|
1af Chwefror 2009
Cosbau Ffeilio Hwyr
Mae adran 441 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni gyflwyno cyfrifon blynyddol i’r Cofrestrydd Cwmnïau erbyn y dyddiad dyledus. Mae adran 453 yn pennu y bydd cosb gweinyddu sifil yn daladwy os caiff y cyfrifon eu cyflwyno’n hwyr, gan ddarparu i’r Ysgrifennydd Gwladol bennu lefel y gosb hon drwy reoliadau.
I gynyddu effeithiolrwydd y cosbau ffeilio hwyr, pan ddaw adran 453 i rym bydd Tŷ’r Cwmnïau yn newid yr atodlen bresennol o gosbau ffeilio hwyr, fel sydd wedi’i chynnwys yn adran 242A o Ddeddf Cwmnïau 1985. Yn gyfochrog â hyn, bydd y Llywodraeth yn diwygio adran 242A o Ddeddf 1985 fel y bydd y newidiadau dan sylw hefyd yn gymwys i gyfrifon wedi’u paratoi o dan Ddeddf 1985 ond a gaiff eu cyflwyno’n hwyr ar neu wedi 1 Chwefror 2009 pan ddaw’r cosbau diwygiedig i rym.
Beth yw cosbau ffeilio hwyr?
Cafodd cosbau ffeilio hwyr eu cyflwyno ym 1992 i annog cyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig i ffeilio’u cyfrifon yn brydlon gan fod yn rhaid iddynt ddarparu’r wybodaeth statudol hon er mwyn y cofnod cyhoeddus.
Pa newidiadau sy’n cael eu cyflwyno?
- Pob cosb i gael ei chynyddu i gymryd chwyddiant rhwng 1992 a 2007 i ystyriaeth
- Cyfradd gynnydd gyflymach yn y cosbau i gwmnïau sy’n ffeilio mwy na mis yn hwyr.
- Dyblu’r gosb i unrhyw gwmni sy’n ffeilio’n hwyr ar ôl ffeilio’n hwyr y flwyddyn cynt hefyd.
Beth yw’r cosbau newydd am ffeilio hwyr?
Mae tabl newydd y cosbau fel a ganlyn:
*
| Pa mor hwyr y caiff y cyfrifon eu cyflwyno |
Cosb – Cwmni Preifat |
Cosb - CCC |
| Nid mwy na mis |
£ 150 |
£750 |
| Mwy na mis ond nid mwy na thri mis |
£375 |
£1500 |
| Mwy na thri mis ond nid mwy na chwe mis |
£750 |
£3000 |
| Mwy na chwe mis |
£1500 |
£7500 |
Hefyd lle'r oedd methiant i gydymffurfio a’r gofynion ffeilio o ran y flwyddyn ariannol flaenorol (a bod y flwyddyn ariannol flaenorol wedi dechrau cyn neu wedi 6 Ebrill 2008) bydd y gosb yn dyblu ffigur y tabl.
Pryd y bydd y cosbau newydd hyn yn gymwys?
Bydd y cosbau newydd yn gymwys o 1 Chwefror 2009 ymlaen.
Sut bydda i’n gwybod pan gaiff cosb ei gosod?
Os cyflwynir cyfrifon yn hwyr, caiff anfoneb ei gyrru’n awtomatig i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig.
Ydy’r cosbau’n gymwys i gwmnïau rheoli fflatiau a chwmnïau segur?
Ydyn.
Sut galla i osgoi cosbau?
Darllenwch y llythyrau atgoffa y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn eu hanfon i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig.
Caniatewch ddigon o amser i sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd y Cofrestrydd o fewn y cyfnod sydd wedi’i ddarparu o dan y Ddeddf Cwmnïau. Nid yw’r post dosbarth cyntaf dan warant, felly os yw’r terfyn amser ar gyfer ffeilio’n agos ystyriwch ddulliau cyflwyno gwarantedig a fydd yn sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd mewn pryd. Cofiwch: ni fydd y Cofrestrydd yn anwybyddu cosb os caiff eich cyfrifon eu hoedi yn y post.
Gallwch bellach ffeilio rhai mathau o gyfrifon drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Os ffeiliwch eich cyfrifon yn electronig, cewch fantais neges e-bost yn cydnabod bod eich cyfrifon wedi dod i law.
Beth fydd yn digwydd os na thelir y gosb?
Caiff y gosb ei hatgyfeirio i sylw asiantiaid casglu. Os bydd yn dal heb ei thalu, gellir cymryd camau cyfreithiol a allai arwain at ddyfarniad Llys Sirol neu Lys Siryf yn erbyn eich cwmni.
A ymgynghorwyd yn gyhoeddus ynghylch y newidiadau i’r Cosbau Ffeilio Hwyr?
Do. Trefnwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynigion ar 20 Gorffennaf 2007, gan fynnu pob ymateb erbyn 12 Hydref 2007.
Ble galla i weld copi o’r ddogfen ymgynghori a’r ymatebion?
Mae’r ddogfen ymgynghori a’r ymatebion i’w gweld ar dudalennau cyhoeddiadau gwefan Tŷ’r Cwmnïau yn:
http://www.companieshouse.gov.uk/companiesAct/publications.shtml
Mae copïau o’r rheoliadau ar gael ar wefan OPSI yn:
http://www.opsi.gov.uk/si/si2008/uksi_20080497_en_1
Ydy cosbau ffeilio hwyr yn gymwys i unrhyw ddogfennau eraill?
Lle bo cwmni’n diwygio’i erthyglau cymdeithasiad, rhaid anfon copi o’r erthyglau diwygiedig i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen 15 diwrnod. Mae methiant i gydymffurfio yn dramgwydd troseddol.
Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno cosb sifil newydd o £200 am fethiant i gydymffurfio. Dim ond os caiff cwmni rybudd gan y Cofrestrydd yn mynnu iddo gyflwyno copi o’i erthyglau diwygiedig, ac yntau’r cwmni heb gydymffurfio o fewn 28 diwrnod, y caiff y gosb ei sbarduno. Byddai’r cwmni’n aros yn agored i weithrediadau troseddol yn ychwanegol at y gosb sifil o £200.
|