Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Deddf Cwmnïau


Croeso i’r ail bodllediad yng nghyfres Deddf Cwmnïau 2006, a fydd yn amlinellu’r broses ymgynghori â’r cwsmer sydd eisoes yn mynd rhagddi.

Nid yw mwyafrif y newidiadau a’r rheoliadau sydd wedi’u hamlinellu yn Neddf 2006 i fod i gael eu gweithredu nes mis Hydref 2008.  Yn y cyfamser, mae Tŷ’r Cwmnïau yn awyddus i gydgysylltu’n agos â’i gwsmeriaid wrth gyflwyno prosesau newydd, drwy gyfrwng dwy ddogfen ymgynghori, a gafodd eu cyhoeddi gan Dŷ’r Cwmnïau a’u rhoi ar gael ar y wefan hon ar y ugainfed o Orffennaf.

Mae’r ddogfen gyntaf, “Gweithio gyda Thŷ’r Cwmnïau”, yn ymdrin â Rheolau’r Cofrestrydd. Mae’r rhain yn bwerau newydd a ddyfarnwyd o dan Ddeddf 2006 i alluogi’r Cofrestrydd i benderfynu prosesau a gafodd eu diffinio’n flaenorol gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae’r ddogfen yn gofyn i gwsmeriaid nifer o gwestiynau sylfaenol am eu hymwneud beunyddiol â Thŷ’r Cwmnïau, gan gynnwys:

  • Ffurf a dull cyflwyno gwybodaeth am gwmnïau;
  • Cyfathrebu electronig, a sut y dylid anfon dogfennau;
  • Disgrifiadau, teitlau a llunwedd dogfennau papur;

Caiff ymatebion cwsmeriaid eu hystyried wrth lunio fframwaith Rheolau’r Cofrestrydd, ac o’u diffinio, bydd y rheolau newydd yn hygyrch i bob defnyddiwr.

Mae’r ail ddogfen yn ymgynghori ynghylch y cosbau sifil a godir yng nghyswllt ffeilio cyfrifon yn hwyr.

Cyflwynwyd y drefn Cosbau Ffeilio Hwyr ym 1992, fel ffordd o gynyddu nifer y cwmnïau sy’n ffeilio cyfrifon o fewn yr amserlen ofynnol.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn cynnig cyflwyno trefn newydd i roi anogaeth bellach i gwmnïau ffeilio cyfrifon yn brydlon.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynyddu’r cosbau cyfredol i gymryd i ystyriaeth y chwyddiant a fu ers eu cyflwyno ym 1992;
  • Atodiad ‘tramgwyddo cyson’ arfaethedig i gwmnïau sy’n ffeilio’u cyfrifon yn hwyr yn aml;
  • A chyfradd gynnydd gyflymach yng ngraddfa’r cosbau, gan ddibynnu ar ba mor hwyr y caiff y cyfrifon eu ffeilio.

Os teimlwch y gallwch wneud cyfraniad at y naill ymgynghoriad neu’r llall, fe’ch anogwn i leisio barn.  Mae’r ddwy ddogfen ymgynghori ar gael o dan yr adran gyhoeddiadau o fewn tudalennau Deddf Cwmnïau’r wefan hon

Bydd y broses ymgynghori ar gyfer pob un yn dod i ben ar y deuddegfed o Hydref 2007.

Diolch am wrando.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies