Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Deddf Cwmnïau


NEWID YR AMSERLEN WEITHREDU

Gwnaeth Stephen Timms, y Gweinidog Gwladol dros Gystadleugarwch, Ddatganiad Ysgrifenedig i’r Senedd ar ddydd Mercher 7 Tachwedd 2007, yn manylu ar newidiadau i’r amserlen ar gyfer gweithredu’r Ddeddf Cwmnïau.

Mae’r Datganiad yn egluro y bydd y dyddiad cychwyn ar gyfer mwyafrif y darpariaethau oedd i’w dechrau ar 1 Hydref 2008 yn cael ei ohirio tan 1 Hydref 2009.

Nid effeithir ar y darpariaethau hynny sydd i’w dechrau yn Ebrill 2008 a byddant yn mynd ymlaen yn unol â’r arfaeth.

Hwyrach bod nifer cyfyngedig o ddarpariaethau a all gael eu dechrau ar 1 Hydref 2008 o hyd. Bydd y Llywodraeth yn gwneud Datganiad pellach ym mis Rhagfyr, yn pennu’r amserlen ddechrau derfynol yng ngoleuni’r trafodaethau hyn.

Mae manylion Datganiad Stephen Timms i’w gweld yn 'Datganiad Ysgrifenedig' mae hyn yn cynnwys y rhestr o’r darpariaethau a all fwrw ymlaen ar 1 Hydref 2008 o hyd.

Mae’r Holi ac Ateb sydd yn gefn i’r Datganiad i’w weld yn 'Holi ac Ateb'

Cynhwysir amserlen weithredu ddiwygiedig http://www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio: http://www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies