Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Amdanon Ni |
|||
|
|
Ymgynghoriad Statud y Cwmni Preifat Ewropeaidd (EPC) Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i gael gweld a oes rhwystrau a wynebir gan gwmnïau – yn enwedig mentrau bach a chanolig (SME) – wrth gynnal busnes ar draws ffiniau yn yr UE ac a allai Statud posibl i gyflwyno’r Cwmni Preifat Ewropeaidd (EPC) fod o gymorth i oresgyn y rhwystrau hyn. Hyd yn hyn, mae’r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR) heb glywed mynegiant diddordeb cryf yn yr EPC oddi wrth fusnesau’r DU, ac felly maent yn awyddus i ddysgu a oes gweithrediadau busnes trawsffiniol y mae busnesau’r DU heb allu eu dilyn ond y gallai EPC eu hwyluso. Mae’r holiadur bellach ar wefan y Comisiwn Daw’r ymgynghoriad i ben ar 31 Hydref. Mae BERR yn eich annog i lenwi’r holiadur a charem ofyn ichi anfon copi o’ch ymatebion at maureen.beresford@berr.gsi.gov.uk gan y byddent â diddordeb mewn clywed eich barn am fudoledd cwmnïau ledled Ewrop." |
||