Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


Derbynioldeb Cyfreithiol Dogfennau Cwmni wedi’u Darparu fel Delweddau Electronig neu ar Microfiche

Tŷ’r Cwmnïau yw’r gofrestrfa i bob dogfennaeth wreiddiol a gaiff ei ffeilio gan gwmnïau cyfyngedig yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 1985. Tŷ’r Cwmnïau, felly, yw’r ffynhonnell wreiddiol ar gyfer pob delwedd electronig a gaiff ei chynhyrchu drwy sganio’r dogfennau cwmni hyn.

Bydd delweddau dogfennau electronig a gynhyrchir yn Nhŷ’r Cwmnïau yn cael eu sganio, eu mynegeio, eu storio a’u rhoi ar gael i’w cyrchu’n electronig fel delweddau TIF. Ni wneir unrhyw newid i gynnwys nac ymddangosiad dogfennau cwmni gwreiddiol yn ystod y broses sganio yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Os yw dogfen yn dderbyniol fel tystiolaeth, yna fe ellir trafod delwedd electronig o’r ddogfen honno fel tystiolaeth eilaidd yn yr un modd â chopi llun neu ddelwedd microfiche. Bydd yn ddarostyngedig i’r darpariaethau ynglŷn â dilysu sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Tystiolaeth Sifil 1995 yng Nghymru a Lloegr a Deddf Tystiolaeth Sifil (Yr Alban) 1988 yn yr Alban.

O dan Ddeddf Cwmnïau 1985, fodd bynnag, gall Tŷ’r Cwmnïau hefyd ddarparu copi ardystiedig o ddogfen. Dyma gopi sy’n dderbyniol fel tystiolaeth ac sydd o ddilysrwydd cyfartal â’r ddogfen wreiddiol.

Tŷ’r Cwmnïau
Ionawr 2000

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies