Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Ffurflenni


Newidiadau i'r Gofynion Cyfrifeg ac Archwilio Ariannol ar gyfer Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig

OS 2005 Rhif 1989 – Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Diwygiadau) 2005.

Mae newidiadau diweddar i ofynion cyfrifeg ac archwilio ariannol Deddf Cwmnïau 1985 bellach wedi cael eu hadlewyrchu yn y rheoliadau uchod a byddant yn effeithio ar Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig o flynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ionawr 2005. Dyma grynodeb byr o’r newidiadau hynny.

Bydd pob Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) yn cael y dewis o baratoi ei chyfrifon unigol drwy ddilyn Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol (IAS) yn hytrach na threfn UK GAAP, a chaiff hefyd y dewis o baratoi ei chyfrifon cyfun drwy ddilyn trefn IAS.

Bydd partneriaethau PAC sy’n parhau i baratoi eu cyfrifon yn ôl UK GAAP yn cael dewis newydd o ddefnyddio cyfrifeg gwerth teg ar gyfer offerynnau ariannol, eiddo buddsoddi a/neu blanhigion ac anifeiliaid byw,

Ar gyfer partneriaethau PAC sy’n parhau i baratoi eu cyfrifon yn ôl UK GAAP, mae newidiadau i’r gofynion yn y meysydd hyn:

  • sut mae’n rhaid cyflwyno eitemau yn y fantolen a’r cyfrif elw a cholled;
  • datgelu gwybodaeth am ddeilliadau.

Ar gyfer partneriaethau PAC sydd â buddiannau tramor, dileir yr estyniad tri-mis awtomatig cyfredol o dan adran 244 o Ddeddf Cwmnïau 1985 ar gyfer gosod a chyflwyno cyfrifon.

Ar gyfer rhiant-bartneriaethau PAC, mae newidiadau i’r gofynion a’r opsiynau o ran cydgrynhoi.

Ar gyfer partneriaethau PAC sy’n trefnu archwiliad ffurfiol i’w cyfrifon, mae gofynion newydd o ran yr adroddiad archwilio ariannol.

Gwnaed nifer o addasiadau hefyd yn unol â’r pecyn o ddiwygiadau yng nghyswllt ansolfedd corfforaethol a gyflwynwyd gan Ddeddf Menter 2002. Nod y rhain yw annog achub busnesau hyfyw sy’n mynd i drybini ariannol.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y newidiadau sydd wedi’u cynnwys yn y rheoliadau uchod, ymwelwch ag: www.opsi.gov.uk/si/em2005/uks iem_20051989_en.pdf

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies