|
Holi ac Ateb – Datganiad Ysgrifenedig ac Amserlen
Pa ddarpariaethau fydd yn dechrau yn Ebrill 2008?
Caiff y darpariaethau canlynol eu cychwyn o 6 Ebrill 2008 ymlaen:
- Adran 44 (Cyflawni dogfennau).
- Adrannau 121 a 128 (Cofrestr Aelodau: dileu cofnodion cyn-aelodau).
- Rhan 12 (Ysgrifenyddion cwmni), ar wahân i adran 270(3)(b)(ii) ac adrannau 275 i 279.
- Rhan 15 (Cyfrifon ac adroddiadau), ar wahân i adrannau 417 a 463.
- Rhan 16 (Archwilio Ariannol), ar wahân i adrannau 485 i 488.
- Rhan 19 (Dyledebau).
- Rhan 20 (Cwmnïau preifat a chyhoeddus).
- Rhan 21 (Ardystio a throsglwyddo gwarannoedd).
- Adrannau 811(4), 812 a 814 (Archwilio’r gofrestr fuddiannau yng nghyswllt cyfrannau cwmni).
- Rhan 23 (Dosrannu).
- Rhan 26 (Trefniadau ac adluniadau).
- Rhan 27 (Uno a rhannu cwmnïau cyhoeddus).
- Adran 1172 (Cyfeiriadau at ofynion y Ddeddf hon).
- Rhan 42 (Archwilwyr statudol).
- Adran 1282 (Talu costau dirwyn i ben).
Arfaethir i Orchymyn Cychwyn ar wahân roi dechrau i adran 1175 (Dileu darpariaethau arbennig ynglŷn â chyfrifon ac archwilio cwmnïau elusennol) ar gyfer Prydain Fawr (ond nid Gogledd Iwerddon) o 1 Ebrill 2008 ymlaen.
Mae manylion pellach i’w gweld yn y tabl dyddiadau cychwyn.
Pa ddarpariaethau fydd yn dechrau yn Hydref 2008?
Caiff y darpariaethau canlynol eu cychwyn o 1 Hydref 2008 ymlaen:
- Adrannau 69 i 74 (Gwrthwynebu enwau cwmni).
- Adrannau 82 i 85 (Datgelu gweithgarwch masnachu).
- Adrannau 155 i 159 (Darpariaethau ynglŷn â chyfarwyddwyr corfforaethol a chyfarwyddwyr tan oed).
- Adrannau 175 i 177, 180(1), (2) (yn rhannol) & (4)(b), & 181(2) & (3) (Dyletswyddau cyffredinol cyfarwyddwyr gyda golwg ar wrthdrawiad buddiannau).
- Adrannau 182 i 187 (Datganiad cyfarwyddwr gyda golwg ar fuddiant yng nghyswllt trafodyn neu drefniad presennol).
- Rheoli rhoddion a threuliau gwleidyddol: darpariaethau ar gyfer ymgeiswyr annibynnol mewn etholiadau.
- Adrannau 544, 641(1)(a) & (2)-(6), 642, 643, 652 & 654 (Darpariaethau cyfalaf cyfrannau, yn cyflwyno gan mwyaf drefn newydd ar gyfer datganiad solfedd gyda golwg ar ostwng cyfalaf cwmnïau preifat).
- Adran 1157 (Pŵer y llysoedd i ganiatáu cymorth mewn rhai achosion).
- Adrannau 1277 i 1280 (Gwybodaeth yng nghyswllt arfer hawliau pleidleisio gan fuddsoddwyr sefydliadol).
Bydd y gorchymyn cychwyn hefyd yn diddymu cyfyngiadau Deddf Cwmnïau 1985 o ran cymorth ariannol i feddiannu cyfrannau mewn cwmnïau preifat, gan gynnwys y drefn “gwyngalchu”.
C. Pa ddarpariaethau fydd yn dechrau yn Hydref 2009?
Caiff y darpariaethau canlynol eu cychwyn o 1 Hydref 2009 ymlaen:
- Rhan 1 (Darpariaethau rhagarweiniol cyffredinol) (gan mwyaf);
- Rhan 2 (Ffurfio’r cwmni);
- Rhan 3 (Cyfansoddiad y cwmni) (gan mwyaf);
- Rhan 4 (Uchafswm y cwmni a materion cysylltiedig) (gan mwyaf);
- Rhan 5 (Enw’r cwmni) (gan mwyaf);
- Rhan 6 (Swyddfa gofrestredig y cwmni);
- Rhan 7 (Ailgofrestru fel ffordd o newid statws y cwmni);
- Rhan 8 (Aelodau’r cwmni) (gan mwyaf);
- Rhan 10 (Y Gofrestr Gyfarwyddwyr a chyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr);
- Rhan 12 (Y Gofrestr Ysgrifenyddion);
- Rhan 17 (Cyfalaf cyfrannau’r cwmni) (gan mwyaf);
- Rhan 18 (Cwmni cyfyngedig yn meddiannu’i gyfrannau ei hun);
- Rhan 24 (Ffurflen flynyddol y cwmni);
- Rhan 25 (Arwystlon cwmni);
- Rhan 31 (Diddymu ac adfer i’r gofrestr);
- Rhan 33 (Cwmnïau’r DU heb eu ffurfio o dan y Deddfau Cwmnïau) (gan mwyaf);
- Rhan 34 (Cwmnïau tramor);
- Rhan 35 (Y Cofrestrydd Cwmnïau) (gan mwyaf);
- Rhan 37 (Cofnodion cwmni, cyfeiriadau cyflwyno hysbysiadau, prisio annibynnol);
- Rhan 40 (Cyfarwyddwyr cwmni; gwahardd tramor);
- Rhan 41 (Enwau busnes).
Mae manylion pellach i’w gweld yn y tabl dyddiadau cychwyn.
C. Pam y daethpwyd ymlaen â dyddiad cychwyn rhai darpariaethau i Ebrill 2008 (adrannau 121 a 128, ac adrannau 811(4), 812 a 814)?
A. Yng ngoleuni sylwadau budd-ddeiliaid allweddol, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu y dylai’r darpariaethau hyn - sy’n ymwneud yn eu tro â dileu cofnodion cyn-aelodau o’r Gofrestr Aelodau, ac archwilio’r gofrestr fuddiannau yng nghyswllt cyfrannau’r cwmni - gael eu cychwyn o 6 Ebrill 2008 ymlaen.
C. Pryd y cawn olwg ar y gorchmynion cychwyn ar gyfer darpariaethau sydd i ddechrau yn 2008 a 2009?
A. Fel mae’r Datganiad Ysgrifenedig yn egluro, arfaetha’r Llywodraeth gyflwyno, cyn y Nadolig, orchymyn cychwyn drafft ar gyfer yr holl ddarpariaethau sydd i ddechrau yn 2008, ar wahân i’r rhai sy’n ymwneud â lleihau cyfalaf drwy gymorth datganiad solfedd. Caiff y darpariaethau lleihau-cyfalaf hyn hwythau (gan gynnwys adran 654 ar ddosrannu cronfeydd wrth gefn sy’n deillio o leihau’r cyfalaf) eu gweithredu drwy orchymyn cychwyn ar wahân sydd i’w gyflwyno ar ffurf ddrafft yn 2008.
Bydd hefyd orchymyn cychwyn ar wahân yn 2008 i weithredu diddymiad darpariaethau Deddf 1985 o ran archwilio cyfrifon cwmnïau elusennol bach.
Bydd gorchymyn cychwyn ar wahân gyda golwg ar y darpariaethau sydd i ddechrau yn 2009. Bwriadwn gyhoeddi hwn ar ffurf ddrafft ar ein gwefan tua diwedd gwanwyn 2008.
C. Beth sy’n digwydd yng nghyswllt dyletswyddau gwrthdrawiad buddiannau cyfarwyddwyr?
A. Cafodd mwyafrif y dyletswyddau sydd i’w cynnwys yn y datganiad statudol newydd o ddyletswyddau cyfarwyddwyr eu cychwyn yn Hydref 2007.
Roedd rhai busnesau wedi gofyn am fwy o amser cyn cychwyn y dyletswyddau gwrthdrawiad buddiannau fel y gallent wneud unrhyw addasiadau priodol i’w herthyglau.
Gan hynny, cyhoeddodd y Llywodraeth yn Chwefror 2007 y bydd y dyletswyddau gwrthdrawiad yn cychwyn yn Hydref 2008, ac mae hyn yn wir o hyd.
C. Pryd y bydd BERR yn cyhoeddi rheolau trefniadol drafft gydagolwg ar ddyfarnu ynghylch enwau cwmnïau?
A. Bydd BERR yn ymgynghori ymhellach yn gynnar yn 2008 ar Reolau drafft diwygiedig y Dyfarnwyr Enwau Cwmni, gan gymryd i ystyriaeth sylwadau a wnaed ar y drafft blaenorol. Bydd y drafft diwygiedig yn cynnwys y ffioedd.
C. Ble galla i weld manylion pellach ynghylch yr adrannau hynny sydd i’w cychwyn yn Ebrill a Hydref 2008?
A. Cyfeirier at Gwestiynau Mynych BERR yn:
www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/faq%20Act%202006/page38139.html |