Aelodau Bwrdd Llywio
 |
Andrew Summers CMG - Cadeirydd Bwrdd Llywio Tŷ’r Cwmnïau
Mae Andrew yn gweithio mewn nifer o rolau anweithredol sy’n cynnwys Cyfarwyddwr Ramboll, ymgynghoriaeth beirianneg o fri a Chadeirydd Design Partners, y corff diwydiant/llywodraeth sy’n cefnogi cwmnïau dylunio’n rhyngwladol. Mae hefyd yn Gadeirydd Ysgol Fusnes Westminster ac yn aelod o gyngor King’s College, Llundain.
Bu’n Brif Weithredydd gyda’r Cyngor Dylunio tan 2003 a chyn hynny bu’n dal llawer o safleoedd uchel mewn amrywiol gwmnïau, gan gynnwys Rheolwr-Gyfarwyddwr gyda Sharwoods ac RHM Foods a Phrif Weithredydd cyntaf y Fenter Siarter Reoli. Mae ei rolau llywodraeth wedi cynnwys aelodaeth o fwrdd y Gwasanaeth Busnesau Bach a Masnach Prydain Rhyngwladol a chadeirydd y Pwyllgor Masnach Ewropeaidd. Dyfarnwyd CMG iddo fe yn 2001 am ei waith yn hybu dylunwaith y DU yn rhyngwladol. |
| Yn ôl i'r brig |
 |
Peter Wyman
Mae gan Peter Wyman bortffolio helaeth o benodiadau anweithredol mewn sefydliadau masnachol a di-elw. Bu’n Uwch Ymgynghorydd i Albright Stonebridge Group LLC, yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Pasco Risk Management Ltd, yn Gadeirydd Sir Richard Sutton's Settled Estates, yn Drysorydd Prifysgol Caerfaddon, yn aelod o Bwyllgor Archwilio a Risgiau Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a’r Gwyddorau ac yn Gadeirydd Sefydliad Cymunedol Gwlad yr Haf.
At hynny, bu Peter yn un o bartneriaid PricewaterhouseCoopers LLP rhwng 1978 a 2010. Ei rôl ddiweddaraf oedd Arweinydd Byd-eang y cwmni dros Bolisi Cyhoeddus a Materion Rheoleiddio. Yn 2002/03 bu Peter yn Llywydd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr a bu’n Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol y Sefydliadau Cyfrifeg hefyd. Yn 2006, enillodd CBE yn anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei wasanaeth i’r proffesiwn cyfrifeg. |
| Yn ôl i'r brig |
 |
Nicky Alberry
Cafodd Nicky ei phenodi i’r Bwrdd Llywio yn Ionawr 2009.
Gydag HSBC y dechreuodd ei gyrfa ond mae wedi gweithio’n helaeth ym myd cefnogaeth fusnes a datblygiad economaidd dros y 20 mlynedd diwethaf.
Mae’n Gadeirydd i GWE Business West, corff aelodaeth a datblygiad economaidd wedi’i seilio yn y De-orllewin, ac yn Gadeirydd i Northern Arc, cwmni sy’n gwireddu contractau wedi’u cyllido’n gyhoeddus ym maes cefnogaeth fusnes a magu sgiliau ymhlith busnesau yn y De-orllewin. Mae’n Ddirprwy Raglaw Wiltshire ac yn gysylltiedig â nifer o gymunedau a chymdeithasau gwirfoddol yn y wlad. |
| Yn ôl i'r brig |
 |
Sheila Doyle
Penodwyd Sheila i’r bwrdd llywio yn Ionawr 2010.
Mae ganddi brofiad helaeth ym myd busnes, gan arbenigo mewn rheoli ym maes TG, alinio strategol a chyflwyno rhaglenni cymhleth. Mae hi wedi gweithio mewn sawl swydd uwch, gan weithredu ar fwrdd cwmnïau blaenllaw gan gynnwys BP, IBM a Deutsche Bank. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn Hong Kong, Singapore ac Awstralia yn cynghori cwmnïau ariannol a gweithgynhyrchu rhanbarth Asia a’r Môr Tawel. Yn fwy diweddar, mae Sheila wedi canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i hwyluso’r gwasanaethau a ddarperir i gwsmeriaid a dod â thechnoleg y busnes i mewn i’r oes ddigidol.
Cwblhaodd Sheila ei doethuriaeth yn Awstralia cyn dychwelyd i Lundain gyda’i theulu. |
Yn ôl i'r brig
|
 |
Richard Carter
Mae Richard Carter ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr yr Adran Ymgylchedd Busnes BIS, lle mae’n gyfrifol am y gyfraith gwmnïau, rheolaeth a safonau cyfrifeg ac archwilio ariannol, a Gwell Rheoleiddio.
Gyrfa gwas sifil a ddilynir ganddo erioed ac mae wedi dal nifer o swyddi uchel yn y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys dau gyfnod blaenorol yn gweithio ar faterion cyfraith cwmni. Cyn ymuno â CLG, roedd ef yn Gyfarwyddwr o BIS: Cyfarwyddiad Swyddi Newydd Diwydiant Newydd. |
Yn ôl i'r brig
|
 |
Bernadette Kelly – Cyfarwyddwr Cyffredinol Marchnadoedd Teg – Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS)
Cafodd Bernadette Kelly ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cyffredinol Marchnadoedd Teg BIS ym mis Mawrth 2010.
Ymunodd Bernadette â BIS o’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol lle bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol yn gyntaf ym maes Cynllunio ac wedyn ym maes Tai.
Dechreuodd Bernadette ei gyrfa yn yr Adran Masnach a Diwydiant ym 1986 lle bu’n gweithio mewn nifer o rolau, yn bennaf ar bolisi rheoleiddio a strategaeth a chyllid. Ym 1997 symudodd i’r Trysorlys lle arweiniodd waith ar dâl ac effeithlonrwydd y sector cyhoeddus. Rhwng 1999 a 2001 bu’n Brif Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant. Yn dilyn secondiad i ICI daeth yn Gyfarwyddwr Cyfraith Gorfforaethol a Llywodraethiant yn y DTI. O 2005 ymlaen bu’n Uwch-gynghorydd Polisi i’r Prif Weinidog, gan gynghori ar drafnidiaeth, cynllunio, tai a gwell rheoleiddio. Symudodd Bernadette i’r DCLG yn 2007 ar ôl arwain gwaith ar ddiwygio cynllunio yn Swyddfa’r Cabinet. |
Yn ôl i'r brig
|