Deddf Cwmnïau |
||||
|
|
Ni ddylid ystyried bod unrhyw gyngor a roddir yn y cwestiynau a'r atebion sy'n dilyn, yn rhwymo mewn cyfraith; efallai y byddwch yn dymuno ceisio'ch cyngor cyfreithiol eich hun ynghylch materion penodol. Byddwn yn ceisio sicrhau bod y dudalen hon ar y we yn cynnwys yr atebion diweddaraf i gwestiynau cyffredinol; ni allwn gynnig cyngor ynghylch amgylchiadau penodol unigol. Mae cwestiynau ac atebion ynghlwm wrth y pynciau canlynol. 1. Cyffredinol C. Beth yw Deddf Cwmnïau 2006?
A. Mae deddf Cwmnïau 2006 yn ddarn o ddeddfwriaeth gynradd sydd i raddau helaeth yn gymwys i gwmnïau'n uniongyrchol. Mae nifer o ddarpariaethau ar hyn o bryd wedi'u cyfleu drwy ddeddfwriaeth eilaidd, yn bennaf mewn rheoliadau neu orchmynion a gafodd eu gwneud drwy offeryn statudol.
C. Pam bod Deddf Cwmnïau 1985 yn newid?
A. Newidiwyd Deddf Cwmnïau 1985 er mwyn bodloni pedwar amcan allweddol:
C. Ble galla i gael copi o Ddeddf Cwmnïau 2006?
A. Mae copi o Ddeddf Cwmnïau 2006 ar gael gan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2006a.htm, neu drwy dudalen Cyhoeddiadau'r Ddeddf Cwmnïau ar wefan Tŷ’r Cwmnïau.
C. Pwy awdurdododd y newidiadau a wnaed gan Ddeddf Cwmnïau 2006?
A. Sefydlodd y llywodraeth Grŵp Diwygio'r Gyfraith Gwmnïau ym 1998 i ystyried yn fanwl sut y gellid moderneiddio'r gyfraith gwmnïau. Daeth argymhellion yr Arolwg o'r Gyfraith Gwmnïau yn flaengynllun i'r diwygiadau a gafodd eu cynnig yn y Papur Gwyn ar Ddiwygio'r Gyfraith Gwmnïau a gyhoeddwyd ym Mawrth 2005. Yn sgil ymgynghori, esblygodd cynigion y Papur Gwyn yn Fesur drafft a gafodd ei drafod wedyn yn ystod ei hynt drwy'r Senedd. I gloi, cafodd y Mesur Gydsyniad Brenhinol (cymeradwyaeth swyddogol) ar 8 Tachwedd 2006.
C. Ble galla i gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cwmnïau 2006?
A. Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cwmnïau 2006 ar gael ar wefan BERR http://www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/
C. Ydy Deddf Cwmnïau 2006 bellach yn gyflawn?
A. Nac ydy. Caiff y Ddeddf ei hategu gan gyfres o Reoliadau'n defnyddio pwerau a roir i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn rhannau arbennig o'r Ddeddf. Caiff ei hategu hefyd gan Orchmynion Cychwyn sy'n dod i rym â'r Ddeddf. Wrth gyhoeddi'r rhain, bydd y manylion i'w gweld yn http://www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/made-or-before-parliament/page35232.html
C. Beth yw prif newidiadau Deddf Cwmnïau 2006 / Sut bydd Deddf Cwmnïau 2006 yn effeithio ar fy nghwmni i?
A. Mae rhai o brif effeithiau'r Ddeddf yn cynnwys:
Pob cwmni
Cwmnïau preifat
Buddion allweddol: Cyfranddeiliaid
2. Gweithredu C. Pryd bydd Deddf Cwmnïau 2006 yn dod i rym?
A. Ni chaiff y Ddeddf ei gweithredu'n llawn tan Hydref 2009, er y gweithredir rhannau ohoni'n gynharach yn Ebrill 2007, Hydref 2007, Ebrill 2008 a Hydref 2008. Gwelir manylion ar wefannau'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio a Thŷ'r Cwmnïau.
Cliciwch yma am yr amserlen gychwyn. C. A fydd cyfnod o rybudd cyn gweithredu newidiadau Deddf Cwmnïau 2006?
A. Mae Tŷ’r Cwmnïau'n bwriadu rhoi i bob cwmni, cyfarwyddwr a chwsmer rybudd cyn y caiff unrhyw newidiadau eu gweithredu. Caiff gwefan Tŷ’r Cwmnïau ei diweddaru drwy newyddion am amserlenni'r newidiadau a'r gweithredu.
C. Pa newidiadau Deddf Cwmnïau o ran Tŷ’r Cwmnïau a gafodd eu cyflwyno yn Ebrill 2007?
A. Cliciwch yma am fanylion y gweithrediadau a gafodd eu cyflwyno ar 6 Ebrill 2007 www.companieshouse.gov.uk/welsh/companiesAct/implementations/Ebrill2007.shtml
C.Pa newidiadau Deddf Cwmiau 2006 a gafodd eu cyflwyno ar 1 Hydref 2007?
A. Cliciwch yma am fanylion newidiadau Hydref 2007 www.companieshouse.gov.uk/welsh/companiesAct/implementations/Hydref2007.shtml
C. Beth yw cwmpas newidiadau Deddf Cwmnïau 2006 sy'n dod i rym ar 6 Ebrill 2008?
A. Am gwmpas gweithrediad Ebrill 2008, cliciwch yma: www.companieshouse.gov.uk/welsh/companiesAct/implementations/Ebrill2008.shtml.
C. Beth yw newidiadau Deddf Cwmnïau 2006 sy’n dod i rym ar 1af Hydref 2008?
A. Am fanylion newidiadau Hydref 2008 cliciwch yma: www.companieshouse.gov.uk/welsh/companiesAct/implementations/Hydref2008.shtml.
C. A gyhoeddir amserlenni trosiannol?
A. Caiff amserlenni trosiannol eu cynnwys yn y Gorchmynion Cychwyn. Nid yw hyn yn golygu, fodd bynnag, na fydd darpariaethau ar wahân yn nes ymlaen.
3. Cyfarwyddwyr – Cyfeiriadau C. A fydd cyfarwyddwyr o hyd yn gorfod rhoi eu cyfeiriad preswyl i Dŷ'r Cwmnïau?
A. Byddant. Mae'n rhaid i bob cyfarwyddwr roi ei gyfeiriad preswyl arferol ac, ar gyfer pob safle fel cyfarwyddwr, cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Bydd y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar y cofnod cyhoeddus; gwybodaeth wedi'i gwarchod bydd y cyfeiriad preswyl. Caiff cyfarwyddwr ddewis defnyddio'i gyfeiriad preswyl fel ei gyfeiriad cyflwyno hysbysiadau; os felly, gwybodaeth wedi'i gwarchod bydd y ffaith bod y ddau gyfeiriad yr un fath.
C. Beth mae cychwyn y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn ei olygu i gyfarwyddwyr?
A. Bydd modd i gyfarwyddwyr ffeilio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau er mwyn y cofnod cyhoeddus. Gall y cyfeiriad hwn fod yr un fath â'r cyfeiriad preswyl, neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig, neu fe all fod yn rhywle arall. Cychwynnir y drefn hon o 1af Hydref 2009 ymlaen.
C. A fydd cyfarwyddwyr sydd am ffeilio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn gorfod talu?
A. Na fyddant. Pan gychwynnir cyfeiriadau cyflwyno, byddant yn ddi-dâl.
C. Pwy fydd yn gallu cael gwybod cyfeiriad preswyl cyfarwyddwr gan Dŷ'r Cwmnïau a pham?
A.
Bydd y canlynol yn cael gwybod cyfeiriadau preswyl cyfarwyddwyr:
C. Pa gyfeiriadau cyfarwyddwyr na chânt mo'u rhoi i asiantaethau cyfeirnodi credyd?
A.
Ni fydd modd i asiantaethau cyfeirnodi credyd sicrhau cyfeiriad preswyl arferol unrhyw gyfarwyddwr sy'n fuddiolwr o dan Orchymyn Cyfrinachedd dilys ar 30 Medi 2009 neu a wnaeth gais llwyddiannus i'r Cofrestrydd ar y sail ei fod:
C. A yw'r ddeddfwriaeth ar Gyfeiriadau Cyflwyno Hysbysiadau yn caniatáu gwaharddiad o hyd at 5 mlynedd os gwelir bod y cyfeiriad yn ddi-rym?
A. Ydy. Os yw'r Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau'n ddi-rym, mae gan y Cofrestrydd y pŵer i roi'r cyfeiriad preswyl arferol ar y gofrestr gyhoeddus.
C. Os bydd cwmni'n methu cydymffurfio, ai i'r Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau neu i'r cyfeiriad preswyl yr aiff unrhyw lythyrau sydd wedi'u cyfeirio at y cyfarwyddwyr?
A. Anfonir llythyrau i'r Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau.
C. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn dal i gofrestru 'Gorchmynion Cyfrinachedd' ar gyfer cyfarwyddwyr sydd o dan fygythiad difrifol, yn ogystal â'r opsiwn Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau?
A. Bydd Gorchmynion Cyfrinachedd yn peidio â bod wrth weithredu'r Ddeddf ar 1 Hydref 2009. Bydd Adran 243(5) yn caniatáu i gyfarwyddwyr sydd dan fygythiad wneud cais am i'w cyfeiriad preswyl arferol beidio â chael ei datgelu i Asiantaethau Cyfeirnodi Credyd. Bydd yn ofynnol i bob cyfarwyddwr fod â chyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar gyfer y cofnod cyhoeddus, gan roi hefyd eu cyfeiriad preswyl arferol na chaiff neb ond Awdurdodau Cyhoeddus ac Asiantaethau Cyfeirnodi Credyd ei weld.
C. Gan nad oes angen cyfeiriadau preswyl mwyach, a fydd yn rhaid adnewyddu gorchmynion cyfrinachedd?
A. Dim ond cyfarwyddwyr y daw eu gorchymyn cyfrinachedd i ben cyn 1 Hydref fydd yn gorfod adnewyddu'u gorchymyn. O Hydref 1 2009 ymlaen os bydd cyfarwyddwr mewn perygl o ddioddef niwed bydd modd iddynt wneud cais o dan Adran 243(5) am i'w cyfeiriad preswyl arferol beidio â chael ei datgelu i Asiantaethau Cyfeirnodi Credyd.
4. Cyfarwyddwyr – Arall C. Oes unrhyw canllaw ar gael ar ddyletswyddau newydd cyfarwyddwyr?
A. Ar y wefan, mae BERR wedi cyhoeddi casgliad strwythurol o ddyfyniadau defnyddiol o ddatganiadau a wnaed gan weinidogion yn ystod y trafodaethau Seneddol ar y Mesur. www.berr.gov.uk/files/file40139.pdf. Ac mae'r nodiadau eglurhaol y Ddeddf ar gael ar wefan OPSI: www.opsi.gov.uk/acts/en2006/2006en46.htm. Mae mwy a mwy o gyhoeddwyr yn cynhyrchu gwerslyfrau ar y Ddeddf newydd. Does dim cynllun gan yr Adran i gynhyrchu unrhyw ganllaw pellach.
C. A fydd oedran isaf ac uchaf i gyfarwyddwyr?
A. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno oedran isaf o 16 i gyfarwyddwr. Bydd unrhyw gyfarwyddwr sydd o dan 16 oed yn peidio'n awtomatig â bod yn gyfarwyddwr pan ddaw'r Ddeddf i rym yn hydref 2008
O 6 Ebrill 2007 ymlaen, dilëwyd yr oedran uchaf i gyfarwyddwyr cwmnïau CCC, sef 70 gynt. C. Beth fydd yn digwydd i gyfarwyddwyr presennol sydd o dan yr oedran gofynnol pan weithredir Deddf 2006?
A. Bydd cyfarwyddwyr presennol sydd o dan yr oedran gofynnol yn peidio â bod yn gyfarwyddwyr, heb fod eisiau hysbysu'r Cofrestrydd. Fodd bynnag, bydd angen i'r cwmni ddiwygio'i gofrestr gyfarwyddwyr i adlewyrchu'r ffaith bod y penodiad wedi dod i ben.
C. A fydd y rheolau o ran oedran isaf cyfarwyddwyr yn gymwys yn ôl-weithredol?
A. Byddant. Lle bo rhywun sydd wedi'i benodi'n gyfarwyddwr cyn i adran 157
(yr oedran isaf ar gyfer penodiad fel cyfarwyddwr) ddod i rym heb gyrraedd 16 oed pan ddaw'r adran honno i rym, bydd y person hwnnw'n peidio â bod yn gyfarwyddwr. C. Pryd y gweithredir y rheidrwydd newydd i bob cwmni fod ag o leiaf un person naturiol fel cyfarwyddwr?
A. Ar 1 Hydref 2008, ond bydd cyfnod gras tan Hydref 2010 i unrhyw gwmni nad oedd ag o leiaf un cyfarwyddwr oedd yn berson naturiol pan gafodd Deddf 2006 y Gymeradwyaeth Frenhinol (8 Tachwedd 2006).
C. Wrth gyflwyno'r cyfyngiadau newydd ar gyfarwyddwyr, e.e. dim cyfarwyddwyr corfforaethol yn unig na rhai o dan yr oedran gofynnol, a fyddant yn gymwys i gwmnïau segur?
A. Byddant.
C. Beth os na fydd cyfarwyddwr cymwys gan y cwmni o ganlyniad i'r newidiadau?
A. Bydd cwmnïau sydd heb gyfarwyddwr cymwys yn methu'r gofynion cydymffurfio.
C. Pryd bydd y gofynion sy'n diddymu'r angen am ddatgelu safleoedd eraill fel cyfarwyddwr yn dod i rym?<
A.Ni fydd y gofynion o ran 'safleoedd eraill fel cyfarwyddwr' yn cael eu diddymu nes 1 Hydref 2009, yr un pryd â gweddill Rhan 10 – Cyfarwyddwyr.
C. Cafodd Ad.288 o Ddeddf 1985 ei diddymu ar 1 Hydref 2007. Os caiff cyfarwyddwr newydd ei benodi ar ôl y dyddiad hwnnw, pa ffurflen gwmni y dylwn ei defnyddio i gydymffurfio ag Ad.167 newydd Deddf 2006?
A.
Dim ond rhai adrannau o Ran 10 o'r Ddeddf sy'n cael eu gweithredu yn Hydref 2007; y rhain yw'r adrannau sy'n ymwneud â dyletswyddau cyfarwyddwyr. Ni chaiff Adran 288 mo'i diddymu nes 1 Hydref 2009, felly dylai cyfarwyddwyr barhau i gael eu penodi ar y ffurflen bresennol nes i Adran 167 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ddod i rym.
5. Ysgrifenyddion C. A fydd arna i angen ysgrifennydd ar ôl Ebrill 2008?
A. O 6 Ebrill 2008 ymlaen, bydd cwmnïau preifat yn cael dewis a drefnir ysgrifennydd cwmni neu beidio. Os bydd y cwmni'n penderfynu peidio â bod ag ysgrifennydd mwyach ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd angen iddo roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau ar ffurflen arferol 288b.
C. Pryd y bydd y newidiadau o ran ysgrifenyddion cwmni yn dod i rym?
A. O 6 Ebrill 2008 ymlaen, bydd y ddarpariaeth sy'n galluogi cwmnïau preifat i ddewis a ydynt am fod ag ysgrifennydd cwmni neu beidio yn dod i rym.
C. A gaiff cwmni fod ag un cyfarwyddwr yn unig a dim ysgrifennydd?
A. Caiff, cyhyd â'i fod yn gwmni preifat ac o 1af Hydref 2008 bod y cyfarwyddwr yn berson naturiol.
C. Oes rhaid i ysgrifennydd hefyd fod yn berson naturiol neu a all fod yn gorfforaethol?
A. Nid yw'r darpariaethau newydd ynglŷn â chyfarwyddwyr naturiol yn gymwys i ysgrifenyddion. Gall ysgrifenyddion fod yn gorfforaethol o hyd.
C. A fydd yn ofynnol i'r cwmni ddiwygio'i Erthyglau?
A. Bydd yn ofynnol i'r cwmni ddiwygio'i Erthyglau os oes cyfeiriad penodol at ysgrifennydd i'r cwmni. Ond os at ddyletswyddau ysgrifennydd yn unig y mae'r Erthyglau'n cyfeirio, does dim angen diwygio.
C. Wrth i'r cwmni ddiwygio'i Erthyglau, pa ddogfennaeth y mae'n rhaid ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau?
A. Rhaid i'r cwmni gyflwyno penderfyniad ysgrifenedig neu arbennig, ynghyd â fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r Erthyglau.
C. Pryd bydd gweddill y darpariaethau sy'n ymwneud ag ysgrifenyddion yn dod i rym?
A. Bydd y rhain yn dod i rym ar 1 Hydref 2009. O'r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd modd i ysgrifenyddion sy'n berson unigol ffeilio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau er mwyn y cofnod cyhoeddus a bydd yn ofynnol i ysgrifenyddion corfforaethol roi manylion eu lleoliad cofrestru a rhif cofrestru'r cwmni lle bo hynny'n gymwys.
6. Cyfrifon ac Adroddiadau C. Pryd bydd gofynion y Ddeddf newydd yng nghyswllt cyfrifon/adroddiadau yn dod i rym?
A. At ei gilydd, bydd gofynion Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 gyda golwg ar ffurf a chynnwys cyfrifon ac adroddiadau, ynghyd â'r rheoliadau newydd sydd i'w gwneud o dani, yn dod i rym ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008. Bydd cyfrifon ac adroddiadau sy'n dechrau cyn hynny yn dal i gael eu paratoi yn unol â Deddf Cwmnïau 1985.
Fodd bynnag, bydd gofynion adran 417 o Ddeddf Cwmnïau 2006 o ran adolygu busnes newydd yn dod i rym ar gyfer adroddiadau sy'n bodloni blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2007. C. A fydd modd o hyd i rai cwmnïau ffeilio cyfrifon cryno?
A. Bydd.
C. A fydd newid i'r math o gyfrifon y gallwn eu ffeilio a'r datganiadau y mae'n rhaid inni eu defnyddio?
A. Bydd y mathau o gyfrifon yn aros yr un ond bydd yn ofynnol i'r datganiadau ar gyfer cwmnïau sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008 gyfeirio at ddatganiadau Deddf Cwmnïau 2006. (Cliciwch yma am y datganiadau cyfrifon newydd)
C.
A fydd unrhyw newidiadau i’r Trothwyon Eithrio rhag Archwilio Ariannol ?
C. A fydd newidiadau Deddf Cwmnïau 06 yn effeithio ar Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig?
A.
Byddant. Bydd cyfrifon PAC sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008 bellach yn cael 9 mis i ffeilio'u cyfrifon yn Nhŷ'r Cwmnïau neu 21 mis o ddyddiad eu corffori.
Ond mae cynnwys cyfrifon PAC yn dal heb ei effeithio ac mae'n rhaid o hyd ei baratoi yn unol â Deddf Cwmnïau 1985 fel y darperir gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001. C. A fydd y rheolau arbennig o ran archwilio cwmnïau elusennol bach yn aros?
A. Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Ebrill 2008 nid oes mwyach reolau arbennig yng nghyswllt eithrio cwmnïau elusennol rhag archwilio ariannol. Gallant fod yn gymwys i'w heithrio rhag archwilio ariannol o dan y gyfraith gwmnïau yn yr un modd ag unrhyw gwmni arall. Gall cwmnïau elusennol hefyd fod yn gaeth i ofynion ar wahân o ran archwilio'u cyfrifon yn ffurfiol neu eu hystyried rywsut arall o dan y gyfraith elusennau. Am wybodaeth bellach gweler www.charity-commission.gov.uk ar gyfer elusennau wedi'u cofrestru yng Nghymru neu Loegr, neu www.oscr.org.uk ar gyfer elusennau wedi'u cofrestru yn yr Alban.
C. A gaiff partneriaethau PAC fanteisio ar y trothwyon bach/canolig uwch?
A. Cânt. Fodd bynnag, dim ond i bartneriaethau PAC sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2008 y bydd y trothwyon bach/canolig uwch yn gymwys.
C. Mae'r feddalwedd a ddefnyddiwn (ar gyfer cwmnïau bach) i roi gwasanaethau cyfrifeg i'n cleientiaid yn cyfeirio at Ddeddf Cwmnïau 1985 mewn sawl man yn yr adroddiadau cyfrifeg. Ein dealltwriaeth ni yw bod Deddf Cwmnïau 1985 wedi'i disodli ac mai Deddf Cwmnïau 2006 yw'r ddeddf gymwys. A ddylai'n meddalwedd, felly, gyfeirio at Ddeddf 2006 ac nid 1985?
A. Ni fydd yr adran o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy'n ymwneud â'r gofynion newydd ar gyfer cyfrifon yn dod i rym tan 6 Ebrill 2008 a bydd yn gymwys i gyfnodau cyfeirnod cyfrifeg sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw neu wedyn. Mae rheoliadau ar gyfer cynnwys cyfrifon yn cael eu drafftio ar hyn o bryd ac arfaethir rhoi'r wedd derfynol arnynt erbyn diwedd y flwyddyn pryd y cyhoeddir canllawiau pellach ynglyn â'r datganiadau sydd eisiau.
C. Oes angen inni newid datganiad ad.249 yn ein cyfrifon i adlewyrchu'r newidiadau a ddaeth i rym yn Hydref 2007?
A. Nac oes, dim ond ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar 6 Ebrill 2008 neu wedyn, wrth i ddarpariaethau cyfrifeg Deddf 2006 ddod i rym, y bydd angen datganiadau yn y cyfrifon.
C. Beth yw'r newidiadau o ran dyddiadau ffeilio cyfrifon?
A. Bydd y cyfnodau ar gyfer ffeilio cyfrifon yn cael eu gostwng o 10 mis i 9 mis ar gyfer cwmnïau preifat ac o 7 mis i 6 mis ar gyfer cwmnïau CCC.
C. Pryd y cyflwynir y gostwng o ran dyddiadau ffeilio cyfrifon?
A. Caiff y terfynau amser ar gyfer ffeilio cyfrifon eu gostwng i gwmnïau sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008.
C. Pa newidiadau a fydd i'n cyfrifon?
A. Mae llawer o'r newidiadau i gyfrifon heb eu diffinio eto. Ond i gwmnïau sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau 6 Ebrill 2008, caiff yr amserau ffeilio cyfrifon eu byrhau i 9 mis ar gyfer cwmnïau preifat a 6 mis ar gyfer cwmnïau cyhoeddus.
C. Pryd y caiff y 10 mis ar gyfer ffeilio'n cyfrifon ei fyrhau i 9 mis?
A. Bydd y cyfnod ffeilio byrrach ar gyfer cyfrifon yn dod i rym i gwmnïau sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008.
C. Beth yw cyfeiriadau penodol Deddf 2006 at fyrhau cyfnodau ffeilio cyfrifon a pha bryd y deuant i rym?
A. Bydd adran 442, 'Period allowed for filing accounts', yn dechrau ar 6 Ebrill 2008. Felly, bydd yn gymwys i bob cyfnod cyfrifeg sy'n dechrau ar 6 Ebrill 2008 neu wedyn.
C. A fydd y diffiniad o 'fuddiant cyfrannog' sydd wedi'i gynnwys yn adran 260 o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn cael ei ailddeddfu mewn deddfwriaeth eilaidd yn ymwneud â chyfrifeg?
A. Bydd. Byddwn yn ailddatgan adran 260 o Ddeddf 1985 heb ei haddasu, yn y rheoliadau sydd i'w gwneud o dan Ran 15 o Ddeddf 2006.
C. Ydy'r darpariaethau newydd sy'n ymwneud â datganiadau anwir neu gamarweiniol mewn adroddiadau yn gymwys i gyfrifon ar ôl 20 Ionawr, neu os yw'r flwyddyn gyfrifeg yn dechrau cyn 20 Ionawr heb fod yn gymwys nes cyhoeddi'r cyfrifon?
A. Nid yw adran 463 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (atebolrwydd am ddatganiadau anwir neu gamarweiniol mewn adroddiadau) yn gymwys i adroddiad cyfarwyddwyr, adroddiad cydnabyddiaeth cyfarwyddwyr na datganiad ariannol cryno a gafodd ei anfon gyntaf at yr aelodau ac eraill yn unol ag adran 238 neu 251 o Ddeddf 1985, neu Erthygl 246 neu 259 o Orchymyn 1986, cyn Ionawr 2007. Felly, mae'n dibynnu ar ba bryd y caiff dogfennau eu hanfon i'r aelodau, nid ar ba flwyddyn ariannol y cyfeiriant ati.
C. Beth yw Arolwg Busnes?
A. Mae Arolwg Busnes yn adolygiad teg o fusnes y cwmni yn ystod y cyfnod cyfrifeg. Rhaid iddo fod yn ddadansoddiad cytbwys a chynhwysfawr o ddatblygiad a chyflawniad y cwmni, gyda disgrifiad o'r prif risgiau. (Gweler Adran 417 o Ddeddf Cwmnïau 2006).
C. I bwy mae hyn yn gymwys?
A. Rhaid i Adroddiad y Cyfarwyddwyr o fewn y cyfrifon gynnwys Arolwg Busnes. Mae hyn yn gymwys i bob cwmni, ar wahân i rai sy'n ffeilio cyfrifon cwmni bach.
C. Pryd daw hyn i rym?
A. Bydd yr Arolwg Busnes yn gymwys i bob cyfrifon sy'n bodloni cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2007.
7. Aelodau/Cyfranddeiliaid 8. Cyfarfodydd a Phenderfyniadau C. Mae cwmni wedi galw cyfarfod cyffredinol anarferol ar gyfer 2 Hydref 2007. Oes angen i hwn fynd ymlaen yr un fath?
A. Os cylchredwyd rhybudd am y cyfarfod cyn 1 Hydref 2007, dylai'r cyfarfod fynd ymlaen gan i'r rhybudd gael ei gylchredeg o dan Ddeddf Cwmnïau 1985.
C. Ar ôl 1 Hydref 2007, a fydd angen o hyd i gwmni gynnal cyfarfod cyffredinol anarferol i fabwysiadu penderfyniad anarferol?
A. Ar ôl 1 Hydref 2007, dim ond os dywedir hynny yn ei erthyglau y bydd yn rhaid i gwmni gynnal cyfarfod cyffredinol anarferol i fabwysiadu penderfyniad anarferol.
C. Ydy Deddf 2006 wedi dileu'r gofynion o ran mabwysiadu penderfyniad anarferol?
A. Ydy. Er enghraifft, roedd Deddf Ansolfedd 1986 yn dweud bod rhaid mabwysiadu penderfyniad anarferol i ddirwyn cwmni i ben. Nid yw hyn yn wir mwyach, gan fod diwygiad canlyniadol wedi'i wneud i Ddeddf Ansolfedd 1986 i newid y gofynion o benderfyniad anarferol i benderfyniad arbennig.
C. Oes modd bellach i unrhyw benderfyniad a fabwysiadwyd fel penderfyniad anarferol o dan Ddeddf 1985 gael ei fabwysiadu fel penderfyniad arbennig?
A. Oes.
C. Beth yw'r darpariaethau newydd ynglyn â Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol?
A.
O dan Ddeddf Cwmnïau 2006 ni fydd yn ofynnol mwyach i gwmnïau preifat gynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol. Ond bydd y cyfranddeiliaid yn dal i gyfrannu at broses benderfynu'r cwmni.
Cafodd y Ddeddf ei llunio i lawer o'r penderfyniadau hyn allu cael eu gwneud drwy drefn ysgrifenedig, er y bydd angen o hyd i'r cwmni gynnal cyfarfodydd i ddiswyddo cyfarwyddwr neu derfynu penodiad archwilydd ariannol cyn diwedd ei gyfnod yn y swydd. Hefyd, mae gan y cyfranddeiliaid a'r cyfarwyddwyr y pŵer i alw cyfarfod o hyd os dymunant. Mae effaith y darpariaethau newydd yn dibynnu ar beth sydd wedi'i gynnwys ar hyn o bryd yn erthyglau'r cwmni. Bydd angen o hyd i gwmni preifat presennol fabwysiadu penderfyniad i ddileu o'i erthyglau unrhyw gymalau presennol sy'n ymwneud â chyfarfodydd cyffredinol blynyddol. Câi hysbysiad am y penderfyniad hwn ei gylchredeg ymhlith yr aelodau cyn y gellid ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo. Mae gwybodaeth bellach am benderfyniadau a chyfarfodydd wedi'i chynnwys yn Neddf Cwmnïau 2006: Private Company Information, ac ar wefan BERR: http://www.berr.gov.uk/files/file42261.pdf C. Ar ôl 1 Hydref 2007, oes yna newidiadau i'r geiriad neu'r gofynion ar gyfer mabwysiadu penderfyniadau arbennig / ysgrifenedig?
A. Byddai Tŷ’r Cwmnïau yn disgwyl i'r penderfyniad nodi'r math o benderfyniad sydd dan sylw, y ffaith iddo gael ei fabwysiadu/gymeradwyo gan yr aelodau neu'r cyfarwyddwyr, a dyddiad ei fabwysiadu.
C. Pryd daeth Rhan 13 ar benderfyniadau i rym?
A. 1 Hydref 2007
C. Beth yw'r mwyafrif angenrheidiol ar gyfer penderfyniadau ysgrifenedig?
A. Bydd y mwyafrif sydd angen yn debyg i'r mwyafrif ar gyfer cyfarfodydd cyfranddeiliaid – mwyafrif syml o'r cyfrannau cymwys ar gyfer penderfyniadau arferol, neu 75% ar gyfer penderfyniadau arbennig.
C. Oes angen i benderfyniadau ysgrifenedig gael eu llofnodi gan bob un o'r unigolion sydd wedi'u henwi ar y penderfyniad?
A. Dim ond un llofnod sydd eisiau ar benderfyniadau ysgrifenedig a gaiff eu mabwysiadu ar neu wedi 1 Hydref 2007 (o dan Ddeddf Cwmnïau 2006) (er y gall fod mwy o lofnodion arnynt).
C. A fydd yn rhaid rhoi gwybod i'r archwilwyr ariannol am benderfyniadau ysgrifenedig?
A. Bydd, caiff Adran 390 o Ddeddf Cwmnïau 85 ei diwygio fel bod hawl o hyd gan archwilwyr ariannol i dderbyn pob gohebiaeth a ddosberthir ymhlith yr aelodau gyda phenderfyniadau ysgrifenedig.
C. Oes angen o hyd i'm cwmni gynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol?
A. Does dim angen i gwmnïau preifat yn cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol mwyach os nad oes rhwymedigaeth i wneud felly yn ei erthyglau. Rhaid i gwmni presennol barhau i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol oni bai ei fod yn newid ei erthyglau i ddileu pob rhyw gyfeiriad at Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol. Mae'n rhaid i gwmnïau cyhoeddus gynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol.
C. Mae adran 296 o'r Ddeddf newydd yn cyfeirio at 'ddogfen wedi'i dilysu'. Beth yw hyn?
A. Mae 'dogfen wedi'i dilysu' yn cyfeirio at gymeradwyaeth yr aelodau o'r penderfyniad. Caiff yr aelodau naill ai llofnodi copi papur o'r penderfyniad neu ddangos eu cymeradwyaeth o fersiwn electronig. Dyma pam y dywedir dilysu yn hytrach na llofnodi.
C. Ydy'r geiriad wedi newid ar benderfyniadau arbennig i newid enwau cwmnïau?
A. Cafodd fformatiau'r penderfyniad arbennig a'r penderfyniad ysgrifenedig eu diweddaru ill dau ar 1 Hydref 2007 ac maen nhw ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Mae'r fersiwn ar-lein o Ddeddf Cwmnïau 2006 i'w weld ar wefan OPSI (www.opsi.gov.uk/acts), ac mae Pennod 5 adrannau 77-81 yn cyfeirio at newid enw.
C. Beth yw'r cyfnod rhybudd ar gyfer cyfarfodydd cyfranddeiliaid?
A. Bellach, gall cyfarfodydd cyfranddeiliaid cwmnïau preifat gael eu cynnal drwy roi rhybudd o 14 diwrnod, oni bai bod trefniadau gwahanol wedi'u pennu yn Erthyglau'r cwmni.
C. A gafodd penderfyniadau drwy bleidlais eu diddymu?
A.
O dan Ddeddf Cwmnïau 2006 mae penderfyniadau drwy bleidlais, heb gynnwys adran 80a (bellach adran 549-55 o Ddeddf 2006), wedi eu diddymu.
