|
Tŷ’r Cwmnïau a’r Ewro
Yn sgil lansio’r Ewro, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon yn yr arian treigl newydd ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dod i ben ar neu wedi 1 Ionawr 1999.
Gall cwmnïau y cred eu cyfarwyddwyr a’u harchwilwyr ariannol y byddai’n briodol llunio cyfrifon blynyddol drwy ddefnyddio’r ewro er mwyn rhoi golwg wir a theg ar faterion y cwmni, wneud hynny heb geisio caniatâd Tŷ’r Cwmnïau nac unrhyw gorff allanol arall.
Am wybodaeth ynghylch ailgyfleu yn yr arian treigl newydd gyfalaf cyfrannau nominal oedd gynt wedi’i gyfleu yn yr hen arian gwladol, gweler y canllaw sydd wedi’i roi yn adran 7 o ddogfen Rhagfyr 2001 Banc Lloegr.
Cliciwch yma i weld 'Practical Issues Arising from the Euro'.
Mae rhagor o fanylion am y materion ymarferol y gall fod angen i gwmnïau eu hystyried wedi’u cynnwys yn nalennau ffeithiau’r Uned Paratoi ar gyfer yr Ewro (EPU) a sefydlwyd gan y llywodraeth. Mae’r dalennau ffeithiau hyn ar gael drwy ffonio llinell bwrpasol: 08456 01 01 99 (cyfraddau galw lleol yn gymwys).
Mae’r dalennau ffeithiau hefyd i’w cael drwy’r tudalen 'What's New' ar wefan yr EPU, ynghyd ag astudiaethau achos yn y maes busnes, areithiau a chyfarwyddyd Gweinidogion, a gwybodaeth arall am y paratoadau.
Cliciwch yma i fynd i’r tudalen 'What's New' yng nghyswllt yr Ewro ar wefan y Trysorlys.
|