Gyrfaoedd |
||||
|
|
Arweinydd y Tîm Datblygu E-wasanaethau Tŷ'r Cwmnïau yw prif ganolfan cyfnewid gwybodaeth am gwmnïau yn y DU: gan helpu busnesau, hysbysu'r cyhoedd a rhoi budd i economi'r DU. Ein gweledigaeth yw bod yn ddarparwr gwybodaeth heb ei ail – hygyrch, hawdd ei ddefnyddio gan roi'r cwsmer yn gyntaf Swyddogaeth y swydd sy’n cael ei hysbysebu: Fel Arweinydd y Tîm Datblygu E-wasanaethau, mae’r swydd yn gyfrifol am sicrhau datblygu a chynnal a chadw’r gwasanaethau allanol a’r systemau ategol a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau Gwasanaethau Gwe, Ffeilio ar y We, Ffeilio Meddalwedd a Chanlyniadau, ynghyd â rheoli ac arwain nifer o ddatblygwyr ac uwch ddatblygwyr. Yn ogystal â chysylltu â datblygwyr systemau eraill Tŷ’r Cwmnïau, dadansoddwyr a’r Adran Farchnata, bydd angen i’r swydd roi arweiniad a mentora i ddatblygwyr ac uwch ddatblygwyr, ar y cyd gyda sgiliau systemau a chynllunio amcan-gyfeiriedig. Mae’r swydd yn cynnwys:
Cymwyseddau Craidd a Phenodol i’r Swydd: Hanfodol
Dymunol
Manteisiol
Gwybodaeth ychwanegol: Mae’n bosibl y bydd angen gwneud goramser o dro i dro, weithiau ar rybudd byr, yn enwedig mewn cysylltiad â gweithredu prosiectau Bydd buddion yn gynlluniau pensiwn, gwyliau rhagorol, polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a chyfle i weithio i sefydliad blaengar mewn amgylchedd cyfeillgar I wneud cais I wneud cais, llwythwch i lawr y disgrifiad swydd llawn a’r ffurflen gais, a llenwi’r ffurflen gan roi’r wybodaeth angenrheidiol a pherthnasol i helpu i gefnogi’ch cais. Byddwch hefyd yn gweld ffurflenni ychwanegol, y bydd angen i chi eu llwytho i lawr, eu llenwi a’u hanfon yn ôl atom ni gyda’ch ffurflen gais Dylid anfon ceisiadau wedi’u cwblhau at: - Y Tîm Adnoddau Dynol Neu fel arall, i gael disgrifiad swydd llawn a phecyn cais, anfonwch e-bost at hrrecruitment@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch 029 2038 0506 gan roi’r rhif cyfeirnod SR/08/70 Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 15 fed Hydref 2008 Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau gweithgaredd fel rhan o’r broses dethol ar gyfer recriwtio. Fe welwch ein bod wedi cynnwys amrywiaeth o wybodaeth gefndirol am Dŷ’r Cwmnïau a’r heriau sydd o’n blaen, er gwybodaeth i chi Ffurflen gais (PDF 0.13MB) Furfleni monitro i gwblhau (PDF 0.23MB) Disgrifiad Swydd llawn (PDF 0.15MB) Adroddiad Blynddol a Chyfrifion 2007-2008 (PDF 2.91MB) Cyfeiriad Strategol i Tŷ'r Cwmnïau am 2010 (PDF 0.15MB) Cynllun Busnes 2007/2008 (PDF 0.16MB) Cofrestr (PDF 1.91MB) |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|