Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Cwestiynau Mynych


Cwestiynau Cyffredin am Gyfreithloni tystsgrifau wedi’u rhoi gan Cofrestrydd Cwmnïau

Beth yw ystyr cyfreithloni dogfen neu dystysgrif?

Mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) yn gyfrifol am ddilysu dogfennau i’w defnyddio yn y gwledydd a lofnododd Gonfensiwn yr Hâg 1961. Mae hyn yn golygu bod gan y dogfennau’r un dilysrwydd yn y gwledydd hynny ag sydd ganddynt yn y DU.

Beth mae’n rhaid i mi ei wneud i sicrhau bod tystysgrifau a gyhoeddir gan Dŷ’r Cwmnïau yn dderbyniol i’w cyfreithloni gan yr FCO?

Caiff y tystysgrifau a gyhoeddir gan Dŷ’r Cwmnïau eu stampio neu eu llofnodi’n electronig, ond nid yw’r rhain yn dderbyniol i’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad at ddibenion cyhoeddi tystysgrifau cyfreithloni. Mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn gofyn bod gan bob dogfen lofnod gwreiddiol neu sêl swyddog cyhoeddus Prydeinig. Er mwyn cael tystysgrif wedi ei llofnodi’n bersonol gan un o swyddogion Tŷ’r Cwmnïau, mae angen i’r cwsmeriaid ofyn am ‘dystysgrif ardystiedig’.

Sut mae cael tystysgrif ardystiedig?

‘Gellir archebu ‘tystysgrifau ardystiedig’ drwy:

Ffioedd tystysgrifau ardystiedig

  • Gwasanaeth 4 diwrnod gwaith £20.00
  • Gwasanaeth 24 awr (os archebu cyn 2pm) £60.00