Mae arwystl yn ernes dros dalu dyled neu rwymedigaeth arall nad yw’n trosglwyddo ‘eiddo’ nac unrhyw hawl feddiant i’r person y rhoir yr arwystl iddo/iddi. 2. Pa arwystlon y mae’n rhaid eu cofrestru? Mae’r blwch isod yn rhoi rhestr o’r arwystlon y mae’n rhaid eu cofrestru yn yr Alban.
3. Beth yw cost pob cofrestriad? Ceir ffi o £13 am gofrestru pob Ffurflen LLP410, LLP413, LLP416 neu LLP466 a gaiff ei chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Does dim ffi am gofrestru datganiad bodloni (Ffurflen LLP419a). Ceir ffi o £15 am gopi o dystysgrif gofrestru. Cynigiwn hefyd wasanaeth premiwm cofrestru yr un diwrnod, sy’n costio £50. Mae’r rhain ar gael gan y Tîm Copïau Ardystiedig yn Nhŷ’r Cwmnïau, Caerdydd. 4. Beth yw ystyr ‘offeryn’ a ‘thystiolaethu’ yn yr adran hon? Mae ‘Offeryn’ yn dogfen gyfreithiol ffurfiol ysgrifenedig. ‘Tystiolaethu’ yw darparu prawf o fodolaeth rhywbeth. 5. Pa ffurflen y dylwn i ei defnyddio? Mae rhifau’r ffurflenni yn y tabl canlynol yn cyfateb i adrannau perthnasol Deddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd honno ei chymhwyso at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig gan reoliad 4 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001). Mae’r rhai y codwn ffi gofrestru amdanyn nhw wedi eu marcio â *.
6. Sut galla i ofalu bod pethau’n iawn y tro cyntaf?
Cofiwch 7. Beth sy’n digwydd wrth i’r cais am gofrestriad gyrraedd Tŷ’r Cwmnïau? Os yw’r ddogfen yn dderbyniol, byddwn yn cymryd manylion oddi arni i greu tystysgrif gofrestru a threfnu cofnod ar y gofrestr arwystlon. Byddwn yn dychwelyd y dystysgrif a’r copi o’r offeryn i’r cyflwynydd, ac yn sganio ac yn cofnodi’r ffurflen, y copi o’r dystysgrif a’r manylion ar gyfer y gofrestr. 8. Beth os bydd gan Dŷ’r Cwmnïau reswm dros amau’r cais? Byddwn yn cysylltu â’r cyflwynydd i ofyn unrhyw gwestiynau. Os bydd angen cywiro’r ffurflen, rhaid gwneud hynny o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod. 9. Beth os na chaiff yr arwystl mo’i gofrestru mewn pryd? Os na chaiff arwystl cofrestradwy mo’i gofrestru mewn pryd, yna bydd yn ddilys gogyfer â’r diddymydd neu’r gweinyddydd ac unrhyw un o gredydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Os bydd partneriaeth yn methu â chyflwyno arwystl cofrestradwy, ac nad yw’r un buddiolydd wedi cofrestru’r arwystl, yna bydd y bartneriaeth a phob aelod ohoni sydd heb gyflawni ei gyfrifoldeb/chyfrifoldeb yn agored i’w dirwyo. Os parheir i fethu â chydymffurfio, byddan nhw’n agored i ddirwy ddiffyg feunyddiol. 10. Oes modd cofrestru arwystl ar ôl yr amser priodol? Dim ond y llys all ganiatáu estyniad amser i gofrestru arwystl na chafodd mo’i ffeilio’n brydlon. Y terfyn amser yw 21 diwrnod o ddyddiad creu’r arwystl. 11. Beth sydd rhaid imi ei wneud os bydd fy mhartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn meddiannu eiddo sydd dan arwystl yn barod? Os yw’r arwystl o fath y byddai wedi bod yn angenrheidiol i’r bartneriaeth ei gofrestru pe bai wedi creu’r arwystl ei hun, yna bydd rhaid iddi roi gwybod am y ffaith ei bod wedi meddiannu’r eiddo hwnnw. I wneud hyn, rhaid i’r bartneriaeth lenwi ac anfon i Dŷ’r Cwmnïau ffurflen LLP416, gyda chopi ardystiedig o unrhyw offeryn a greodd neu a dystiolaethodd i’r arwystl. Rhaid gwneud hyn o fewn 21 diwrnod i’r bartneriaeth gwblhau meddiannu’r eiddo. Os yw’r eiddo y trefnir arwystl drosto y tu allan i’r DU a bod yr arwystl wedi ei greu y tu allan i’r DU, bydd y 21 diwrnod yn dechrau o’r dyddiad y byddai’r copi o’r offeryn wedi dod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau o dan drefn arferol y post, a bwrw ei fod wedi ei cael ei bostio’n brydlon. Tramgwydd yw cyflwyno manylion yn hwyr ar Ffurflen LLP416. Bydd y bartneriaeth a phob aelod ohoni sydd wedi methu â chyflawni ei gyfrifoldeb/chyfrifoldeb yn agored i ddirwy. Os parheir i fethu â chydymffurfio, byddan nhw’n agored i ddirwy ddiffyg feunyddiol. 12. Pa hawliau sydd gan y pridiannai? Os na fydd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn anfon arwystl aton ni i gael ei gofrestru, yna gall y pridiannai (y person y trefnir arwystl ar yr eiddo yn ei (h)enw) – neu ryw fuddiolydd arall – gofrestru’r dogfennau angenrheidiol. O dan amgylchiadau arbennig, gall y pridiannai benodi derbynnydd, neu ofyn i’r llys benodi derbynnydd, ar gyfer yr eiddo y trefnir yr arwystl yn ei gyswllt – er enghraifft, os bydd y bartneriaeth yn methu â thalu’r ddyled sydd wedi ei gwarantu gan yr arwystl. Rhaid i’r pridiannai roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am y penodiad cyn pen saith diwrnod, gan ddefnyddio | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||