About us | Forms | Careers | Contact us | Press Desk | Disclaimer | Cymraeg
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

Amdanon Ni


Cosbau Ffeilio Hwyr: Apeliadau - GBA11

Mai 2009 – Fersiwn 6

*Rhaid gwneud pob ffi yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’

Apeliadau yn erbyn Cosbau Ffeilio Hwyr


1. Beth yw hysbysiad cosb?
Mae Hysbysiad Cosb yn rhoi manylion y gosb/cosbau a osodwyd ar gwmni oherwydd na chawsom gyfrifon ac adroddiadau’r cwmni mewn pryd. Mae’r hysbysiad yn cynnwys gwybodaeth am sut i dalu’r gosb.

2. Beth yw cosbau ffeilio hwyr?
Rhaid i bob cwmni cyfyngedig preifat a chyhoeddus anfon ei gyfrifon ac adroddiadau i Dŷ’r Cwmnïau. Fel cyfarwyddwr, rydych yn bersonol gyfrifol am sicrhau eich bod yn cyflwyno cyfrifon ac adroddiadau eich cwmni cyn daw’r amser a ganiateir i ben. Ystyr ‘cyflwyno’ yw eu bod yn dod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau yn y diwyg priodol. Os byddant yn hwyr, mae’r gyfraith yn codi cosb yn awtomatig.

Mae maint y gosb yn dibynnu ar ba mor hwyr y bydd y cyfrifon yn cyrraedd Tŷ’r Cwmnïau, ac mae’n cael ei ddangos yn y tabl canlynol. Mae cyfraddau’r cosbau wedi cynyddu yn achos cyfrifon sy’n cael eu cyflwyno’n hwyr ar ôl 1 Chwefror 2009.

Hyd yr oedi (wedi’i fesur o’r dyddiad y mae’r cyfrifon yn ddyledus)

Cwmni preifat

Cwmni cyhoeddus

Dim mwy nag 1 mis  

£150

£750

Mwy nag 1 mis ond dim mwy na 3 mis

£375

£1,500

Mwy na 3 mis ond dim mwy na 6  mis

£750

£3,000

Mwy na
6 mis

£1,500

£7,500

Bydd y symiau sydd wedi eu dangos yn y tabl uchod yn cael eu dyblu mewn achosion lle mae’r cyfrifon o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn cael eu ffeilio’n hwyr, a lle cafodd cyfrifon y flwyddyn flaenorol o dan y Ddeddf honno eu ffeilio’n hwyr hefyd.

3. Alla i apelio?
Cewch apelio yn erbyn cosb, ond dim ond lle gallwch ddangos bod yr amgylchiadau’n eithriadol y bydd yr apêl yn llwyddo.

4. Beth sy’n eithriadol?
Disgresiwn cyfyngedig iawn sydd gan y Cofrestrydd i beidio â chasglu cosb. Gellir arfer y disgresiwn pan fydd anffawd na ragwelwyd yn taro cwmni ar adeg allweddol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, trasiedi personol sy’n effeithio ar yr unig gyfarwyddwr yn union cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio, neu dân sy’n dinistrio cofnodion rai diwrnodau cyn daw’r amser a ganiateir i ben. Gall y Cofrestrydd arfer y disgresiwn hefyd os yw camgymeriad gan Dŷ’r Cwmnïau wedi cyfrannu at y ffeilio hwyr.

Cynhaliwyd Adolygiad Barnwrol o natur gyfyngedig disgresiwn y Cofrestrydd yn 2002.

I weld copi llawn o’r dyfarniad, cliciwch y ddolen hon; Y Frenhines a chais (1) POW Trust a (2) Al's Bar and Restaurant v (1) Y Prif Weithredydd a Chofrestrydd Cwmnïau a (2) Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant (Rhagfyr 2002).

5. Beth sydd ddim yn eithriadol?
Ni all y Cofrestrydd ystyried apêl dan yr amgylchiadau canlynol, gan eu bod y tu allan i ddisgresiwn y Cofrestrydd:

  • mae eich cwmni’n segur
  • ni allwch fforddio talu   
  • yr oedd eich cyfrifydd yn wael
  • gwnaethoch ddibynnu ar eich cyfrifydd
  • eich cyfrifon cyntaf yw’r rhain
  • nid ydych yn gyfarwydd â’r gofynion ffeilio
  • mae eich cwmni neu ei swyddogion mewn trybini ariannol (gan gynnwys methdaliad)
  • cafodd eich cyfrifon eu hoedi neu eu colli yn y post
  • mae’r cyfarwyddwyr yn byw dramor, neu yr oeddynt yn teithio dramor

6. A ydych yn dal i ddymuno apelio?
Os byddwch yn dal i ddymuno apelio ar ôl darllen yr uchod, yna mae’n rhaid ichi wneud hynny’n ysgrifenedig, gan gyfeirio’ch llythyr at yr Isadran Apeliadau yn erbyn Cosbau Ffeilio Hwyr, yn y cyfeiriad sydd wedi ei ddangos ar dudalen flaen yr hysbysiad cosb. Fel rheol, byddwn yn ateb o fewn 10 diwrnod gwaith ac yn atal y camau adennill tra’r ydym yn ystyried eich apêl.

7. Beth fydd yn digwydd os caiff fy apêl ei gwrthod?
Cewch ysgrifennu at yr Uwch-reolwr Apeliadau yn yr Adran Cosbau Ffeilio Hwyr. Os bydd yr Uwch-reolwr Apeliadau’n cadarnhau’r gosb, yna cewch ofyn i’r Dyfarnwyr annibynnol adolygu’ch achos.

Rhaid i bob cysylltiad â’r Dyfarnwyr fod yn ysgrifenedig. Peidiwch ag ysgrifennu at y Dyfarnwyr nes i chi glywed oddi wrth yr Uwch-reolwr Apeliadau.

Noder bod y Senedd wedi penderfynu mai’r Cofrestrydd yn unig sydd â’r disgresiwn dan sylw, ac na all y Dyfarnwyr orfodi’r Cofrestrydd i beidio â chasglu cosb sy’n gorwedd y tu allan i’w ddisgresiwn cyfyngedig.

Yn olaf, cewch ysgrifennu i ofyn i Gofrestrydd Cwmnïau Cymru a Lloegr (neu Gofrestrydd Cwmnïau'r Alban lle mae cwmnïau Albanaidd dan sylw) edrych ar eich achos.

8. Alla i dalu’r gosb drwy randaliadau?
Gallwch. Os cewch anhawster i dalu’r gosb ar ei phen, yna byddwn fel arfer yn derbyn rhandaliadau misol. Fel rheol mae’r rhain yn cael eu talu dros gyfnod o bedwar mis, ac mewn achosion eithriadol dros gyfnod o ddeng mis, gan ddibynnu ar y swm y mae’n rhaid i chi ei dalu. Rhaid i unrhyw gais am gael talu drwy randaliadau gael ei wneud gennych yn ysgrifenedig, a dylech egluro pam na allwch dalu’r gosb ar unwaith.

9. Beth fydd yn digwydd os na thala i’r gosb?
Os na fyddwch yn talu’r gosb, yna byddwn yn gofyn i’n casglwyr dyledion gymryd camau. Yn y pen draw, y Llys Sirol neu Lys y Siryf fydd yn penderfynu’r mater. Cewch gyfle i ffeilio amddiffyniad gerbron y llys hwnnw.

Hwyrach yr hoffech ystyried ceisio cyngor proffesiynol, gan fod posibilrwydd y byddwn yn ceisio adennill costau cyfreithiol os bydd y Llys yn dyfarnu o blaid y Cofrestrydd.

10. Cymorth pellach?
Os oes arnoch angen cyngor pellach am gosb ffeilio hwyr, cysylltwch â’n rhif ffôn cyswllt, sydd wedi’i ddangos ar du blaen yr hysbysiad cosb.

Os oes arnoch angen cymorth gyda materion eraill, gan gynnwys arweiniad, ffoniwch ein Canolfan Gysylltu ar 0303 1234 500.

Mae cyngor cyffredinol am y gofynion ffeilio ynghyd â gwybodaeth am gwmnïau, hefyd i’w gael ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk

Llawlyfr Apeliadau yn erbyn Cosbau Ffeilio Hwyr (Saesneg yn unig) (PDF 117KB)

Sut i dalu’ch cosb

Ffoniwch 0303 1234 500 am bob ymholiad talu


Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies