Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Amdanon Ni


Siarter Wybodaeth Tŷ’r Cwmnïau

Mae angen inni drin gwybodaeth bersonol amdanoch fel y gallwn roi gwasanaethau i chi ac i’r cyhoedd. Dyma sut y byddwn yn gofalu am yr wybodaeth honno.

Prif swyddogaethau Tŷ’r Cwmnïau yw:

  • corffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig
  • archwilio a storio gwybodaeth gwmni o dan y Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig; a
  • threfnu i’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd

Bydd Tŷ’r Cwmnïau hefyd yn cyflawni swyddogaethau wedi’u dirprwyo ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, er enghraifft gorfodi cyflwyno cyfrifon blynyddol a ffurflenni blynyddol; cyfarwyddo cwmnïau i newid eu henw lle mae hwnnw’n debyg i rai sydd eisoes ar y cofnod cyhoeddus, etc.

Wrth gynnal a gweinyddu’r gofrestr gyhoeddus, byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol am unigolion o dan gategorïau data cyhoeddus ac anghyhoeddus.

Data anghyhoeddus

Pan fyddwn yn ceisio gwybodaeth bersonol gennych, addawn:

  • Wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pam bod ei hangen arnom
  • Gofyn am yr hyn sydd angen yn unig, a pheidio â chasglu gormod o fanylion neu wybodaeth amherthnasol
  • Ei diogelu a gwneud yn siŵr na ellir ei chyrchu gan neb na ddylai allu
  • Gwneud yn siŵr na fyddwn yn ei chadw’n hirach nag sydd eisiau

Yn gyfnewid, gofynnwn i chithau:

  • roi inni wybodaeth fanwl-gywir; a
  • dweud wrthym cyn gynted â phosib os bydd unrhyw newid

Data Cyhoeddus

  • Ni cheisiwn ond gwybodaeth sy’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth
  • Byddwn yn rhoi’r wybodaeth hon ar y cofnod cyhoeddus ac yn trefnu iddi fod ar gael i unrhyw un sydd am ei harchwilio.

Gallwch gael rhagor o fanylion am:

  • sut i ddysgu pa wybodaeth a gadwn amdanoch 
  • o dan ba amgylchiadau y gallwn drosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol heb ddweud wrthych, er enghraifft: i atal a darganfod trosedd neu i greu ystadegau dienw;
  • gan y Tîm Hawliau Gwybodaeth, ebost: informationrights@companieshouse.gov.uk

neu

Wrth geisio gwybodaeth gennych, byddwn yn parchu’r gyfraith, gan gynnwys Deddf Gwarchod Data 1998. Am gyngor annibynnol ynghylch gwarchod data, preifatrwydd a materion rhannu data, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffacs: 01625 524510

Gwefan: www.ico.gov.uk