Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Deddf Cwmnïau


Newidiadau i ofynion y Ffurflen Flynyddol (Deddf 1985)
ar gyfer Ffurflenni Blynyddol yn bodloni cyfnodau’n dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2008

Daethpwyd i rym ag adrannau 116-119 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ym mis Hydref 2007, gan ganiatáu i gwmnïau gyfyngu’r mynediad i’w cofrestr aelodau.  I hwyluso hyn, bydd ffurflenni blynyddol sy’n bodloni cyfnod sy’n diweddu ar neu wedi 1 Hydref 2008 yn cynnwys llai o wybodaeth am gyfranddeiliaid y cwmni.  Bydd yr wybodaeth a gaiff ei datgelu ar y ffurflen flynyddol yn dibynnu ar b’un a dderbyniwyd unrhyw rai o gyfrannau’r cwmni i’r drefn fasnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio (cwmni masnachedig).  Dim ond enwau’r cyfranddeiliaid, nid eu cyfeiriadau, y mae’n ofynnol i gwmnïau preifat a chwmnïau cyhoeddus anfasnachedig eu darparu. Mae’n ofynnol i gwmnïau cyhoeddus masnachedig ddarparu enwau a chyfeiriadau’r cyfranddeiliaid hynny sy’n dal o leiaf 5% o unrhyw ddosbarth o gyfrannau.

Pam bod y ffurflen flynyddol yn newid?
Mae’r ffurflen wedi newid fel mai dim ond manylion priodol y cyfranddeiliaid y mae angen eu cofnodi, yn ôl a yw’r cwmni’n un cyhoeddus masnachedig neu beidio.  Mae hyn yn golygu nad yw’n ofynnol i unrhyw gwmni gynnwys cyfeiriadau ei holl gyfranddeiliaid.

Alla i ddefnyddio’r ffurflen flynyddol newydd os yw fy manylion yn bodloni cyfnod sy’n dod i ben cyn 1 Hydref 2008?
Na allwch. Dim ond i ffurflenni blynyddol sy’n bodloni cyfnodau’n dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2008 y mae’r ddeddfwriaeth yn gymwys.  Rhaid ichi barhau i ddefnyddio fersiynau cyfredol y ffurflen flynyddol ar gyfer cyfnodau’n dod i ben cyn 1 Hydref 2008, ni waeth pa bryd y cânt eu ffeilio.

Beth yw cwmni cyhoeddus masnachedig?
Mae cwmni cyhoeddus masnachedig yn un y cafodd unrhyw rai o’i gyfrannau eu derbyn i’w masnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio (nid yw AIM yn farchnad wedi’i rheoleiddio: gweler www.londonstockexchange.com).  Ni fyddai gan gwmni preifat gyfrannau a gafodd eu derbyn i’w masnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio oni bai bod y cwmni gynt yn gwmni cyhoeddus masnachedig.

Pam bod rhaid i gwmnïau cyhoeddus masnachedig wneud y datgelu ychwanegol?
Mae cwmnïau cyhoeddus masnachedig yn dod o dan drefn datgelu cyfranddaliadau’r Gyfarwyddeb Rhwymedigaethau Tryloywder (2004/109/EC).  Mae’n ofynnol i’r cwmnïau hyn roi gwybod i’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol lle mae mesurau arbennig, gan ddechrau gyda 5%, o holl hawliau pleidleisio unrhyw ddosbarth o gyfrannau wedi’u dal gan gyfranddeiliad unigol.  Mae gwybodaeth bellach i’w chael ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol www.fsa.gov.uk/pages/index.shtml

Oes yna gwmnïau cyhoeddus masnachedig sydd wedi’u heithrio rhag y datgelu ychwanegol hwn?
Nid yw cwmnïau sy’n masnachu ar AIM yn dod o dan y Gyfarwyddeb Rhwymedigaethau Tryloywder, felly does dim rhaid iddyn nhw ddatgelu cyfeiriadau eu cyfranddeiliaid.  Dylai’r rhain gwblhau eu ffurflen flynyddol fel cwmni cyhoeddus anfasnachedig, gan nodi manylion eu cyfranddeiliaid yn Atodiad A.

