Amdanon Ni |
||||
|
|
Cyflwyniad Nod Tŷ'r Cwmnïau yw datblygu cofrestrfa effeithlon ac effeithiol oddi mewn i fframwaith rheoleiddiol sy'n hybu tegwch a chynaliadwyedd. Prif nod Tŷ'r Cwmnïau yw sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion rheoleiddiol. Pan fo angen, fe orfodir rheoliadau ac fe erlynir gweithgarwch troseddol, er mwyn meithrin hyder yn effeithiolrwydd y gofrestrfa gorfforaethol a darparu sefydlogrwydd ar gyfer busnes a menter. Cydymffurfiad ac Erlyn Lle mae gan Dŷ'r Cwmnïau gyfrifoldeb sydd wedi ei gytuno â'r Adran Masnach a Diwydiant (“y DTI"), bydd yn ceisio sicrhau bod cyrff corfforaethol yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a deddfwriaeth gysylltiedig. Bydd camau cydymffurfio Tŷ'r Cwmnïau'n golygu cysylltu'n ysgrifenedig â'r cyrff corfforaethol, er mwyn canfod beth yw'r amgylchiadau sydd wedi arwain at eu methiant i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol, a cheisio sicrhau bod y rhwymedigaethau hyn yn cael eu cyflawni. Os na cheir cydymffurfiad, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n ystyried camau gorfodi. Mae Tŷ'r Cwmnïau'n defnyddio nifer o arfau gorfodi, sy'n amrywio o alwadau ffôn dilyniant, a chyhoeddi llythyrau rhybudd, i erlyn swyddogion corfforaethol. Mae gan Dŷ'r Cwmnïau gyfrifoldeb am erlyn ynglŷn â throseddau methu â ffeilio cyfrifon blynyddol a methu â ffeilio mantolenni blynyddol. Pan na fydd cyfrifon blynyddol a mantolenni blynyddol ar gyfer pob cyfnod wedi eu ffeilio erbyn y dyddiad dyladwy, mae llythyrau sy'n rhybuddio ynglŷn â chanlyniadau peidio â chydymffurfio'n cael eu hysgrifennu at y cyrff corfforaethol. Gwneir ymdrechion i ganfod beth yw'r ffeithiau ynglŷn ag amgylchiadau'r achos penodol, ac fe all hyn olygu cysylltu dros y ffôn. Efallai y ceir achosion lle mae gan gorff corfforaethol hanes parhaus o ffeilio'n hwyr; mewn achosion o'r fath, cymerir camau erlyn yn gynharach. Mae erlyniadau'n cael eu cychwyn os bydd ymdrechion Tŷ'r Cwmnïau i sicrhau cydymffurfiad yn aflwyddiannus, ac os yw'r mater yn bodloni'r meini prawf sydd wedi eu rhestru yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron. Cytunwyd rhwng yr Adran Masnach a Diwydiant a Thŷ'r Cwmnïau fod Tŷ'r Cwmnïau'n bwrw ei holl droseddau rheoleiddiol eraill ar erlynwyr y DTI. Mae'r troseddau hyn yn cynnwys methu â hysbysu cyfranogion ynglŷn â chais i ddiddymu cwmni preifat, a methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i newid enw cwmni. Mae'r DTI yn gyfrifol am benderfynu a ddylid ymchwilio i honiadau o ymddygiad troseddol sydd wedi eu hatgyfeirio iddi, a'u herlyn. Wrth wneud yr atgyfeiriadau, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n penderfynu, ar sail yr wybodaeth sydd ar gael iddo, a oes modd canfod elfennau hanfodol y drosedd. Os bydd achos yn cael ei atgyfeirio i'r DTI, bydd erlynwyr y DTI yn penderfynu p'un ai i gychwyn ymchwiliad troseddol neu ddwyn achos erlyn. Unwaith y bydd achos wedi ei anfon at y DTI ar gyfer ystyried ymchwiliad troseddol ac achos erlyn, bydd pob gweithredu pellach yn cael ei wneud yn ôl doethineb erlynydd y DTI, a fydd yn ystyried yr achos yn unol â'r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron. Polisi Erlyn Mae pob honiad o ymddygiad troseddol sy'n cael ei drin gan Dŷ'r Cwmnïau'n cael ei ystyried yn unol â'r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron (sydd ar gael gan wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron — www.cps.gov.uk).
Ni chaiff unrhyw erlyniad fynd rhagddo oni bai bod yr erlynydd wedi ei argyhoeddi bod digon o dystiolaeth i greu gobaith realistig o sicrhau euogfarn. Os oes, rhaid i'r erlynydd benderfynu a oes angen erlyniad er lles y cyhoedd. Mae pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun a'r ffeithiau unigol, yn unol â'r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron. Polisi Erlyn ar gyfer cyrff corfforaethol yn Yr Alban Mae Tŷ'r Cwmnïau'n atgyfeirio pob trosedd sy'n ymwneud â chyrff corfforaethol sydd wedi eu cofrestru yn Yr Alban i'r Procuradur Ffisgal. Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n penderfynu, ar sail yr wybodaeth sydd ar gael iddo, a oes modd canfod elfennau hanfodol trosedd. Unwaith y bydd achos wedi ei anfon at y Procuradur Ffisgal ar gyfer ystyried ymchwiliad troseddol ac achos erlyn, bydd pob gweithredu pellach yn cael ei wneud yn ôl doethineb y Procuradur Ffisgal, a fydd yn ystyried yr achos yn unol â'i God Erlyn. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|