Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Gyrfaoedd |
|||
|
|
Datblygwr Perl (Pen Blaen) Prif rôl yn y tîm: Mae’r systemau Pen Blaen/Gwe wedi’u hadeiladu o gwmpas y technolegau canlynol: Perl, CSS ac HTML. Bydd angen amrywiaeth eang o sgiliau ar gyfer y rôl, a bydd hyfforddiant a mentora’n cael eu darparu i lenwi unrhyw fylchau yn y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol gan yr ymgeiswyr. Cymwyseddau Craidd a Phenodol i’r Swydd: Hanfodol
Dymunol
Y cyfleoedd a gynigir: Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i chi weithio mewn amgylchedd TG heriol gan ryngweithio ag amrywiaeth o ddefnyddwyr Tŷ’r Cwmnïau. Byddwch hefyd yn gallu cyfnerthu a datblygu sgiliau mewn amrywiaeth o dechnolegau Gwybodaeth ychwanegol: Bydd natur y swydd yn gofyn am barodrwydd ac ymrwymiad i weithio y tu allan i oriau ar ddyddiau’r wythnos a/neu benwythnosau, yn ôl y gofyn I wneud cais I wneud cais, llwythwch i lawr y disgrifiad swydd llawn a’r ffurflen gais, a llenwi’r ffurflen gan roi’r wybodaeth angenrheidiol a pherthnasol i helpu I gefnogi’ch cais. Byddwch hefyd yn gweld ffurflenni ychwanegol, y bydd angen i chi eu llwytho i lawr, eu llenwi a’u hanfon yn ôl atom ni gyda’ch ffurflen gais Dylid anfon ffurflenni cais wedi’u llenwi at: shinchey@companieshouse.gov.uk Neu fel arall, i gael disgrifiad swydd llawn a phecyn cais, anfonwch ebost at shinchey@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch 029 2038 0176 gan roi’r rhif cyfeirnod SR/11/20r Cyfeirnod y swydd: SR/11/20r Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 23 Rhagfyr 2011 Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau gweithgaredd fel rhan o’r broses dethol ar gyfer recriwtio Mae Tŷ’r Cwmnïau’n gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau gan ddynion a menywod o bob cefndir a grŵp ethnig, gan gynnwys rhai ag anableddau. Ffurflenni monitro i gael eu llenwi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2010-2011 Cyfeiriad Strategol Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer Crynodeb o Gynllun Busnes 2011/2012 Os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â Suzanne Hinchey yn y tîm Adnoddau Dynol dros ebost shinchey@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch 029 20348494 |
||