Ai dim ond i gwmnïau cyhoeddus a gaiff eu masnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio yn y DU y mae hyn yn gymwys?
Nage.  Mae marchnad wedi’i rheoleiddio yn golygu un sy’n ymddangos mewn rhestr a gafodd ei llunio gan un o wladwriaethau’r AEE yn unol ag Erthygl 47 o Gyfarwyddeb 2004/39/EC gan Senedd Ewrop a’r Cyngor, dyddiedig 21 Ebrill 2004, mewn cysylltiad â marchnadoedd offerynnau ariannol.

Beth sy’n digwydd os oes gan y cwmni cyhoeddus gyfrannau a gaiff eu masnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio a rhai na chânt: oes rhaid cwblhau’r ddau atodiad?
Nac oes, dim ond Atodiad B.  Os cafodd unrhyw gyfrannau eu masnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio yn ystod cyfnod y ffurflen flynyddol, rhaid marcio’r blwch “masnachedig” a chwblhau Atodiad B ar gyfer pob dosbarth o gyfrannau, p’un a gaiff y dosbarth hwnnw ei fasnachu neu beidio.

Beth mae cwmni cyhoeddus masnachedig yn ei gofnodi ar gyfer cyfranddeiliaid sy’n dal llai na 5%?
Does dim angen manylion ar gyfer cyfranddeiliaid sy’n dal neu sy’n parhau i ddal llai na 5% o unrhyw fath unigol o gyfrannau a gafodd eu dosbarthu.

Beth fydd yn digwydd os bydd cwmni preifat neu gwmni cyhoeddus anfasnachedig yn cofnodi cyfeiriadau cyfranddeiliaid ar eu ffurflen flynyddol?
Gwrthodir ffurflenni blynyddol y cwmnïau hyn er mwyn i’r wybodaeth ychwanegol gael ei dileu.  Fodd bynnag, ni fydd ein system WebFiling yn caniatáu cofnodi cyfeiriadau cyfranddeiliaid ar gyfer cwmnïau preifat neu rai cyhoeddus anfasnachedig.

Pam na cha i ddewis ffeilio’r wybodaeth ychwanegol am gyfranddeiliaid?
Caiff y ffurflen flynyddol ei rhoi ar y cofnod cyhoeddus.  Mae hyn yn golygu bod rhaid iddi beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth am gyfranddeiliaid nad yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith; fel arall, byddai’r ffurflen yn torri’r Ddeddf Gwarchod Data.

A fydd cyfeiriadau aelodau neu gyfranddeiliaid ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau o hyd?
Lle cyflewyd cyfeiriadau i Dŷ’r Cwmnïau fel rhan o ffurflen flynyddol cwmni cyhoeddus masnachedig, trefnir i’r rhain fod ar gael i’r cyhoedd o hyd.  Byddwn yn gwrthod unrhyw ffurflen flynyddol sy’n cynnwys cyfeiriadau cyfranddeiliaid os nad yw’r cwmni’n un masnachedig.

A fydd modd i gwmni fanteisio ar hyn cyn bod ei ffurflen flynyddol nesa’n ddyledus?
Bydd, caiff cwmni gyflwyno’n unig ffurflen flynyddol yn bodloni cyfnod yn dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2008 er mwyn manteisio ar y gofynion datgelu is.  Caiff cwmni drefnu i’w ffurflen flynyddol fodloni cyfnod yn dod i ben ar unrhyw ddyddiad a fynna, ar yr amod na fydd hwnnw’n ddiweddarach na blwyddyn ar ôl y ffurflen flynyddol ddiwethaf (neu’r dyddiad corffori yn achos ffurflen flynyddol gynta’r cwmni).

Beth os bydd cwmni sy’n cyflwyno ffurflen flynyddol gynharach yn dymuno adfer ei gylch dogfennau drwy gyflwyno ffurflen flynyddol arall ar ei dyddiad dyledus gwreiddiol?

Bydd modd i’r cwmni adfer ei gylch dogfennau unrhyw bryd, ond bydd unrhyw ffurflen flynyddol sy’n bodloni cyfnod sy’n dod i ben cyn 1 Hydref 2008 yn dod o dan y gofynion cyfredol. Mae hyn yn golygu, i gwmni sydd â chyfalaf cyfrannau, y bydd yn rhaid iddo gynnwys enw a chyfeiriad pob aelod (neu bawb a roes heibio i fod yn aelodau neu a ddaeth yn aelodau ers y ffurflen ddiwethaf).

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies