Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009
Amdanon Ni |
||||
|
|
Cynllun Masnachu Teg ym Maes Gwybodaeth Mae Prif Weithredydd Tŷ’r Cwmnïau, Gareth Jones, wedi ymrwymo i ymuno â’r Cynllun Masnachu Teg ym Maes Gwybodaeth (IFTS). Caiff y cynllun ei redeg gan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) a’i ddiben yw gosod ac asesu safonau ar gyfer cyrff yn y sector cyhoeddus. Mae’n mynnu iddynt annog ailddefnyddio gwybodaeth a chyrraedd safon o degwch a thryloywder. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn ymdrechu i ennill achrediad llawn o dan yr IFTS, fydd yn sicrhau y gall ailddefnyddwyr gwybodaeth y sector cyhoeddus fod yn hyderus y cânt eu trin yn rhesymol ac yn deg gan ddarparwyr gwybodaeth y sector cyhoeddus. Cliciwch yma i weld Datganiad Ymrwymiad y Prif Weithredydd (PDF 22KB ar gael yn Saesneg yn unig) Cyn y gall Tŷ’r Cwmnïau ennill achrediad o dan yr IFTS, rhaid iddo ddilyn proses ddilysu i fodloni OPSI y gall gwrdd â’i ymrwymiad. Mae’r broses ddilysu hon bellach ar waith a byddwn yn cyfleu manylion rheolaidd am y cynnydd a wneir. Cynllun Masnachwyr Gwybodaeth Deg Mae’r Cynllun yn ategu nod y Rheoliadau drwy gadw at bum egwyddor sylfaenol:
Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff yn y sector cyhoeddus roi hwb i ailddefnyddio gwybodaeth a chyrraedd safon o degwch a thryloywder. Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Masnachwyr Gwybodaeth Deg ar gael drwy edrych ar wefan OPSI. Mae Tŷ’r Cwmnïau wrthi’n ceisio ennill achrediad llawn o dan y Cynllun, sy’n sicrhau y gall ailddefnyddwyr gwybodaeth y sector cyhoeddus fod yn hyderus y cân nhw eu trin yn rhesymol ac yn deg gan ddarparwyr gwybodaeth yn y sector cyhoeddus. Hawlfraint a hawlfraint y Goron Mae hawlfraint yn perthyn fel arfer i’r person neu’r sefydliad a greodd y gwaith. Yn achos gweithiau hawlfraint a gynhyrchwyd gan weision sifil, i’r Goron y mae’r hawlfraint yn perthyn ac mae’n gymwys i’w diogelu drwy hawlfraint y Goron o dan adran 163 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988. Does dim hawlfraint yn perthyn i adrannau o’r Llywodraeth yn eu hawl eu hunain. Mae’r deunyddiau sy’n cael eu cyhoeddi gan Dŷ’r Cwmnïau yn ymrannu’n fras yn ddau gategori: a) Deunyddiau sydd wedi’u cynhyrchu gan Dŷ’r Cwmnïau b) Deunyddiau ar y gofrestr gyhoeddus |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|