O 1 Hydref 2007 ymlaen, nid oes angen mwyach i bedwar o'r pum math o benderfyniad drwy bleidlais gael eu ffeilio ar gyfer cwmnïau cyfyngedig preifat - sef: Hepgor gosod cyfrifon ac adroddiadau gerbron cyfarfod cyffredinol (ad252) Hepgor cynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol (ad366a) Lleihau'r mwyafrif sydd eisiau i awdurdodi cyfarfod ar fyr rybudd (ad369(4) neu 378(3)) Hepgor penodi archwilwyr ariannol bob blwyddyn (ad386) Ond os cânt eu ffeilio, fe'u rhoir ar y cofnod cyhoeddus. C. Beth fydd yn digwydd i benderfyniadau drwy bleidlais a gafodd eu mabwysiadu gan y cwmni'n barod?
A. Lle bo cwmni eisoes wedi ffeilio penderfyniadau drwy bleidlais, byddant yn dal mewn grym ac ni fydd angen i'r cwmni ddiwygio'r erthyglau. Bydd penderfyniadau drwy bleidlais a gafodd eu cylchredeg cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn dderbyniol i'w ffeilio.
C. Gan fod penderfyniadau drwy bleidlais wedi'u diddymu, oes rhaid i'r cwmni roi cyfrifon gerbron yr aelodau etc o hyd?
A.
Fe erys y cyfrifoldeb am gyflenwi cyfrifon i rai pobl. Rhaid i bob cwmni anfon copi o'i gyfrifon a'i adroddiadau blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol at -
C. Oes rhaid i gwmni fabwysiadu penderfyniad i ddefnyddio gwefan fel ffordd o drefnu i'r cyfrifon fod ar gael i'r aelodau?
A. Yn gyntaf, mae'n rhaid i'r cwmni wirio'r erthyglau cyfredol i weld beth sydd wedi'i bennu, ac os yw am fanteisio ar y cyfle i beidio â chynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol, rhaid iddo fabwysiadu penderfyniad i ddileu'r ddarpariaeth honno. Ond caiff barhau i gyflwyno'r cyfrifon i'r aelodau yn ôl ei arfer bresennol.
C. Os na fydd y cwmni'n newid ei erthyglau, a yw hynny yn erbyn y gyfraith gwmnïau?
A. Nid yw hyn yn orfodol. Dim ond lle bo'r cwmni am fanteisio ar y darpariaethau newydd a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007, e.e. dyletswyddau cyfarwyddwyr, penderfyniadau a chyfarfodydd, y bydd angen i erthyglau'r cwmni newid.
C. A gaiff cwmni fabwysiadu set gwbl newydd o erthyglau os nad yw un o'r aelodau'n cytuno ag un rhan?
A. Wrth i'r cwmni fabwysiadu penderfyniad arbennig i gyflwyno set bwrpasol o erthyglau, bydd angen 75% o'r pleidleisiau sy'n gymwys. Felly, bydd yn dibynnu ar faint o bleidleisiau cymwys sydd gan y cwmni (h.y. faint o aelodau).
9. Gogledd Iwerddon C. Pryd y caiff Cofrestrfa Gogledd Iwerddon ei chyfannu â Thŷ'r Cwmnïau?
A. 1 Hydref 2009
C. Allwch chi egluro sut y caiff cwmnïau eu corffori yng Ngogledd Iwerddon?
A. Mae'r Ddeddf yn cwmpasu'r DU gyfan a chaiff cwmnïau Gogledd Iwerddon eu corffori yn yr un modd â chwmnïau'r DU.
C. A fydd ffurflenni GI yr un fath â rhai'r DU?
A. Byddant.
C. Pryd y bydd gwybodaeth am gwmnïau Gogledd Iwerddon ar gael i'w chwilio o Dy'r Cwmnïau?
A. 1 Hydref 2009
C. A fydd y brif swyddfa'n aros yn Belfast?
A. Bydd. Bydd Swyddfa Gogledd Iwerddon yn aros yn Belfast yn y lleoliad presennol.
C. A fydd yr wybodaeth am gwmnïau Gogledd Iwerddon yn cynnwys mynediad i ddogfennau hanesyddol neu ddim ond i'r rheiny a gaiff eu ffeilio ar ôl 1 Hydref 2009?
A. Bydd data hanesyddol Gogledd Iwerddon, a dogfennau o 2000 ymlaen, ar gael yn syth. Ond bydd amser trosglwyddo ychydig yn hwy i ddogfennau hyn gan y cânt eu sganio cyn eu trosglwyddo.
C. Sawl cwmni sydd yng Ngogledd Iwerddon?
A. Mae tua 38,000 o gwmnïau wedi'u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon.
C. A fydd modd ffeilio gwybodaeth am gwmnïau Gogledd Iwerddon ar-lein o hyd?
A. Bydd. Bydd cwmnïau Gogledd Iwerddon yn cael manteisio ar wasanaeth WebFiling o 1 Hydref 2009 ymlaen.
C. A fydd cwmnïau Gogledd Iwerddon yn cadw'r "NI" o flaen eu rhifau cwmni?
A. Byddant. Fe gedwir yr "NI".
C. Pan gaiff Cofrestrfa Gogledd Iwerddon ei chyfannu â Thy'r Cwmnïau, beth fydd yr effaith ar gofrestru canghennau?
A. O dan Ddeddf 2006, cwmnïau tramor fydd rhai sydd wedi'u cofrestru y tu allan i'r DU. Os bydd cwmni o Ogledd Iwerddon am agor cangen yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, does dim rhaid iddo gofrestru gyda'r Cofrestrydd am yr awdurdodaeth honno, na'r ffordd arall. Ni fydd angen mwyach i gwmnïau presennol gofrestru.
10. Ffurflenni C. A fydd newidiadau i'r ffurflenni cwmni cyfredol?
A. Bydd newidiadau i bob ffurflen, os dim ond i ddileu'r rhif gan fod y rhifau, e.e. 288, yn cyfeirio at adran berthnasol Deddf Cwmnïau 1985. Mae'n debygol y bydd y ffurflenni newydd â disgrifydd yn cyfeirio at eu diben ymarferol; fodd bynnag, byddant yn dal i gynnwys cyfeiriad at yr adran o Ddeddf 2006.
C. Pryd y bydd y newidiadau i'r ffurflenni'n dod i rym?
A. Caiff y newidiadau i ffurflenni cwmni eu cyflwyno ar 1 Hydref 2009.
C. Oes ffurflenni enghreifftiol ar gael eto?
A. Nid oes ffurflenni enghreifftiol ar gael eto.
C. A fydd y mathau newydd o ffurflen yn cynnwys y cymal priodol?
A. Bydd rhif yr adran yn ymddangos ar y ffurflen ond nid y pennawd fel ar hyn o bryd.
C. A gyflwynir ffurflenni wedi'u diweddaru yn sgil newidiadau 1 Hydref 2007 o ran aelodau?
A. Yr unig ffurflenni yr effeithir arnynt gan ddarpariaeth Hydref 2007 y Ddeddf yw 128(1), 128(3), 128(4) 129(1), 129 (2) a 129(3). Ond bydd y ffurflenni hyn yn dal yn dderbyniol gan nad yw'r gofynion ffeilio wedi newid. Gall fod rhai mân newidiadau, er enghraifft y cyfeiriad at ddeddfwriaeth newydd, a bydd y rhain ar gael ar y wefan. Ni fydd mwyafrif ein ffurflenni'n newid tan Hydref 2009.
C. Beth yw Ffurflen 318?
A. Hysbysiad am leoliad contractau gwasanaeth cyfarwyddwyr.
C. A fydd cwmnïau yn parhau i ddefnyddio Ffurflen 318?
A. Byddant, bydd cwmnïau'n parhau i ddefnyddio Ffurflen 318 i roi gwybod am leoliad contractau gwasanaeth cyfarwyddwyr o dan adran newydd 228, ac am indemniad cyfarwyddwyr o dan adran 237 tan 30 Medi 2009.
C. Oes unrhyw gyfyngiadau yng nghyswllt yr hysbysu?
A. Oes, dim ond wrth i'r gofrestr ddychwelyd i'r swyddfa gofrestredig y dylid defnyddio'r hysbysiad, gan fod rheoliadau o dan 1136 SAIL (Single Alternative Inspection Location) yn cael eu cyflwyno ar 1 Hydref 2009.
11. Enwau Cwmni Am wybodaeth ynghylch enwau cwmni, cyfeiriwch at ein canllaw Enwau Cwmni (GBF2).
C. O dan ba amgylchiadau y ca i gofrestru enw sydd yr un fath ag un arall ym mynegai’r Cofrestrydd o enwau cwmni?
A. O fis Hydref 2009 ymlaen, caiff cwmnïau, o dan rai amgylchiadau, gofrestru enw sydd yr un fath ag un arall yn y mynegai enwau cwmni. Er enghraifft, “XXX cyfyngedig” ac “XXX (UK) cyfyngedig”. Dim ond lle mae’r cwmni sydd i’w gofrestru yn rhan neu i fod yn rhan o’r un grŵp â’r cwmni y mae ei enw eisoes ar y mynegai y caniateir hyn. Bydd angen i gwmnïau sydd am wneud cais am enw o dan yr amgylchiadau hyn gyflwyno cydsyniad ysgrifenedig y cwmni sydd eisoes ym mynegai’r Cofrestrydd, yn cyfleu bod y cwmni’n rhan neu i fod yn rhan o’r un grŵp â’r cwmni sydd eisoes ar y Gofrestr.
C. A fydd cwmnïau wedi’u heithrio o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 rhag defnyddio “cyfyngedig” yn eu henw ac a fyddan nhw’n dal wedi’u heithrio rhag y gofynion ynglŷn â chyhoeddi’r enw ar ôl mis Hydref 2009?
A. Byddan. Mae adran 60 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn parhau ag eithriad adran 30 o Ddeddf Cwmnïau 1985 ar gyfer cwmnïau sydd eisoes wedi’u heithrio, cyhyd â’u bod yn dal i fodloni’r amodau a nes iddynt newid eu henw.
C. A fydd y rheolau o ran gwrthwynebu enwau tebyg yn newid ym mis Hydref 2008?
A. Byddan. O fis Hydref 2008 ymlaen, bydd rhai rheolau newydd yn gymwys o dan adrannau 69 i 74 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Bydd y rhain yn caniatáu cwyno lle cafodd cwmni ei gofrestru gyda’r bwriad o fynnu arian gan yr achwynydd neu er mwyn ei atal rhag cofrestru enw y mae ganddo ewyllys da ynddo (“cofrestru manteisgar”). Mae rhagor o wybodaeth am y Tribiwnlys Enwau Cwmni i’w chael yn www.ipo.gov.uk/cna.
C. Pwy gaiff wrthwynebu enw cwmni o dan y rheolau newydd hyn?
A. Caiff unrhyw berson neu gwmni wrthwynebu enw cwmni.
C. Oes modd anfon i Dŷ’r Cwmnïau wrthwynebiad i enw cwmni ar sail cofrestru manteisgar?
A. Nac oes. Rhaid i bob gwrthwynebiad ynglŷn â chofrestru manteisgar gael ei anfon i’r Tribiwnlys Enwau Cwmni newydd annibynnol (a elwir hefyd y ‘Dyfarnydd’), fydd yn seiliedig yn Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Dim ond am wrthwynebiadau ‘rhy debyg’ ac ‘yr un fath’ y mae Tŷ’r Cwmnïau’n gyfrifol.
C. Beth fydd yn digwydd os derbynnir cwyn yng nghyswllt cofrestru manteisgar?
A. Gall y Tribiwnlys Enwau Cwmni wneud gorchymyn i gyfarwyddo’r cwmni i newid ei enw. Os bydd y cwmni’n methu cydymffurfio, gall y Tribiwnlys ddewis enw newydd i’r cwmni.
C.A gaiff cwmni apelio yn erbyn dyfarniad y Tribiwnlys Enwau Cwmni?
A. Caiff, caiff cwmni apelio i’r Uchel Lys.
C. A fydd y rheolau newydd hyn yn gymwys i gwmnïau a gafodd eu cofrestru cyn mis Hydref 2008?
A. Byddan. Bydd rheolau’r Tribiwnlys Enwau Cwmni yn ôl-weithredol.
12. Datgeliadau Masnachu C. Ble mae’n rhaid imi ddatgelu enw fy nghwmni?
A.
Rhaid i bob cwmni ddangos ei enw cofrestredig:
- yn ei swyddfa gofrestredig a’i fan archwilio. Fodd bynnag, bydd cwmnïau segur wedi’u heithrio o 1 Hydref 2008 ymlaen. - mewn unrhyw leoliad lle mae’r cwmni’n cynnal busnes. Ond os defnyddir y lleoliad hwnnw’n bennaf fel lle byw (er enghraifft, cyfeiriad cyfarwyddwr), caiff y cwmni ei eithrio. - ar ohebiaeth a dogfennau busnes y cwmni. Mae hyn yn cynnwys copïau caled o ddogfennau neu’r diwyg electronig neu unrhyw ddiwyg arall. C. Sut mae’n rhaid datgelu enw’r cwmni?
A.
Rhaid i enw’r cwmni gael ei ddangos yn ddi-baid, ond o fis Hydref 2008 ymlaen, os ydych yn un o chwech neu ragor o gwmnïau sy’n rhannu swyddfa neu fan busnes, dim ond am bymtheg eiliad bob tair munud y bydd yn ofynnol ichi ddangos yr enw. Hwyrach y byddwch am fanteisio ar arddangosiadau electronig at y diben hwn.
C. Oes rhaid i enw cyhoeddedig y cwmni fod yr un fath yn union â’r enw cofrestredig?
A. O fis Hydref 2008 ymlaen, caiff mân amrywiadau ar ffurf yr enw eu caniatáu, gan gynnwys amrywio llythrennau bach a mawr, defnydd atalnodi, acenion, ac ati, a fformadu. Ond rhaid i’r gwahaniaethau beidio ag arwain at beryg dryswch.
C. Beth sydd angen imi ei ddangos ar fy llythyrau busnes, ar archebion ac ar wefannau?
A. Enw, rhif, man cofrestru a swyddfa gofrestredig y cwmni.
C. Alla i i wneud cais am fanylion cwmni yn ysgrifenedig?
A. Gallwch. O fis Hydref 2008 ymlaen, caiff rhywun fynnu gwybodaeth yn ysgrifenedig gan gwmni y mae’n delio ag ef, gan gynnwys cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, unrhyw fan archwilio a’r math o gofnodion cwmni a gaiff eu cadw yn y swyddfa neu’r fan honno. Rhaid i’r cwmni anfon ymateb ysgrifenedig i’r person hwnnw o fewn pum diwrnod gwaith i gael y cais.
C. Beth sy’n digwydd os bydd y cwmni’n methu cydymffurfio â’r gofynion datgelu masnachu?
A.
Bydd y cwmni a phob un o’i swyddogion sy’n methu cydymffurfio yn cyflawni tramgwydd a gall fod yn agored i’w ddirwyo.
Ond o fis Hydref 2008 ymlaen caiff yr atebolrwydd sifil personol ei ddileu. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, pe bai swyddog yn llofnodi siec ar ran y cwmni, na fydd mwyach yn bersonol atebol i ddeiliad y siec am unrhyw arian.. 13. Cyfalaf C. Pa newidiadau sy'n cael eu gweithredu ar 6 Ebrill 2008 o dan y Ddeddf Cwmnïau gyda golwg ar gyfalaf?
A. Bydd angen i gwmnïau cyhoeddus nodi ai mewn arian sterling neu ewros y byddant yn cynnal y lleiafswm cyfalaf cyfrannau (dim ond sterling a ganiateid gynt).
C. Pa adran o Ddeddf 2006 sy'n ymwneud â'r newidiadau o ran cyfalaf cyfrannau lleiafsymiol cwmnïau cyhoeddus?
A. Mae adrannau 761 – 767 o Ddeddf 2006 yn ymwneud â'r cyfalaf cyfrannau lleiafsymiol i gwmni cyhoeddus mewn ewros.
C. Beth yw'r gofynion o ran y cyfalaf cyfrannau lleiafsymiol awdurdodedig mewn arian sterling ac ewros?
A. Y cyfalaf cyfrannau lleiafsymiol a awdurdodir yw naill ai £50,000 mewn sterling neu €65,600 mewn ewros.
C. Beth fydd y gofynion i bartneriaethau PAC o ran cyfalaf awdurdodedig?
A.
O 6 Ebrill 2008 ymlaen:
C. A fydd newidiadau i unrhyw ffurflenni?
A.Caiff cwmnïau barhau i ddefnyddio ffurflenni penodedig presennol 117 (cais am dystysgrif fasnachu) a 43(3) (cais cwmni preifat am ailgofrestru'n gwmni cyhoeddus), ond bydd angen iddynt eu haddasu yn ôl sy'n briodol fel eu bod yn cydymffurfio â'r darpariaethau newydd ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu wedi 6 Ebrill 2008.
Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynhyrchu ffurflenni 117 a 43(3) dewisol, a gafodd eu haddasu i fodloni'r gofynion newydd ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu wedi 6 Ebrill 2008, a hwyrach y carai cwmnïau ddefnyddio'r rhain yn lle'r ffurflenni penodedig. 14. Erthyglau Cymdeithasiad C. Pa bryd y bydd yr erthyglau enghreifftiol drafft ar gael?
A. Cyflwynodd y llywodraeth fersiwn drafft o'r Erthyglau Enghreifftiol yn ei dogfen ymgynghori yn Chwefror 2007. Yn sgil yr ymgynghoriad, ac o gymryd i ystyriaeth yr ymatebion a ddaeth i law, mae ailddrafft o'r Erthyglau Enghreifftiol bellach ar gael ar wefan BERR. Bydd drafft wedi'i ddiweddaru ar gael yn y Flwyddyn Newydd a bydd y drafft newydd yn gymwys i bob cwmni newydd sy'n corffori ar neu wedi 1 Hydref 2009.
C. I bwy y bydd yr erthyglau enghreifftiol drafft yn gymwys?
A. Bydd yr erthyglau enghreifftiol sydd i'w pennu o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn gymwys i gwmnïau wedi'u ffurfio o dan y Ddeddf honno sy'n dewis eu mabwysiadu, ac yn gymwys yn ddiofyn i gwmnïau wedi'u ffurfio o dan y Ddeddf honno na chofrestrant eu herthyglau cymdeithasiad eu hun gyda'r Cofrestrydd. Bydd yr erthyglau hyn yn gymwys i gwmnïau newydd a gaiff eu ffurfio ar neu wedi 1 Hydref 2009.
C. Beth yw Tabl A?
A. Rhaid i bob cwmni fabwysiadu Erthyglau Cymdeithasiad pan fyddant yn corffori. Mae Tablau A i F Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) 1985 (a elwir Tabl A fel arfer) yn nodi erthyglau enghreifftiol safonol, y gall cwmnïau eu defnyddio fel sail i'w herthyglau eu hunain. Os na fydd cwmnïau yn cofrestru eu herthyglau cymdeithasiad eu hunain, bydd Tabl A yn berthnasol yn eu habsenoldeb.
C. Pam y diwygiwyd Tabl A?
A. Cafodd Tablau A i F eu diwygio er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â newidiadau a wneir i'r gyfraith gwmnïau. Aeth y Llywodraeth ati i lunio rheoliadau ym mis Medi 2007 a oedd yn gwneud diwygiadau i reoliadau Tabl A er mwyn galluogi cwmnïau newydd sy'n cael eu sefydlu ar 1 Hydref 2007 neu wedi hynny, i fanteisio ar Ddarnau o Ddeddf Cwmnïau 2006 a ddaeth i rym erbyn y dyddiad hwnnw, ac i osgoi gwrthdaro gyda'r Darnau hyn.
C. Beth sydd wedi newid?
A. Nodir y newidiadau a wnaethpwyd yn Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) 2007 a Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) (Rhif 2) 2007, sydd ar gael ar wefan OPSI a / neu a nodir mewn datganiad ar wefan BERR.
C. I bwy y mae Tabl A newydd yn berthnasol?
A. Mae Tabl A newydd yn berthnasol i gwmnïau newydd a gorfforwyd ar 1 Hydref 2007 neu ar ôl hynny, na fyddant yn cofrestru eu herthyglau eu hunain pan fyddant yn gwneud cais i gael eu corffori. Nid oes yn rhaid i gwmnïau ddefnyddio Tabl A fodd bynnag ac mae modd iddynt ysgrifennu eu herthyglau eu hunain neu eu seilio ar erthyglau Tabl A. Os na fydd cwmnïau yn cofrestru eu herthyglau cymdeithasiad eu hunain, bydd Tabl A yn berthnasol yn eu habsenoldeb
C. Pryd gafodd y Tabl A newydd ei gyflwyno?
A. Daeth y Tabl A newydd i rym ar ddydd Llun, 1 Hydref 2007.
C. Sut mae'r newidiadau hyn yn ymwneud â'r erthyglau enghreifftiol drafft newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Hydref 2009?
A. Bydd y rheoliadau sy'n nodi'r erthyglau enghreifftiol yn cael eu gwneud ym mis Rhagfyr 2008 a byddant yn cychwyn ar 1 Hydref 2009. Ni fydd y newidiadau i Dabl A yn cael unrhyw effaith ar yr erthyglau enghreifftiol nac ar amseriad eu cyflwyno. Pan fydd yr erthyglau enghreifftiol yn dod i rym yn 2009 nesaf, byddant yn disodli Tabl A fel yr erthyglau rhagosodedig: ond ni fydd cwmni sydd eisoes â Thabl A diwygiedig yn erthyglau iddo, yn cael ei effeithio gan yr erthyglau enghreifftiol oni bai ei fod yn dewis newid iddynt.
C. Rydw i ar fin cofrestru cwmni newydd – sut mae hyn yn effeithio arnaf?
A. Mae'r newidiadau a wnaethpwyd gan y Llywodraeth i Dabl A ym mis Medi 2007 wedi sicrhau bod yr erthyglau a fydd yn berthnasol pan na fydd cwmni yn cofrestru ei erthyglau ei hun, yn cyd-fynd â'r gyfraith gwmnïau a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007.
C. Sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gwmni sy'n bodoli eisoes?
A.
Nid yw'r Tabl A newydd yn effeithio ar gwmnïau sy'n bodoli eisoes oni bai eu bod yn dewis ei fabwysiadu. Gall cwmnïau sy'n bodoli eisoes ddewis diwygio'u herthyglau cymdeithasiad presennol, trwy gyfrwng penderfyniad arbennig, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r newidiadau a wnaethpwyd i'r gyfraith fel y'u mynegwyd yn y Tabl A diwygiedig. Mae gwybodaeth fanwl bellach ar gael as wefan Tŷ’r Cwmnïau (www.companieshouse.gov.uk)
C. Ydy Tabl A ar gael ar wefan Ty'r Cwmnïau?
A. Ydy, mae'r fersiwn diweddaraf Tabl A ar gael ar wefan Ty'r Cwmnïau.
C. Beth yw'r diwygiadau diweddaraf i Dablau C ac E a pha bryd y byddant yn dod i rym?
A. Caiff Tablau C ac E eu diwygio o 6 Ebrill 2008 ymlaen. Y newidiadau yw:
Rheoliad 8 o Dabl C – yn rhoi i ddirprwyon sy'n gweithredu ar ran aelodau cwmni wedi'i gyfyngu drwy warant yr hawl i bleidleisio drwy godi llaw (yn gyson ag adrannau 284 a 324 o Ddeddf 2006). Cafodd Rheoliad 8 o Dabl C ei ddiwygio am ei fod yn gwrthdaro ag adrannau 284 a 324 o Ddeddf 2006. Mae'r rhain yn ddarpariaethau newydd sydd wedi rhoi i ddirprwyon yn gweithredu ar ran aelodau cwmni yr hawl i bleidleisio drwy godi llaw. Roedd y geiriad blaenorol yn peri dryswch o ran a ganiateid i ddirprwyon arfer eu hawl newydd, gan na sonnid yn benodol amdanynt yn hen fersiwn y rheoliad. Rheoliad 2 o'r Erthyglau Cymdeithasiad o dan Dabl E – yn pennu'r cyfnod rhybudd ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol cwmnïau anghyfyngedig (yn gyson ag adran 307 o Ddeddf 2006) Mae Rheoliad 2 o Dabl E yn gwrthdaro ag adran 307 o Ddeddf 2006 oherwydd bod y rheoliad yn diwygio rheoliad 38 o Dabl A, oedd yn caniatáu i gwmni anghyfyngedig alw cyfarfod cyffredinol drwy roi rhybudd o saith diwrnod yn unig; mae'r Ddeddf newydd yn mynnu rhybudd o 14 diwrnod o leiaf. Cafodd Rheoliad 38 ei ddileu o Dabl E. Fe welwch fanylion pellach ar www.berr.gov.uk. C. A fydd hefyd fodel enghreifftiol o erthyglau ar gyfer cwmnïau sydd wedi'u cyfyngu drwy warant?
