Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Deddf Cwmnïau


Beth yw’r buddion i fusnesau?

Pob cwmni

  • Mae’r datganiad statudol ynghylch dyletswyddau cyffredinol cyfarwyddwyr yn gwneud y gyfraith sefydledig yn y maes hwn yn fwy hygyrch, gan ei chysoni ag arfer busnesau modern.
  • Bydd modd i gwmnïau fanteisio’n helaethach ar gyfathrebu electronig â chyfranddeiliaid.
  • Eglurhawyd y rhwymedigaeth o ran adroddiadau i’r farchnad.
  • Bydd cyfarwyddwyr yn cael y dewis awtomatig o ffeilio cyfeiriad gwasanaeth ar y cofnod cyhoeddus (yn hytrach na’u cyfeiriad cartref preifat).
  • Bydd gwell rheolau ar gyfer enwau cwmni.
  • Ni fydd mwyach yn ofynnol i gwmnïau nodi’u hamcanion.
  • Fe ddaw’r memorandwm cwmni yn ddogfen ffurfiol yn cofnodi’r sefyllfa adeg y cofrestru, a dim ond yr erthyglau yn ddogfen gyfansoddiadol barhaol.
  • Bydd modd i gyfranddeiliaid gymeradwyo cyfyngiadau i atebolrwydd archwilwyr ariannol.
[an error occurred while processing this directive]