Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Cwestiynau Mynych |
|||
|
|
Rhaid taladwy bob ffi i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ Newid Enw Cwmni Am wybodaeth lawn, gweler ein llyfryn canllaw GP1 – Corffori ac Enwau Sut ydw i’n newid enw fy nghwmni?
D.S. Cofiwch wirio argaeledd yr enw newydd drwy Webcheck cyn anfon eich cais atom. Gwirio argaeledd yr enw cwmni newydd drwy WebCHeck (gwasanaeth Saesneg yn unig) - Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o 7am i 12 canol nos, amser y DU Oes yna ffurflen neu ddiwyg penodol ar gyfer penderfyniad arbennig neu ysgrifenedig? Fe allwch weld yma templed ar gyfer penderfyniad arbennig newid enw (Saesneg yn unig) http://www.companieshouse.gov.uk/forms/generalForms/NewSpecialResolution.pdf Beth yw penderfyniad arbennig? Mae penderfyniad arbennig yn benderfyniad a gaiff ei fabwysiadu mewn cyfarfod cyffredinol o’r cwmni gan 75% o’r aelodau hynny sydd â hawl i bleidleisio. (Byddai penderfyniad arferol yn llwyddo gyda 51% o’r rhai sydd â hawl bleidleisio yn pleidleisio drosto.) Beth yw penderfyniad ysgrifenedig? Gall penderfyniad ysgrifenedig fod yn benderfyniad cyffredinol neu benderfyniad arbennig. Mae penderfyniad ysgrifenedig yn benderfyniad a gaiff ei fabwysiadu’n unfrydol gan aelodau’r cwmni. Dylai pob aelod lofnodi a dyddio’r dogfennau. Pa mor hir mae hyn yn cymryd? Os yw’r holl ddogfennau’n gywir, caiff enw’r cwmni ei brosesu fel arfer o fewn pum diwrnod gwaith i’w dderbyn yn Nhŷ’r Cwmnïau. A gaiff cwmni a ddiddymwyd newid ei enw? Caiff, ond mae’n rhaid cyflwyno llythyr oddi wrth y diddymydd gyda’r penderfyniad. |
||