Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Cwestiynau Mynych

 

Cwestiynau Mynych ynghylch Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig

Beth yw Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)?
Mae’n gyfrwng busnes corfforaethol amgen sy’n rhoi buddion atebolrwydd cyfyngedig ond sy’n cynnig i’w aelodau hyblygrwydd trefnu eu fframwaith mewnol fel partneriaeth draddodiadol. Mae PAC yn endid cyfreithiol ar wahân ac, er mai’r PAC ei hun fydd yn atebol am amrediad cyfan ei hasedion, bydd atebolrwydd yr aelodau yn gyfyngedig.

Pryd y cawsant eu cyflwyno?
Daeth Deddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 a Rheoliadau 2001 i rym ar 6 Ebrill 2001.

Pa fath o gorff all fynd yn PAC?
Gall unrhyw gwmni newydd neu bresennol o ddau neu ragor o bersonau gorffori fel PAC.

Alla i gorffori PAC yn yr Alban yn ogystal â Chymru a Lloegr?
Gallwch.

Alla i drosi o fod yn gwmni cyfyngedig i fod yn PAC?
Nid yw’r ddeddfwriaeth PAC yn darparu ar gyfer ‘proses drosi’ – fel y gallai cwmni cyfyngedig drosi i statws PAC o dan y Ddeddf Cwmnïau, er enghraifft. Dylai unrhyw un sydd â chwmni cyfyngedig presennol ac a fyddai’n hoffi trosglwyddo enw’r cwmni presennol i PAC newydd gysylltu ag Arweinydd y Tîm PAC. Bydd y broses yn golygu trefniadau dan reolaeth gaeth i newid enw’r cwmni a chorffori PAC. Bydd dod i gysylltiad cyn cyflwyno’r ffurflenni angenrheidiol yn sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi mor llyfn â phosib.

Beth yw’r gofynion datgelu i PAC?
Maen nhw’n debyg i’r rhai ar gyfer cwmni. Mae’n ofynnol i bartneriaethau PAC ddarparu gwybodaeth ariannol yn cyfateb i’r drefn ar gyfer cwmnïau, gan gynnwys ffeilio cyfrifon blynyddol. Ymhlith pethau eraill, mae’n ofynnol hefyd iddynt:

  • Ffeilio ffurflen flynyddol
  • Rhoi gwybod am unrhyw newid i aelodaeth y PAC
  • Rhoi gwybod am unrhyw newid i enwau a chyfeiriadau preswyl eu haelodau
  • Rhoi gwybod am unrhyw newid i gyfeiriad eu Swyddfa Gofrestredig
Beth yw dyletswyddau aelod dynodedig?
Mae aelodau dynodedig yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau arbennig, gan gynnwys rhai o’r dyletswyddau y byddai cyfarwyddwr neu ysgrifennydd cwmni fel arfer yn eu cyflawni. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel:
  • Llofnodi’r cyfrifon blynyddol
  • Ffeilio’r cyfrifon blynyddol a ffurflenni blynyddol gyda Thy’r Cwmnïau
  • Mewn gweithrediadau ansolfedd, darparu datganiad yn egluro materion ariannol y busnes, h.y. asedion, dyledion a rhwymedigaethau.

Faint yw’r gost am gorffori PAC?
Y ffi gofrestru partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ar gorffori o dan Ddeddf 2000 yw £20.

Sut y caiff PAC ei threthu?
Ni all Tŷ’r Cwmnïau roi gwybodaeth am y dreth: cysylltwch â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

A fydd statws PAC ar gael i elusennau?
Na fydd. Dim ond i fusnes cyfreithlon a ddilynir er mwyn elw y mae statws PAC ar gael.

Ble galla i gael cymorth a chyngor pellach?
Cysylltwch â staff Ty’r Cwmnïau yn y cyfeiriadau isod. Dylech nod mai dim ond canllawiau cyffredinol y gall y staff eu rhoi. Ni allant ddyfalu ai PAC yw’r cyfrwng priodol i chi ac i’ch busnes. Dylech felly geisio cyngor cyfreithiol a phroffesiynol addas

Am Ymholiadau Penodol Ynglyn  Phartneriaethau P.A.C. Yng Nghymru A Lloegr, Cysylltwch ’r Canlynol:

Y Tîm PAC
Ty’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
CAERDYDD CF14 3UZ
Ffôn: 029 2038 0744

Am Ymholiadau Penodol Ynglyn  Phartneriaethau P.A.C. Yn Yr Alban, Cysylltwch ’r Canlynol:

Registrar for Scotland
37 Castle Terrace
EDINBURGH EH1 2EB
Ffôn: 0131 535 5831
Cwestiynau Mynych ynghylch Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies