Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


Newidiadau i’r Doll Stamp yn sgil Cyllideb 2008

Yn sgil deddfwriaeth newydd a gyhoeddwyd yn y Gyllideb, gwnaed newidiadau i’r gofynion ffeilio ar gyfer ffurflenni arbennig yng nghyswllt adbrynu cyfrannau’r cwmni ei hun.

Ni fydd y doll stamp ad valorem (cymesur â’r gwerth) yng nghyswllt adbrynu cyfrannau yn gymwys mwyach ond lle mae cydnabyddiaeth ariannol y cyfrannau hynny yn £1000 neu fwy.

Ar gyfer offerynnau wedi’u cyflawni ar neu wedi 13 Mawrth 2008, os yw’r gydnabyddiaeth yn llai na £1000, does dim angen i ffurflenni priodol 169 & 169(1B) gael eu stampio gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) cyn eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau. Ond os dyna fydd yn digwydd, mae angen ardystio’r ffurflenni i’r perwyl nad yw’r trafodyn yn rhan o drafodyn mwy am gydnabyddiaeth sy’n uwch na £1000.

Dilewyd y doll stamp sefydlog o £5 oedd yn gymwys wrth i gwmni ccc ganslo cyfrannau oddi wrth y trysorlys, fel nad oes angen mwyach i ffurflen 169A(2) wedi’i llofnodi ar neu wedi 13 Mawrth 2008 gael ei hanfon i HMRC i’w stampio cyn ei throsglwyddo i Dŷ’r Cwmnïau.

Mae ffurflenni diwygiedig 169, 169(1)B, sy’n cynnwys y geiriad ardystio, a 169A(2), lle dilewyd y cyfeiriad at doll stamp, bellach ar gael ar y wefan.

Mae gwybodaeth bellach am y newidiadau i’r doll stamp i’w chael ar safle HMRC: http://www.hmrc.gov.uk/so/summary-budget-measures.htm

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies