Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Deddf Cwmnïau


Amserlen Weithredu Derfynol Deddf Cwmnïau 2006
 
Cyflwynodd Stephen Timms, Gweinidog Gwladol ein Gallu i Gystadlu, Ddatganiad Ysgrifenedig pellach i'r Senedd ar 13 Rhagfyr 2007 yn rhoi cadarnhad terfynol o’r amserlen weithredu ar gyfer Deddf Cwmnïau 2006.

Mae manylion datganiad Stephen Timms i’w gweld o dan 'what's new?'.

Mae cyfres o Gwestiynau ac Atebion ynglŷn â’r datganiad i’w gweld o dan: "Holi ac Ateb – Datganiad Ysgrifenedig ac Amserlen"

Mae’r amserlen weithredu derfynol ei hun i’w gweld o dan: Companies Act 2006 table of commencement dates (PDF 61KB)

Deddfwriaeth eilaidd

Arfaethwn wneud y pumed Gorchymyn Cychwyn yn gynnar yn yr wythnos yn dechrau 17 Rhagfyr a byddwn yn trefnu dolen gyswllt â’r Gorchymyn ar wefan OPSI mor fuan ag y bydd ar gael.

Mae rheoliadau drafft 2008 ar gyfer cwmnïau tramor bellach ar gael at ddibenion ymgynghori ar dudalen ‘Regulations – draft’ gwefan BERR.  Daw’r ymgynghori i ben yng nghyswllt y rheoliadau drafft hyn ar 7 Mawrth 2008.
Mae rheoliadau drafft eraill lle daeth y cyfnodau ymgynghori i ben, ar gael i’w gweld o hyd ar yr un tudalen.  Trefnir argaeledd drafftiau wedi’u diweddaru yn y Flwyddyn Newydd.

Mae rheoliadau a gorchmynion a gafodd eu gwneud neu eu rhoi gerbron y Senedd ar ffurf ddrafft, ar gael ar y tudalen '-Regulations and Commencement Orders  made or laid in draft'.
[an error occurred while processing this directive]