Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Cwestiynau Mynych

  Gwasanaeth Software Filing

Beth yw’r gwasanaeth Software Filing?
Gwasanaeth tanysgrifio sy’n ei gwneud yn bosibl i wybodaeth ar gyfer dogfennau arbennig gael ei ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau fel data wedi eu fformadu yn hytrach nag ar bapur. Caiff pob dogfen a gyflwynir yn y ffordd hon ei chydnabod fel un wedi ei derbyn neu ei gwrthod.

Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?
Caiff data’r dogfennau eu gyrru i Dŷ’r Cwmnïau ar ddiwyg wedi ei ddiffinio gan Dŷ’r Cwmnïau fel neges e-bost at gyfeiriad e-bost penodedig.

Ydy Tŷ’r Cwmnïau yn darparu meddalwedd ar gyfer hyn?
Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn darparu unrhyw feddalwedd; y cyfan a wnaiff yw pennu’r fformat ar gyfer anfon y data. Y dewisiadau o ran darparu data yn y fformat hwn yw naill ai prynu meddalwedd wedi ei chymeradwyo oddi wrth ddarparydd meddalwedd neu drefnu i newid/ddatblygu meddalwedd fewnol.

Pa ddarparwyr meddalwedd all gyflenwi neu ddarparu gwasanaeth?
Gwelir manylion ar dudalen Ffeilio Electronig y wefan hon.

Beth sydd angen imi ei wneud i ddatblygu meddalwedd fewnol?
ŷ’r Cwmnïau yn y fformat sydd eisiau. Gellir cael manyleb sy’n dangos y fformat ac yn nodi’r cyfeiriadau e-bost a’r trefniadau profi sydd i’w defnyddio naill ai yma, drwy ffonio 0303 1234 500 neu drwy e-bostio efiling@companieshouse.gov.uk – gofynnwch am Fanyleb Rhyngwyneb Technegol ar gyfer Software Filing.

A godir tâl am ddefnyddio’r gwasanaeth?
Does dim tâl tanysgrifio am ddefnyddio’r gwasanaeth. Yr unig gostau yw eich costau cyfathrebu am e-bostio’r data at Dŷ’r Cwmnïau ac unrhyw ffioedd statudol a fyddai fel arfer yn gymwys am ffeilio dogfen. Ar hyn o bryd, yr unig ffi o’r fath mewn cysylltiad â’r gwasanaeth yw’r ffi o £15 am ffeilio’r Ffurflen Flynyddol (363a) a £20 am gorffori.

Sut y telir y ffioedd?
Defnyddir ffurflen gais am gyfrif credyd i ymuno â’r gwasanaeth. Agorir cyfrif sydd â therfyn credyd a chaiff cyflwynwyr eu hanfonebu bob mis am unrhyw gostau a dynnwyd dros y mis blaenorol.

Beth yw’r gofynion i gael manteisio ar y gwasanaeth?

Sut y galla i gael ffurflen gais ar gyfer y gwasanaeth?
Os ydych yn bwriadu prynu meddalwedd, mae’n debyg y bydd stoc o ffurflenni gan eich darparydd meddalwedd. Fel arall, gallwch ddadlwytho copi o’r ffurflen ar y tudalen Software Filing neu fe ellir anfon un drwy’r post fel rhan o becyn cyflwyno’r drefn Software Filing.

Beth yw oriau gweithredu’r gwasanaeth?
Gallwch fel arfer gyflwyno negesau 24 awr y dydd, er y gall fod adegau pan gaiff y gwasanaeth ei dynnu’n ôl dros dro at ddibenion gweithgareddau hwsmona a chynnal a chadw. At ddibenion statudol, ystyrir mai’r dyddiad derbyn yw’r dyddiad y bydd y ddogfen yn cyrraedd blwch post y wefan.

Nodyn:
Fodd bynnag, ni fydd dogfennau a dderbynnir yn electronig y tu allan i oriau 0730 i 1830 Llun i Wener yn cael eu prosesu gan Dŷ’r Cwmnïau tan y diwrnod gwaith nesaf.

Sut y dylwn i ddosbarthu codau dilysu ymhlith y cwmnïau yr ydw i am ffeilio ar eu cyfer?
Ymhob achos, dylech gyflenwi rhif y cwmni a’r cod dilysu chwe-arwyddnod yr hoffech ei ddefnyddio ar ei gyfer. Os oes gennych chi nifer fawr o godau i’w cofrestru, dylech eu cyflwyno ar ddisg lipa gyda llythyr esboniadol. Os yw’r nifer yn llai, bydd llythyr ar bapur pennawd y cwmni yn ddigon. Mae manylion pellach am y gofynion ar gyfer cyflwyno codau i’w gweld ym mhecyn cyflwyno’r drefn Software Filing ac yn www.companieshouse.gov.uk/efiling. Dyma’r unig ran o’r broses lle defnyddir papur, ond mae’n un o ofynion y gyfraith y dylai’r codau gael eu pennu drwy gyfathrebu ysgrifenedig rhwng y cwmni a Thŷ'r Cwmnïau.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies