Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009
Amdanon Ni |
||||||||||||||||||
|
|
Partneriaethau Atebolrwydd Cyfynedig - Cosbau Ffeilio Hwyr: Apeliadau - GBLLP4 Mai 2009 - Fersiwn 7 1. Beth yw hysbysiad cosb ? Mae hysbysiad cosb yn rhoi manylion am y gosb/cosbau a godwyd yn erbyn partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) am na chawsom gyfrifon y PAC ac adroddiad yr archwilydd (os oes un) ar y cyfrifon hynny mewn pryd. Mae’r hysbysiad yn cynnwys gwybodaeth am sut i dalu’r gosb. 2. Beth yw cosbau ffeilio hwyr? Rhaid i bob PAC anfon eu cyfrifon, ac adroddiad yr archwilydd ar y cyfrifon hynny, oni bai eu bod yn esempt rhag cael eu harchwilio, i Dŷ’r Cwmnïau. Fel aelod dynodedig o PAC, rydych yn bersonol gyfrifol am sicrhau eich bod yn cyflwyno cyfrifon y PAC cyn i’r amser a ganiateir ddirwyn i ben. Mae cyflwyno yn golygu eu derbyn yn Nhŷ’r Cwmnïau yn y ffurf gywir. Os ydynt yn hwyr mae’r gyfraith yn creu cosb yn awtomatig . Mae maint y gosb yn dibynnu ar ba mor hwyr y mae’r cyfrifon yn dod i law Tŷ’r Cwmnïau, fel y dangosir yn y tabl canlynol.
Caiff y cosbau eu dyblu am ffeilio’n hwyr mewn dwy flwyddyn ariannol o’r bron gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Hydref 2008. Gallwch apelio yn erbyn cosb ond ni fydd yn llwyddiannus oni bai eich bod yn gallu dangos bod yr amgylchiadau yn eithriadol. 4. Beth yw eithriadol? Mae gan y Cofrestrydd ddisgresiwn cyfyngedig iawn i beidio â chasglu cosb. Gellir ei ddefnyddio pan fo trychineb annisgwyl yn taro PAC ar adeg hanfodol. Gallai hynny gynnwys, er enghraifft, tân yn dinistrio cofnodion ychydig ddyddiau cyn i’r amser a ganiateir ddirwyn i ben. Gall y Cofrestrydd ddefnyddio ei ddisgresiwn hefyd os yw camgymeriad ar ran Tŷ’r Cwmnïau wedi cyfrannu at y ffeilio hwyr. Cynhaliwyd Adolygiad Barnwrol o natur gyfyngedig disgresiwn y Cofrestrydd yn 2002. I weld copi llawn o’r dyfarniad, cliciwch y ddolen hon, Y Frenhines a chais (1) POW Trust a (2) Al's Bar and Restaurant v (1) Y Prif Weithredydd a Chofrestrydd Cwmnïau a (2) Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant (Rhagfyr 2002). 5. Beth sydd ddim yn eithriadol? Ni chaiff y Cofrestrydd ystyried apêl o dan yr amgylchiadau canlynol, gan eu bod y tu allan i ddisgresiwn y Cofrestrydd:
6. Ydw i eisiau apelio o hyd? Os ydych, ar ôl darllen yr uchod, yn parhau i fod eisiau apelio, rhaid i chi wneud hynny mewn ysgrifen a chyfeirio eich llythyr at y cyfeiriad a ddangosir ar dudalen flaen yr hysbysiad cosb. Fel rheol anfonwn ateb atoch o fewn 10 diwrnod gwaith gan atal y camau adfer tra byddwn yn ystyried eich apêl . 7. Beth sy’n digwydd os yw fy apêl yn cael ei gwrthod? Gallwch ysgrifennu at yr Uwch Reolwr/wraig Apeliadau yn yr Adran Cosbau Ffeilio Hwyr (neu, yn achos PAC sydd wedi’u cofrestru yn yr Alban, at Gofrestrydd Cwmnïau’r Alban yng Nghaeredin). Os bydd yr Uwch Reolwr/wraig Apeliadau yn cadarnhau’r gosb gallwch ofyn i’r Dyfarnwr Annibynnol, adolygu eich achos. Rhaid i’r holl gyfathrebu â’r Dyfarnwr fod mewn ysgrifen. Peidiwch ag ysgrifennu at y Dyfarnwr nes eich bod wedi clywed gan yr Uwch Reolwr/wraig Apeliadau. Noder os gwelwch yn dda fod y Senedd wedi penderfynu bod disgresiwn i weithredu yn gyfan gwbl yn nwylo’r Cofrestrydd ac na chaiff y Dyfarnwr orfodi’r Cofrestrydd i beidio â chasglu cosb sydd y tu allan i’w ddisgresiwn cyfyngedig. 8. A oes modd i mi dalu’r gosb mewn rhandaliadau? Oes. Os ydych yn cael anhawster i dalu’r gosb ar unwaith yna fel rheol byddwn yn derbyn taliad mewn rhandaliadau misol. Mae’r rhain fel rheol dros bedwar mis ac yn eithriadol dros gyfnod o ddeng mis, yn dibynnu ar y swm y mae’n rhaid ichi ei dalu. Rhaid ichi wneud unrhyw gais am dalu mewn rhandaliadau mewn ysgrifen ac egluro pam na allwch dalu’r gosb ar unwaith. 9. Beth sy’n digwydd os nad wyf yn talu’r gosb? Os na fyddwch yn talu’r gosb, byddwn yn gofyn i’n casglwyr dyledion weithredu. Yn y pen draw caiff y mater ei benderfynu mewn Llys Sirol neu Lys Siryf lle y cewch gyfle i ffeilio amddiffyniad. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried gofyn am gyngor proffesiynol oherwydd fe allen ni geisio adennill ein costau cyfreithiol os bydd y llys yn dyfarnu o blaid y Cofrestrydd. 10. Cymorth pellach? Os oes angen cyngor pellach arnoch am gosb ffeilio hwyr, ffoniwch y rhif cysylltu a ddangosir ar flaen yr hysbysiad cosb. Os ydych angen cymorth ar faterion eraill gan gynnwys canllawiau ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 0303 1234 500. Sut i dalu’ch cosb
|
|||||||||||||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|