Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Deddf Cwmnïau


Deddf Cwmnïau 2006

Trothwyon Eithrio rhag Archwilio Ariannol i gwmnïau â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008

Cwmni bach
I fod yn gwmni bach, rhaid bodloni o leiaf dau o'r amodau canlynol:

  • Rhaid i'r trosiant blynyddol fod yn £6.5 miliwn neu lai
  • Rhaid i gyfanswm y fantolen fod yn £3.26 miliwn neu lai
  • Rhaid i nifer cyfartalog y gweithwyr fod yn 50 neu lai

Grŵp bach
I fod yn gymwys fel un bach, rhaid i grŵp o gwmnïau fodloni o leiaf dau o'r amodau canlynol:

  • Rhaid i'r trosiant cyfanred fod yn £6.5 miliwn net (£7.8 miliwn gros) neu lai
  • Rhaid i gyfanswm cyfanred y mantolenni fod yn £3.26 miliwn net (£3.9 miliwn gros) neu lai
  • Rhaid i nifer cyfartalog cyfanred y gweithwyr fod yn 50 neu lai
Eithrio llwyr rhag archwilio ariannol
I gael ei ryddhau’n llwyr rhag archwilio ariannol, mae’n rhaid i gwmni:
  • Fod yn gymwys fel un bach
  • Bod â throsiant busnes sydd heb fod yn fwy na £6.5 miliwn
  • Bod â chyfanswm mantolen sydd heb fod yn fwy na £3.26 miliwn

Cwmni o faint canolig
I fod yn gwmni canolig ei faint, rhaid bodloni o leiaf dau o’r amodau canlynol:

  • Rhaid i’r trosiant blynyddol fod yn £25.9 miliwn neu lai
  • Rhaid i gyfanswm y fantolen fod yn £12.9 miliwn neu lai
  • Rhaid i nifer cyfartalog y gweithwyr fod yn 250 neu lai

Grŵp o faint canolig
I fod yn gymwys fel un canolig, rhaid i grŵp o gwmnïau fodloni o leiaf dau o’r amodau canlynol:

  • Rhaid i’r trosiant cyfanred fod yn £25.9 miliwn net (£31.1 miliwn gros) neu lai
  • Rhaid i gyfanswm cyfanred y mantolenni fod yn £12.9 miliwn net (£15.5 miliwn gros) neu lai
  • Rhaid i nifer cyfartalog cyfanred y gweithwyr fod yn 250 neu lai

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies