Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni

Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnïau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnïau
Llyfrgell
Canllaw
Dogfennau Polisi
Amrywiol


Dileu Dogfennau o’r Gofrestr Gyhoeddus

Gwelwyd cynnydd yn ddiweddar yn nifer y ceisiadau a gawn am i ddogfennau gael eu dileu o’r Gofrestr Gyhoeddus. Teimlem y gallai fod o gymorth pe baem yn egluro’n safle ar y pwnc hwn.

Er y gall fod amrywiaeth o amgylchiadau lle y byddai pobl am weld gwybodaeth yn cael ei dileu o’r cofnod cyhoeddus, nid oes gan Dŷ’r Cwmnïau unrhyw bŵer statudol i wneud hyn. Dim ond awdurdodaeth gyfyngedig sydd gan y llysoedd hyd yn oed i orchymyn diwygiadau i’r cofnod cyhoeddus. Hwyrach yr hoffai’r rhai sydd am sicrhau gorchymyn llys i ddileu dogfen o’r Gofrestr ystyried ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol. Byddai angen i gyngor cyfreithiol o’r fath gynnwys ystyried yn gyntaf a oedd yr ymgeisydd yn gymwys i wneud cais i’r llys, ac yn ail a oedd gan y llys awdurdod i orchymyn dileu’r ddogfen dan sylw.

Byddai o gymorth pe câi Tŷ’r Cwmnïau weld y cais drafft am orchymyn llys a fyddai’n mynnu i ddogfen gael ei dileu o’r Gofrestr. Dylai hynny ei gwneud yn bosib tynnu sylw at unrhyw wrthwynebiadau a allai fod gan y Cofrestrydd i’r gorchymyn arfaethedig cyn i’r mater fynd gerbron y llys. Un gwrthwynebiad i orchymyn arfaethedig fyddai lle’r oedd gan y Cofrestrydd bryderon am awdurdodaeth y llys i’w chyfarwyddo i wneud y diwygiadau i’r cofnod cyhoeddus sydd mewn golwg o dan y gorchymyn a gynigir. Lle nad oes gan y Cofrestrydd wrthwynebiad i’r gorchymyn a arfaethir, ni fyddai fel arfer angen iddi gael ei chynrychioli yn y gwrandawiad.

Ymholiadau:

Tess Savigear
Examination Policy
Tel: 029 2038 1295
E mail: tsavigear@companieshouse.gov.uk

Phil Coates
Polisi a Chynllunio
Tel 029 2038 8300
E-bost: Pcoates@companieshouse.gov.uk

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies