|
|
Cwestiynau Cyffredin am Gyfarwyddwyr – cyfeiriadau A fydd cyfarwyddwyr o hyd yn gorfod rhoi eu cyfeiriad preswyl i Dŷ'r Cwmnïau? Byddant. Mae'n rhaid i bob cyfarwyddwr roi ei gyfeiriad preswyl arferol ac, ar gyfer pob safle fel cyfarwyddwr, cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Bydd y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar y cofnod cyhoeddus; gwybodaeth wedi'i gwarchod bydd y cyfeiriad preswyl. Caiff cyfarwyddwr ddewis defnyddio'i gyfeiriad preswyl fel ei gyfeiriad cyflwyno hysbysiadau; os felly, gwybodaeth wedi'i gwarchod bydd y ffaith bod y ddau gyfeiriad yr un fath. Beth mae cychwyn y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn ei olygu i gyfarwyddwyr? Bydd modd i gyfarwyddwyr ffeilio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau er mwyn y cofnod cyhoeddus. Gall y cyfeiriad hwn fod yr un fath â'r cyfeiriad preswyl, neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig, neu fe all fod yn rhywle arall. Cychwynnodd y drefn hon o 1af Hydref 2009 ymlaen. A fydd cyfarwyddwyr sydd am ffeilio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn gorfod talu? Na fyddant. Pan gychwynnir cyfeiriadau cyflwyno, byddant yn ddi-dâl. Pwy fydd yn gallu cael gwybod cyfeiriad preswyl cyfarwyddwr gan Dŷ'r Cwmnïau a pham? Bydd y canlynol yn cael gwybod cyfeiriadau preswyl cyfarwyddwyr:
Pa gyfeiriadau cyfarwyddwyr na chânt mo'u rhoi i asiantaethau cyfeirnodi credyd? Ni fydd modd i asiantaethau cyfeirnodi credyd sicrhau cyfeiriad preswyl arferol unrhyw gyfarwyddwr sy'n fuddiolwr o dan Orchymyn Cyfrinachedd dilys ar 30 Medi 2009 neu a wnaeth gais llwyddiannus i'r Cofrestrydd ar y sail ei fod:
A yw'r ddeddfwriaeth ar Gyfeiriadau Cyflwyno Hysbysiadau yn caniatáu gwaharddiad o hyd at 5 mlynedd os gwelir bod y cyfeiriad yn ddi-rym? Ydy. Os yw'r Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau'n ddi-rym, mae gan y Cofrestrydd y pŵer i roi'r cyfeiriad preswyl arferol ar y gofrestr gyhoeddus. Os bydd cwmni'n methu cydymffurfio, ai i'r Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau neu i'r cyfeiriad preswyl yr aiff unrhyw lythyrau sydd wedi'u cyfeirio at y cyfarwyddwyr? Anfonir llythyrau i'r Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn dal i gofrestru 'Gorchmynion Cyfrinachedd' ar gyfer cyfarwyddwyr sydd o dan fygythiad difrifol, yn ogystal â'r opsiwn Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau? Bydd Gorchmynion Cyfrinachedd yn peidio â bod wrth weithredu'r Ddeddf ar 1 Hydref 2009. Bydd Adran 243(5) yn caniatáu i gyfarwyddwyr sydd dan fygythiad wneud cais am i'w cyfeiriad preswyl arferol beidio â chael ei datgelu i Asiantaethau Cyfeirnodi Credyd. Bydd yn ofynnol i bob cyfarwyddwr fod â chyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar gyfer y cofnod cyhoeddus, gan roi hefyd eu cyfeiriad preswyl arferol na chaiff neb ond Awdurdodau Cyhoeddus ac Asiantaethau Cyfeirnodi Credyd ei weld. Gan nad oes angen cyfeiriadau preswyl mwyach, a fydd yn rhaid adnewyddu gorchmynion cyfrinachedd? Dim ond cyfarwyddwyr y daw eu gorchymyn cyfrinachedd i ben cyn 1 Hydref fydd yn gorfod adnewyddu'u gorchymyn. O Hydref 1 2009 ymlaen os bydd cyfarwyddwr mewn perygl o ddioddef niwed bydd modd iddynt wneud cais o dan Adran 243(5) am i'w cyfeiriad preswyl arferol beidio â chael ei datgelu i Asiantaethau Cyfeirnodi Credyd. |
||