A. Bydd.
C. Os prynais i Femorandwm ac Erthyglau gan ddogfennydd cyfreithiol cyn 1 Hydref 2007 i gorffori cwmni ar ôl y dyddiad hwnnw, a fyddid yn eu derbyn o hyd i'w ffeilio?
A. Byddid yn eu derbyn i gorffori cwmni, ond gan y caiff y Tabl A newydd ei weithredu ar 1 Hydref 2007 ni fydd rhai o'r erthyglau yn gymwys mwyach. www.companieshouse.gov.uk/companiesAct/implementations/oct2007.shtml
15. Arall C. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn cynnal seminarau rheolaidd ynglyn â'r Ddeddf newydd?
A. Mae Tŷ’r Cwmnïau ar hyn o bryd yn uno â chyrff eraill i ddarparu anerchwyr mewn amrywiol ddigwyddiadau ledled y wlad. Yn y dyfodol, yr arfaeth yw i Dy'r Cwmnïau gynnal ei seminarau ei hun yn ystod y 6 mis cyn y prif weithredu yn Hydref 2009.
Yn y cyfamser mae pob digwyddiadau cyffredinol Tŷ’r Cwmnïau yn gynnwys cyflwyniadau Deddf Cwmnïau 2006. Yn arbennig mae cyflwyniad manwl Deddf Cwmnïau yn gynnwys yn ein Seminarau Webfiling a Diwrnodau Gwybodaeth C. Mae cofrestru cangen ar hyn o bryd yn gymhleth iawn. A wneir hyn yn haws?
A. Rhoir sylw i'r agwedd hon yn y ddogfen ymgynghori sydd ar gael ar wefan yr Adran Busnes menter a Diwygio. Mae pob croeso ichi ei defnyddio i lunio unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud.
C. A fydd yn rhaid inni ffeilio contract cyfrannau yng nghyswllt 88(2) o hyd?
A. Mae hyn heb ei benderfynu eto o fewn y ddeddfwriaeth eilaidd. Ond pan gytunir, fe gaiff y wefan ei diweddaru. C. A gaiff unrhyw gosbau ychwanegol eu codi o dan y Ddeddf newydd?
A. Lle bo cwmni'n diwygio'i erthyglau cymdeithasiad, rhaid anfon copi o'r erthyglau diwygiedig i Dy'r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod. Mae methiant i gydymffurfio yn dramgwydd troseddol.
Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno cosb sifil newydd o £200 am fethiant i gydymffurfio. Ni chodir y gosb sifil ond lle bydd y cwmni'n derbyn hysbysiad gan y Cofrestrydd yn mynnu iddo gyflwyno copi o'i erthyglau diwygiedig a bod y cwmni'n methu gwneud o fewn 28 diwrnod. Byddai'r cwmni'n dal yn agored i weithrediadau troseddol yn ychwanegol at y gosb sifil o £200. I osgoi'r gosb sifil, ni raid i gwmni ond cyflwyno copi o'i erthyglau diwygiedig o fewn 28 diwrnod i'r hysbysiad. Os gwna hynny, nid yn unig y bydd yn osgoi'r gosb sifil ond ni fydd modd wedyn ddwyn achos troseddol yng nghyswllt y methiant gwreiddiol i gydymffurfio. Yn annhebyg i'r gosb bresennol am ffeilio cyfrifon yn hwyr, caiff y gosb newydd ei chodi wrth i gwmni fethu ymateb i hysbysiad y Cofrestrydd. Nid yw wedi'i chysylltu â chyflwyno'r erthyglau yn hwyr. Ni fydd y Cofrestrydd yn cadw'r arian a gaiff ei gasglu drwy'r gosb newydd; caiff ei dalu i'r Gronfa Gyfunol, fel sy'n digwydd gyda'r gosb bresennol am ffeilio'n hwyr. C. A ddaeth Adran 809(2) i rym ar 20 Ionawr 2007, h.y. bod rhaid i'r cwmni roi gwybod i'r Cofrestrydd Cwmnïau ymhle y caiff cofrestr Adran 808 (yr wybodaeth wedi'i datgelu o dan Adran 793) ei chadw ar gael i'w harchwilio, ac am unrhyw newid i'r lleoliad hwnnw?
A. Do, fe ddaeth Adran 809 o Ddeddf Cwmnïau 2006 i rym ar 20 Ionawr 2007. Ond o dan Adran 809(1)(b) mae'r lle sydd i'w bennu ar wahân i'r swyddfa gofrestredig heb ei ddiffinio eto gan reoliadau o dan Adran 1136. Nes i'r rheoliadau hyn gael eu gwneud, dim ond yn swyddfa gofrestredig y cwmni y gellir cadw'r gofrestr, ac felly ni fyddai angen hysbysiad ar y Cofrestrydd.
C. A allwch gadarnhau, yn sgil Deddf Cwmnïau 2006, nad oes raid mwyach dystysgrifau cyfrannau yng nghwmnïau preifat y DU gael eu rhoi o dan sêl y cwmni, h.y. dim angen mwyach stampio tystysgrifau cyfrannau â sêl y cwmni?
A. Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn ailddatgan darpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 gyda golwg ar sêl y cwmni a thystysgrifau cyfrannau. Mae hyn yn golygu bod modd i'r cwmni gyflawni dogfennau, fel ar hyn o bryd, naill ai drwy ddefnyddio sêl y cwmni neu drwy i'r ddogfen gael ei llofnodi gan ddau lofnodydd sydd wedi'u hawdurdodi, e.e. dau gyfarwyddwr, cyfarwyddwr ac ysgrifennydd, neu gyfarwyddwr yng ngwydd tyst.
C. Oes yna gynlluniau i Ymddiriedolaethau Sylfaen yr NHS a Chorfforaethau Budd Cyhoeddus ddod o fewn rhychwant Tŷ’r Cwmnïau yn y dyfodol?
A. Does dim cynlluniau i gynnwys y mathau hyn o gwmnïau yn Neddf Cwmnïau 2006.
C. Ydy Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno unrhyw newidiadau i'r lleiafswm cyfalaf cyfrannau i gwmnïau preifat?
A. Nid yw Deddf 2006 wedi cyflwyno newidiadau i'r lleiafswm cyfalaf cyfrannau y mae'n rhaid i gwmni cyfyngedig preifat feddu arno. Ond bydd newidiadau i'r gyfraith gyda golwg ar gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus. Bydd modd i gwmni cyhoeddus fod â lleiafswm cyfalaf awdurdodedig o naill ai 50,000 fel ar hyn o bryd neu o 65,600 o ewros, ond nid fel cyfuniad rhwng y ddau.
C. Yn Neddf Cwmnïau 2006, oes yna ddyletswydd i roi gwybod i'r Cofrestrydd am ddiwygiadau i'r Memorandwm Cymdeithasiad?
A. O dan Ddeddf 2006, mae'r Memorandwm Cymdeithasiad yn ddogfen sefydlog a gaiff ei chwblhau drwy gynnwys manylion y tanysgrifwyr. Bydd yn dweud eu bod am ffurfio cwmni, yn cytuno i ddod yn aelodau ac y byddant yn cymryd o leiaf un gyfran os yw'r cwmni wedi'i gyfyngu drwy gyfrannau. Bydd pob tanysgrifydd hefyd yn dilysu'r Memorandwm.
Oherwydd cynnwys yr wybodaeth hon, ni fydd angen diweddaru'r Memorandwm mwyach. Ond bydd angen o hyd i gwmnïau ffeilio Erthyglau wedi'u diweddaru pryd bynnag y gwneir newid i'w cyfansoddiad. Mae cwestiynau cyffredin bellach ar gael ar wefan Adran Busnes, Menter, Diwygio Rheolieddio www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/faq Act 2006/page38139.html. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|