Amdanon Ni |
||||
|
|
Tŷ’r Cwmnïau a’r SIC 2007 Mae Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) y Deyrnas Unedig o Weithgareddau Economaidd yn cael ei ddefnyddio i ddosbarthu sefydliadau busnes ac unedau safonol eraill yn ôl y math o weithgaredd economaidd y maent yn ymwneud ag ef. Mae fersiwn newydd y codau hyn (SIC 2007) yn cael ei fabwysiadu gan y DU o 1 Ionawr 2008 ymlaen. Mae’r hysbysiad C&A hwn yn esbonio pam na fydd Tŷ’r Cwmnïau mewn sefyllfa i symud i’r codau newydd o 1 Ionawr 2008 ymlaen. 1. Beth yw SIC 2007? Dyma’r fersiwn diweddaraf o’r Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (Standard Industrial Classification) sydd heb gael ei ddiwygio er 2003. Mae hwn yn ddosbarthiad rhifiadol a gafodd ei fabwysiadu gan Dŷ’r Cwmnïau i nodi’r prif weithgareddau busnes y mae’n ofynnol eu datgan ar y ffurflen flynyddol (ffurflen 363) bob blwyddyn. 2. Pryd mae’n dod i rym? Mae’r dosbarthiad newydd yn cael ei fabwysiadu gan y DU ar 1 Ionawr 2008. 3. Beth mae Tŷ’r Cwmnïau yn ei wneud i fabwysiadu’r fersiwn newydd? Mae system TG fewnol newydd ar fin cael ei gosod, ac felly fydd y codau SIC newydd ddim yn cael eu mabwysiadu ar unwaith gan Dŷ’r Cwmnïau. 4. Pryd bydd Tŷ’r Cwmnïau yn mabwysiadu SIC 2007? Pan fydd ein system TG newydd wedi’i gosod ac wedi ennill ei phlwyf, byddwn yn disgwyl rhoi fersiwn newydd y codau ar waith. Byddwn yn rhoi gwybod i’n cwsmeriaid mewn digon o amser cyn i’r newid gael ei wneud. 5. Beth fydd yn digwydd pe defnyddiwn i god SIC 2007 yn lle cod SIC 2003 ar ôl 1 Ionawr 2008? Fe fyddwn yn troi unrhyw god SIC 2007 a ddefnyddir I SIC 2003 yn ein cofnodion. Ond dylid sicrhau eich bod yn parhau i ddefnyddio’r fersiwn gyfredol (SIC 2003). Fydd y fersiwn hwn ddim yn newid yn ein canllawiau nac ar y ffurflen sydd wedi’i hargraffu ymlaen llaw nac yn ein systemau ffeilio electronig. 6. Pam na all Tŷ’r Cwmnïau dderbyn codau SIC 2007 o 1 Ionawr 2008? Mae’r system ddosbarthu wedi’i rhagnodi drwy gyfrwng offeryn statudol, a’r system sydd wedi’i rhagnodi ar hyn o bryd yw SIC 2003. Dyw Tŷ’r Cwmnïau ddim yn cael derbyn codau SIC 2007 nes i’r cynllun gael ei newid i’r fersiwn hwnnw drwy gyfrwng offeryn statudol diwygiedig. Fyddwn ni ddim mewn sefyllfa i newid y cynllun nes ein bod yn gwybod yn bendant pryd y gall ein system TG newydd gael ei rhoi ar waith. 7. Oes rhaid i’m cwmni i wneud unrhyw beth yn wahanol ar ôl 1 Ionawr 2008? Nac oes. Daliwch ati i ddefnyddio’ch cod SIC 2003 presennol wrth ichi lenwi’r ffurflen flynyddol. Byddwn yn dweud wrth y cwsmeriaid pan fyddwn yn barod i dderbyn y codau newydd. 8. Ble mae cael rhagor o wybodaeth am SIC 2007? Ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), drwy ddilyn y ddolen gyswllt hon: Fel arall, cysylltwch â’r SYG drwy’r e-bost – |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|