Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Deddf Cwmnïau


Newyddion Diweddaraf

1 Hydref 2009 – Manylion Cywiro Anffurfiol wedi’u Cyhoeddi
Ar 1 Hydref 2009, daw adran 1075 o Ddeddf Cwmnïau 2006 i rym.  Dyma ddarpariaeth newydd sy’n rhoi i’r Cofrestrydd y pŵer i gywiro dogfen sy’n ymddangos yn anghyflawn neu’n anghyson yn fewnol cyn ei chofrestru. O 1 Hydref ymlaen, dim ond yng nghyswllt cofrestru morgeisiau ac arwystlon y caiff Cywiro Anffurfiol ei weithredu.  

1 Hydref 2009 – Deddf Cwmnïau 2006 wedi’i gweithredu’n llawn bellach
Cafodd Deddf Cwmnïau 2006 ei gweithredu’n llawn ar 1 Hydref 2009.  Os ydych yn ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau, a wnewch fwrw cip ar y Darpariaethau Trosiannol ar gyfer y mathau o ffurflen a gaiff eu ffeilio fynychaf.

23 Medi 2009 – Hysbysiad wedi’i Ddiweddaru yn Cyfleu Argaeledd Gwasanaeth Tŷ’r Cwmnïau a newidiadau i’r gwasanaethau ar-lein
Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi diweddaru’r hysbysiad argaeledd gwasanaeth  ar gyfer y cyfnod rhwng 30 Medi a 5 Hydref.  Rydym hefyd wedi cyhoeddi manylion y prif newidiadau sy’n effeithio ar ein gwasanaethau ar-lein) fel rhan o weithredu Deddf Cwmnïau 2006.

22 Medi 2009 – Darpariaethau Trosiannol ar gyfer Deddf Cwmnïau 2006
Daw Deddf Cwmnïau 2006 i rym llawn ar 1 Hydref 2009. Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cyhoeddi tabl yn amlinellu darpariaethau trosiannol Deddf Cwmnïau 2006 ar gyfer y mathau o ffurflen a dogfen a gaiff eu ffeilio fynychaf.

17 Medi 2009 – Newidiadau i Ffioedd Partneriaeth Gyfyngedig
Newidiwyd ein ffioedd ar gyfer Partneriaethau Cyfyngedig. Rhagor o fanylion ar newidiadau i ffioedd.

7fed Awst 2009 – Llythyr at gwmnïau
Fel rhan o’r cysylltiadau â chwsmeriaid ynghylch Deddf Cwmnïau 2006, mae Tŷ’r Cwmnïau yn ysgrifennu at gwmnïau i roi gwybod am y gweithredu terfynol ar 1 Hydref 2009. Anfonir llythyr a chanllaw byr i gyfeiriad pob swyddfa gofrestredig yn ystod Awst a Medi.

1af Gorffennaf 2009 – Ffurflenni a Chanllaw Drafft ar gael
Mae canllaw (Saesneg yn unig ar hyn o bryd)  a ffurflenni drafft ar gael yn awr o’r wefan hon. Mae'r rhain mewn fformat drafft a gellir eu newid, ond bydd yn rhoi syniad ichi am y fersiynau terfynol yn barod am 1af Hydref 2009. Mae copïau o’r Erthyglau Enghreifftiol a Rheoliadau’r Cofrestrydd (yn Saesneg yn unig) hefyd ar gael yn awr (sylwer bod yr Atodlenni heb eu llenwi eto.) yn ogystal â rhestr prisiau draft ar gyfer mis Hydref.

Ebrill 2009 – Gwybodaeth newydd am integreiddio Gogledd Iwerddon
Wrth ddechrau Deddf Cwmnïau 2006 yn llawn ym mis Hydref 2009, bydd Cofrestrfa Gwmnïau Gogledd Iwerddon yn integreiddio â Thŷ’r Cwmnïau. Rhagor o fanylion am integreiddio Cofrestrfa Gogledd Iwerddon.

Mawrth 2009 – Cwestiynau Mynych newydd ynghylch pwerau’r Cofrestrydd
O 1 Hydref 2009 ymlaen, mae rhan 35 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn rhoi i’r Cofrestrydd Cwmnïau amrediad o bwerau. Mae’r rhain yn cynnwys pwerau i benderfynu ymha ffurf a dull y mae’n rhaid i gwmnïau gyflwyno dogfennau, beth sydd angen i ddogfen gael ei chyflwyno’n briodol, darparu trefn cyflwyno electronig ar gyfer rhai dogfennau, a diwygiadau i’r Gofrestr. Rhagor o fanylion am bwerau’r Cofrestrydd

Chwefror 2009 – Newidiadau i Gosbau Ffeilio Hwyr
I annog cyfarwyddwyr cwmni i ffeilio’u cyfrifon blynyddol yn brydlon, cyflwynwyd trefn newydd ar gyfer cosbau ffeilio hwyr ar 1 Chwefror 2009. Rhagor o fanylion am y newidiadau i Gosbau Ffeilio Hwyr

Hydref 2008
Gweithredwyd gwedd bellach ar Ddeddf Cwmnïau 2006 ar 1 Hydref 2008.
Rhagor o wybodaeth am weithrediad Hydref 08

Newidiadau i Ffurflenni Blynyddol sydd â dyddiad diwallu’n syrthio ar neu wedi 1 Hydref 2008

Mae’r ffurflen hon wedi newid fel mai dim ond y manylion cyfranddeiliad priodol y mae angen eu cwblhau, yn ôl a yw’r cwmni’n gwmni cyhoeddus masnachedig neu beidio.  Mae hyn yn golygu nad yw’n ofynnol i unrhyw gwmni gynnwys cyfeiriad pawb o’i gyfranddeiliaid. Rhagor o wybodaeth am y newidiadau i’r Ffurflen Flynyddol

[an error occurred while processing this directive]