Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Gwybodaeth a chanllawiau



Corffori cwmni.

I gorffori cwmni cyfyngedig bydd angen ichi ffeilio’r pedair dogfen ganlynol gyda Thŷ’r Cwmnïau:

Ffurflen 10
Bydd hon yn cynnwys y lleoliad a arfaethir i’r Swyddfa Gofrestredig (bydd hon naill ai yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban) a manylion yr Ysgrifennydd a’r Cyfarwyddw(y)r cydsyniol.

Ffurflen 12
Dyma’r datganiad o gydymffurfiad â Deddf Cwmnïau 1985 gyda golwg ar gofrestru. Unwaith bod y Memorandwm a’r Erthyglau Cymdeithasiad (gweler isod) wedi eu cwblhau, rhaid i hwn gael ei lofnodi yng ngŵydd Cyfreithiwr, Comisiynydd Llwon, Notari Cyhoeddus neu Ynad Heddwch.

Memorandwm Cymdeithasiad
Mae hwn yn nodi enw’r cwmni, lleoliad y Swyddfa Gofrestredig (i fod yng Nghymru a Lloegr, yr Alban neu Gymru), amcanion y cwmni a’i Atebolrwydd.

Erthyglau Cymdeithasiad
Mae hwn yn gosod manylion rheolaeth a rhediad mewnol y cwmni. Dylai pob tanysgrifydd i’r cyfrannau ei lofnodi.

I weld rhestr o’r ffurflenni ar-lein

Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn darparu’r Memorandwm a’r Erthyglau Cymdeithasiad ond gellir eu prynu gan Ddogfennydd Cyfreithiol. Fe welwch gyrff o’r fath wedi eu rhestru yn y Tudalennau Melyn

Unwaith bod y pedair dogfen hyn wedi eu cwblhau, dylech eu dychwelyd i Dŷ’r Cwmnïau gyda’r ffi ffeilio berthnasol. 

Y ffi gofrestru safonol yw £20. Byddwn yn corffori’r cwmni o fewn wyth i ddeg diwrnod gwaith ar ôl derbyn y dogfennau. Os oes arnoch chi angen ffurfio’r cwmni’n fuan, cynigiwn wasanaeth Corffori yr Un Diwrnod a’r ffi gofrestru amdano yw £50.00 – rhaid i hon ddod i law’n briodol cyn 15.00 o’r gloch.

Rhaid cyfeirio’r amlen at yr ‘Adran Cwmnïau Newydd’ a dylid marcio CORFFORI YR UN DIWRNOD mewn print bras ar yr amlen er mwyn sicrhau y caiff sylw’n ddiymdroi.

Cyn cyflwyno unrhyw waith papur i Dŷ’r Cwmnïau i’w gofrestru, dylech wirio bod yr enw ar gael i’w ddefnyddio. Gallwch wneud hyn drwy naill ai ffonio’r Canolfan Cysylltu ar 0870 3333636 neu ddefnyddio’n gwasanaeth WebCheck.

Dylech wirio’ch enw ar y gofrestr “Cyfredol a Diddymwyd yn Ddiweddar" a’r gofrestr “Enwau Arfaethedig”.

Software Filing
Gellir cyflwyno corfforiadau’n electronig hefyd drwy ddefnyddio rhyngwyneb meddalwedd sy’n trosglwyddo dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau drwy’r post electronig (e-bost).

Mae Manyleb Rhyngwyneb Technegol, sy’n cynnwys gwybodaeth i ddatblygwyr meddalwedd, ar gael drwy gysylltu â Gofal Cwsmeriaid ar 02920 380336 neu drwy e-bostio mconnors@companieshouse.gov.uk.

Mae llawer o asiantiaid a chyflenwyr Pecynnau Meddalwedd i Ysgrifenyddion Cwmni wedi datblygu rhyngwyneb i greu’r fformatiau electronig sydd eisiau. Mae rhestr o gyflenwyr meddalwedd a darparwyr gwasanaeth ffurfio i’w gweld ar wefan Tŷ’r Cwmnïau.

Darperir y canllawiau canlynol i’ch helpu i ddeall sut i gofrestru cwmni a’r gofynion cyfreithiol y mae’n rhaid ichi eu parchu.

Egluro Eiddo Deallusol (ar gael yn Seasneg yn unig) (PDF 3,027k)
(Gan gynnwys gwybodaeth ar batentau, nodau masnach, hawlfraint a chynlluniau.)

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies