Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Amdanon Ni


Seminarau Am Ddim

Er mwyn helpu cwmnïau i gadw o fewn y gyfraith, rydyn ni’n cynnal nifer o seminarau i drafod cyfrifoldebau cyfreithiol cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion cwmnïau o dan ddeddfwriaeth Deddf Cwmnïau 2006, a hynny drwy gydol y flwyddyn.

Nod y seminarau hyn yw eich helpu chi:

  • i sicrhau bod swyddogion cwmnïau a’u hymgynghorwyr yn gyfarwydd â gofynion ffeilio Deddf Cwmnïau 2006
  • i ddarganfod y ffordd orau o ffeilio eich dogfennau ar-lein
  • i gynnig cyngor ar y newidiadau diweddar yn y ddeddfwriaeth a’u heffaith bosibl ar gwmnïau a’u swyddogion
  • i esbonio datblygiadau at y dyfodol
  • i ddarganfod sut y gallwch chi wirio manylion eich cwmni chi ar-lein

Mae ein seminarau’n para rhyw dair awr ac maent am ddim. Cewch ddewis dod i seminar bore neu brynhawn - felly peidiwch â cholli’r cyfle.

Cynhelir ein seminarau nesaf yn:

Dydd Mercher 29 Chwefror 2012 9.30yb i 12:30yp (yn llawn) a 2yp i 5yp Belfast:
Park Inn Hotel, 4 Clarence Street West, Belfast BT2 7GP
Dydd Iau 8 Mawrth 2012 9.30yb i 12:30yp a 2yp i 5yp
(yn llawn)
London:
Holiday Inn London Regent's Park, Carburton Street, London W1W 5EE

Llenwch y ffurflen archeb ar-lein (Saesneg yn unig) i drefnu lle ar unrhyw un o’r seminarau uchod.

Ffurflen archeb ar-lein

Os oes ymholiadau cyffredinol gennych am unrhyw un o’r digwyddiadau uchod, cysylltwch â

Philip Fox
Tŷ’r Cwmnïau
Tîm Digwyddiad
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
pfox@companieshouse.gov.uk
+44 (0)29 20380893

Cadwch lygad yn agored am fanylion seminarau at y dyfodol.