Deddf Cwmnïau |
||||
|
|
Dyma’r podcast cyntaf a gynhyrchwyd gan Dŷ’r Cwmnïau ac mae’n rhoi gorolwg dros Ddeddf Cwmnïau 2006. Dechreuodd y cefndir i gyflwyniad y Ddeddf ym1998 pan sefydlwyd Grŵp Adolygu’r Gyfraith Gwmnïau gan y Llywodraeth i ystyried yn fanwl sut y gellid moderneiddio’r gyfraith gwmnïau. Daeth argymhellion y Grŵp yn flaengynllun i’r diwygiadau a gafodd eu cynnig ym Mhapur Gwyn Diwygio’r Gyfraith Gwmnïau, a gyhoeddwyd ym Mawrth 2005. Yn sgil cydymgynghori, esblygodd cynigion y Papur Gwyn yn Fesur drafft a gafodd ei drafod wedyn yn ystod ei hynt drwy’r Senedd. Wyth mlynedd o’i dechreuadau, cafodd Deddf Cwmnïau 2006 y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 8 Tachwedd 2006. Yn ei hanfod, darn o ddeddfwriaeth gynradd yw’r Ddeddf a hi yw’r ddeddf hwyaf i fynd drwy’r Senedd erioed - dros 700 o dudalennau, yn cynnwys 1300 o adrannau, 16 o atodlenni a 47 o rannau. Mae cyswllt â chopi o’r Ddeddf ar wefan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus ar gael o fewn adran Cyhoeddiadau’r tudalennau gwe hyn. Bydd y Ddeddf i raddau helaeth yn gymwys i gwmnïau’n uniongyrchol ac o ran effaith yn disodli’r ddeddfwriaeth gwmnïau bresennol, ac eithrio darpariaethau’n ymwneud ag archwilio cwmnïau ac â chwmnïau buddiant cymunedol. Bwriad y Ddeddf yw symleiddio a moderneiddio’r gyfraith, yn enwedig i gwmnïau bach. Ei nod fydd
Yn sgil rhaglen ymgynghori gynhwysfawr, ni chaiff mwyafrif helaeth y Ddeddf mo’i gweithredu tan Hydref 2008. Bydd hyn yn rhoi amser i’r Adran Masnach a Diwydiant greu’r trefniadau trosiannol sydd angen ac yn caniatáu i gwmnïau ymgyfarwyddo â’r newidiadau a pharatoi ar eu cyfer. Caiff rhai o’r darpariaethau eu cyflwyno’n gynnar, gan alluogi busnesau i wireddu buddion y Ddeddf drwy leihau’r baich rheoleiddio arnynt. Daeth y gyntaf o’r rhain i rym yn Ionawr , gan gynrychioli Cyfarwyddeb gan yr UE i alluogi cwmnïau i fanteisio’n ehangach ar gyfathrebu electronig. Mae manylion llawn am hyn ar gael ar wefan y DTI. Caiff y trefniadau ar gyfer gweithredu cynnar pellach eu cyhoeddi cyn bo hir a bydd y manylion ar gael ar wefannau’r DTI a Thŷ’r Cwmnïau fel ei gilydd. Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n ymdrechu i sicrhau bod pob cwmni, cyfarwyddwr a chwsmer yn ymwybodol o’r Ddeddf, gan ei gwneud yn haws iddynt ddod i ddysgu mwy am y newidiadau. Mae’r tudalennau gwe hyn o eiddo Tŷ’r Cwmnïau yn cynnwys dolenni’n cysylltu â chyhoeddiadau perthnasol gan Dŷ’r Cwmnïau, ac ar y cyd â gwefannau eraill gallant gynnig ichi wybodaeth ddefnyddiol. Byddwn yn sicrhau bod gwefan Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi ichi bopeth sydd angen arnoch i wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i’r Ddeddf a all effeithio ar drafodion eich cwmni â Thŷ’r Cwmnïau. Diolch am wrando. |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|