Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

Cwestiynau Mynych

 

Rhaid gwneud pob ffi yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’

Dileu O'r Gofrestr, Diddymu Ac Adfer

Sut gwna i gais am i gwmni gael ei ddileu o'r Gofrestr?

Llenwch ac anfon atom Ffurflen DS01 gyda ffi ffeilio o £10: bydd y Cofrestrydd yn darparu'r ffurflen yn unol â'ch cais. Ond dim ond i gwmni preifat y mae dileu o'r Gofrestr yn gymwys, lle nad yw, yn ystod y tri mis diwethaf:

  • wedi masnachu na dilyn busnes mewn ffordd arall;
  • wedi newid ei enw;
  • wedi cael gwared, am werth cyfatebol, ag eiddo neu hawliau a ddaliai, yn union cyn rhoi heibio i fasnachu neu ddilyn busnes, er mwyn elw neu i'w gwerthu yng nghwrs arferol y fasnach neu'r busnes hwnnw; neu
  • wedi dilyn unrhyw weithgarwch arall, ac eithrio un oedd angen neu'n gyfleus er mwyn gwneud cais am i'w enw gael ei ddileu o'r Gofrestr, rhoi trefn ar faterion y cwmni neu gwrdd â gofynion statudol. Gall cwmni wneud cais, fodd bynnag, os yw wedi bodloni dyledion masnachu neu fusnes yn ystod y tri mis diwethaf.

Gweler nodiadau canllaw 'Dileu o'r Gofrestr, diddymu ac adfer' am fanylion llawn sut i wneud cais.)

Sut gwna i gais am adfer cwmni i'r Gofrestr?

Dim ond drwy orchymyn llys y gellir adfer cwmni, felly dylid ceisio cymorth cyfreithiol.

Pwy all wneud cais?

Aelod neu gredydydd i'r cwmni, a hynny o fewn 20 mlynedd i'r diddymu. Os diddymwyd y cwmni yn sgîl cais o dan adran 1003 y Ddeddf Cwmnïau 2006, gall cais gael ei gyflwyno hefyd gan unrhyw un o'r partïon y mae'n rhaid rhoi gwybod iddynt am y cais.

Gweler nodiadau canllaw 'Dileu o'r Gofrestr, diddymu ac adfer' am fanylion llawn sut i wneud cais.)

Ble gwna i gais?

I'r Uchel Lys, Cofrestrfa'r Dosbarth neu Lys Sirol sydd ag awdurdodaeth i ddirwyn y cwmni i ben.

Beth yw'r costau?

Fel arfer, byddai costau'r Cofrestrydd rhwng £250 a £300 a byddai'n rhaid i'r ymgeisydd eu bodloni. Hefyd, ceir ffioedd y cyfreithiwr a chostau'r llys i'w talu.

Beth sydd angen?

Cyn gwrandawiad y llys, byddai'r Cofrestrydd fel arfer yn gofyn:

  • am i unrhyw ddogfennau statudol sy'n angenrheidiol i ddiweddaru ffeil gyhoeddus y cwmni gael eu cyflwyno; ac
  • am i unrhyw afreoleidd-dra yn fframwaith y cwmni gael ei unioni.

Byddai cosb ffeilio hwyr hefyd yn daladwy gan y cwmni am bob set o gyfrifon a gyflwynir y tu allan i'r cyfnod a ganiateir gan y Ddeddf Cwmnïau.

Am fanylion pellach, ffoniwch Adran Diddymu Ac Adfer 0303 1234 500.

brig

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies